Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyflwyno Marchnadoedd Coch Tafod Glas Cymeradwy yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ffermwyr ac arwerthwyr wrth gynnal rheolaethau clefydau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 8 Gorffennaf, cynhaliodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, gyfarfod bord gron ynghylch y tafod glas a chwrdd â chynrychiolwyr o'r diwydiant da byw i drafod polisi’r tafod glas yn y dyfodol, gyda phwyslais ar weithrediad marchnadoedd.

Yn dilyn y trafodaethau ar y cyd a wnaeth gydbwyso’r manteision i’r diwydiant â’r risgiau posibl, cytunwyd i gyflwyno Marchnadoedd Coch Tafod Glas Cymeradwy.

Mae hyn yn golygu, o 14 Gorffennaf ymlaen, y gellir symud anifeiliaid o'r Parth dan Gyfyngiadau yn Lloegr i farchnad goch yng Nghymru a gymeradwywyd i dderbyn anifeiliaid o barth tafod glas, i'w symud ymlaen yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig yng Nghymru neu ladd-dy yn y parth sydd dan gyfyngiadau.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

Fy mlaenoriaeth yw amddiffyn da byw Cymru a'r ffermwyr a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt drwy gadw'r Tafod Glas allan o Gymru.

"Rwyf wedi bod yn gwrando ac yn monitro'r sefyllfa'n agos. Yn dilyn trafodaethau adeiladol gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant yr wythnos hon, rwy'n falch o gadarnhau bod y dystiolaeth bellach yn cefnogi llacio rhai o'r cyfyngiadau presennol.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: 

Brechlyn yw'r dull gorau o amddiffyn da byw a lleihau effaith y Tafod Glas a all fod yn ddifrifol.

" Nawr yw'r amser i frechu, felly rwy'n annog pob ceidwad da byw i drafod y Tafod Glas gyda'u milfeddyg. Rydym hefyd yn parhau i archwilio effeithiolrwydd brechlynnau, gan gynnwys mewn defaid ac ar gyfer gwerthiannau yn y dyfodol.

Beth sy’n newid?

  • O 14 Gorffennaf ymlaen, bydd marchnadoedd da byw yng Nghymru yn gallu gwneud cais i ddod yn Farchnad Goch Tafod Glas Cymeradwy ar gyfer gwerthu anifeiliaid sy'n tarddu o'r Parth dan Gyfyngiadau yn Lloegr, i'w symud ymlaen yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig yng Nghymru neu ladd-dy yn y parth sydd dan gyfyngiadau.
  • Mae symud anifeiliaid o safle yn y parth sydd dan gyfyngiadau'r tafod glas yn ddarostyngedig i amodau'r drwydded gyffredinol EXD627.
  • Mae symud anifeiliaid o Farchnad Goch Tafod Glas Cymeradwy yng Nghymru i'w symud ymlaen yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig yng Nghymru neu ladd-dy yn y Parth dan Gyfyngiadau yn Lloegr yn ddarostyngedig i amodau'r drwydded gyffredinol EXD628.
  • Ni fyddai angen brechu na phrofion cyn symud ar anifeiliaid a ddygir i'r marchnadoedd hyn cyn belled â'u bod yn cael eu cludo'n uniongyrchol i ladd-dy dynodedig yng Nghymru neu ladd-dy yn y Parth dan Gyfyngiadau yn Lloegr.
  • Ers 20 Mehefin, mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i wartheg sydd wedi'u brechu'n llawn gyda brechlyn Bultavo-3 Boehringer Ingelheim, symud o dan drwydded o Barth dan Gyfyngiadau i Gymru heb brawf cyn symud.

Polisi'r Tafod Glas yng Nghymru

Nid yw'r Tafod Glas yn effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd. Mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo'n bennaf drwy frathiadau gan wybed ac mae'n effeithio ar wartheg, geifr, defaid a chamelidau fel llamas. Mae'r gwybed ar eu mwyaf gweithgar rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd.

Mae'r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddynt unrhyw amheuon.