Neidio i'r prif gynnwy
Julie James AS

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Newid Hinsawdd

Bywgraffiad

Ganed Julie James yn Abertawe ond treuliodd gryn dipyn o’i hieuenctid yn teithio o gwmpas y byd gyda’i theulu. Dechreuodd ar ei gyrfa yn Llundain ond symudodd yn ôl i Abertawe gyda’i gŵr i fagu eu tri phlentyn ac i fod yn nes at ei theulu. Mae Julie yn hollol ymrwymedig i faterion gwyrdd, yn frwd o blaid materion yn ymwneud â’r amgylchedd ac wrth ei bodd hefyd yn nofio ac yn sgïo.

Hyd nes iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Gorllewin Abertawe roedd Julie yn gyfreithwraig amgylcheddol a chyfansoddiadol flaenllaw. Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol Cyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa fel cyfreithwraig ym maes llywodraeth leol gan weithio fel cyfreithwraig bolisi gyda Bwrdeistref Llundain Camden cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna Dinas a Sir Abertawe.

Ers iddi gael ei hethol mae Julie wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Caffael y Pwyllgor Menter a Busnes, cyhoeddodd Julie Adroddiad y Pwyllgor sef ‘Influencing the Modernisation of EU Procurement Policy’. Julie hefyd yw Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Pysgodfeydd Cyffredin Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016, penodwyd Julie yn Weinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth. Penodwyd Julie yn Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Julie yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Penodwyd Julie yn Weinidog Newid Hinsawdd ar 13 Mai 2021

Cyfrifoldebau

  • Gweithgareddau’r Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a fforddiadwy
  • Cyflenwad ac ansawdd y farchnad, tai cymdeithasol a fforddiadwy
  • Ail gartrefi
  • Digartrefedd a chyngor ar dai
  • Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat a rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Cymorth ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a Grantiau Addasiadau Ffisegol
  • Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu Budd-dal Tai)
  • Rheoleiddio tenantiaethau masnachol sy'n cael eu gosod gan Awdurdodau Lleol
  • Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol
  • Goruchwylio a gweithredu'r Deddfau Cynllunio a phob agwedd ar bolisi cynllunio a phenderfynu ar geisiadau cynllunio a elwir i mewn ac apeliadau
  • Lles cynllunio – y Cytundebau Adran 106 sydd yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol: penderfynu ar geisiadau cynllunio ac ar gydsyniadau cysylltiedig
  • Rheoliadau adeiladu
  • Cymru’r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040
  • Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; trawsnewid canol trefi a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a chyflawni gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio 
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Polisi Trafnidiaeth
  • Ffyrdd, gan gynnwys adeiladu, gwella a chynnal y traffyrdd a'r cefnffyrdd
  • Gwasanaethau bws
  • Gwasanaethau rheilffordd drwy gyfrwng masnachfraint Cymru a'r Gororau
  • Goruchwyliaeth hyd braich o Faes Awyr Caerdydd
  • Teithio llesol
  • Diogelwch ar y ffyrdd; llwybrau mwy diogel i'r ysgol; cludiant ar gyfer plant a phobl ifanc; rheoleiddio croesfannau i gerddwyr a pharcio ar y stryd
  • Cynllunio morol a chynllunio dŵr croyw, bioamrywiaeth, cadwraeth a thrwyddedu
  • Polisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas, cyngor ar adfer safleoedd mwynau a Dosbarthiad Tir Amaethyddol a gweithredu Rheoliadau Asesu'r Effaith Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) 
  • Polisi ynni, gan gynnwys cynhyrchu ynni ar raddfa fach a chanolig, ynni domestig, effeithlonrwydd ynni 
  • Ynni adnewyddadwy
  • Y newid yn yr hinsawdd, targedau lleihau allyriadau a chyllidebau carbon
  • Rheoli Adnoddau Naturiol, gan gynnwys goruchwylio a gweithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru), a Chyfoeth Naturiol Cymru
  • Mesurau trawsbynciol ar gyfer lliniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac addasu i'r newidiadau hynny, gan gynnwys dŵr; draenio tir; risg llifogydd ac arfordirol; a llygredd morol ac aer
  • Diogelwch tomenni glo
  • Dŵr
  • Polisi a deddfwriaeth ar goedwigaeth, gan gynnwys ailstocio, iechyd coed a deunydd atgynhyrchu coedwigoedd
  • Coedwig Genedlaethol
  • Polisi ar fioamrywiaeth, gan gynnwys gweithredu'r Cynllun Adfer Natur
  • Rheoli adnoddau a gwastraff yn gynaliadwy 
  • Arwain yn strategol ar randiroedd a seilwaith gwyrdd trefol
  • Ansawdd yr amgylchedd lleol, gan gynnwys sbwriel, tipio anghyfreithlon, a Cynllun Dychwelyd Ernes
  • Parciau Cenedlaethol
  • Ansawdd yr amgylchedd lleol; Polisi sŵn a rheoleiddio sŵn
  • Arwain yn strategol ar randiroedd a seilwaith gwyrdd trefol
  • Mannau Gwyrdd Cymunedol
  • Mynediad i gefn gwlad, yr arfordir a hawliau tramwy a dyfrffyrdd / cyrff dŵr 
  • Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Ysgrifennu at Julie James