Neidio i'r prif gynnwy
Dwi’n bod rhy full on efo hi?

Pethau i gofio mewn perthynas newydd...

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod faint o sylw i roi i rywun rwyt ti'n dêtio. Dyma rai pethau i gofio wrth ddechrau perthynas newydd:

  • Siaradwch am faint y mae'r ddau ohonoch chi’n disgwyl negesu, sgwrsio a chwrdd.
  • Does dim angen anrhegion na mynd dros ben llestri i ddangos i rywun dy fod yn eu hoffi, efallai byddai paned o de yn neud y job yn iawn!
  • Mwynha’r presennol wrth i chi ddod i adnabod eich gilydd, bydd y gweddill yn dilyn pan yn teimlo'n iawn.
  • Dalia ati gyda dy hobïau a diddordebau - a rho le iddyn nhw a’u diddordebau hwythau.

Am ragor o gymorth iawn, dilyn ni ar TikTokInstagram and YouTube.