Neidio i'r prif gynnwy
Jayne Bryant MS

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Cyfrifoldebau

  • Gwasanaethau iechyd meddwl
  • Atal hunanladdiad
  • Dementia
  • Niwroamrywiaeth
  • Gwasanaethau caethiwed
  • Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Hawliau a hawlogaethau plant a phobl ifanc, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
  • Y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gan gynnwys y cynnig Gofal Plant a'r gweithlu
  • Dechrau'n Deg ar gyfer plant 0-3 oed
  • Teuluoedd yn Gyntaf a pholisïau chwarae
  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd

Bywgraffiad

Cafodd Jayne Bryant ei geni a'i magu yng Nghasnewydd, a mentrodd i fyd gwleidyddiaeth yn 17 oed, a’i hethol yn Aelod Cynulliad Gorllewin Casnewydd yn 2016. Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Bumed Senedd, ac roedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Wedi’i hail-ethol yn 2021, enwebwyd Jayne i gadeirio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Chweched Senedd hon, a bu hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Cadeiriodd Jayne Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddiabetes, ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol, ar y Celfyddydau ac ar Iechyd ac Atal Hunanladdiad, a bu’n Is-gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddementia ac Undod Rhwng Cenedlaethau.

Trwy gydol ei bywyd gwaith mae Jayne wedi ceisio helpu i eirioli dros bobl a'u cefnogi ac mae'n arbennig o angerddol am annog pobl ifanc i fod yn weithgar ac ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, gan gredu bod gwleidyddiaeth yn bwysig a bod rhaid i bobl ifanc fod yn ganolog iddi.

Penodwyd Jayne yn Weinidog Iechyd Meddwl a Blynyddoedd Cynnar ar 21 Mawrth 2024.

Ysgrifennu at Jayne Bryant