Neidio i'r prif gynnwy

Manylion am y lefelau treth gyngor band D cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Pwyntiau allweddol

Treth cyngor band D i Gymru ar gyfer 2020-21 yw £1,667 ar gyfartaledd.  Mae hyn yn cynnwys £1,354 ar gyfer cynghorau sir, £275 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £38 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae ffigurau Band D ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr heddlu a chynghorau cymunedol, yn amrywio o £1,445 Sir Benfro i £2,009 ym Mlaenau Gwent.

Codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2020-21 yw £62 ar gyfartaledd, neu 4.6% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Codiadau’r heddlu yw £14 ar gyfartaledd, neu 5.5%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £76 ar gyfartaledd, neu 4.8%.

Casnewydd sydd â’r codiad canrannol band D uchaf o 6.9%. Rhondda Cynon Taf sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 3.3%.

Heddlu Gwent sydd â’r cynnydd mwyaf ym mand D o 6.8%. Heddlu Gogledd Cymru sydd â’r  cynnydd lleiaf ym mand D o 4.5%.

Yn Lloegr, amcangyfrifir mai codiad cyfartalog Band D yw 3.7%.

Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 92% o’r ffigur diweddaraf o £1,815 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.

Adroddiadau

Lefelau’r Dreth Gyngor, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 450 KB

PDF
Saesneg yn unig
450 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.