Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, a pham?

Mae'r cynnig yn ymwneud â pharhau â Chynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) Iaith Athrawon Yfory (y 'Cynllun'). Nid yw'r cynnig yn gwneud unrhyw newidiadau sylfaenol i'r polisi presennol. Mae'r asesiad effaith hwn yn ailwerthuso'r Cynllun ers ei sefydlu gyntaf a'i strwythur gwreiddiol, er mwyn cofnodi a lleihau unrhyw effeithiau negyddol a nodwyd.

Mae'r Cynllun wedi bod ar waith ers Medi 2018. Mae ar gael i athrawon dan hyfforddiant ar raglenni AGA uwchradd, ôl-raddedig cymwys yng Nghymru sy'n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu'r Gymraeg fel pwnc yn y sector ysgolion uwchradd (plant a phobl ifanc 12 i 16 oed).

Bwriad y cynnig yw gwneud yn siŵr bod digon o athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i addysgu mewn ysgolion ledled Cymru, gan sicrhau addysg plant a phobl ifanc mewn cymunedau. Mae'n ymyriad i annog y rhai sy’n ymgeisio i ddilyn rhaglen AGA (yn benodol TAR Uwchradd), sy'n abl i’w dilyn drwy gyfrwng y Gymraeg, i wneud hynny, roedd y data pan gyflwynwyd y cynnig (2018) yn dangos bod yna gyfran o’r athrawon dan hyfforddiant nad oedd yn dewis dilyn rhaglen AGA mewn pynciau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg, er bod ganddynt y sgiliau iaith. Mae hyn yn parhau i fod yn wir, er bod y sefyllfa wedi gwella ers cychwyn y Cynllun yn wreiddiol. Mae AGA cyfrwng Cymraeg yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ennill y sgiliau a'r wybodaeth benodol sydd eu hangen i addysgu mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog neu ddwy ffrwd a gynhelir. Er y gall y rhai sydd â sgiliau Cymraeg nad ydynt yn dilyn y math hwn o raglen AGA weithio mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog neu ddwy ffrwd a gynhelir, mae'r math penodol hwn o gymhwyster AGA yn sicrhau y gall pobl ifanc yn y lleoliadau hynny, a'r rhai sy'n cyflogi athrawon ar gyfer y lleoliadau hynny, fod yn sicr o ddysgu ac addysgu dwyieithog o safon uchel gan eu hathrawon.

Ar y dechrau, roedd meini prawf y Cynllun yn cynnwys dilyn y cynllun gwella cyfrwng Cymraeg a oedd yn rhan o ddarpariaeth AGA ar y pryd. Yn dilyn argymhellion 'gwerthusiad o ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon' (2018) a chyhoeddi'r 'meini prawf achredu ar gyfer rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon' (2018), gwnaed datblygu a chefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg pob athro dan hyfforddiant a'r rhai a oedd am addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i bob rhaglen AGA ledled Cymru. Felly daethpwyd â’r cynllun gwella cyfrwng Cymraeg i ben. Fodd bynnag, parhawyd â’r cynnig gan addasu’r meini prawf cymhwysedd, ac mae'n dal i annog athrawon dan hyfforddiant i ymgymryd ag AGA sy'n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Cynllun yn un o dri chynllun sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant. Y lleill yw'r Cynllun Cymhelliant ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth a'r Cynllun Cymhelliant Cymunedau Ethnig Lleiafrifol. Gall myfyrwyr AGA llawn-amser a rhan-amser hawlio pob un o’r cymhellion yn ychwanegol at y cyllid i fyfyrwyr sydd ar gael yng Nghymru.

Mae cynlluniau cymhelliant Llywodraeth Cymru yn gweithio fel cyfres, a dim ond rhan fach ydynt o'r mentrau i hyrwyddo gyrfaoedd addysgu yng Nghymru yn ehangach. Mae holl gymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer AGA wedi'u bwriadu fel ymyriad recriwtio i fynd i'r afael â diffygion uniongyrchol clir yn y gweithlu addysgu mewn modd cymesur, er mwyn helpu i recriwtio ar gyfer AGA mewn ffordd benodol sydd wedi'i thargedu. Mae parhad y cynllun hwn yn cefnogi ein hymrwymiadau a'n nodau o dan 'Cymraeg 2050' a gweithgarwch manwl 'cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg'.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu sawl adroddiad ymchwil sy'n edrych ar agweddau penodol ar strategaethau cymhelliant ar gyfer addysg athrawon drwy Gyngor y Gweithlu Addysg (a gyrchwyd ddiwethaf 4 Ebrill 2023). Gweithredwyd ar lawer o ganfyddiadau'r adroddiad ar gynlluniau cymhelliant Cymru, a gyhoeddwyd yn 2019, gan gynnwys:

  • cynnig bwrsari symlach yng Nghymru
  • cymhellion sy'n cael eu hystyried yn ofalus fel rhan o strategaeth holistaidd ehangach i ddenu pobl i'r proffesiwn addysgu

Mae'r dystiolaeth hon, ynghyd ag adroddiadau eraill a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2019), yn awgrymu nad cymhellion ariannol yw'r ffactor pwysicaf i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n dewis dilyn rhaglen AGA. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn yr adroddiadau, mae'r mater yn un cymhleth ac mae angen ei osod yng nghyd-destun datblygu'r proffesiwn fel opsiwn gyrfa ddeniadol.

Mae tystiolaeth ddiweddar yn ymwneud â chynlluniau cymhelliant HCA Lloegr (NfER 2021) yn nodi bod tystiolaeth gref a chyson bod bwrsarïau hyfforddi yn gysylltiedig â chynnydd yn y niferoedd a recriwtir i HCA. Er bod y cynlluniau cymhelliant yn Lloegr sydd dan sylw yn gysylltiedig ag arbenigeddau pwnc ac nad ydynt yn cymharu’n hollol â'r cynllun, mae'n dystiolaeth ddefnyddiol wrth ystyried parhad y cynllun ochr yn ochr â ffynonellau data eraill ac effaith negyddol bosibl tynnu'r cynllun yn ôl.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a'n Partneriaethau AGA i fonitro'r effaith ar y niferoedd a recriwtir i hyfforddiant athrawon, a'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer parhau i ddefnyddio cymhellion i gyflawni ein nodau. Fel y nodwyd uchod, dylid ystyried y defnydd o gymhelliant ariannol fel rhan o set ehangach a holistaidd o fesurau i sicrhau bod gan ein gweithlu addysgu ddigon o athrawon.

Mae gwneud yn siŵr bod digon o athrawon sydd â sgiliau Cymraeg a gwybodaeth mewn meysydd pwnc arbenigol ar gael i addysgu mewn ysgolion ledled Cymru yn diogelu addysg pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd. Mae effeithiau cadarnhaol i hyn arnyn nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae effeithiau cadarnhaol sylweddol i ddiben a nodau ehangach addysg, ond nid yw effaith y cynnig penodol hwn yn fawr gan mai rhan fach ydyw o'r gwaith llawer ehangach o sicrhau system addysg ddwyieithog o safon uchel yng Nghymru.

Mae nodau hirdymor clir i’r cynnig i barhau i hwyluso cyflwyno'r cwricwlwm drwy sicrhau gweithlu addysgu arbenigol cyfrwng Cymraeg o safon uchel sydd wedi cael addysg briodol. Yn anuniongyrchol mae hyn yn cefnogi amcanion canlynol y Rhaglen Lywodraethu:

  • ehangu cyfran y gweithlu addysg sy'n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg
  • parhau â'n rhaglen diwygio addysg hirdymor a sicrhau y caiff anghydraddoldebau addysgol eu lleihau a safonau eu codi
  • helpu ysgolion ac athrawon i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru
  • rhoi'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ar waith

Ymgynghorir â'n partneriaid allweddol, Partneriaethau AGA, Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn, yn flynyddol o ran asesu'r effaith ar niferoedd y myfyrwyr a recriwtir a gwella nodau polisi'r cynnig yn barhaus. Yn ogystal, mae ein Partneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg, fel partneriaid gweithredu o dan y cynnig, yn ymwneud â'r cylch o wella’n barhaus sut caiff y cynnig ei weithredu’n ymarferol.

Disgwylir i’r gost o weithredu’r cynnig ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024 fod oddeutu £0.5 miliwn, bydd y cynnig yn ymateb i’r galw ac yn dibynnu ar y niferoedd a recriwtir i raglenni AGA. Caiff y gyllideb ar gyfer y cynnig hwn ei darparu'n flynyddol yn ôl y gwaith adolygu, gwerthuso a modelu ariannol parhaus. Telir costau'r cynnig drwy'r gyllideb addysg, nid oes angen unrhyw gyllid ychwanegol i weithredu'r cynnig.

Nid oes angen deddfwriaeth sylfaenol nac is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae gan bob cynllun cymhelliant AGA gynllun cyfreithiol sy'n sail i ofynion y grant a'i weithredu ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy'n dymuno gwneud cais, ac sy'n egluro’r gofynion hynny.

Casgliad

Sut mae pobl y mae’r cynnig fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Bob blwyddyn, gwahoddir cynrychiolwyr o blith y rhai sy'n ymwneud â darparu AGA yng Nghymru, gan gynnwys sefydliadau addysg uwch, ysgolion, Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn, i ymgysylltu â’r polisi a’r broses o weithredu’r cynnig. Mae undebau'r gweithlu Addysg hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau posibl i bolisi’r cynnig a sut y caiff ei weithredu’n ymarferol.

Beth yw’r effeithiau mwyaf amlwg, cadarnhaol a negyddol?

Mae datblygu proffesiwn addysg o safon uchel o gychwyn cyntaf taith dysgu proffesiynol athrawon yn ganolog i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru, ac yn un o bedwar amcan galluogi ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’.

Bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar athrawon dan hyfforddiant sy'n gymwys i wneud cais a derbyn yr arian cymhelliant. Bydd hefyd yn ehangu cyfleoedd cyflogaeth i athrawon dan hyfforddiant, lle mae sgiliau Cymraeg, a'r cymwysterau proffesiynol sydd eu hangen i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn hanfodol.

Yn ogystal, mae'r cynnig yn cael effaith gadarnhaol anuniongyrchol ar y lefel fwyaf sylfaenol ar bobl ifanc sy'n ymgymryd ag addysg cyfrwng Cymraeg mewn lleoliadau uwchradd. Bwriad y cynnig yw gwneud yn siŵr bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg sydd â sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd pwnc arbenigol ar gael i addysgu mewn ysgolion ledled Cymru, gan ddiogelu addysg pobl ifanc drwy'r Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Mae gweithlu addysgu cyfrwng Cymraeg hefyd yn helpu i leihau risgiau newid ieithyddol mewn cymunedau cyfrwng Cymraeg ehangach. Mae effeithiau cadarnhaol i sicrhau gweithlu addysgu i ddiogelu addysg plant a phobl ifanc, arnyn nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae effeithiau cadarnhaol sylweddol i ddiben a nodau ehangach y cwricwlwm ac addysg yn fwy cyffredinol, ar bobl, cymunedau, yr economi a’r Gymraeg. Fodd bynnag, nid yw effaith y cynnig penodol hwn yn ddigon mawr i’w mesur mewn ffordd ystyrlon, rhan fach ydyw o'r gwaith ehangach o sicrhau system addysg ddwyieithog o safon uchel yng Nghymru.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant a/neu
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae sicrhau proffesiwn addysgu cydweithredol a dwyieithog, o safon uchel ac sy'n seiliedig ar ymchwil, yn cyfrannu at nifer o’r nodau llesiant, gan gynnwys Cymru fwy llewyrchus, cyfartal, o gymunedau cydlynus, â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Bwriad y cynnig yw helpu i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg dan hyfforddiant sydd ag arbenigedd pwnc i AGA, ac wedi hynny i'r gweithlu addysgu ysgolion sydd ei angen i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, sef y prif gyfrwng i gyfrannu at les plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth i’r cynnig fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gyflawni

Mae'r cynnig yn cael ei adolygu'n flynyddol yn erbyn ei nodau, y data sydd ar gael am y gweithlu ysgolion, a'r gyllideb. Gwahoddir rhanddeiliaid allweddol i ymgysylltu â'r broses hon a darparu tystiolaeth o welliant parhaus a’r effaith ar niferoedd y myfyrwyr a recriwtir.

Bydd yr asesiad effaith diweddaraf hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol fel rhan o hyn i fonitro effaith y cynnig ac unrhyw newidiadau posibl a wneir, o ystyried data a thystiolaeth newydd.