Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi ystadegau’n ymwneud â gwasanaethau llygaid gofal sylfaenol (gan gynnwys y Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol (GOS) a gwasanaethau gofal llygaid wedi’u targedu yng Nghymru fel Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (EHEW) a Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW)), Gwasanaeth Llygaid yr Ysbyty, cofrestru ac ardystio nam ar y golwg a Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru a’r gweithlu. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys ystadegau ar nifer y bobl sy’n colli eu clyw, sy’n defnyddio cymhorthion clyw ac yn cael gofal yn yr ysbyty ar gyfer cyflyrau sy’n gysylltiedig â’r clyw.

Mae’r ystadegau hyn yn helpu i fonitro darpariaeth y gwasanaethau presennol ac yn darparu tystiolaeth y mae polisïau awdioleg ac iechyd llygaid presennol yn seiliedig arni ac yn cael eu gwerthuso yn unol â hi.

Caiff yr adroddiad hwn ei ddiweddaru bob dwy flynedd ac mae’n cynnwys y data diweddaraf sydd ar gael (nid yw’r holl ddata ar gael ar gyfer 2019-20 a 2020-21).

Mae gwybodaeth gefndir ar gael yn yr adroddiad ansawdd. Mae’r holl dablau a gyhoeddwyd a rhagor o ddata ar gael yn y taenlenni cysylltiedig neu ar dablau StatsCymru

Effaith COVID-19

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar wasanaethau gofal llygaid a chlyw, a bydd yr effaith yn cael ei hadlewyrchu yn y data ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21.

Ar ôl dechrau pandemig COVID-19 ddiwedd Mawrth 2020, cafodd llai o wasanaethau optometreg arferol eu darparu. Daeth hawliadau talu i ben rhwng mis Ebrill a mis Awst 2020; yn lle hynny cafodd taliadau cyfartalog eu cyfrifo a’u talu i gontractwyr offthalmig. Ewch i Gwasanaethau iechyd y llygaid: coronafeirws am ragor o wybodaeth. 

Gohiriwyd rhai prosesau casglu data, er enghraifft cofrestrau anabledd awdurdodau lleol, ac felly nid oes data ar gael ar gyfer y cyfnod diweddaraf.

Lle bo data wedi cael eu casglu, mae’r ystadegau ar gyfer pob mesur gweithgarwch mewn gwasanaethau iechyd synhwyraidd yn 2020-21 yn is o lawer nag yn y blynyddoedd blaenorol a dylid cadw hyn mewn cof wrth gymharu dros amser.

I gael rhagor o wybodaeth am effaith ehangach pandemig COVID-19 ar wasanaethau ysbytai’r GIG, darllenwch ddatganiad ystadegol Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG, a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd 2020.

Prif bwyntiau

Crynodeb cyffredinol

  • Mae’r rhan fwyaf o’r setiau data ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid a chlyw yn dangos bod pandemig COVID-19 wedi cael cryn effaith yn ystod 2020-21, a gwelwyd lefelau gweithgarwch yn gostwng yn sylweddol o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, nid effeithiwyd ar nifer y gweithlu oherwydd, ar y cyfan, gwelwyd cynnydd bach yn nifer yr ymarferwyr arbenigol ym maes gofal llygaid a chlyw yn 2020-21.

Gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol

  • Yn 2019-20, talodd y GIG am dros 810,000 (813,922) o brofion llygaid y Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol, ond gostyngodd hyn i ychydig o dan 350,000 (348,740) yn 2020-21.
  • Yn 2019-20, cynhaliwyd dros 200,000 (201,208) o archwiliadau dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (EHEW) yn 2019-20, ond gostyngodd hyn i ychydig dros 80,000 (81,785) yn 2020-21.
  • Yn 2019-20, roedd ychydig dros 180,000 (180,756) o gleifion yn gymwys ar gyfer gwasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW). Cafodd tua 115,000 (116,006) o gleifion eu sgrinio a chyflwynodd gwasanaeth DESW adroddiad ar y canlyniadau. Canfuwyd bod gan 30.3% o’r rhain ryw fath o retinopathi diabetig.

Gwasanaethau llygaid yr ysbyty

  • Yn 2019-20, cafodd dros 100,000 (104,233) o atgyfeiriadau offthalmoleg eu gwneud ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol, ond roedd hyn wedi gostwng i tua 60,000 (63,392) yn 2020-21.
  • Yn 2019-20, cafwyd dros 310,000 (314,054) o apwyntiadau offthalmoleg yn yr ysbyty i gleifion allanol yng Nghymru, ond gostyngodd hyn i lai na 190,000 (186,728) yn 2020-21.

Adsefydlu (Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru)

  • Yn 2019-20, cafodd ychydig o dan 9,000 (8,993) o asesiadau eu cynnal gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru, ond gostyngodd hyn i ychydig dros 5,000 (5,211) yn 2020-21.

Pobl sydd newydd gael eu hardystio fel bod â nam difrifol ar eu golwg a nam ar eu golwg

  • Cafodd 1,618 o dystysgrifau nam ar y golwg (CVIs) eu rhoi yn 2019-20; 15 yn fwy nag yn 2018-19.

Y gweithlu

  • Cofnodwyd 885 o ymarferwyr offthalmig ar y Rhestrau o Berfformwyr ar 31 Mawrth 2020 (o’r rhain, roedd 882 yn optometryddion). Ar 31 Mawrth 2021, roedd 960 o ymarferwyr offthalmig (o’r rhain, roedd 956 yn optometryddion).
  • Ar 30 Medi 2020, roedd 138 o feddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser cyflawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru (143 ar 31 Mawrth 2021).

Arolwg Cenedlaethol Cymru

  • Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, dywedodd 72% o bobl eu bod yn cael prawf llygaid o leiaf unwaith bob dwy flynedd. Dywedodd 8% nad oeddent erioed wedi cael prawf llygaid.

Clyw

  • Ar 31 Mawrth 2020, roedd 55 o gleifion wedi bod yn aros am gymorth clyw am fwy na’r amser targed o 14 wythnos. Roedd hyn wedi cynyddu i 1,391 erbyn 31 Mawrth 2021.
  • Ar 30 Medi 2020, roedd 133 o feddygon otolaryngoleg cyfwerth ag amser cyflawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru. Roedd hyn wedi cynyddu i 136 erbyn 31 Mawrth 2021.
  • Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd 19% o bobl wedi dweud eu bod wedi cael trafferth gyda’u clyw rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021.

Gofal llygaid

Gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol

Gwasanaeth offthalmig cyffredinol: profion llygaid a thalebau optegol

Mae cael prawf llygaid gydag optometrydd o leiaf unwaith bob dwy flynedd yn cael ei argymell fel rhan o drefn gofal iechyd pawb er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o golli’r golwg heb fod angen. 

Mae llawer o bobl yn gymwys i gael prawf llygaid Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol (GOS) y GIG am ddim, gan gynnwys:

  • pobl 60 oed a hŷn
  • plant dan 16 oed (neu dan 19 oed ac mewn addysg amser llawn)
  • pobl â diabetes
  • pobl 40 oed a hŷn y mae gan aelod agos o’u teulu glawcoma
  • pobl sy’n gymwys i gael budd-daliadau penodol

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 340 o bractisiau optometreg yn darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

Image
Gan fod y pandemig wedi effeithio ar wasanaethau yn 2020-21, roedd y GIG wedi talu am bron i 350,000 (348,740) o brofion llygaid. Mae hyn 57.2% yn llai o brofion llygaid nag yn 2019-20.

Nifer y profion llygaid y telir amdanynt gan y GIG (StatsCymru)

Mae nifer y profion llygaid y telir amdanynt gan y GIG wedi bod ar gynnydd ers 2002-03, gyda’r nifer yn amrywio o ychydig o dan 650,000 yn 2003-04 i dros 810,000 yn 2019-20. Yn y flwyddyn ddiwethaf i’r pandemig beidio ag effeithio arni’n ormodol (2019-20), roedd cynnydd o 2.4% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 10.8% o gymharu â 10 mlynedd yn ôl (2009-10).

Gan fod y pandemig wedi effeithio ar wasanaethau yn 2020-21, talodd y GIG am bron i 350,000 (348,740) o brofion llygaid.  Mae hyn 57.2% yn llai o brofion llygaid nag yn 2019-20 a 53.0% yn llai o brofion llygaid o gymharu â 10 mlynedd yn ôl (2010-11).

Cofiwch, am resymau clinigol, efallai y bydd pobl yn cael mwy nag un prawf llygaid y flwyddyn.

Mae data profion llygaid yn ôl cymhwysedd cleifion ar gael ar wefan StatsCymru.

Profion llygaid yn y cartref

Mae’r rhan fwyaf o brofion llygaid y telir amdanynt gan y GIG yn cael eu cynnal ar safleoedd ymarferwyr, er bod cyfran fach yn cael eu cynnal oddi ar safleoedd offthalmig, gan gynnwys yng nghartrefi pobl ac mewn cartrefi preswyl.

Yn 2020-21, talodd y GIG am bron i 8,000 (7,976) o brofion llygaid yn y cartref. O’r rhain, talwyd 89.2% ohonynt ar y gyfradd uwch (lle mai’r claf yw’r cyntaf neu’r ail i gael ei weld mewn cyfeiriad) a 10.8% ar y gyfradd is (y trydydd claf a’r cleifion dilynol i gael eu trin yn yr un cyfeiriad). 

Mae hyn yn is o lawer na nifer y profion llygaid yn y cartref yn 2019-20, lle talodd y GIG am bron i 30,000 (28,432) o brofion. Roedd y dosbarthiad rhwng cyfraddau uwch ac is hefyd yn wahanol yn 2019-20, gyda 69.5% yn cael eu talu ar y gyfradd uwch a 30.5% ar y gyfradd is.

Mae data cyfres amser ar gyfer profion llygaid yn y cartref ar gael ar wefan  StatsCymru.

Talebau optegol y GIG a broseswyd

Yn 2020-21, cafodd ychydig dros 130,000 (132,366) o dalebau optegol eu prosesu - 53.6% yn llai nag yn 2019-20, pan broseswyd bron i 290,000 (285,333) o dalebau optegol.

Mae data cyfres amser ar gyfer talebau optegol y GIG ar gael ar wefan StatsCymru.

Hawliadau am drwsio sbectol neu dalu am bâr newydd

Roedd ychydig dros 12,000 (12,246) o hawliadau trwsio sbectol neu dalu am bâr newydd yn 2020-21; gostyngiad o 66.5% ers 2019-20, pan wnaed ychydig dros 36,000 (36,564) o hawliadau trwsio sbectol neu dalu am bâr newydd.

Mae data cyfres amser ar gyfer trwsio sbectol neu dalu am bâr newydd ar gael ar wefan StatsCymru.

Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru

Mae cynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (EHEW) yn cynnig archwiliadau llygaid estynedig am ddim i grwpiau o’r boblogaeth sy’n wynebu mwy o risg o rai clefydau llygaid ac i’r rheini y gallai colli golwg fod yn arbennig o niweidiol iddynt, gan gynnwys pobl sydd:

  • yn gweld ag un llygad yn unig;
  • â nam ar eu clyw neu sy’n ddwys-fyddar neu’n ddall;
  • â retinitis pigmentosa;
  • yn dod o grŵp ethnig Du (sy'n cynnwys Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig neu Ddu arall) neu Asiaidd (sy'n cynnwys Indiaidd/Pakistani/Tsieineaidd/ Bangladeshi/Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd arall);
  • mewn perygl o gael clefyd llygaid oherwydd hanes teuluol; neu
  • yn cael problemau gyda’r llygaid y mae angen rhoi sylw iddynt ar frys.

Roedd 323 o bractisiau optometreg yng Nghymru lle mae ymarferwyr wedi’u hachredu i ddarparu’r gwasanaeth (ar 31 Mawrth 2021).

I gael rhagor o fanylion am Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru, gan gynnwys y strwythur bandio, cymerwch gip ar yr adroddiad ansawdd.

Image
Gan fod y pandemig wedi effeithio ar wasanaethau, cynhaliwyd ychydig dros 80,000 (81,785) o archwiliadau yn 2020-21. Mae hyn 59.4% yn llai nag yn 2019-20.

Nifer yr archwiliadau yr hawlir amdanynt dan Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (MS Excel) 

Mae nifer yr archwiliadau ar gyfer pob band wedi cynyddu bob blwyddyn nes cyrraedd uchafbwynt yn 2019-20, lle cafodd dros 200,000 (201,208) o archwiliadau eu cynnal dan Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn 2019-20. Mae hyn yn gynnydd o 9.1% ers y flwyddyn flaenorol ac yn gynnydd o 65.3% ers 2015-16.

O’r holl archwiliadau yn 2019-20, roedd bron i 120,000 (119,890) yn archwiliadau Band 1 (59.6%).

Gan fod y pandemig wedi effeithio ar wasanaethau yn 2020-21, cynhaliwyd ychydig dros 80,000 (81,785) o archwiliadau. Mae hyn 59.4% yn llai nag yn 2019-20.

O’r holl archwiliadau yn 2020-21, roedd ychydig dros 50,000 (53,145) yn archwiliadau Band 1 (65.0%).

Mae rhagor o ddadansoddiadau, gan gynnwys y band oedran a’r symptom penodol, ar gael yn y tablau cysylltiedig.

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW)

Darperir Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW) i bob person cymwys sy’n 12 oed a hŷn sydd â diabetes ac sydd wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio unedau sgrinio symudol, sy’n ymweld ag ardaloedd byrddau iechyd amrywiol.

Nid oedd data ar gyfer 2020-21 ar gael ar gyfer y datganiad hwn.

Image
Mae nifer y cleifion gweithredol cymwys yng Nghymru wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2013-14 gydag ychydig dros 180,000 (180,756) o gleifion yn 2019-20, cynnydd o 3.1% ers 2018-19.

Nifer y cleifion gweithredol cymwys yng Nghymru (MS Excel) 

Mae nifer y cleifion gweithredol cymwys yng Nghymru wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2013-14 ac yn ystod 2019-20, roedd ychydig dros 180,000 (180,756) o gleifion yn gymwys i gael y gwasanaeth; cynnydd o 3.1% ers 2018-19 a chynnydd o 15.6% ers 2013-14.

Tabl 1: Crynodeb o ystadegau allweddol, Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, 2019-20
Crynodeb o'r ystadegau allweddol Nifer
Cleifion Gweithredol Cymwys 180,756
Cleifion Gweithredol Cymwys: cofrestriadau newydd 13,360
Canlyniadau a Adroddwyd (a) 116,006
Atgyfeiriadau Brys at Wasanaeth Llygaid yr Ysbyty ar gyfer retinopathi diabetig 595
Atgyfeiriadau brys at Offthalmoleg ar gyfer namau eraill (b) 410
Dim retinopathi 76,668
Unrhyw retinopathi 35,157
Retinopathi/Macwlopathi sy’n rhoi’r golwg yn y fantol 6,981
Retinopathi/Macwlopathi difrifol (c) 585

Ffynhonnell: Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW)

(a) Efallai fod rhai cleifion wedi cael eu sgrinio fwy nag unwaith yn ystod y flwyddyn; yn ogystal â chanlyniadau hysbys, sylwer nad oedd modd graddio nifer o ganlyniadau.
(b) Wrth asesu delwedd ar gyfer retinopathi diabetig, os yw’r graddiwr yn sylwi ar bryder nad yw’n gysylltiedig â diabetes, gall hyn hefyd arwain at atgyfeiriad arferol neu frys.
(c) nifer y bobl sydd â retinopathi/macwlopathi difrifol sy’n rhoi eu golwg yn y fantol: sylwer, mae’r cleifion hyn yn ymddangos yn y categorïau golwg yn y fantol a difrifol. 

O’r 180,756 o gleifion cymwys yn 2019-20, roedd ychydig dros 13,000 (7.4%) yn gofrestriadau newydd.

O’r 116,006 o ganlyniadau a gofnodwyd o’r profion sgrinio yn ystod y flwyddyn, canfuwyd mai ychydig dros 35,000 (30.3%) oedd â rhywfaint o retinopathi diabetig (roedd gan nifer fach o’r cyfanswm ganlyniadau nad oedd modd eu graddio).

Roedd gan bron i 7,000 o gleifion (6.0%) retinopathi a allai roi eu golwg yn y fantol, ond nid oedd angen eu hatgyfeirio at Wasanaethau Llygaid yr Ysbyty o reidrwydd.

Mae rhagor o ddata ar gael yn y tablau cysylltiedig.

Gwasanaeth llygaid yr ysbyty

Atgyfeiriadau

Mae ystadegau atgyfeiriadau’n cyfrif nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd gan fyrddau iechyd lleol Cymru ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol gydag ymgynghorydd (ni waeth beth yw ardal breswyl y claf).

Image
Yn 2020-21, cafodd ychydig dros 60,000 (63,392) o atgyfeiriadau offthalmoleg eu gwneud ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol, gostyngiad o 39.2% ers 2019-20.

Nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol ym maes offthalmoleg (StatsCymru)

Mae Siart 4 yn seiliedig ar y data atgyfeiriadau a gyhoeddwyd ar 19 Awst 2021 ar wefan StatsCymru. Mae’n bosibl y bydd y set ddata hon yn cael ei diwygio’n fisol felly efallai na fydd y data yn y datganiad ystadegol hwn yn cyfateb yn union i’r data ar wefan StatsCymru yn y misoedd i ddod.  

Ers mis Hydref 2014, cyflwynwyd cod ffynhonnell atgyfeirio newydd i gofnodi atgyfeiriadau sy’n dod yn uniongyrchol gan optometryddion. Yn sgil hyn, cynyddodd nifer yr atgyfeiriadau offthalmoleg nad oeddent gan feddygon teulu o fis Hydref 2014 ymlaen, felly mae’n rhaid bod yn ofalus wrth ddadansoddi atgyfeiriadau offthalmoleg dros amser.

Mae nifer yr atgyfeiriadau offthalmoleg ar gyfer apwyntiadau cyntaf claf allanol wedi aros yn weddol sefydlog, gydag ychydig dros 100,000 yn cael eu hatgyfeirio bob blwyddyn rhwng 2015-16 a 2020-21, pan welwyd effaith pandemig COVID-19. 

Yn 2020-21, cafodd ychydig dros 60,000 (63,392) o atgyfeiriadau offthalmoleg eu gwneud ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol yn 2020-21, gostyngiad o 39.2% ers 2019-20, pan wnaed ychydig dros 100,000 (104,233) o atgyfeiriadau offthalmoleg.

Daw’r rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau gan bobl nad ydynt yn feddygon teulu, sef 81.4% yn 2020-21, cynnydd o’r ganran yn 2019-20 sef 78.4%.

Mae rhagor o ddata ar gael ar wefan StatsCymru.

Amseroedd aros (rhwng atgyfeirio a thriniaeth)

Y llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) yw’r amser y bydd claf yn aros rhwng cael atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall a dechrau’r driniaeth. Mae’n cynnwys amser a dreulir yn aros am unrhyw apwyntiadau, profion, sganiau neu driniaethau eraill yn yr ysbyty y gallai fod arno eu hangen.

Mae diffiniad llawn ar gael yn yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Mae dau darged Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, sef: dylai 95% o gleifion aros llai na 26 wythnos ar ôl cael eu hatgyfeirio; ac ni ddylai unrhyw gleifion aros mwy na 36 wythnos am driniaeth ar ôl cael eu hatgyfeirio.

Mae Siart 5 yn dangos nifer y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau ar gyfer offthalmoleg ym mhob blwyddyn ariannol ers mis Ebrill 2012 a’r amser aros rhwng atgyfeirio a’r driniaeth.

Image
Cynyddodd nifer y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau rhwng 2013-14 a 2018-19. Fodd bynnag, cafwyd llai o weithgarwch yn 2019-20 a llai byth yn 2020-21 gan fod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar wasanaethau.

Nifer y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau ar gyfer offthalmoleg fesul blwyddyn a grŵp o wythnosau a dreuliwyd yn aros (StatsCymru)

Mae Siart 5 yn dangos bod gweithgarwch wedi bod yn cynyddu mewn gwasanaethau offthalmoleg gyda nifer y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau yn cynyddu 12.2% rhwng 2013-14 a 2018-19.  Fodd bynnag, gwelwyd y gweithgarwch yn gostwng yn 2019-20 ac ymhellach eto yn 2020-21 gan fod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar wasanaethau.

Er bod gweithgarwch wedi cynyddu’n gyffredinol ers 2013-14, mae cyfran uwch o lwybrau cleifion wedi aros yn hirach am driniaeth, gydag ychydig o dan chwarter (23.5%) y cleifion yn aros 26 wythnos neu fwy yn 2013-14 o gymharu â dros draean y cleifion yn aros 26 wythnos neu fwy yn 2019-20 (35.8%) ac yn 2020-21 (34.0%). 

Caeodd ychydig dros 40,000 (42,157) o lwybrau cleifion offthalmoleg yn 2020-21. Mae hyn yn ostyngiad o 54.0% ers 2019-20, pan gafodd ychydig dros 90,000 (91,642) o lwybrau eu cau.

Er bod y gweithgarwch atgyfeirio wedi gostwng yn 2020-21, roedd y perfformiad yn erbyn y ddau darged yn gymharol gyson â’r blynyddoedd blaenorol. Yn 2020-21, caewyd 66.0% o lwybrau mewn llai na’r amser targed o 26 wythnos, a chaewyd 11,404 o lwybrau cleifion ar ôl 36 wythnos. Mae hyn yn cymharu â 64.2% o lwybrau a gaewyd mewn llai na 26 wythnos, a 12,872 o lwybrau a gaewyd ar ôl y targed 36 wythnos yn 2019-20.

Fodd bynnag, gyda llai o gleifion yn cael eu hatgyfeirio yn 2020-21, roedd dros chwarter (27.1%) yr holl lwybrau wedi aros dros 36 wythnos i gael eu cau, sef y gyfran uchaf erioed.

Mae Siart 5 yn seiliedig ar ddata’r amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth a gyhoeddwyd ar 19 Awst 2021 ar wefan StatsCymru. Mae’n bosibl y bydd y set ddata hon yn cael ei diwygio’n fisol felly efallai na fydd y data yn y datganiad ystadegol hwn yn cyfateb yn union i’r data ar wefan StatsCymru yn y misoedd i ddod.

Mae rhagor o ddata, yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â llwybrau agored (hy y nifer sy’n aros i ddechrau triniaeth) ar gael ar wefan StatsCymru.

Cleifion allanol

Mae presenoldeb claf allanol yn golygu claf sy’n mynd i’r ysbyty i gael triniaeth heb aros yno dros nos, naill ai gydag ymgynghorydd neu nyrs arbenigol. Nid yw apwyntiadau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a thelefeddygaeth yn cael eu cofnodi.

Image
Gostyngodd nifer yr apwyntiadau offthalmoleg i gleifion allanol mewn ysbytai yng Nghymru o tua 315,000 (314,054) yn 2019-20 i ychydig o dan 190,000 (186,728) yn 2020-21.

Nifer yr apwyntiadau cleifion allanol (newydd a dilynol) ar gyfer offthalmoleg yn ôl blwyddyn (MS Excel)

Yn 2020-21, gostyngodd nifer yr apwyntiadau offthalmoleg i gleifion allanol mewn ysbytai yng Nghymru i ychydig o dan 190,000 (186,728), o gymharu â bron i 315,000 (314,054) yn 2019-20.

O’r rhain, roedd ychydig dros 40,000 (42,752) yn apwyntiadau newydd ac ychydig dros 140,000 (143,976) yn apwyntiadau dilynol. Mae hyn o gymharu â bron i 90,000 (86,080) o apwyntiadau newydd a bron i 230,000 (227,974) o apwyntiadau dilynol yn 2019-20.

Mae nifer yr apwyntiadau dilynol wedi bod yn gostwng ers 2017-18.

Mae rhagor o ddata ar gael yn y tablau cysylltiedig.

Sylwer nad yw'r data Cleifion Allanol yn cyfateb i ddata StatsCymru ar gyfer gweithgarwch Cleifion Allanol, gan fod y data a gyflwynir yma ar sail darparwyr yng Nghymru, sy’n cynnwys gweithgarwch a gyflawnir gan sefydliadau yng Nghymru a data a gyflwynir gan sefydliadau yn Lloegr sydd â chofnodion ar gyfer cleifion sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. Fodd bynnag, caiff data StatsCymru eu cyflwyno ar sail gweithgarwch yng Nghymru (hy y gweithgarwch cleifion allanol a gyflawnir mewn ysbytai yng Nghymru, sy’n cynnwys gweithgarwch a gyflawnir gan sefydliadau yn Lloegr mewn ysbytai yng Nghymru ond nid y gweithgarwch a gyflawnir yn Lloegr ar gyfer trigolion neu sefydliadau o Gymru). I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gip ar yr adroddiad ansawdd.

Derbyniadau i’r ysbyty

Caiff cleifion eu diffinio fel pobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty os ydynt yn aros am o leiaf un noson (cleifion mewnol), neu os cânt eu derbyn yn ddewisol ar gyfer triniaeth neu ofal nad oes angen aros dros nos yn yr ysbyty (achosion dydd).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW).

Image
Cafwyd ychydig dros 6,000 (6,077) o dderbyniadau cataract yn 2020-21, gostyngiad o 69.9% ers 2019-20.

Nifer y derbyniadau (cleifion mewnol ac achosion dydd) ar gyfer gofal llygaid yr ysbyty yng Nghymru, yn ôl diagnosis sylfaenol a blwyddyn (MS Excel)

Mae Siart 7 a’r canlynol yn cyfeirio at dderbyniadau sy’n gysylltiedig â’r llygaid yn ôl diagnosis sylfaenol.

Effeithiodd pandemig COVID-19 ar dderbyniadau i’r ysbyty yn 2020-21 ond roedd yr effaith yn amrywio yn dibynnu ar y diagnosis sylfaenol.

Cafwyd ychydig dros 6,000 (6,077) o dderbyniadau cataract yn 2020-21, gostyngiad o 69.9% ers y flwyddyn flaenorol lle cafwyd dros 20,000 (20,199) o dderbyniadau. Roedd retinopathi diabetig hefyd wedi gostwng yn sylweddol (gostyngiad o 67.4%) o 347 i 113 o dderbyniadau.

Fodd bynnag, nid oedd y gostyngiadau mewn diagnosisau sylfaenol eraill mor amlwg, gyda gostyngiad o 23.4% ar gyfer dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint, o 7,644 o dderbyniadau i 5,856; a gostyngiad o 35.7% ar gyfer glawcoma, o 829 o dderbyniadau i 533.

Mae’r data hyn, gan gynnwys rhagor o ddata ar gyfer triniaethau, ar gael yn y tablau cysylltiedig.

Mesurau Gofal Llygaid

Mae data misol newydd ar lwybrau cleifion agored a llwybrau cleifion sydd wedi’u cau ar gyfer offthalmoleg, cleifion allanol a fu’n aros, neu sydd wedi bod yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed ar ddiwedd pob mis, wedi cael eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru. Mae data ar gael o fis Ebrill 2019 ymlaen.

Gellir categoreiddio claf yn Ffactor Risg Iechyd R1 os yw mewn perygl o niwed di-droi’n-ôl neu ganlyniad andwyol sylweddol os bydd ei ddyddiad targed yn cael ei fethu.

Mae’r data diweddaraf am lwybrau agored yn dangos, ddiwedd mis Mehefin 2021, fod ychydig dros 120,000 (122,406) o lwybrau cleifion, lle cafodd y claf ei asesu fel bod yn Ffactor Risg Iechyd R1, yn aros am apwyntiad claf allanol. Roedd gan bron bob un o’r llwybrau cleifion hyn (122,229) ddyddiad targed wedi’i bennu. 

Roedd 47.0% o lwybrau cleifion, lle aseswyd bod y claf yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% i’w dyddiad targed.

Mae’r data diweddaraf am lwybrau sydd wedi’u cau yn dangos bod ychydig dros 20,000 (20,157) o apwyntiadau wedi cael eu cadw yn ystod mis Mehefin 2021 lle’r oedd y claf wedi cael ei asesu fel bod yn Ffactor Risg Iechyd R1. O’r rhain, ychydig dros 17,000 (17,036) oedd â dyddiad targed wedi’i bennu.

Roedd 61.9% o’r apwyntiadau a fynychwyd, lle aseswyd bod y claf yn R1, wedi aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r cyhoeddiad Mesurau gofal llygaid.

Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru

Nod Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru (LVSW) yw helpu pobl â nam ar eu golwg i aros yn annibynnol drwy ddarparu cymhorthion golwg gwan iddyn nhw fel chwyddwydrau, a thrwy ddarparu addysg, atgyfeiriadau a hyfforddiant adsefydlu priodol. Mae ‘golwg gwan’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio problem golwg nad oes modd ei chywiro drwy wisgo sbectol, lensys cyffwrdd neu drwy driniaeth feddygol.

Daw’r atgyfeiriadau gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a chan unigolion eu hunain.

Image
Gostyngodd nifer yr asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru o 8,993 yn 2019-20 i 5,211 yn 2020-21 (gostyngiad o 42.1%).

Nifer yr Asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru (MS Excel)

Cynhaliwyd ychydig dros 5,000 (5,211) o asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru yn 2020-21 - gostyngiad o 3,782 (42.1%) ers 2019-20, pan gynhaliwyd ychydig o dan 9,000 (8,993) o asesiadau.

Mae rhagor o ddata am asesiadau yn ôl grŵp oedran, cyflwr, ethnigrwydd a nodweddion eraill ar gael yn y tablau cysylltiedig. Mae data sy’n ymwneud â chraffter golwg a gofnodwyd mewn asesiadau ac atgyfeiriadau ar gael hefyd.

Nam ar y golwg

Tystysgrifau Nam ar y Golwg (CVI)

Defnyddir y Dystysgrif Nam ar y Golwg (CVI) i gofnodi bod gan gleifion nam difrifol ar eu golwg neu nam ar eu golwg. Gyda chaniatâd y claf a phan gaiff ei llofnodi gan offthalmolegydd ymgynghorol, y dystysgrif hon yw’r hysbysiad ffurfiol a roddir i awdurdodau lleol er mwyn iddynt asesu anghenion yr unigolyn am wasanaethau a’i gofrestru fel rhywun sydd â nam ar ei olwg neu nam difrifol ar ei olwg. Anfonir copi o’r dystysgrif i Ysbyty Llygaid Moorfields hefyd sy’n casglu’r data ac yn eu dadansoddi ar gyfer cofrestriadau newydd bob blwyddyn.

Image
Cafodd 1,618 o Dystysgrifau Nam ar y Golwg eu rhoi yn 2019-20, cynnydd bach o gymharu â 1,603 yn 2018-19.

Nifer y Tystysgrifau Nam ar y Golwg a roddwyd ledled Cymru yn ôl band oedran a blwyddyn ariannol (MS Excel) 

Mae cyfanswm y tystysgrifau nam ar y golwg a roddwyd wedi bod ar gynnydd bach ers 2014-15 ac yn 2019-20, cyhoeddwyd 1,618 o dystysgrifau newydd. O’r rhain, roedd 852 yn ymwneud â chleifion 80 oed a hŷn (53.1% o’r holl dystysgrifau lle cofnodwyd yr oed), 439 ar gyfer cleifion rhwng 60 a 79 oed (27.3%), 236 ar gyfer cleifion rhwng 20 a 59 oed (14.7%) a 79 ar gyfer cleifion 19 oed neu iau (4.9%). 

O gymharu â 2018-19, roedd cyfanswm nifer y tystysgrifau hyn wedi cynyddu 15 (0.9%) yn 2019-20. Roedd cwympiadau mewn cleifion 19 oed neu iau (25.5%) a'r rhai rhwng 60 a 79 oed (4.6%). Fodd bynnag, roedd cynnydd mewn grwpiau oedran eraill, 8.3% ar gyfer y rheini rhwng 20 a 59 oed, a 5.1% ar gyfer y rheini sy’n 80 oed neu’n hŷn.

Mae dadansoddiad pellach o’r data, gan gynnwys achos y nam ar y golwg ac ethnigrwydd eang, ar gael yn y tablau cysylltiedig.

Cofrestrau o bobl â nam difrifol ar eu golwg a phobl â nam ar eu golwg

Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn cael eu cofrestru gan awdurdodau lleol ar ôl i offthalmolegydd ymgynghorol ardystio’r nam ar eu golwg.

Mae’r data’n seiliedig ar y datganiad ystadegol Cofrestrau awdurdodau lleol o bobl anabl.

I gael rhagor o fanylion am y cofrestrau nam ar y golwg cymerwch gip ar yr adroddiad ansawdd.

Image
Ar 31 Mawrth 2019, roedd ychydig dros 13,000 (13,137) o bobl wedi’u cofrestru â nam ar eu golwg; roedd 50.6% wedi’u cofrestru â nam ar eu golwg ac roedd 49.4% wedi’u cofrestru â nam difrifol ar eu golwg.

Cyfanswm y bobl â nam ar eu golwg yng Nghymru ar 31 Mawrth (MS Excel)

Nid oedd Bro Morgannwg yn gallu darparu data ar gyfer 2017-18 a 2018-19, ac nid oedd Caerffili yn gallu darparu data ar gyfer 2018-19; felly nid yw Siart 9 yn cynnwys yr awdurdodau lleol hyn. Ni chasglwyd data yn 2020 oherwydd pandemig COVID-19.

Ar 31 Mawrth 2019, roedd ychydig dros 13,000 (13,137) o bobl wedi’u cofrestru â nam ar eu golwg. O’r rhain, roedd 6,653 (50.6%) ohonynt wedi’u cofrestru â nam ar eu golwg a 6,484 (49.4%) wedi’u cofrestru â nam difrifol ar eu golwg. 

Y gweithlu

Mae’r rhan fwyaf o’r ymarferwyr offthalmig yn gweithio ym maes gofal sylfaenol, mewn practisiau offthalmig ac yn cael eu cyfrif gan ddefnyddio’r rhestr o berfformwyr. Gall y GIG gyflogi ymarferwyr offthalmig  yn uniongyrchol, mewn ysbytai fel arfer a daw’r data hyn o’r Cofnod Staff Electronig (ESR).

Image
Ar 31 Mawrth 2021, roedd 960 o ymarferwyr offthalmig ar y rhestr o berfformwyr, cynnydd o’r 885 o ymarferwyr offthalmig a gofnodwyd ar 31 Mawrth 2020.

Nifer yr ymarferwyr offthalmig (MS Excel)

Mae Siart 11 yn dangos nifer yr ymarferwyr offthalmig (Optometryddion ac Ymarferwyr Meddygol Offthalmig) dros amser. Nid oes modd cymharu’r data ar gyfer 2020 ymlaen â’r blynyddoedd blaenorol oherwydd newid yn y ffynhonnell data. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ar gyfer y cyfnod hyd at 2019, roedd nifer yr ymarferwyr offthalmig wedi codi’n fras ac roeddent yn amrywio o 711 yn 2009 i 875 yn 2018 a 2019.

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 960 o ymarferwyr offthalmig ar y rhestr o berfformwyr, cynnydd o’r 885 o ymarferwyr offthalmig a gofnodwyd ar 31 Mawrth 2020.

Roedd bron bob ymarferydd yn optometrydd (956), gyda 4 ymarferydd meddygol offthalmig wedi’u cofnodi yn 2021.

Image
Ar 31 Mawrth 2021, roedd 143 o feddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser cyflawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG - cynnydd o 138 cyfwerth ag amser cyflawn ar 30 Medi 2020.

Staff offthalmoleg a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG (niferoedd cyfwerth ag amser cyflawn) (StatsCymru)  

Mae Siart 12 yn dangos nifer y meddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser cyflawn a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG dros amser. Mae’r data ar 30 Medi bob blwyddyn, ac eithrio 2021 sydd ar 31 Mawrth. Mae hyn yn seiliedig ar y datganiad ystadegol Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG.

Mae nifer y meddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser cyflawn a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG wedi aros yn weddol gyson ers 2009, sef yn agos at 140 cyfwerth ag amser cyflawn.

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 143 o feddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser cyflawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd bach o 138 ar 30 Medi 2020.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Fel rhan o’r arolwg a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, gofynnwyd dau gwestiwn ar ofal llygaid. Crynhoir y canlyniadau fel a ganlyn: 

  1. Pa mor aml y caiff eich llygaid eu profi?
    Dywedodd 35% o bobl eu bod yn cael prawf llygaid o leiaf unwaith y flwyddyn, 37% bob dwy flynedd, 17% llai na phob dwy flynedd, a dywedodd 8% nad oeddent erioed wedi cael prawf llygaid.
  2. Pwy fyddech chi’n gofyn iddyn nhw am help gyda phoen llygaid / llygaid coch?
    Dywedodd 47% o bobl y byddent yn gofyn i optometrydd/optegydd, 43% y byddent yn gofyn i feddyg teulu, 6% y byddent yn gofyn i fferyllydd, 3% y byddent yn gofyn i ffrindiau/teulu/cydweithwyr, 2% y byddent yn gofyn i ysbyty a dywedodd 1% y byddent yn gofyn i Galw Iechyd Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad Arolwg Cenedlaethol Cymru

Colli clyw

Gwasanaeth clyw yr ysbyty

Amseroedd aros am gymorth clyw (Amseroedd aros diagnostig a therapi (DATS))

Mae’r data hyn yn rhan o set ddata amseroedd aros DATS sy’n rhoi darlun bras o nifer y bobl sy’n aros am wasanaethau ar ddiwedd pob mis.

Image
Roedd cyfanswm o 3,451 o gleifion yn aros am gymorth clyw i oedolion ar 31 Mawrth 2021; gyda 1,391 yn aros mwy na’r amser targed o 14 wythnos, sy’n uwch o lawer o gymharu â chyfnodau blaenorol.

Nifer y cleifion sy’n aros am gymorth clyw i oedolion y GIG, ar 31 Mawrth (StatsCymru)

Mae Siart 13 yn dangos cyfanswm y cleifion sy’n aros am gymorth clyw i oedolion a’r rheini sy’n aros mwy na’r amser targed o 14 wythnos, yn seiliedig ar y sefyllfa ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae’r Siart yn seiliedig ar y data DATS a gyhoeddwyd ar 19 Awst 2021 ar wefan StatsCymru. Mae’n bosibl y bydd y set ddata hon yn cael ei diwygio’n fisol felly efallai na fydd y data yn y datganiad ystadegol hwn yn cyfateb yn union i’r data ar wefan StatsCymru yn y misoedd i ddod.

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros am gymorth clyw i oedolion wedi bod ar gynnydd ers 2010, gan gyrraedd uchafbwynt yn 2017 gydag ychydig llai na 5,000 o gleifion yn aros. Ers hynny, mae’r nifer wedi gostwng, gyda 3,345 yn aros ar 31 Mawrth 2020.

Roedd y mwyafrif helaeth o gleifion wedi aros llai na’r amser targed o 14 wythnos yn ystod y gyfres amser, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i’r pandemig beidio ag effeithio arni’n ormodol (ar 31 Mawrth 2020), roedd 55 o gleifion yn aros yn fwy na’r amser aros targed.

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar y data ar gyfer 2021. Ar 31 Mawrth 2021, roedd 3,451 o gleifion yn aros am gymorth clyw i oedolion, cynnydd bach (3.2%) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd 1,391 o gleifion yn aros dros yr amser targed o 14 wythnos, cynnydd sylweddol o gymharu â’r holl flynyddoedd blaenorol.

Derbyniadau i’r ysbyty

Mae Siart 14a yn dangos derbyniadau ar gyfer diagnosisau sy’n ymwneud â cholli clyw yn ôl unrhyw sôn am ddiagnosis (hy lle cafodd y claf ddiagnosis ychwanegol o broblem clyw), ac mae Siart 14b yn seiliedig ar ddiagnosis sylfaenol.

Mae’r ddau siart gyda’i gilydd yn dangos, ar gyfer y rhan fwyaf o’r derbyniadau hyn, nad oedd y diagnosis sylfaenol yn gysylltiedig â’r clyw ond bod y claf wedi cael diagnosis o broblem ychwanegol gyda’i glyw. Os oedd unrhyw sôn am broblemau clyw, yr achos mwyaf cyffredin oedd colli clyw ototocsig yn ystod y gyfres amser. Lle’r oedd y diagnosis sylfaenol yn gysylltiedig â’r clyw, mae prif achos y derbyniad wedi’i rannu’n gyfartal rhwng colli clyw ototocsig a cholli clyw dargludol.

Image
Yn 2020-21, roedd ychydig o dan 6,000 (5,814) o dderbyniadau ar gyfer cleifion gydag unrhyw sôn am ddiagnosis sy’n gysylltiedig â cholli clyw - gostyngiad o ychydig o dan 7,000 (6,950) yn 2019-20.

Nifer y derbyniadau (cleifion mewnol ac achosion dydd) ar gyfer colli clyw yng Nghymru, yn ôl unrhyw sôn am ddiagnosis sylfaenol a blwyddyn (MS Excel)

Mae nifer y derbyniadau ar gyfer cleifion lle mae unrhyw sôn am ddiagnosis sy’n gysylltiedig â cholli clyw wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn tan 2018-19. Ers hynny mae nifer y derbyniadau wedi gostwng ac yn 2020-21, roedd ychydig o dan 6,000 (5,814) o dderbyniadau. Mae mwyafrif helaeth y derbyniadau wedi bod ar gyfer colli clyw ototocsig drwy gydol y gyfres amser, ac yn 2020-21 roedd ychydig o dan 5,000 (4,980) o dderbyniadau lle cafodd y diagnosis hwn ei grybwyll.

Image
Yn 2020-21, roedd 133 o dderbyniadau ar gyfer cleifion lle’r oedd y diagnosis sylfaenol yn gysylltiedig â’r clyw, gostyngiad o 334 yn 2019-20.

Nifer y derbyniadau (cleifion mewnol ac achosion dydd) ar gyfer colli clyw yng Nghymru, yn ôl diagnosis sylfaenol a blwyddyn (MS Excel)

Mae nifer y cleifion a gafodd eu derbyn i’r ysbyty lle’r oedd y diagnosis sylfaenol yn gysylltiedig â’r clyw wedi amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond mae wedi tueddu i fod rhwng 300 a 400 bob blwyddyn ers 2009-10; fodd bynnag, dim ond 133 o dderbyniadau a gafwyd yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020-21.

Y diagnosis sylfaenol mwyaf cyffredin oedd colli clyw dargludol, dwyochrol; roedd hanner (66) yr holl gleifion wedi cael diagnosis o hyn.

Cofrestrau (nam ar y clyw)

Image
Ar 31 Mawrth 2019, roedd ychydig dros 12,000 (12,286) o bobl wedi’u cofrestru â nam ar eu clyw.

Nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru â nam ar eu clyw, yn ôl ystod oedran (MS Excel)

Nid oedd Bro Morgannwg yn gallu darparu data ar gyfer 2017-18 a 2018-19, ac nid oedd Caerffili yn gallu darparu data ar gyfer 2018-19; felly nid yw Siart 15 yn cynnwys yr awdurdodau lleol hyn. Nid oes data ar gael ar gyfer 2020.

Mae data’r cofrestrau yn seiliedig ar y datganiad ystadegol Cofrestrau awdurdodau lleol o bobl anabl.

Mae nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru â nam ar eu clyw wedi gostwng fymryn ers 2016 ac mae’r data diweddaraf yn dangos bod ychydig dros 12,000 (12,286) o bobl wedi’u cofrestru â nam ar eu clyw, ar 31 Mawrth 2019. O’r rhain, roedd tua thri chwarter (9,545) yn 65 oed neu’n hŷn a chwarter (2,585) yn 18 i 64 oed. 

Gweithlu

Image
Ar 31 Mawrth 2021, roedd 136 o otolaryngolegwyr cyfwerth ag amser cyflawn ac 1.7 o feddygon awdiogynteddol yn y GIG.

Staff Otolaryngoleg ac Awdiogynteddol a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG (niferoedd cyfwerth ag amser cyflawn) (StatsCymru)

Mae Siart 16 yn dangos nifer y meddygon Otolaryngoleg ac Awdiogynteddol cyfwerth ag amser cyflawn a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG dros amser. Mae’r data ar 30 Medi bob blwyddyn, ac eithrio 2021 sydd ar 31 Mawrth. Mae hyn yn seiliedig ar y datganiad ystadegol Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG.

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 136 o otolaryngolegwyr cyfwerth ag amser cyflawn ac 1.7 o feddygon awdiogynteddol yn y GIG.  Ar gyfer meddygon otolaryngoleg, mae hyn yn gynnydd bach o gymharu â 30 Medi 2020 lle’r oedd 133 o feddygon cyfwerth ag amser cyflawn, ond mae nifer y meddygon awdiogynteddol wedi gostwng rhyw fymryn o 1.8.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Fel rhan o’r arolwg a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, gofynnwyd saith cwestiwn am y clyw. Crynhoir y canlyniadau fel a ganlyn.

1. Ydych chi’n cael unrhyw drafferth gyda’ch clyw?                                              

  • Nac ydw: 81%
  • Ydw: 19%

2. Ydych chi fel arfer yn gwisgo cymorth clyw? Gofynnwyd i’r bobl sy’n cael trafferth clywed                                                                           

  • Ydw, y rhan fwyaf o'r amser: 17%
  • Ydw, weithiau: 12%
  • Nac ydw, ond rydw i wedi rhoi cynnig ar un: 7%
  • Nac ydw: 64%

3. Faint o gymhorthion clyw ydych chi’n eu gwisgo fel arfer? Gofynnwyd i’r bobl sydd fel arfer yn gwisgo o leiaf un cymorth clyw.                                                                                    

  • Un: 40%
  • Dau: 60%

4. A gawsoch chi’r [cymorth/cymhorthion] clyw rydych chi’n [ei wisgo/eu gwisgo] am ddim drwy’r GIG neu a daloch chi [amdano/amdanynt] yn breifat? Gofynnwyd i’r bobl sydd fel arfer yn gwisgo o leiaf un cymorth clyw.                                                                                 

  • Am ddim drwy’r GIG: 77%
  • Talwyd yn breifat: 21%
  • Y GIG ac yn breifat: Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar < 30 o bobl, heb eu dangos

5. Ydych chi byth yn clywed sŵn, fel canu neu suo, yn eich pen neu’ch clustiau sy’n para am fwy na phum munud?

  • Ydw: 15%
  • Nac ydw: 85%

6. Ydych chi’n clywed y synau hyn rywfaint o’r amser, y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser? Gofynnwyd i’r bobl sy’n dweud bod ganddyn nhw dinitws.                                      

  • Weithiau: 64%
  • Y rhan fwyaf o’r amser neu bob amser: 36%

7. Faint mae’r synau hyn yn eich poeni, yn eich gwylltio neu’n eich gofidio pan fyddan nhw ar eu gwaethaf? Gofynnwyd i’r bobl sy’n dweud bod ganddyn nhw dinitws.

  • Ddim o gwbl: 29%
  • Tipyn bach: 40%
  • Tipyn go lew: 23%
  • Cryn dipyn: 8%                                                                               

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniad o amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data am yr amser aros a dreulir rhwng derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall a mynd i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG yng Nghymru. Nid yw data am drigolion o Gymru sydd wedi cael eu trin neu sy’n aros am driniaeth y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn.

Yn ôl y diffiniad, bydd claf wedi cael ei drin neu bydd ei lwybr wedi’i gau ar ôl iddo gael ymgynghoriad ag arbenigwr mewn ysbyty a bernir nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty arno neu pan fydd y driniaeth yn dechrau. Gallai hyn gynnwys:

  • cael ei dderbyn i’r ysbyty am lawdriniaeth neu driniaeth
  • dechrau triniaeth ond nad oes angen aros yn yr ysbyty (er enghraifft, meddyginiaeth)
  • dechrau gosod dyfais feddygol
  • dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf i weld a oes angen triniaeth bellach
  • os penderfynir nad oes angen triniaeth ar y claf neu ei fod wedi marw

‘Llwybrau cleifion’ sy’n cael eu cyfrif yn hytrach na chleifion, oherwydd gall yr un claf gael mwy nag un atgyfeiriad am driniaeth.

Gweithlu Optometreg

Mae’r ffigurau ar gyfer y gweithlu optometreg yn cyfeirio at y sefyllfa ar 31 Rhagfyr bob blwyddyn ar gyfer 2019 a phob blwyddyn cyn hynny, ac maent yn cyfeirio at y sefyllfa ar 31 Mawrth 2020 a phob blwyddyn wedi hynny. Y rheswm dros hyn yw am eu bod yn dod o wahanol systemau.

Ar gyfer y cyfnod hyd at 2019, daw ffigurau o gyhoeddiad NHS Digital ac maen nhw’n adlewyrchu’r ymarferwyr sydd wedi’u hawdurdodi gan fyrddau iechyd lleol (BILlau) i gynnal profion llygaid a ariennir gan y GIG, yn seiliedig ar ddata sy’n deillio o’r System Ganolog Taliadau Offthalmig.       

Rhoddwyd y gorau i gasglu data o’r ffynhonnell honno, felly ar gyfer 2020 ymlaen, mae data wedi dod o’r rhestr o berfformwyr (Rhestr Offthalmig a Rhestr Offthalmig Atodol), sy’n gofrestr o’r holl ymarferwyr offthalmig sy’n gallu ymarfer yng Nghymru, a gynhelir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG.

Oherwydd y newid yn y ffynhonnell data a’r cyfnod cyfeirio ar gyfer 2020 ymlaen, nid oes modd cymharu’r data ar gyfer 2020 ymlaen yn uniongyrchol â’r blynyddoedd blaenorol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i  ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sabir Ahmed
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 303/2021