Neidio i'r prif gynnwy

Manylion am y lefelau treth gyngor band D cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Pwyntiau allweddol

  • Treth cyngor band D i Gymru ar gyfer 2022-23 yw £1,777 ar gyfartaledd.  Mae hyn yn cynnwys £1,433 ar gyfer cynghorau sir, £304 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £40 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae ffigurau Band D ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr heddlu a chynghorau cymunedol, yn amrywio o £1,573 yng Nghaerffili i £2,099 ym Mlaenau Gwent.
  • Codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2022-23 yw £32 ar gyfartaledd, neu 2.2% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Codiadau’r heddlu yw £15 ar gyfartaledd, neu 4.8%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £46 ar gyfartaledd, neu 2.7%.
  • Sir Benfro sydd â’r codiad canrannol band D uchaf o 5.0%. Pen-y-bont ar Ogwr sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 0.7%.
  • Heddlu Gwent sydd â’r cynnydd mwyaf ym mand D o 5.5%. Heddlu Gogledd Cymru sydd â’r  cynnydd lleiaf ym mand D o 3.7%.
  • Yn Lloegr, amcangyfrifir mai codiad cyfartalog Band D yw 3.5%.
  • Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 90% o’r ffigur diweddaraf o £1,965 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.

Adroddiadau

Lefelau’r Dreth Gyngor: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 670 KB

PDF
Saesneg yn unig
670 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.