Neidio i'r prif gynnwy
Kathryn Warren: Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Wedi'i geni a'i magu yng nghymoedd De Cymru, mae gan Kathryn gysylltiad personol cryf â threftadaeth a chymunedau diwydiannol y rhanbarth.

A hithau â chefndir fel peiriannydd, mae Kathryn wedi datblygu gyrfa nodedig dros 20 mlynedd ym maes ymgynghoriaeth amgylcheddol, gan arbenigo mewn ynni adnewyddadwy, rheoli gwastraff ac adnoddau a chynaliadwyedd. Mae Kathryn wedi cynnal rhaglenni cymhleth ac arwain timau amlddisgyblaethol yn llwyddiannus, ac wedi cyfarwyddo rhaglenni archwilio a chydymffurfiaeth rheoleiddiol mawr ar ran llywodraeth y DU. 

Bellach yn canolbwyntio ar lywodraethiant a rolau strategol, mae Kathryn yn cyfuno cefndir technegol a sgiliau dadansoddol cryf gyda gwaith ymgysylltu ac arweinyddiaeth gyda rhanddeiliaid cadarn.  Mae Kathryn yn Gyfarwyddwr Anweithredol CBC Cymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, y gronfa budd cymunedol fferm wynt fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae Kathryn hefyd yn ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac yn Gadeirydd ar Cymru Gynaliadwy.