Neidio i'r prif gynnwy
Ydw i’n anfon gormod o negeseuon ati?

Sut i roi’r gorau i obsesu dros decstio nôl…

Gall egni perthynas newydd deimlo'n llethol. Cymer gam yn ôl o’r botwm ‘neges newydd’ a darllena ein cyngor:

  • Cofia y gallai'r person rwyt ti’n tecstio fod yn brysur. Paid â disgwyl iddyn nhw ymateb os ydyn nhw’n gwneud rhywbeth arall.
  • Siarada gyda ffrindiau eraill. Gall siarad am rywbeth gwahanol helpu i dynnu dy sylw.
  • Gwna ychydig o ymarfer corff. Mae gweithgaredd corfforol yn lleihau lefelau straen a gall dynnu dy feddwl oddi ar dy ffôn.
  • Paid disgwyl ateb i bob neges. Os nad ydyn nhw’n ymateb, nid yw'n golygu nad oeddent yn gwerthfawrogi'r hyn a ddywedaist di.

Am ragor o gymorth iawn, dilyna ni ar TikTokInstagram and YouTube.