Neidio i'r prif gynnwy
Kate Watkins

Mae Kate Watkins yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Symudodd Kate i Gymru yn 1975 pan aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd i astudio’r gwyddorau cymdeithasol.

Penderfynodd ar yrfa ym maes rheoli gwasanaethau iechyd ac ymunodd â Chynllun Hyfforddi Cenedlaethol y GIG ar ôl graddio.

Mae wedi cael llawer o swyddi gwahanol ym maes rheoli gwasanaethau iechyd, yn ne a chanolbarth Cymru, gan gynnwys arwain y swyddogaeth datblygu rheolwyr ar gyfer GIG Cymru. Yn ystod ei gyrfa hir yn y GIG, cafodd Kate bedwar o blant a bu’n gadeirydd corff llywodraethu ysgol gynradd ei phlant am bedair blynedd.

Daeth ei gyrfa yn y GIG i ben fel Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd.

Wedi diflasu braidd ar ei hymddeoliad, dechreuodd Kate swydd fel cynghorydd addasrwydd i ymarfer dros Gymru ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol, gan fwynhau’r rôl am naw mlynedd.

Ar ôl ymddeol am yr eildro, roedd Kate wedi diflasu eto, felly roedd yn falch iawn o gael ei phenodi i wasanaethu ar Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn 2023.

Yn ei hamser hamdden, mae Kate yn arddwr brwd ac yn gasglwr hen bethau. Mae’n byw yn ne Powys.