Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion i:

Ddiwygio'r canllawiau statudol (Dogfen Gymeradwy J) sy'n cefnogi Rhan J o'r Rheoliadau Adeiladu i'w gwneud yn ofynnol bod larymau carbon monocsid yn cael eu ffitio pan osodir offer llosgi sefydlog â ffliw sy’n llosgi unrhyw fath o danwydd.

Sut i ymateb

Gallwch e-bostio eich ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn i'r canlynol: enquiries.brconstruction@llyw.cymru  

Os ydych yn ymateb yn ysgrifenedig, nodwch yn glir i ba ymgynghoriad a chwestiynau rydych yn ymateb:

Dylid anfon ymatebion ysgrifenedig i'r cyfeiriad canlynol:

Carbon Monocsid,
Rheoliadau Adeiladu,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ

Pan fyddwch yn ymateb, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cadarnhau p'un a ydych yn ymateb fel unigolyn neu'n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad, ac yn cynnwys:

  • eich enw,
  • eich swydd (os yw'n berthnasol),
  • enw'r sefydliad (os yw'n berthnasol),
  • cyfeiriad (gan gynnwys cod post),
  • cyfeiriad e-bost 
  • rhif ffôn cyswllt

Rhagor o wybodaeth a dogfennau perthnasol

Mae'r ddogfen hon ar gael mewn fersiynau print bras, Braille ac ieithoedd eraill ar gais.

Manylion cyswllt

Ar gyfer unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â thîm Rheoliadau Adeiladu Llywodraeth Cymru drwy e-bostio: enquiries.brconstruction@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth:

Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays, 
Caerdydd, 
CF10 3NQ
Ffôn: 0300 062 8144

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru am ddadansoddi’r ymatebion ymhellach, efallai y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori).  Dim ond o dan gontract y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a'i chadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn yr ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny’n cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata amdanoch a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch a'u gweld 
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny 
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data 
  • i gael ‘dileu’ eich data (o dan rai amgylchiadau)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data 

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
 
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 
0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod pawb yn cael eu hamddiffyn rhag y risg o gael eu gwenwyno gan garbon monocsid yn eu cartrefi.  

Carbon Monocsid

Mae gwenwyno gan garbon monocsid (CO) yn ffurf ddifrifol ar wenwyno a gellir ei hatal.  Mae CO yn cael ei gynhyrchu wrth losgi tanwyddau carbon megis nwy o’r prif gyflenwad, nwy petroliwm hylif, olew, glo, golosg a phren ac mae amrywiaeth o ddyfeisiau yn y cartref yn llosgi tanwyddau o’r fath.  Gall gwenwyno gan CO ddigwydd pan fydd offer wedi'i gam osod neu’n cael ei gam ddefnyddio neu wedi’i drwsio'n wael neu ei gynnal a'i gadw'n wael. Gall hefyd ddigwydd os bydd rhwystr mewn ffliw, simnai neu fent.  Mae'n ddi-liw, yn ddi-arogl ac yn ddi-flas.  Gall achos ysgafn o wenwyno achosi cur pen a symptomau tebyg i ffliw, ond gall achos mwy difrifol arwain at lewygu, coma neu farwolaeth.

Cefndir

Ystadegau carbon monocsid

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), cafodd tua 20 o bobl eu lladd trwy gael eu gwenwyno ar ddamwain gan CO yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn Hydref – Hydref 2020-21.

Grŵp traws-lywodraethol ar ddiogelwch nwy ac ymwybyddiaeth am garbon monocsid (CO).  Yn ogystal, cafodd tua 200 eu hanafu’n ddifrifol gan orfod cael eu trin mewn ysbyty a thua 4,000 ddioddef mân anafiadau. Mae rhai arbenigwyr meddygol yn credu bod y ffigurau’n uwch gan nad yw achosion o wenwyno gan garbon monocsid bob tro’n cael eu diagnosio’n gywir.

Bydd gosod larymau carbon monocsid yn rhoi rhybudd bod carbon monocsid yn bresennol mewn eiddo, gan amddiffyn trigolion rhag cael eu gwenwyno ar ddamwain gan garbon monocsid a rhwystro’i effaith ddinistriol ar fywydau.  Mae larymau carbon monocsid yn synhwyro lefelau peryglus o'r nwy gan danio’r larwm.  Mae'r HSE yn argymell defnyddio larwm sain CO.  Yn ôl adroddiad Arolwg Cyflwr Tai Cymru Ebrill 2017 - Mawrth 2018, defnyddir nwy i gynhesu’r rhan fwyaf o gartrefi yng Nghymru (82%) a dim ond 46% o'r rheini oedd â synhwyrydd carbon monocsid a oedd yn gweithio.  Arolwg Cyflwr Tai Cymru (effeithlonrwydd ynni anheddau): Ebrill 2017 i Fawrth 2018

Canllawiau’r Rheoliadau Adeiladu Cyfredol

Ar hyn o bryd, rhaid gosod larymau carbon monocsid ym mhob adeilad preswyl pan gaiff offer sefydlog llosgi tanwydd solet, fel stof llosgi coed, ei osod.  Nodir y gofyniad hwn yn Canllawiau ar y rheoliadau adeiladu: rhan J (dyfeisiau sy’n cynhyrchu gwres) a rhaid ei weithredu, waeth beth yw’r ddeiliadaeth, boed gartref rhent preifat neu gyhoeddus neu gartref y mae’r perchennog yn byw ynddo. 

Y cyrff rheoli adeiladau sy’n gyfrifol am ddehongli'r canllawiau a gorfodi gofynion y Rheoliadau Adeiladu, ond yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau llosgi yn cael eu gosod gan beirianwyr sydd wedi'u cofrestru â chynlluniau pobl gymwys gymeradwy sy'n hunan-ardystio bod yr offer yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau adeiladu.

Y Sector Rhentu a Thai Cymdeithasol

Ar ôl i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ddod i rym ym mis Gorffennaf 2022, bydd angen i landlordiaid sicrhau bod pob eiddo rhent mewn cyflwr da ac yn ffit i bobl fyw ynddo. Yn rhan o hynny, rhaid sicrhau bod larwm carbon monocsid sy'n gweithio yn bresennol ym mhob ystafell lle ceir offer llosgi nwy, olew neu danwydd solet.  Mae hyn yn berthnasol i bob eiddo rhent, boed gymdeithasol neu breifat. [1]  

Hefyd, mae Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021: Mannau a Chartrefi Prydferth yn nodi'r safonau ansawdd swyddogaethol gofynnol ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd ac wedi’u hadnewyddu.  Mae'r gofynion yn nodi y dylid gosod synwyryddion carbon monocsid â gwifrau caled o’r prif gyflenwad, gyda batri wrth gefn. Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021.

[1] SL(6)129 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (senedd.cymru)

Cynnig

Carbon Monocsid (CO): CYFFREDINOL

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch gosod larymau Carbon Monocsid ym mhob adeilad preswyl.  

Rydym yn bwriadu diwygio'r canllawiau presennol i gynnwys y gofyn i osod larwm CO pan osodir offer llosgi sefydlog â ffliw sy’n llosgi unrhyw fath o danwydd, ym mhob annedd preswyl, gan gynnwys anheddau preifat. Bydd y polisi'n cynnwys yr holl fathau canlynol o danwydd: olew, nwy (gan gynnwys LPG) a thanwydd solet ym mhob annedd breswyl.

Mae Llywodraeth Cymru'n credu mai hwn yw’r opsiwn mwyaf diogel a’i fod yn cynnig manteision i drigolion fel diogelwch a thawelwch meddwl.

Er bod yr ystadegau'n dangos mai cymharol ychydig sy’n cael eu lladd yn sgil eu gwenwyno gan CO, maen nhw'n farwolaethau y gellir eu hosgoi.  Yn ogystal, mae rhai arbenigwyr meddygol yn credu bod y ffigurau ar gyfer marwolaethau ac anafiadau yn llawer uwch gan nad yw achosion o wenwyno gan garbon monocsid bob tro’n cael eu diagnosio’n gywir.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gweithredu'r newid hwn drwy ddiwygio'r canllawiau statudol cyfredol sydd yn Nogfen Gymeradwy J (Dyfeisiau sy'n cynhyrchu gwres).

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Ydych chi'n cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r canllawiau statudol Canllawiau ar y rheoliadau adeiladu: rhan J (dyfeisiau sy’n cynhyrchu gwres) sy’n cefnogi Rhan J o’r Rheoliadau Adeiladu, i’w gwneud yn ofynnol gosod larymau carbon monocsid wrth osod offer llosgi sefydlog â ffliw sy’n defnyddio unrhyw fath o danwydd? 

Os nad ydych yn cytuno, esboniwch pam a rhowch dystiolaeth.


Mannau Integredig

Yn ogystal, rydym yn gofyn i chi a ddylid gosod larwm CO mewn mannau cysylltiedig megis mannau integredig a/neu sydd ynghlwm, fel garejys a llofftydd, lle cedwir offer â ffliw, er enghraifft mae rhai aelwydydd yn lleoli eu boeleri yn eu garej neu eu llofft. Mae hyn yn arfer cyffredin mewn rhai aelwydydd.

Er efallai nad oes pobl yn byw yn y mannau hynny a’u bod wedi’u hawyru'n dda ac efallai nad oes perygl mawr o wenwyno gan CO, rydym am glywed eich barn amdanynt.  

Cwestiwn 2

Ydych chi'n cytuno y dylid eithrio 'mannau cysylltiedig' fel rhan o'r cynnig uchod?

Os nad ydych yn cytuno, esboniwch pam a rhowch dystiolaeth.


Ystafelloedd gwely

Er y gellid gosod larwm CO wrth yr offer ar aelwyd, gallai’r ffliw estyn drwy un neu fwy o'r ystafelloedd gwely.  

Cwestiwn 3

Ydych chi'n cytuno, os yw’r ffliw yn pasio drwy fannau fel ystafelloedd gwely, y dylid eu heithrio fel rhan o'r cynnig uchod?

Os nad ydych yn cytuno, esboniwch pam a rhowch dystiolaeth.


Cwcers 

Rydym yn cynnig cynnwys dim ond cwcers sydd â ffliw, gan nad yw’r rheoliadau adeiladu yn cynnwys cwcers yn gyffredinol.  Er nad yw cwcers yn peri fawr o risg o wenwyno gan CO, mae'r gost o osod larwm CO yn isel a byddai’n diogelu trigolion.


Cwestiwn 4

Ydych chi'n cytuno y dylid cynnwys cwcers â ffliw fel rhan o'r cynnig uchod?

Os nad ydych yn cytuno, esboniwch pam a rhowch dystiolaeth.


Ystyriaethau eraill

Math o Larwm

Nid yw’r rheoliadau adeiladu’n nodi a oes gofyn i'r larwm weithio ar fatri neu drwy wifrau caled o’r prif gyflenwad trydan. Mae Dogfen Gymeradwy J hefyd yn esbonio sut i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau adeiladu. Dylai larwm carbon monocsid gydymffurfio â safonau’r Sefydliad Safonol Prydeinig (BS EN 50291) a gweithio naill ai ar fatri a gynlluniwyd i weithio am oes gwaith y larwm (dylai fod dyfais arno hefyd i rybuddio’r defnyddiwr bod y larwm yn dod at ddiwedd ei oes gwaith) neu drwy’r prif gyflenwad trydan drwy wifrau sefydlog (nid trwy blwg) gyda dyfais i rybuddio os oes diffyg ar y synhwyrydd. 

Hoffai Llywodraeth Cymru ofyn i chi am eich barn a yw'r wybodaeth ynghylch pa fath o larwm carbon monocsid y dylid ei osod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac a oes angen ei newid neu ei diweddaru wrth estyn y rheoliadau a'r canllawiau

Cwestiwn 5

Ydych chi'n meddwl bod angen diweddaru'r arweiniad yn Nogfen Gymeradwy J (a amlinellir uchod) ar ba fath o larwm carbon monocsid y dylid ei osod?

Os nad ydych yn cytuno, esboniwch pam a rhowch dystiolaeth.


Lleoliad y Larwm

Mae Dogfen Gymeradwy J yn rhoi arweiniad ynghylch ble i osod larymau carbon monocsid. Mae'n dweud y dylid gosod larwm ar y nenfwd o leiaf 300mm o unrhyw wal neu ar wal, cyn uched â phosibl (uwchben unrhyw ddrysau a ffenestri) ond nid o fewn 150mm i'r nenfwd a rhwng 1m a 3m yn llorweddol o'r offer. 

Hoffai Llywodraeth Cymru ofyn i chi am eich barn a yw'r wybodaeth ynghylch ble i osod larwm carbon monocsid yn parhau i fod yn addas i'r diben ac a oes angen ei newid neu ei diweddaru wrth estyn y rheoliadau a'r canllawiau

Cwestiwn 6 

Ydych chi'n meddwl bod angen diweddaru'r arweiniad yn Nogfen Gymeradwy J ar ble i osod larymau carbon monocsid?

Os nad ydych yn cytuno, esboniwch pam a rhowch dystiolaeth.

Amcangyfrif o’r costau

Asesiad o’r Effaith (IA)

Mae'r adroddiad IA hwn yn nodi canlyniadau dadansoddiad o gostau a buddion cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r canllawiau statudol (Dogfen Gymeradwy J) fel bod yn rhaid gosod larymau carbon monocsid ym mhob annedd pan osodir offer llosgi sefydlog â ffliw sy’n defnyddio unrhyw fath o danwydd.

Costau

Gwnaeth ein Hasesiad o Effaith ystyried dau fath o gost: gosod a chyflenwi, gan wedyn ddadansoddi costau a buddion y ddau opsiwn dros gyfnod o 10 mlynedd: 

  1. Synhwyrydd CO gyda boeleri a thân:  Ar hyn o bryd mae’r amcangyfrifon isel ac uchel o’r costau cyfalaf a gosod yn amrywio o £13.64m i £14.60m.
  2. Synhwyrydd CO gyda chost ychwanegol ar gyfer cwcers: Ar hyn o bryd mae’r amcangyfrifon isel ac uchel o’r costau cyfalaf a gosod yn amrywio o £14.14m i £15.28m. 
     
 Tabl 2.1: Cyfanswm Costau Cyfanswm Costau (10 mlynedd) £m
 Senario cost isel Senario cost ganoligSenario cost uchel
Opsiwn 1 (Synhwyrydd CO gyda boeleri, tanau)   £13.64 £14.03£14.60
Opsiwn 2 (Opsiwn 1 + cwcers) £14.14 £14.61 £15.28

Manteision Iechyd

Roedd yr IA hefyd yn amcangyfrif manteision y ddau opsiwn o ran iechyd a chost, gan edrych ar amcangyfrif o’r nifer a leddir ac o nifer yr anafiadau nad ydynt yn angheuol yn sgil gwenwyno gan CO, ac amcangyfrif o effeithiolrwydd y synwyryddion CO o ran lleihau nifer y digwyddiadau.

Ystyriwyd:

  • Gostyngiad yn nifer y marwolaethau/marwolaethau wedi’u hosgoi
  • Gostyngiad yn nifer y rhai a anafwyd/anafiadau wedi'u hosgoi – anafiadau mawr a mân anafiadau

Amcangyfrif o werth ariannol y manteision iechyd, ar sail cyfnod o 20 mlynedd - tua £15.38m i £34.20m ar gyfer opsiwn 1 a £15.79m i £35.12m ar gyfer opsiwn 2.
 

 Senario cost iselSenario cost canoligSenario cost uchel
Opsiwn 1 (Synhwyrydd CO gyda boeleri, tanau)   £15.38£24.22£34.20
 Opsiwn 2 (Opsiwn 1 + cwcers) £15.79 £25.34  £35.12

Bydd y cynnig yn golygu costau i landlordiaid cymdeithasol, landlordiaid preifat, perchen-feddiannwyr ac adeiladwyr tai fel a ddisgrifir uchod yn yr adran gostau.  Fodd bynnag, fel y gwelir o’r manteision iechyd, bydd meddianwyr anheddau o dan bob deiliadaeth, yn elwa yn sgil lleihau’r perygl o wenwyno gan garbon monocsid.

Cwestiwn 7 

Ydych chi'n cytuno gyda'r amcangyfrifon o’r costau a'r Asesiad o’r Effaith gyffredinol? 

Os nad ydych, esboniwch beth fyddai cost briodol yn eich barn chi, a rhowch dystiolaeth i ddangos pam. 

Newidiadau cysylltiedig

Mae’r Dogfennau Cymeradwy yn darparu gwybodaeth am ddeddfwriaeth arall y tu allan i Reoliadau Adeiladu. Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i gynnwys y Dogfennau Cymeradwy, ac mae wedi’i chynllunio i helpu’r defnyddiwr drwy gyfeirio at y rhyngweithio â deddfwriaeth arall. Mae Dogfen Gymeradwy J yn cynnwys yr holl wybodaeth am “Ardaloedd rheoli Mwg”. Cynigir bod yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru. Nid yw hyn yn effeithio ar bolisïau’r Dogfennau Cymeradwy. 

Cwestiwn 8

Defnyddiwch y cwestiwn hwn i roi unrhyw sylwadau sydd gennych am y cynnig.

Cwestiwn 9

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol o ran cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 10

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut, yn eich barn chi, y gellid llunio neu newid y cynigion er mwyn cael effeithiau positif, neu fwy o gyfleoedd positif, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, o ran peidio â chael unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Y Camau Nesaf

  1. Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 28 Ebrill 2023. Caiff yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu dadansoddi a bydd Ymateb Llywodraeth Cymru yn dilyn.
  2. Mae’n debyg y bydd ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Pe byddai’n well gennych i’ch ymateb fod yn ddienw ticiwch yma.