Neidio i'r prif gynnwy
Ken Skates AS

Cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Cyfrifoldebau

  • Cymorth a chyngor i helpu busnesau i sefydlu, tyfu neu ddatblygu (gan gynnwys cymorth allforio a mewnfuddsoddi)
  • Polisi Masnach Ryngwladol, gan gynnwys cydlynu materion yn ymwneud â’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE
  • Digwyddiadau mawr
  • Entrepreneuriaeth, menter a gwybodaeth fusnes Goruchwyliaeth hyd braich o Faes Awyr Caerdydd
  • Polisi ynni gan gynnwys cynhyrchu ynni ar raddfa fach a chanolig, ynni domestig, effeithlonrwydd ynni
  • Yr economi gylchol Ynni Adnewyddadwy Ynni Niwclear
  • Banc Datblygu Cymru Banc Cymunedol
  • Hyrwyddo Cymru fel lleoliad i wneud Busnes ac i Fuddsoddi ynddo Polisi porthladdoedd, gan gynnwys porthladdoedd rhydd Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf
  • Caffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â datblygu economaidd
  • Busnes Cymru
  • Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer arferion busnes cyfrifol, twf a chystadleurwydd Yr Economi Sylfaenol
  • Menter Gymdeithasol a'r economi gymdeithasol Economi gydweithredol
  • Gwyddoniaeth: datblygu polisi gwyddoniaeth, gan gynnwys cyswllt â Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
  • Gwyddorau Bywyd
  • Ymchwil ac Arloesi, gan gynnwys ymchwil a datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio; manteisio i’r eithaf ar incwm ymchwil ac arloesi, a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil
  • Seilwaith cysylltedd digidol, gan gynnwys Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, band eang cyflym a'r rhwydwaith symudol
  • Polisi a Strategaeth Digidol a Data ar draws y Llywodraeth Cronfeydd Strwythurol yr UE / Buddsoddi Rhanbarthol yn y Dyfodol
  • Gweinidog Gogledd Cymru a Chadeirydd Is-bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru Trafnidiaeth Cymru
  • Polisi trafnidiaeth
  • Ffyrdd, gan gynnwys adeiladu, gwella a chynnal traffyrdd a chefnffyrdd Gwasanaethau bysiau
  • Gwasanaethau rheilffyrdd drwy fasnachfraint Cymru a'r Gororau Teithio llesol
  • Diogelwch ar y ffyrdd; llwybrau mwy diogel i'r ysgol; cludiant ar gyfer plant a phobl ifanc; rheoleiddio croesfannau i gerddwyr a pharcio ar y stryd
  • Arwain ar bolisi mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog

* Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru rôl sy'n cydlynu materion yn ymwneud â'r Gogledd, ond dylid cyfeirio cwestiynau polisi penodol at y Gweinidog sydd â'r portffolio perthnasol.

Bywgraffiad

Yn ei amser rhydd, mae Ken yn mwynhau rhedeg, nofio, heicio a chwrlo ac mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn garddio, celf a dylunio pensaernïol. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyfforddiant sgiliau, twristiaeth, diogelu’r amgylchedd, iechyd meddwl, chwaraeon a ffitrwydd, a chynhwysiant cymdeithasol.

Cafodd Ken Skates ei eni yn Wrecsam ym 1976 a’i addysgu yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug. Aeth ymlaen i astudio Gwyddor Gymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cefndir proffesiynol

Cyn dod yn Aelod o'r Senedd roedd Ken yn newyddiadurwr ym mhapur newydd Wrexham Leader, ac yn Gymhorthydd Personol i Mark Tami AS.

Yn 2008, cafodd ei ethol yn gynghorydd cymuned. Mae diddordebau Ken ym maes polisi yn cynnwys gweithgynhyrchu, iechyd meddwl, chwaraeon a hamdden, dileu tlodi ac economi wleidyddol.

Cafodd Ken ei benodi i Lywodraeth Cymru fel Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn 2011. Yna cafodd ei benodi'n Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn 2014 a'i ddyrchafu'n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ym mis Mai 2016. Penodwyd Ken yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ar 21 Mawrth 2024.

Ysgrifennu at Ken Skates