Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwybodaeth faint o arian sydd ar gael gan unigolion yn y sector aelwydydd ar gyfer gwario neu gynilo ar ôl i fesurau dosbarthiad incwm ddod yn weithredol ar gyfer 2019.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2019. Nid yw’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

  • Roedd incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yng Nghymru yn £17,263 y pen yn 2019, 80.5% o ffigur y DU, i lawr 1.2 pwynt canran o'i gymharu â’r DU yn 2018.
  • Roedd GDHI y pen yng Nghymru yn 2019 yr ail isaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Rhwng 2018 a 2019 gwelodd Cymru’r cynnydd canrannol lleiaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, i fyny 1.1%, o'i gymharu â chynnydd o 2.5% ar gyfer y DU. Llundain welodd y cynnydd mwyaf (i fyny 3.4%).
  • Ers 1999, gwelodd Cymru’r trydydd cynnydd canrannol isaf  o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, cynnydd o 74.0%, o'i gymharu â 85.9% ar draws y DU.

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is (gan gynnwys awdurdodau lleol) ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.