Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn cynnig crynodeb o wasanaethau gofal synhwyraidd cyfredol yng nghyd-destun iechyd llygaid gwael a nam ar y clyw ar gyfer Ebrill 2016 i Mawrth 2017.

Colli golwg

Gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17 i ymatebwyr a oedd eu golwg yn ddigon da iddynt allu gweld wyneb rhywun ar draws ystafell, a hynny gyda sbectol neu lensiau cyffwrdd os oeddent yn eu gwisgo fel arfer. Ymatebodd 3% o oedolion16 a throsodd na allent wneud hyn, neu eu bod yn cael trafferth i wneud.

Gwasanaethau gofal sylfaenol llygaid

  • Yn ystod 2016-17, talodd y GIG am 776,827 o brofion golwg y Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol, cynnydd o 1.0% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Cafodd 150,324 o archwiliadau llygaid eu cynnal gan Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru yn ystod yr un flwyddyn.
  • O’r 139,264 o gleifion a sgriniwyd (â’r canlyniadau wedi’i adrodd) gan y Gwasanaeth Llygaid Sgrinio Diabetig Cymru yn 2016-17, roedd gan 28.2% ohonynt rywfaint o retinopatheg diabetig (Ni allai graddio nifer fechan ohonynt).

Gwasanaethau llygaid ysbyty

  • Cafwyd 322,139 o dderbyniadau i apwyntiadau offthalmig cleifion allanol yn ysbytai Cymru yn 2015-16.
  • Cafodd y Byrddau Iechyd 91,846 o atgyfeiriadau ar gyfer offthalmoleg yn 2016-17, 31,824 ohonynt gan feddygon teulu.

Adsefydlu

Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru

  • Cynhaliwyd 8,792 o asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru.

Pobl sydd newydd gael eu hardystio â/ neu cofnodi â nam difrifol ar y golwg, neu nam ar y golwg

  • Ar 31 Mawrth 2016, roedd dros 16,000 o bobl wedi eu cofnodi â nam ar y golwg, ac o’r rhain cofnodwyd tua hanner â nam difrifol ar y golwg, a hanner â nam ar y golwg.
  • Cafodd 1,388 o bobl eu hardystio o’r newydd â nam ar y golwg yn 2015-16; roedd dros 55% o’r rhain yn 80 oed a throsodd.

Gweithlu

  • Roedd 819 o ymarferwyr yn cynnal profion golwg y talwyd amdanynt gan y GIG ar 31 Rhagfyr 2016, 1 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol a chynnydd o 21.7% ers mis Rhagfyr 2006.
  • Ar 30 Medi 2016 roedd 137.7 o feddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru.

Clyw

  • Cofnododd Arolwg Iechyd Cymru bod 16% o oedolion yn dweud bod ganddynt anawsterau gyda’u clyw yn 2015.
  • Ar 31 Mawrth 2017, roedd 390 o gleifion wedi bod yn aros am gymorth clyw am fwy na’r targed o 14 wythnos.
  • Ar 30 Medi 2016 roedd 133.6 o feddygon otolaryngoleg cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru.

Adroddiadau

Iechyd synhwyraidd: ystadegau gofal llygaid a chlyw, Ebrill 2016 i Mawrth 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Iechyd synhwyraidd: ystadegau gofal llygaid a chlyw, Ebrill 2016 i Mawrth 2017: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 267 KB

ODS
Saesneg yn unig
267 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Iechyd synhwyraidd: ystadegau gofal llygaid a chlyw, Ebrill 2016 i Mawrth 2017: dangosfwrdd , Saesneg yn unig, math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 921 KB

XLSX
Saesneg yn unig
921 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.