Neidio i'r prif gynnwy
Jayne Bryant MS

Cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Cyfrifoldebau

  • Gweithgareddau Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a fforddiadwy
  • Cyflenwad ac ansawdd tai'r farchnad, tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
  • Ail Gartrefi
  • Digartrefedd a chyngor ar dai
  • Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat a rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Cymhorthion ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a Grantiau Addasu Ffisegol
  • Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu'r Budd-dal Tai)
  • Y Cynllun Cartrefi Cynnes
  • Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol
  • Goruchwylio a gweithredu'r Deddfau Cynllunio a phob agwedd ar bolisi cynllunio a phenderfynu ar geisiadau cynllunio a elwir i mewn ac apeliadau
  • Lles cynllunio – Cytundebau Adran 106 sydd yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol: penderfynu ar geisiadau cynllunio a chydsyniadau cysylltiedig
  • Rheoliadau adeiladu
  • Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn
  • Yr Is-adran Tir
  • Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040
  • Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; Trawsnewid Canol Trefi a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio
  • Diwygio Awdurdodau Lleol yn strwythurol, yn ddemocrataidd, yn ariannol ac yn gyfansoddiadol, gan gynnwys cydlynu modelau cyflawni rhanbarthol
  • Y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
  • Materion yn ymwneud â pherfformiad, llywodraethiant a chyfansoddiad Llywodraeth Leol, trefniadau craffu, cabinetau, meiri etholedig, rôl cynghorwyr, eu hamrywiaeth, eu hymddygiad a'u tâl cydnabyddiaeth
  • Gwasanaethau Tân ac Achub gan gynnwys diogelwch tân cymunedol
  • Trefniadau etholiadol Llywodraeth Leol, noddi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac amseriad etholiadau Awdurdodau Lleol
  • Polisi cyllid Llywodraeth Leol gan gynnwys diwygio ariannol
  • Rhoi cyllid heb ei neilltuo i Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy setliadau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol
  • Llywodraethiant ariannol, ariannu a chyfrifyddu mewn perthynas â Llywodraeth Leol
  • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Llyfrgelloedd cyhoeddus
  • Gwasanaethau archifau lleol
  • Materion yn ymwneud â gweithlu Llywodraeth Leol
  • Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Academi Wales
  • *Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gyfrifol am bolisi, perfformiad, cyllid a llywodraethiant Llywodraeth Leol ond nid yw’n gyfrifol am swyddogaethau pob dydd Llywodraeth Leol a dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch y swyddogaethau hynny at Lywodraeth Leol yn uniongyrchol.

Bywgraffiad

Cafodd Jayne Bryant ei geni a'i magu yng Nghasnewydd, a mentrodd i fyd gwleidyddiaeth yn 17 oed, a’i hethol yn Aelod Cynulliad Gorllewin Casnewydd yn 2016. Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Bumed Senedd, ac roedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Wedi’i hail-ethol yn 2021, enwebwyd Jayne i gadeirio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Chweched Senedd hon, a bu hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Cadeiriodd Jayne Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddiabetes, ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol, ar y Celfyddydau ac ar Iechyd ac Atal Hunanladdiad, a bu’n Is-gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddementia ac Undod Rhwng Cenedlaethau.

Trwy gydol ei bywyd gwaith mae Jayne wedi ceisio helpu i eirioli dros bobl a'u cefnogi ac mae'n arbennig o angerddol am annog pobl ifanc i fod yn weithgar ac ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, gan gredu bod gwleidyddiaeth yn bwysig a bod rhaid i bobl ifanc fod yn ganolog iddi.

Penodwyd Jayne yn Weinidog Iechyd Meddwl a Blynyddoedd Cynnar ar 21 Mawrth 2024.

Ysgrifennu at Jayne Bryant