Neidio i'r prif gynnwy

Sut y bydd y Gwasanaeth Profiad Defnyddwyr yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi gymryd rhan yn yr ymchwil defnyddwyr i frand LLYW.CYMRU yn 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffai'r Gwasanaeth Profiad Defnyddwyr yn Llywodraeth Cymru ymgysylltu â defnyddwyr gwefan LLYW.CYMRU er mwyn casglu eich barn ar sut i wella eich Profiad Defnyddiwr ac i ddeall anghenion a heriau pob defnyddiwr.

Y syniad yw ymgysylltu ag ystod eang o ddefnyddwyr ag anghenion gwahanol i sicrhau defnyddioldeb gwefan LLYW.CYMRU, ac a yw'n gweithio i bawb. Bydd y Gwasanaeth Profiad Defnyddwyr yn cynnal yr Ymchwil Defnyddwyr ar ran tîm LLYW.CYMRU. 

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol, fodd bynnag, mae barn a phrofiadau swyddogion yn bwysig er mwyn helpu i lywio gwasanaeth digidol sy'n gweithio i bob defnyddiwr.

Fel rhan o'r ymchwil bydd angen i'r Gwasanaeth Profiad Defnyddwyr gasglu'r wybodaeth bersonol a chategori arbennig ganlynol:

  • enw
  • e-bost gwaith
  • unrhyw amhariadau a allai effeithio ar sut rydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth digidol
  • eich delwedd (llun neu fideo)
  • eich llais (fideo neu sain)

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Pan fo'r wybodaeth yn gyfystyr â data categori arbennig, byddwn yn ei phrosesu er budd sylweddol y cyhoedd o sicrhau cyfle cyfartal fel y nodir yn y canllawiau GDPR (ar Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth).

Ni fydd unrhyw ddata personol a roddwch ar gyfer yr ymchwil hon yn cael eu rhannu y tu hwnt i'r Gwasanaeth Profiad Defnyddwyr neu aelodau o dîm LLYW.CYMRU. Ni fydd y data’n cael eu defnyddio ganddynt hwy na Llywodraeth Cymru at unrhyw ddiben arall.

Y gweithgareddau posibl y gallech fod yn rhan ohonynt yw arolwg, trefnu cardiau, cyfweliad, grŵp ffocws.

Hoffai'r Gwasanaeth Profiad Defnyddwyr recordio Cyfweliadau Rhithwir. Bydd hyn yn cael ei wneud yn glir i chi cyn y sesiwn. Os nad ydych eisiau cael eich recordio, bydd gennych yr opsiwn i ddewis peidio ar ddechrau'r cyfweliad neu'r sesiwn brawf. Byddwch yn dal i allu cymryd rhan ac ni fyddwch yn cael eich adnabod o'ch sylwadau.

Os byddwch yn dewis rhoi rhagor o ddata personol fel rhan o'r ymchwil, ni fyddwn yn eich adnabod o'r ymatebion a roddwch, nac yn cysylltu eich enw â'r ymatebion. Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n cwyno ac yn rhoi data personol er mwyn gallu cael ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yn eu dileu o'r data ymchwil wedi hynny.

Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd tîm LLYW.CYMRU wedi cael yr holl awgrymiadau ac nad oes angen y recordiadau mwyach. Ni fydd data personol yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol a byddant yn cael eu dileu yn ystod y cam dadansoddi. Bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi’u dileu yn cael eu dileu dri mis ar ôl i’r prosiect ddod i ben.

Dyma’r cysylltiadau ar gyfer ymgysylltu:

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch a’u gweld
  • i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Os hoffech gysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Fodd bynnag, byddwn yn delio â chais sut bynnag y byddwch yn cysylltu â ni.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth