Jane Hutt AS Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Cynnwys

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip.
Cynnwys
Bywgraffiad
Treuliodd Jane ran o'i phlentyndod yn Uganda a Kenya, a chafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Bryste. Mae hi wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1972.
Roedd Jane yn aelod etholedig o'r hen Gyngor Sir De Morgannwg am 12 mlynedd, a chafodd ei hethol i'r Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999. Rhwng 1999 a 2005 hi oedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Rhwng 2005 a 2007, hi oedd Gweinidog Busnes y Cynulliad a'r Prif Chwip. Yng Nghabinet cyntaf y Trydydd Cynulliad fe'i penodwyd yn Weinidog y Gyllideb a Busnes y Cynulliad.
Yng Nghabinet y glymblaid, a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2007, hi oedd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ym mis Rhagfyr 2009, fe'i penodwyd yn Weinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, ac yna yn Weinidog Cyllid tan 2016, pan fe'i penodwyd yn Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.
Ar 13 Rhagfyr 2018, cafodd Jane ei phenodi yn Ddirprwy Weinidog ac yn Brif Chwip. Penodwyd Jane yn Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar 13 Mai 2021.
Mae Jane Hutt yn gymrawd anrhydeddus o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro. Mae hi'n dysgu Cymraeg.
Cyfrifoldebau
- Cydlynu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi
- Cydlynu mesurau i liniaru Tlodi Plant
- Cynhwysiant Digidol
- Goruchwylio'r gwaith o ddosbarthu cyllid y Loteri yng Nghymru
- Diwygio Lles
- Tlodi Tanwydd
- Cynhwysiant ariannol, gan gynnwys undebau credyd
- Y Gwasanaethau Tân ac Achub, gan gynnwys gwaith diogelwch rhag tân yn y gymuned
- Arwain ar bolisi mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Chyn-filwyr
- Rhaglen Cymru ac Affrica
- Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
- Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Cydlynu materion yn ymwneud â Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a chydlyniant cymunedol
- Atal caethwasiaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol
- Y sector gwirfoddol a gwirfoddoli
- Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddau Benywaidd
- Cadeirydd Fforwm Cymru Gydnerth
- Diogelwch Cymunedol
- Y berthynas â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu, yr Heddlu ac Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill
- Perthynas â Llywodraeth y DU o ran carchardai a'r Gwasanaeth Prawf
- Gwasanaethau Cynghori ac Eiriolaeth
- Prif gyfrifoldeb am fonitro materion sy'n ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru
- Polisi penodiadau cyhoeddus a gweithredu
- Y berthynas â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
- Gweithredu’r fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn genedlaethol, gan gynnwys Fforymau Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a goruchwylio’r berthynas â Chyrff Cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a Chyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol
- Cyflog Byw
- Gwaith Teg
- Cyswllt o ran y Cytundeb Cydweithio
- Prif Chwip y Llywodraeth