Cynnal Clwb Rhedeg Iawn
Awgrymiadau ar sut i fod yn ddiogel ac yn gynhwysol tra’n rhedeg clwb rhedeg.
I lawer o fenywod, mae mynd i redeg yn golygu mwy na chamu allan o'r drws. Gall olygu cynllunio llwybrau, bod yn wyliadwrus, a meddwl am ddiogelwch personol mewn ffordd nad oes rhaid i ddynion wneud bob amser.
Beth yw dy rôl?
Drwy fod yn ymwybodol o sut mae dy eiriau, ymddygiad, a phresenoldeb yn effeithio ar eraill, gelli di helpu i osod tôn. Nid yw disgwyliadau clir, parch tuag at eich gilydd a chynnal sgwrs agored yn creu mannau sy’n fwy diogel ar gyfer menywod yn unig, maent yn creu clybiau rhedeg sy’n fwy croesawgar a phleserus i bawb sy'n rhan ohonynt.
Mae Clwb Rhedeg Iawn yn golygu:
- dod at ein gilydd
- cefnogi ein gilydd i gynnal sgyrsiau gonest
- adeiladu ymddiriedaeth
- creu modelau rôl cadarnhaol o fewn cymunedau rhedeg
- helpu i wneud rhedeg a'n cymunedau yn fwy diogel i fenywod
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd y canllaw hwn yn dy helpu i feddwl am ddiogelwch, parch a chynhwysiant, a sut y gall gweithredoedd bach bob dydd wneud gwir wahaniaeth.
Lawrlwytha ganllaw Clwb Rhedeg Iawn, der ag e’ pan yn rhedeg nesaf, a bydd yn rhan o'r sgwrs.
Un rhediad. Un sgwrs. Un cam tuag at wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.
