Llawlyfr y Cabinet - Adran 2: Llywodraeth Cymru
Canllaw sy'n rhoi cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gweinidogion newydd, eu swyddfeydd preifat ac eraill ar draws y llywodraeth yw llawlyfr y Cabinet.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y Gwasanaeth Sifil
2.1 Rôl Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r Gweinidogion a'u cynorthwyo wrth iddynt gyflawni eu rolau a'u hamcanion.
2.2 Mae tua 5500 o weision sifil yn y sefydliad. Mae llawer yn gynghorwyr polisi ac yn weinyddwyr ond ceir hefyd dros 20 o wahanol fathau o raddau arbenigol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfreithwyr, meddygon, nyrsys, fferyllwyr, peirianwyr, gwyddonwyr, milfeddygon, cyfrifwyr, archwilwyr, arbenigwyr TG, swyddogion y wasg, ystadegwyr, swyddogion ymchwil, curaduron a seiri meini.
2.3 Yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chynghori a chefnogi'r Gweinidogion a gweithredu eu penderfyniadau, ceir hefyd staff sy'n ymwneud â chyflawni ystod o'r swyddogaethau sydd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: arfer rolau statudol y sefydliad ar gyfer swyddogaethau arolygu; rheoli cynlluniau grantiau; goruchwylio gwaith cynnal a chadw a datblygu'r rhwydwaith cefnffyrdd; darparu cyngor proffesiynol ac arbenigol; llunio deddfwriaeth a darparu gwasanaethau a chymorth corfforaethol i'r sefydliad.
2.4 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr teg a chynhwysol, gan greu amgylchedd cefnogol i'r holl staff dyfu a pherfformio hyd eithaf eu gallu. Mae'r mwyafrif o'r aelodau o staff wedi'u lleoli yn ein prif swyddfeydd ym Mharc Cathays, Merthyr Tudful, Caerfyrddin, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno, ynghyd â rhwydwaith o swyddfeydd llai ledled Cymru. Fodd bynnag, ers y pandemig mae'r mwyafrif o'r aelodau o staff yn gweithio mewn ffordd hybrid (gartref ac yn ein swyddfeydd) ac mae cyfarfodydd yn aml yn cael eu cynnal ar-lein.
2.5 Y rhan fwyaf o'r amser, dim ond â chyfran gymharol fach o'r Gwasanaeth Sifil y byddech yn dod i gysylltiad ond mae aelodau o staff bob amser yn croesawu ymweliadau gan Weinidogion i gwrdd â nhw, a byddem yn fwy na pharod i drefnu hynny os hoffech.
Cyngor gweinidogol
2.6 Un o gyfrifoldebau pwysicaf y Gwasanaeth Sifil yw rhoi cyngor diduedd, ar sail gwybodaeth, i Weinidogion i'w cynorthwyo i wneud penderfyniadau am bolisïau. Bydd y cyngor hwn fel arfer yn dod atoch ar ffurf safonol sef "Cyngor Gweinidogol" neu MA (“Ministerial Advice”), er y gellid ymdrin â gohebiaeth neu faterion gweinyddol mewn ffordd fwy anffurfiol drwy e-byst. Gallwch ddisgwyl i'r gweision sifil sy'n eich cynghori ddeall eich amcanion polisi cyffredinol a chyd-destun strategol a gwleidyddol y mater dan sylw.
2.7 Dylai Cyngor Gweinidogol gynnwys y cefndir dadansoddol a ffeithiol perthnasol ar gyfer y mater sy'n cael ei ystyried. Bydd fel arfer yn nodi nifer o opsiynau ar gyfer penderfyniad, ynghyd â chyngor, a bydd yn argymell pa opsiwn i'w ddewis. Barn wrthrychol a diduedd y Gwasanaeth Sifil fydd yr argymhelliad, ond, wrth gwrs, nid oes raid i Weinidogion ei ddilyn gan fod ganddynt ystod o ystyriaethau a materion i'w hystyried pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau. Mae pob Cyngor Gweinidogol yn cynnwys adran ar y goblygiadau ariannol: mae hyn yn orfodol. Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adran hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod Gweinidogion yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch a yw'r cynnig sy'n cael ei wneud yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael yn eu portffolio ac yn rhoi'r gwerth gorau posibl am arian. Dylai'r adran hon gynnwys manylion am unrhyw gostau uniongyrchol neu anuniongyrchol sy'n codi a allai effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar Gyllideb Llywodraeth Cymru – naill ai yn y blynyddoedd ariannol presennol neu'r blynyddoedd ariannol i ddod. Ymysg yr elfennau cyllidebol allweddol y dylid eu nodi yn y Cyngor Gweinidogol mae: o ble mae'r cyllid yn dod, dros ba flynyddoedd y bydd yn cael ei wario/dyrannu, ac unrhyw risgiau neu bwysau allweddol o fewn portffolio y Gweinidog. Dylid rhoi manylion ynghylch sut i liniaru'r posibilrwydd hwn, er enghraifft pa weithgareddau neu raglenni y byddai angen eu stopio neu eu gohirio i ariannu'r cynnig. Mae penderfyniad i ddefnyddio adnoddau mewn un maes yn golygu bob amser nad yw'r adnoddau hynny ar gael i'w defnyddio mewn maes arall. Wrth ymateb i Gyngor Gweinidogol, gallwch ofyn cwestiynau i swyddogion neu ofyn am gyfarfod â nhw i drafod y mater yn fanylach. Caiff Gweinidogion hefyd ofyn am eglurhad ar y cyngor neu ofyn am gyngor pellach. Yn y pen draw, efallai y byddwch yn dymuno dewis camau sy'n wahanol i'r argymhelliad, ac, os felly, bydd y Gwasanaeth Sifil yn gweithredu'r camau hynny (ac eithrio'r achlysuron prin pan allai fod gwrthdaro â chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, fel y trafodir yn nes ymlaen yn y nodyn hwn).
2.8 Mae gan weision sifil ddyletswydd i gydymffurfio â gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a bydd swyddogion yn ystyried pob cais a ddaw i law am wybodaeth yn ôl ei rinweddau ei hun ac yn unol â'r broses ofynnol. Bydd hyn yn golygu ystyried a ddylid cymhwyso unrhyw eithriadau, gan gynnwys a fyddai datgelu gwybodaeth yn debygol o lesteirio’r gallu i ddarparu cyngor yn rhydd ac yn onest ac yn debygol o amharu ar gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mae hyn yn adlewyrchu confensiwn hirsefydlog bod cyngor gan y Gwasanaeth Sifil i'r Gweinidogion, ynghyd â thrafodaethau am faterion polisi rhwng y Gweinidogion a'r Gwasanaeth Sifil a rhwng y Gweinidogion eu hunain, yn breifat ac nad ydynt yn cael eu datgelu y tu allan i Lywodraeth Cymru. Ar y sail hon, byddai gwrthwynebiad hefyd i unrhyw alwadau gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu un o Bwyllgorau eraill y Senedd i ryddhau manylion unrhyw gyngor a roddwyd i'r Gweinidogion, a gwybodaeth o ran a ddilynwyd y cyngor hwnnw ai peidio. Er bod gan ein harchwilwyr allanol "Archwilio Cymru" hawl statudol i gael mynediad at ein holl ddogfennau, gan gynnwys y rhai sy'n mynd at y Gweinidogion, ni fyddent fel arfer yn cyfeirio at gyngor a roddwyd i'r Gweinidogion yn eu hadroddiadau cyhoeddedig.
2.9 Mae gan weision sifil ddyletswydd statudol i gydymffurfio â darpariaethau Cod y Gwasanaeth Sifil a'i bedair egwyddor:
- hygrededd – rhoi'r gwasanaeth cyhoeddus o flaen eu buddiannau personol eu hunain
- gonestrwydd – bod yn agored a dweud y gwir
- gwrthrychedd – seilio cyngor a phenderfyniadau ar ddadansoddiad trylwyr o'r dystiolaeth
- didueddrwydd – gweithredu yn unol â rhinweddau'r achos yn unig a gwasanaethu Llywodraethau o wahanol dueddiadau gwleidyddol mewn modd sydd yr un mor dda
2.10 Yr Ysgrifennydd Parhaol yw pennaeth y Gwasanaeth Sifil yn Llywodraeth Cymru ac mae'n gyfrifol yn gyffredinol am holl faterion sefydliadol a materion staffio'r sefydliad. Mae'n gweithredu o fewn cyfyngiadau'r gyllideb a ddyrennir at y dibenion hyn gan y Prif Weinidog, rhywbeth y penderfynir arno yn ystod cylch blynyddol y gyllideb.
2.11 Yn ogystal, mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi'i ddynodi, o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn Brif Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu ei fod yn gyfrifol yn bersonol am stiwardiaeth ar holl adnoddau'r sefydliad, ac am y defnydd priodol ohonynt, yn enwedig yr arian. Mae'r Ysgrifennydd Parhaol hefyd wedi dynodi rhai uwch-aelodau o staff yn Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol ar gyfer meysydd penodol o weithgarwch Llywodraeth Cymru.
2.12 Y Prif Swyddog Cyfrifyddu ac unrhyw Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl gyngor sy’n cael ei roi i'r Gweinidogion yn cynnwys cyngor ar y defnydd priodol o arian cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys ystyried:
- Rheoleidd-dra – sicrhau bod gwariant o fewn pwerau cyfreithiol ac yn cyd-fynd ag awdurdod seneddol, gan gynnwys cwmpasau cyllideb
- Priodoldeb – sicrhau bod gwariant yn unol â’r gwerthoedd a’r ymddygiad a ddisgwylir gan y sector cyhoeddus
- Gwerth am arian – sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mewn penderfyniadau ynghylch gwariant cyhoeddus
- Dichonoldeb – sicrhau y gellir gweithredu cynigion gwariant yn fanwl gywir, yn gynaliadwy neu yn unol â’r amserlen fwriedig
2.13 Os bydd Gweinidog yn dymuno bwrw ymlaen â chamau y mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn eu hystyried yn anghydnaws â'i gyfrifoldebau, yna mae dyletswydd arno i roi gwybod i'r Gweinidog am ei bryderon a cheisio datrys y sefyllfa drwy ddeialog. Os na ellir datrys y mater o hyd, byddai angen i'r Ysgrifennydd Parhaol a'r Prif Weinidog drafod y mater ac, yn y pen draw, efallai y bydd angen i'r Ysgrifennydd Parhaol weld Cyfarwyddyd Gweinidogol gan y Prif Weinidog, gan nodi ei resymau dros wneud hynny. Os bydd y Prif Weinidog yn dyroddi Cyfarwyddyd Gweinidogol mewn ymateb, yna byddai'r Gwasanaeth Sifil yn mynd ati i weithredu'r camau y gofynnwyd iddo eu cymryd. Byddai copïau o'r cyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Cyfarwyddyd Gweinidogol mewn ymateb yn cael eu hanfon at Archwilydd Cyffredinol Cymru ac at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (er, i roi hyn yn ei gyd-destun, anaml y mae'r materion hyn yn codi a dim ond un Cyfarwyddyd Gweinidogol sydd wedi'i roi hyd yn hyn ers sefydlu'r Cynulliad).
2.14 Gallwch ddisgwyl i’r gweision sifil sy’n gweithio gyda chi eich trin gyda’r parch a’r cwrteisi sy'n ddyladwy i’ch swydd a cheisio darparu gwasanaeth proffesiynol bob amser. Yn yr un modd, mae Cod y Gweinidogion yn nodi y dylai’r Gweinidogion fod yn broffesiynol yn eu perthynas waith â’r Gwasanaeth Sifil ac y dylent drin pawb y maent yn dod i gysylltiad â nhw yn ystyriol a chyda pharch. Os bydd gennych bryderon ynghylch ymddygiad unrhyw aelod o staff, yna dylech eu codi gyda’r Cyfarwyddwr Cyffredinol perthnasol neu'r Ysgrifennydd Parhaol yn y lle cyntaf.
Cynghorwyr arbennig
2.15 Fel sydd wedi'i nodi yn Neddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethiant 2010 ac yng Nghod y Gweinidogion, y Prif Weinidog sy'n penodi pob Cynghorydd Arbennig yn Llywodraeth Cymru.
2.16 Mae Cynghorwyr Arbennig yn rhan hanfodol o'r tîm sy'n cefnogi'r Gweinidogion. Maent yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael ichi, ac yn atgyfnerthu gallu'r Gwasanaeth Sifil parhaol i fod yn ddiduedd yn wleidyddol drwy fod yn ffynhonnell cyngor a chymorth gwleidyddol ar wahân. Mae Cynghorwyr Arbennig yn mynychu cyfarfodydd y Cabinet.
2.17 Lluniwyd y fersiwn ddiweddaraf o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig ym mis Mai 2016.
2.18 Ni ddylid cymysgu rhwng Cynghorwyr Arbennig a Chynghorwyr Polisi Arbenigol. Mae Cynghorwyr Polisi Arbenigol yn weision sifil a gyflogir i roi cyngor polisi arbenigol yn eu maes arbenigedd ac maent wedi'u lleoli mewn adran bolisi benodol.
Swyddfa breifat gweinidog
2.19 "Swyddfa breifat" yw terminoleg draddodiadol y Gwasanaeth Sifil ar gyfer swyddfa Gweinidog. Dyma'r swyddogion y byddwch yn gweithio fwyaf agos gyda nhw o ddydd i ddydd. Bydd y swyddfa'n eich cefnogi ar gyfer pob agwedd ar eich cyfrifoldebau Gweinidogol. Bydd perthynas agos ac effeithiol yn cael ei seilio ar ymddiriedaeth, cyd-barch a hyder.
2.20 Mae'r canlynol yn fan cychwyn ar gyfer sgwrs â'ch swyddfa am y ffordd o weithio sydd orau gennych.
2.21 Yn gryno, bydd eich swyddfa breifat:
- Yn eich cysylltu â swyddogion yn eich portffolio, Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion eraill, Cynghorwyr Arbennig, a rhanddeiliaid allanol
- Yn cadw mewn cysylltiad â'ch staff cymorth etholaethol/AS
- Yn rheoli'ch dyddiadur yn unol â'ch gofynion, yn comisiynu cyngor, yn gwneud trefniadau teithio, yn mynychu'ch cyfarfodydd ac yn cofnodi camau gweithredu ac yn mynd gyda chi i apwyntiadau a digwyddiadau ac ati, pan fo angen
- Yn sicrhau eich bod yn cael eich briffio'n brydlon i baratoi ar gyfer Busnes y Senedd, gan weithio gyda chydweithwyr i sicrhau ansawdd a chrynoder; bydd eich swyddfa'n sicrhau bod eich gofynion yn cael eu rhannu â chydweithwyr yn eich portffolio ac y darperir y briffio yn y fformat angenrheidiol
- Yn cydlynu'r gwaith o gyflawni'ch holl fusnes Gweinidogol, gan gynnwys y Cabinet, y Cyfarfod Llawn a phapurau craffu, a ffolder busnes dyddiol
- Yn rhoi cyngor, neu'n gofyn am gyngor gan eraill, ar God y Gweinidogion, yn ôl yr angen.
2.22 Mae croeso ichi godi unrhyw faterion gyda'ch swyddfa breifat; gall eich swyddfa fanteisio ar gyngor o bob rhan o Lywodraeth Cymru a bydd bob amser yn ceisio'ch helpu i ddod o hyd i atebion i gwestiynau a phroblemau.
2.23 Bydd eich swyddfa breifat yn gallu rhoi cyngor, neu ofyn am gyngor gan eraill, ar faterion sy'n codi o God y Gweinidogion mewn perthynas â'ch gwaith; gan gynnwys yr angen i gadw'ch rôl Weinidogol a rôl sy'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol ar wahân, a rheoli'ch busnes etholaethol tra byddwch yn gwasanaethu'n Weinidog.
2.24 Mae llwyth gwaith y Gweinidogion yn aml yn fawr ac mae'n anochel y bydd angen blaenoriaethu. Dylech drafod eich blaenoriaethau â'ch Ysgrifennydd Preifat a fydd yn gallu helpu i roi trefn ar eich meddyliau. Gall blaenoriaethau newid dros amser, a byddwch yn adolygu'r materion hyn yn rheolaidd.
Swyddfa breifat a chynghorwyr arbennig
2.25 Caiff Cynghorwyr Arbennig eu penodi gan y Prif Weinidog i helpu'r Gweinidogion i gysoni eu gwaith ag agenda'r llywodraeth sydd wedi'i seilio ar fandad gwleidyddol. Bydd swyddfeydd preifat yn datblygu perthynas waith agos â Chynghorwyr Arbennig ac yn helpu i sicrhau eu bod yn cael gweld dyddiaduron, papurau, cyfarfodydd a deunyddiau a fydd yn eu helpu i gynghori'r Gweinidogion yn effeithiol.
Swyddfa breifat a'ch rôl etholaethol
2.26 Bydd eich swyddfa breifat yn deall pwysigrwydd eich rôl etholaethol. Bydd yn ffurfio perthynas â'ch swyddfa etholaethol/AS ac yn sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo yn eich dyddiadur ichi allu delio â materion etholaethol yn unol â'r hyn sydd orau gennych. Bydd hefyd yn rheoli gohebiaeth a gamgyfeirir, gan sicrhau ei bod yn cael ymateb priodol (mae rhagor o fanylion am hyn yn yr adran ar ohebiaeth Weinidogol).
Busnes gweinidogol
2.27 Mae dyletswyddau'r Gweinidogion yn gymhleth a gallant gynnwys, ar yr un pryd, atebolrwydd i'r Senedd, gohebiaeth, cyfathrebu, ymweliadau swyddogol, cysylltiadau â Whitehall a llywodraethau eraill, yn ogystal â'ch dyletswyddau i'r Prif Weinidog, y Cabinet a chyd-Weinidogion. Mae'r Gweinidogion yn adolygu ac yn datblygu polisi'n barhaus, gan arwain o bryd i'w gilydd at gyhoeddiadau mawr drwy bapurau gwyn, datganiadau neu ddulliau eraill.
2.28 Bydd eich swyddfa breifat yn mynychu pob cyfarfod lle trafodir busnes y llywodraeth. Bydd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y llywodraeth i helpu i sicrhau y cedwir at derfynau amser ac y nodir problemau mewn da bryd.
2.29 Bydd eich swyddfa breifat yn mynychu pob cyfarfod lle trafodir busnes y llywodraeth. Bydd yn sicrhau bod unrhyw gamau y cytunwyd arnynt yn cael eu cofnodi ac y gwneir gwaith dilynol arnynt yn ôl yr angen, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.
Rheoli dyddiadur
2.30 Mae rheoli dyddiadur yn effeithiol yn hanfodol i'r Gweinidogion. Bydd eich swyddfa breifat yn trafod yr hyn sydd orau gennych ac yn argymell ffyrdd o fynd ati i drefnu'ch dyddiadur mewn ffordd sy'n ateb eich anghenion ac yn eich helpu i weithio'n effeithiol. Mae defnyddio technoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd i weithio a chwrdd mewn ffyrdd hyblyg. Gall y Gweinidogion hefyd fynd i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ledled Cymru os yw hynny'n gyfleus ac o gymorth.
2.31 Bydd eich swyddfa'n gwarchod eich amser rhag ymyriadau diangen ond yn tynnu'ch sylw at ddatblygiadau pwysig. Fel Gweinidog byddwch yn gweithio gyda thimau o weision sifil ar draws y llywodraeth. Bydd faint o amser sydd ar gael yn gyfyngedig bob amser, ond bydd eich swyddfa'n eich annog i ddatblygu perthynas uniongyrchol a rheolaidd â'r swyddogion a all eich helpu i wneud eich gwaith.
2.32 Mae canllawiau ar achosion dyddiaduron y Gweinidogion ar gael gan eich swyddfa, gan gynnwys sut i ystyried addasrwydd gwahoddiad, beth i'w gynnwys wrth friffio a sut i ymdrin â materion sy'n croesi portffolios.
Gohebiaeth
2.33 Mae faint o ohebiaeth a anfonir at Weinidog fel arfer yn dibynnu ar y portffolio. Mae rhai'n cael llawer iawn tra gall eraill gael nifer cymharol fach. Mae'r protocol ar gyfer gohebiaeth Weinidogol, yn adran 3 o'r llawlyfr hwn, yn nodi'r sefyllfa ddiofyn ar gyfer trin gohebiaeth. Fodd bynnag, dylech drafod yr hyn sydd orau gennych â'ch swyddfa. Gall eich swyddogion drin rhai mathau o ohebiaeth, tra bydd angen ymateb uniongyrchol gan Weinidog i eraill. Ochr yn ochr â'ch swyddfa breifat, dylai Cynghorwyr Arbennig fod yn rhan o'r drafodaeth hon, gan roi sylw arbennig i sensitifrwydd gwleidyddol
Eich TG
2.34 Mae TG yn hanfodol i weithio'n effeithiol. Bydd eich swyddfa'n cyflenwi cyfarpar angenrheidiol i'w ddefnyddio ar waith y llywodraeth ac yn trafod unrhyw anghenion TG ychwanegol sydd gennych i sicrhau y gallwch weithio'n effeithiol, boed hynny gartref, yn y swyddfa, neu wrth deithio. Mae cymorth TG ar gael yn fewnol, a bydd eich swyddfa'n trefnu hyfforddiant neu gymorth yn ôl yr angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynaliadwyedd amgylcheddol ac ni ddylid defnyddio papur pan fo gweithio'n ddigidol ar gael ac yn ddigonol.
Gwasanaeth ceir swyddogol
2.35 Darperir ceir Gweinidogol i helpu'r Gweinidogion i wneud eu gwaith yn effeithlon. Mae Cod y Gweinidogion yn nodi amgylchiadau clir pan ganiateir a phan na chaniateir defnyddio ceir swyddogol, ac mae'n bwysig parchu'r rheolau hyn. Bydd eich swyddfa'n gwneud trefniadau teithio angenrheidiol ar gyfer eich holl fusnes Gweinidogol ac yn rhoi cyngor ar y defnydd priodol o drafnidiaeth swyddogol.
Gweinidogion a llesiant
2.36 Anogir y Gweinidogion i gymryd amser i ffwrdd, a'i ddiogelu, pan fo'n bosibl. Bydd eich bywyd gwaith, a bywyd gwaith eich swyddfa breifat, yn brysur ac yn flinedig iawn; mae amser i ffwrdd o'r gwaith yn hanfodol ar gyfer llesiant ar y ddwy ochr.
2.37 Fodd bynnag, mae'n bwysig y gall eich swyddfa bob amser gysylltu â chi; hyd yn oed pan fyddwch ar wyliau ac nad ydych yn gweithio dylai'ch swyddfa allu cysylltu â chi'n gyflym mewn argyfwng. Yn yr un modd, gallwch chi gysylltu â'ch swyddfa breifat y tu allan i oriau os bydd sefyllfa frys.
2.38 Yn anad dim, mae'ch swyddfa yno i'ch helpu.
Cyfathrebu
2.39 Mae Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn cefnogi pob Gweinidog mewn perthynas â'r wasg a'r cyfryngau, cyfathrebu digidol, ymgyrchoedd a gweithgareddau cyfathrebu eraill. Bydd Penaethiaid Cyfathrebu Portffolios yn gweithio gyda phob Gweinidog i sefydlu blaenoriaethau cyfathrebu, cynlluniau, a negeseuon allweddol cyn gynted â phosibl.
2.40 Mae gan bob Gweinidog dîm y wasg a'r cyfryngau ar gyfer gwaith rhagweithiol ac ymatebol. Bydd y tîm hefyd yn rhoi cyngor ar gyfweliadau gyda'r cyfryngau, ac yn briffio'r Gweinidogion ar eu cyfer.
2.41 Ceir rota dyletswydd sydd ar waith 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn, ar gyfer ymatebion a chymorth i'r Gweinidogion y tu allan i oriau. Yn ogystal, mae modd darparu hyfforddiant ar y cyfryngau yn ôl yr angen.
2.42 Caiff y Gweinidogion barhau i ddefnyddio eu sianeli cyfryngau cymdeithasol personol ac AS, ond mae'r cyfryngau'n aml yn sylwi ar y rhain, felly mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r rhwymedigaeth i gynnal gydgyfrifoldeb y Cabinet a sicrhau nad oes unrhyw beth yn cael ei bostio sy'n gwrthdaro â pholisi'r Llywodraeth. Mae darpariaethau Cod y Gweinidogion yn berthnasol i bopeth a roddir ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys pethau a gyhoeddir arnynt yn bersonol, a rhaid i bob gweinidog fynegi barn ac ymateb i ddefnyddwyr eraill gyda chymedroldeb a chan ystyried statws ac enw da Llywodraeth Cymru.
Swyddfa’r Cabinet
2.43 Mae Swyddfa'r Cabinet yn dîm bach a'i rôl yw cefnogi'r Prif Weinidog a'r Cabinet i gyflawni eu Rhaglen Lywodraethu. Mae Swyddfa'r Cabinet yn gweithio'n agos gyda Chynghorwyr Arbennig ac uwch-swyddogion i sicrhau bod gwaith datblygu a chyflawni polisïau yn cyd-fynd â disgwyliadau gwleidyddol. Y Prif Weinidog sy'n pennu gwaith Swyddfa'r Cabinet ac yn cael ei oruchwylio gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni.
2.44 Yn unol â'r amcan craidd hwn, mae gan Swyddfa'r Cabinet gyfrifoldebau mewn tri maes eang ar hyn o bryd.
Y Rhaglen Lywodraethu
2.45 Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys yr ymrwymiadau a wnaed gan Lafur Cymru yn eu maniffesto ar gyfer etholiad 2021 ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021. Cafodd ei diweddaru ym mis Rhagfyr 2021 i ymgorffori'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, a ddaeth i ben ar 17 Mai 2024.
2.46 Mae'r Rhaglen Lywodraethu bresennol yn cynnwys 115 o ymrwymiadau sy'n croesi pob portffolio ac y mae'r Cabinet yn gyfrifol amdanynt ar y cyd. Ceir 169 o ymrwymiadau eraill yn y ddogfen y mae'r Gweinidogion yn gyfrifol amdanynt yn unigol.
2.47 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi amcanion llesiant sy'n nodi ble y gall y llywodraeth wneud y cyfraniad mwyaf tuag at y nodau llesiant. Yn ogystal, mae'n ofyniad i adolygu'r amcanion llesiant yn flynyddol a chyhoeddi adroddiad ar gynnydd.
2.48 Ers i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, mae'r Rhaglen Lywodraethu wedi'i strwythuro o amgylch yr amcanion llesiant, gan eu rhoi wrth wraidd y llywodraeth yn unol â chanllawiau statudol.
2.49 Mae Swyddfa'r Cabinet yn gyfrifol am y canlynol:
- helpu i ddatblygu a chyhoeddi'r Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys cyngor ar osod amcanion llesiant sy'n cyflawni'r dyletswyddau a osodwyd ar Weinidogion Cymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
- datblygu a chyhoeddi datganiad llesiant i gyd-fynd â'r amcanion llesiant yn unol â'r ddeddfwriaeth uchod
- llunio a chyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol y llywodraeth gan gynnwys yr adolygiad blynyddol o'r amcanion llesiant. Mae'r adroddiad yn sail i'r ddadl flynyddol ar flaenoriaethau'r llywodraeth (a'r rhaglen ddeddfwriaethol) sy'n ofyniad o dan Reol Sefydlog 11.21(ii) y Senedd
- monitro cynnydd yn rheolaidd mewn meysydd allweddol o'r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y Prif Weinidog a'r Cabinet.
Datblygu blaenraglenni gwaith ar gyfer y Cyfarfod Llawn a'r Cabinet
2.50 Mae tua dau draean o amser y Cyfarfod Llawn yn cael ei neilltuo i'r Llywodraeth, a'r Llywodraeth yn unig sy'n pennu'r rhaglen fusnes. Mae'r rhaglen yn cynnwys Cwestiynau, deddfwriaeth, Datganiadau Llafar ar gyhoeddiadau pwysig, proffil uchel, dadleuol neu amserol, a dadleuon sy'n rhoi cyfle i ystyried materion yn fanylach a chynnal pleidleisiau ar faterion i basio (neu beidio â phasio) cynigion y Senedd.
2.51 Ar hyn o bryd, mae'r Cabinet yn cyfarfod bob wythnos yn ystod y tymor i gysoni cyfrifoldebau unigol y Gweinidogion â'u cyfrifoldeb ar y cyd. Yn bennaf, mae'r busnes y mae'n ymdrin ag ef yn cynnwys materion sy’n ymwneud mewn ffordd arwyddocaol â chydgyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, naill ai am eu bod yn codi cwestiynau pwysig sy’n gysylltiedig â pholisi neu am eu bod o hanfodol bwys i’r cyhoedd. Yn gyffredinol, dylai'r Gweinidogion roi gerbron cydweithwyr y mathau o faterion y byddent am i eraill ymgynghori â nhw yn eu cylch.
2.52 Mae Swyddfa'r Cabinet yn gyfrifol am y canlynol:
- gweithio gydag uwch-swyddogion a chynghorwyr arbennig i nodi eitemau sydd angen sylw'r Cyfarfod Llawn neu'r Cabinet bob tymor i'w hystyried gan y Gweinidogion a'r Prif Weinidog
- datblygu blaenraglen waith gytbwys ac amserol ar gyfer y Cyfarfod Llawn a'r Cabinet
- rheoli blaenraglen waith y Cabinet a chymorth ar gyfer y broses sicrhau ansawdd ar gyfer papurau'r Cabinet.
Cerrig milltir cenedlaethol Cymru
2.53 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod cerrig milltir (targedau) cenedlaethol mewn perthynas â’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol a fyddai, ym marn Gweinidogion Cymru, yn eu helpu i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Datblygwyd 17 o gerrig milltir, cytunodd y Cabinet arnynt ac fe'u gosodwyd gerbron y Senedd rhwng mis Ionawr 2021 a mis Tachwedd 2022. Mae'r cerrig milltir cenedlaethol yn cwmpasu ystod eang o bortffolios a bwriadwyd iddynt gael eu cyflawni ar y cyd ar draws Llywodraeth Cymru a chyda chyrff cyhoeddus Cymru.
2.54 Ni fwriedir i'r cerrig milltir cenedlaethol fod yn dargedau perfformiad ar gyfer sefydliadau unigol, ond yn hytrach yn dargedau cenedlaethol uchelgeisiol yn seiliedig ar gyfraniad cyfunol cydweithio rhwng y llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Cawsant eu datblygu gan arweinwyr polisi a fu'n gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol mewn cyrff cyhoeddus ac roeddent wedi'u seilio ar y data a'r ystadegau mwyaf cadarn a oedd ar gael i'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn ystod y cyfnod datblygu.
2.55 Mae Swyddfa'r Cabinet yn gyfrifol am y canlynol:
- goruchwylio a monitro'n gyffredinol y gwaith o reoli gweithgarwch i gyflawni'r cerrig milltir cenedlaethol erbyn 2050, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Prif Weinidog a'r Cabinet
- cefnogi portffolios mewn perthynas â chyflawni ac integreiddio cerrig milltir unigol yn barhaus
- datblygu naratif cadarn ac argyhoeddedig ynghylch gwerth a diben y cerrig milltir cenedlaethol gan weithio'n agos gyda'r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy a'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
2.56 Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, o fewn Is-adran y Cabinet, yw'r prif bwynt cyswllt ar gyfer yr ymwneud rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd. Mae gan Ysgrifenyddiaeth y Cabinet rôl ehangach mewn perthynas â darparu'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer cyfarfodydd y Cabinet a'i Is-bwyllgorau. Mae hefyd yn goruchwylio busnes corfforaethol yr Is-adran, gan gynnwys ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, y gwasanaeth ceir swyddogol, TG a'r Uned Ohebiaeth ynghyd â'r polisi cysylltiedig.
2.57 Mae cyfrifoldebau Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, i'r graddau y maent yn ymwneud â rhyngweithio â'r Senedd, yn cynnwys:
- Cefnogi'r Gweinidog a enwebwyd i reoli Busnes y Llywodraeth yn y Senedd (gan gynnwys mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes)
- Gweithio gyda Swyddfa'r Cabinet a Chomisiwn y Senedd i reoli blaenraglen waith y Cyfarfod Llawn
- Hwyluso Datganiadau'r Cabinet, Dadleuon (cynigion a gwelliannau) a Chwestiynau
- Gosod dogfennau Llywodraeth Cymru gerbron y Senedd
- Bod yn bwynt cyswllt rhwng staff y Senedd a staff Llywodraeth Cymru mewn perthynas â busnes Pwyllgorau'r Senedd sy'n craffu ar bolisïau.
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Mae dadansoddi a'r defnydd o dystiolaeth yn llywio pob penderfyniad y mae gweision sifil yn ei wneud a phob cyngor y maent yn ei roi i'r Gweinidogion. Un o bedwar gwerth craidd y Gwasanaeth Sifil yw 'gwrthrychedd', a gaiff ei ddiffinio fel 'seilio'ch cyngor a'ch penderfyniadau ar ddadansoddiad trylwyr o'r dystiolaeth'.
Cod y Gwasanaeth Sifil
2.58 Mae dadansoddi yn sylfaen angenrheidiol i'r llywodraeth wneud penderfyniadau. Mae dealltwriaeth dda o bolisïau, sut maent yn cael eu cyflawni, eu gwerth, risgiau, effeithiolrwydd a gwerth am arian yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar lunwyr polisi a'r rhai ar y rheng flaen i wneud penderfyniadau costeffeithiol sydd wedi'u seilio ar wybodaeth ac wedi'u targedu'n dda. Mae hefyd yn hanfodol ar gyfer llunio polisïau mewn ffordd agored. Gall penderfyniadau a wneir heb dystiolaeth o'r fath arwain at fethiant polisïau, polisïau nad ydynt yn cyflawni'r hyn a ddisgwyliwyd, canlyniadau gwaeth i gymdeithas a dyrannu adnoddau'n aneffeithlon. Mae'n bwysig defnyddio tystiolaeth a dadansoddi yn gymesur ac yn amserol.
2.59 Diben y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yw dod ag arbenigwyr ar wybodaeth a dadansoddi ynghyd, i helpu i wneud y canlynol:
- cynyddu'r defnydd o dystiolaeth a gwella'r broses o wneud penderfyniadau
- datblygu sylfaen dystiolaeth – gan gynnwys nodi tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli ac asesu ei hansawdd a'i pherthnasedd
- comisiynu neu gynnal dadansoddiad i lenwi bylchau neu i ateb anghenion newydd, gan sicrhau bod ymchwil a gomisiynir yn cael ei dylunio a'i chynllunio'n effeithiol
- gweithio ar y cyd â dadansoddwyr eraill o fewn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi
- cefnogi safonau proffesiynol a gwella gallu pawb i ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth
- cyhoeddi ystadegau ac ymchwil gymdeithasol sy'n ateb anghenion cymdeithas ac i gefnogi tryloywder penderfyniadau Llywodraeth Cymru, mewn modd sy'n agored, yn ddibynadwy ac yn hygyrch.
2.60 Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn darparu cymorth mewn perthynas â thystiolaeth drwy gydol oes y cylch polisi gan gynnwys cynllunio; gweithredu neu werthuso prosesau; a monitro neu werthuso effaith.
2.61 Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn cynnwys:
- Ystadegwyr sy'n casglu ac yn dadansoddi data i helpu i ddatblygu polisïau ar sail tystiolaeth; yn monitro gweithrediad polisïau a thargedau; yn darparu cymorth ar gyfer dyrannu adnoddau; yn datblygu modelau dadansoddol ac yn cyfathrebu ystadegau o fewn y llywodraeth a'r tu allan iddi.
- Ymchwilwyr Cymdeithasol sy'n mesur, yn disgrifio, yn esbonio ac yn rhagfynegi newidiadau mewn strwythurau, agweddau, gwerthoedd ac ymddygiadau cymdeithasol ac economaidd a'r ffactorau sy'n ysgogi ac yn cyfyngu unigolion a grwpiau mewn cymdeithas. Ymhlith y meysydd cymorth allweddol y mae gwerthuso polisïau sydd eisoes yn bodoli yn ogystal â choladu a/neu gasglu tystiolaeth newydd i helpu i ddatblygu polisi.
- Gwasanaethau Daearyddol sy'n darparu gwybodaeth a dadansoddi ar fapiau digidol a mapiau papur, apiau sy'n seiliedig ar fapiau, delweddau hanesyddol o'r awyr, safonau data daearyddol a gwaith celf cartograffig parod i'w argraffu o ansawdd uchel.
- Gwyddonwyr Data sy'n dod â mathemateg, ystadegau a chyfrifiadureg ynghyd i wella prosesau data neu ddatgloi'r gwerth mewn data, yn aml gan ddefnyddio data mawr neu anghonfensiynol fel testun neu ddelweddau.
- Gwasanaethau Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau sy'n darparu ystod o adnoddau gwybodaeth ac yn darparu gwasanaeth cynghori ar ffynonellau gwybodaeth. Ymhlith y meysydd cymorth allweddol y mae chwilio drwy ddeunyddiau ysgrifenedig ar gyfer timau polisi i ddod o hyd i wybodaeth sy'n berthnasol i'w maes.
- Economegwyr sy'n darparu cyngor dadansoddol ar bolisi, yn seiliedig ar syntheseiddio a chymhwyso ymchwil berthnasol yn feirniadol a chan ddefnyddio dulliau megis dadansoddi cost a budd ac arfarnu opsiynau yn seiliedig ar y safonau technegol proffesiynol a nodir yn y 'Llyfr Gwyrdd' a chanllawiau eraill.
2.62 Cyhoeddir Ystadegau ac Ymchwil gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn unol ag amserlen a gyhoeddir ymlaen llaw drwy wefan Llywodraeth Cymru. Yn gyffredinol, mae allbynnau ystadegol yn dilyn amserlen reolaidd sefydledig - wythnosol, misol neu flynyddol er enghraifft, tra mae adroddiadau Ymchwil yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd prosiect (er enghraifft, gwerthuso polisi penodol).
2.63 Mae Safonau a Chanllawiau ar gyfer rheoli a chyhoeddi Ystadegau Swyddogol ac Ymchwil Gymdeithasol i'w gweld yn Atodiad B.
Gwydnwch ac argyfyngau
Rôl Llywodraeth Cymru mewn paratoi ar gyfer argyfyngau
2.64 Prif rôl llywodraeth yw diogelu ei dinasyddion. Mae'r Is-adran Gwydnwch a Diogelwch Gwladol yn cefnogi'r Prif Weinidog, Ysgrifenyddion y Cabinet, y Gweinidogion ac adrannau Llywodraeth Cymru yn yr ymdrech honno. Mae'r Is-adran yn gyfrifol am gydgysylltu gwaith Llywodraeth Cymru o ran rheoli risgiau, parodrwydd a rheoli argyfyngau, gan gefnogi Gweinidogion wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau statudol a nodir yn Neddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae'n gyfrifol hefyd am osod safonau cydymffurfio a chefnogi pedwar Fforwm Lleol Gwydnwch Cymru: Dyfed Powys, Gwent, y Gogledd a'r De.
2.65 Er mai Ysgrifenyddion penodol o Gabinet Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli risgiau amddiffyn sifil penodol a pharodrwydd cysylltiedig, fel y rhai sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid, rheoli perygl llifogydd, cadwyni cyflenwi bwyd, halogi amgylcheddol neu'r cyflenwad dŵr, y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am bolisi a materion strategol sy'n ymwneud â gwydnwch, diogelwch gwladol a seiberddiogelwch.
Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004
2.66 Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn nodi'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer parodrwydd ar gyfer argyfyngau yn y DU. Mae'n darparu diffiniad clir o "argyfwng", yn creu'r amodau ar gyfer gwaith amlasiantaeth effeithiol yn lleol, ac yn darparu pwerau brys (Rhan 2 o'r Ddeddf) i Weinidogion y DU i wneud deddfwriaeth arbennig dros dro yn yr argyfyngau mwyaf difrifol (er nad yw'r pwerau argyfwng erioed wedi'u defnyddio). Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn canolbwyntio ar drefniadau amddiffyn sifil lleol yng Nghymru a Lloegr, gan sefydlu fframwaith statudol o rolau a chyfrifoldebau ar gyfer ymatebwyr lleol, gan ddarparu strwythur a chysondeb ar gyfer cyflawni a chydgysylltu gweithgarwch parodrwydd ar gyfer argyfyngau.
2.67 Er nad yw'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn gosod rhwymedigaethau statudol ar Lywodraeth Cymru (na Llywodraeth y DU na'r llywodraethau datganoledig eraill), trosglwyddodd Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 swyddogaethau o dan Ran 1 o'r Ddeddf, gan roi pwerau i Lywodraeth Cymru ddyroddi rheoliadau a chanllawiau i ymatebwyr brys statudol yn y sectorau datganoledig. Nid oes rheoliadau na chanllawiau wedi'u dyroddi ar hyn o bryd, a'r disgwyl yw y dylai ymatebwyr gadw at Reoliadau Argyfyngau Sifil Posibl (Cynllunio) 2005 ar gyfer Cymru a Lloegr.
2.68 Mae'r Ddeddf yn cyd-fynd â darnau penodol eraill o ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag argyfyngau, megis y rhai sy'n ymwneud ag iechyd a chlefydau anifeiliaid, rheoli perygl llifogydd, y diwydiant dŵr ac iechyd y cyhoedd.
2.69 Mae Llywodraeth Cymru yn cadw at egwyddor sybsidiaredd, sy'n egwyddor sefydledig ym maes cynllunio at argyfyngau ac yn cyd-fynd â'r arferion gorau. Mae gweinyddiaethau eraill y DU yn cadw at yr egwyddor hon hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r model adran arweiniol i gwmpasu pob cam o gynllunio at argyfyngau, ymateb, adfer ac asesu risg. Mae Ysgrifenyddion y Cabinet, gan fanteisio ar gymorth a chyngor eu swyddogion, sydd eu hunain yn cael eu cefnogi gan yr Is-adran Gwydnwch a Diogelwch Gwladol a gwasanaethau arbenigol (megis Gwasanaethau Cyfathrebu, Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi) yn gyfrifol am y canlynol ar lefel genedlaethol:
- Rhag-weld risg: Cynnal ymwybyddiaeth o'r set newidiol o risgiau, bygythiadau a gwendidau, gan gynnwys sganio'r gorwel ar gyfer risgiau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg o fewn eu meysydd cyfrifoldeb, nodi risgiau penodol i baratoi ar eu cyfer, a diweddaru eu hasesiad risg yn unol â hynny.
- Asesu risg: Asesu'r senarios posibl ar gyfer eu sectorau a'u swyddogaethau, gan gynnwys y senarios gwaethaf rhesymol, pe bai'r risg yn digwydd, ac asesu effaith a thebygolrwydd y senarios hyn.
- Atal a Lliniaru: Cyflwyno mesurau sy'n meithrin gwydnwch yn eu sectorau, atal risgiau rhag digwydd neu leihau eu difrifoldeb.
- Paratoi: Datblygu cynlluniau ar gyfer ymateb i argyfwng, ac adfer ohono, a phrofi eu heffeithiolrwydd, gan gynnwys ymarferion rheolaidd, gan gynnwys y rheini yn eu sectorau a'u gwasanaethau.
- Ymateb: Arwain yr ymateb strategol i argyfwng. Mae ‘ymateb’ yn cynnwys y penderfyniadau a'r camau a gymerir i ymdrin ag effeithiau uniongyrchol argyfwng.
- Adfer: Arwain proses adfer yn dilyn argyfwng, os oes angen. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau hirdymor fel ailadeiladu seilwaith ffisegol neu adfer llesiant emosiynol, cymdeithasol a chorfforol cymunedau yr effeithir arnynt.
Parodrwydd ar gyfer argyfyngau
2.70 Prif amcanion Llywodraeth Cymru yw darparu arweinyddiaeth a chymorth i ymatebwyr brys, a chydgysylltu gwaith ym maes gwydnwch drwyddo draw, mewn partneriaeth ag ymatebwyr, Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill, i reoli a lliniaru risgiau argyfyngau sifil posibl a hybu gwydnwch Cymru a'n gallu i ymateb i heriau aflonyddgar mawr ac adfer ohonynt.
2.71 Un elfen bwysig o lywodraethiant gwydnwch Cymru yw Fforwm Gwydnwch Cymru, o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, sy'n dwyn ynghyd uwch-arweinwyr a phrif swyddogion o'r gymuned gwydnwch i hyrwyddo cyfathrebu a chydweithio effeithiol er mwyn rheoli risgiau'n well a hybu parodrwydd.
Ymateb i argyfyngau
2.72 Mae'r rhan fwyaf o argyfyngau yng Nghymru yn cael eu rheoli ar lefel leol gan y gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, a sefydliadau ymatebwyr eraill, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, cwmnïau dŵr ac ynni a gweithredwyr trafnidiaeth, gyda chydgysylltu amlasiantaethol a phenderfyniadau'n cael eu gwneud drwy Grwpiau Cydgysylltu Strategol lleol lle bo angen. Er hynny, oherwydd graddfa neu gymhlethdod, efallai y bydd ar rai argyfyngau angen rhywfaint o gydgysylltu neu gymorth, gyda Llywodraeth Cymru yn arwain ar gyfer pob maes datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddigwyddiadau o fewn meysydd a gedwir yn ôl, pan fo'r rhain yn effeithio ar feysydd polisi datganoledig hefyd.
2.73 Mae Cynllun Ymateb Cymru Gyfan yn nodi'r trefniadau ar gyfer rheoli argyfyngau mawr sy'n effeithio ar sawl rhan neu bob rhan o Gymru.
2.74 Mewn achos o argyfwng mawr neu drychinebus, er enghraifft llifogydd eang a sylweddol ledled Cymru, damwain neu aflonyddwch diwydiannol mawr, neu ymosodiad gan derfysgwyr, byddai swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Ysgrifenyddion y Cabinet am y sefyllfa, yn cydgysylltu ymateb Llywodraeth Cymru, yn rhannu gwybodaeth (gan gynnwys â Llywodraeth y DU, drwy Uned COBR), yn cofnodi ac yn lledaenu penderfyniadau, ac yn cynghori'r Prif Weinidog, Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion ar unrhyw benderfyniadau y gallai fod angen iddynt eu gwneud i gefnogi ymdrechion ymateb ac adfer.
Rheoli Argyfyngau / Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru)
2.75 O dan y Cynllun Ymateb Cymru Gyfan fel rhan o'r swyddogaeth Rheoli Argyfyngau, gall Llywodraeth Cymru roi Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) ar waith i helpu i gydgysylltu'r ymateb i unrhyw ddigwyddiad mawr. Rôl bennaf Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) yw helpu i gydgysylltu a chasglu gwybodaeth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Prif Weinidog, Ysgrifenyddion y Cabinet a Llywodraeth y DU am oblygiadau argyfyngau yng Nghymru. Ar yr un pryd, mae’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Grwpiau Cydgysylltu Strategol amlasiantaeth, ac asiantaethau unigol, am ddatblygiadau ar lefel y DU a fydd yn effeithio arnynt. Bydd hefyd yn cynnig cymorth, lle bo’n bosibl, i Grwpiau Cydgysylltu Strategol; yn enwedig mewn perthynas â rheoli canlyniadau ac adfer.
2.76 Mae strwythur Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) yn golygu y gall y Ganolfan, pan fo'n briodol, alluogi cynrychiolwyr o holl adrannau allweddol y llywodraeth i gydleoli a gweithredu mewn amgylchedd a rennir. Gellir sefydlu 'celloedd' ar wahân yn gyflym ar gyfer Iechyd, Trafnidiaeth, Ynni, Iechyd Anifeiliaid ac ati, yn dibynnu ar natur unrhyw argyfwng penodol. Adegau eraill, gall prosesau'r Ganolfan gael eu gweithredu'n rhithiol.
2.77 Rôl Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) yw:
- cydgysylltu’r gwaith o gasglu a dosbarthu gwybodaeth ledled Cymru
- sicrhau trefniadau cyfathrebu effeithiol rhwng y gwahanol lefelau, yn lleol, drwy Gymru gyfan a thrwy’r DU, gan gynnwys cydgysylltu adroddiadau i lefel y DU am yr ymdrech i ymateb ac adfer y sefyllfa;
- briffio’r Swyddog Arweiniol a Phwyllgor Argyfyngau Sifil Posibl Cymru
- sicrhau bod mewnbwn y DU i’r ymateb yn cael ei gydgysylltu â’r ymdrechion lleol a’r ymdrechion Cymru gyfan
- darparu cymorth mewn perthynas â'r cyfryngau a chyfathrebu drwy Is-adran Gyfathrebu Llywodraeth Cymru
- cynorthwyo gyda’r gwaith o reoli canlyniadau’r argyfwng a chynllunio adferiad lle bo’r Grwpiau Cydgysylltu Strategol yn gofyn iddi wneud hynny
- hwyluso trefniadau cyd-gynorthwyo yng Nghymru a, lle bo angen, rhwng Cymru ac ardaloedd yn Lloegr sydd ar y gororau
- codi unrhyw faterion na ellir eu datrys ar lefel leol neu ar lefel Cymru i lefel y DU.
Mae'r Uned Wydnwch, sy'n rhan o'r Is-adran Gwydnwch a Diogelwch Gwladol yn gyfrifol am gefnogi'r broses o roi'r Ganolfan ar waith.
Cyrff Cyhoeddus Datganoledig Cymru
2.78 Mae Llywodraeth Cymru wedi creu nifer o gyrff cyhoeddus, megis Awdurdod Cyllid Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Trafnidiaeth Cymru, i gyflawni swyddogaethau Gweinidogol penodol. Yn ogystal, mae rhai cyrff hirsefydlog wedi cael eu trosglwyddo iddi, megis Prif Arolygydd EF dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ac Amgueddfa Cymru. Ers 2018, mae un ar bymtheg o gyrff newydd wedi'u sefydlu a phump wedi'u disodli neu eu diddymu. Mae disgwyl i ddau arall gael eu sefydlu cyn 2026. Ar hyn o bryd, mae 48 o gyrff datganoledig yng Nghymru (gan gynnwys cyrff Iechyd a Pharciau Cenedlaethol) wedi'u rhestru yn y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sy'n nodi'r cyrff cyhoeddus sy'n cael eu rheoleiddio gan y Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.
2.79 Weithiau, mae'n briodol i Lywodraeth Cymru sefydlu corff newydd i gyflawni swyddogaethau ar ei rhan, pan fo'n gwneud synnwyr i swyddogaethau gael eu cyflawni beth pellter oddi wrth y Gweinidogion a'r Llywodraeth. Gallai hyn fod naill ai fel corff hyd braich statudol, cwmni sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, Adran Anweinidogol, neu ddeiliad swydd statudol (fel Prif Arolygydd EF dros Addysg a Hyfforddiant). Mae cyrff cyhoeddus yn cael eu sefydlu'n bennaf am dri rheswm craidd:
- i gyflawni swyddogaeth dechnegol
- i gynnal gweithgareddau pan fo angen didueddrwydd gwleidyddol
- i weithredu'n annibynnol ar adrannau mewn rhai agweddau, er enghraifft rheoleiddwyr, arolygiaethau, Comisiynwyr a chyrff cynghori.
2.80 Mae cyrff cyhoeddus yn elfen bwysig o sut mae'r Gweinidogion ac adrannau'n cyflawni amcanion ac yn gweithredu polisi, a sut mae'r cyhoedd, a rhannau arbenigol ohono, yn rhyngweithio â'r Llywodraeth.
2.81 Gall cyrff cyhoeddus fod yn gorff gweithredol, yn dribiwnlys neu'n gorff cynghori. Mae gan y mwyafrif o gyrff hyd braich a phob cwmni Fwrdd i lywio gweithgareddau'r corff o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol a'r cylch gwaith a bennwyd gan y Llywodraeth. Mae byrddau'n cynnwys pobl sydd â sgiliau a phrofiad penodol yn swyddogaeth y corff yn ogystal ag aelodau sydd ag arbenigedd ariannol i oruchwylio prosesau archwilio a rheoli risgiau. Disgwylir i bob corff ddilyn y Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, hyd yn oed pan nad yw'n ofyniad cyfreithiol i wneud hynny.
2.82 Mae Prif Weithredwyr cyrff hyd braich a chwmnïau'n cael eu dynodi'n Swyddogion Cyfrifyddu gan un o Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol Llywodraeth Cymru (Cyfarwyddwyr Cyffredinol) neu'r Prif Swyddog Cyfrifyddu (yr Ysgrifennydd Parhaol). Mae hyn yn rhoi cyfrifoldeb personol i'r Swyddog Cyfrifyddu am y defnydd cywir ac effeithiol o arian cyhoeddus ac yn ei wneud yn uniongyrchol atebol i'r Ysgrifennydd Parhaol ac i'r Senedd am reoli adnoddau'r corff yn briodol.
2.83 Mae Llywodraeth Cymru a'i holl gyrff cyhoeddus yn anelu at berthynas sydd wedi'i seilio ar gyd-ymddiriedaeth a pharch, gan roi rhyddid priodol i gyrff wneud penderfyniadau yn gyfnewid am fod yn weledol atebol am y penderfyniadau a wnânt, yn hytrach na microreoli'r cyrff hynny'n fanwl. Mae hyn bob amser yn fater o gydbwysedd a chytunir ar gyfyngiadau ar benderfyniadau a gwariant dirprwyedig ar gyfer pob corff, sy'n golygu y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru gymeradwyo penderfyniadau penodol gan gorff cyhoeddus cyn cael eu gweithredu.
2.84 Yn ogystal â gweithredu a sefydlu cyrff traddodiadol, mae gan y Gweinidogion opsiynau eraill, er enghraifft sefydlu trefniadau gydag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus eraill neu gwmnïau allanol, megis cyd-fentrau a gweithrediadau ar y cyd. Gall trefniadau o'r fath fod yn effeithiol ond maent yn peri risgiau i Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n bwysig sefydlu a rheoli'r trefniadau hyn yn gywir.
2.85 Ceir nifer o ysgogiadau sy'n galluogi'r Gweinidogion, yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol i oruchwylio'r gwaith o gyflawni eu hamcanion drwy gyrff cyhoeddus, ac i ddylanwadu ar y gwaith hwnnw. Caiff Llythyrau Cylch Gwaith eu dyroddi unwaith ym mhob tymor o'r llywodraeth ac maent yn nodi'r cefndir polisi, targedau lefel uchel a disgwyliadau ehangach y Gweinidogion ar gyfer pob corff. Mae Dogfennau Fframwaith yn nodi'r berthynas rhwng cyrff a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau, a'r telerau a'r amodau y maent yn cael arian cyhoeddus oddi tanynt. Mae llythyrau cyllid blynyddol yn nodi'r arian penodol sydd ar gael ar gyfer pob blwyddyn ariannol a'r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn honno. Yn ogystal, mae Gweinidogion yn cyfarfod â Chadeiryddion cyrff hyd braich o leiaf unwaith y flwyddyn ac fe'u gwahoddir yn rheolaidd i siarad yn y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus a gynhelir ddwywaith y flwyddyn ac a fynychir gan gadeiryddion a phrif weithredwyr cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Penodiadau cyhoeddus
2.86 Caiff penodiadau cyhoeddus i bob corff a reoleiddir eu gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus gan y Tîm Penodiadau Cyhoeddus gan weithio ochr yn ochr â Thimau Partneriaeth. Y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yw'r rheoleiddiwr annibynnol, gan sicrhau bod penodiadau'n cydymffurfio â'r cod. Mae'r Gweinidogion yn gyfrifol am Benodiadau Cyhoeddus o fewn eu portffolio ac maent yn atebol i'r Senedd am brosesau a phenodiadau priodol i fyrddau cyrff cyhoeddus. Maent yn rhan o bob cam o'r broses benodi yn unol â'r cod. Felly:
- Rhaid ymgynghori â'r Gweinidogion cyn i gystadleuaeth ddechrau er mwyn cytuno ar y swydd-ddisgrifiad, hyd y penodiad a thâl ar gyfer y rôl. Gallant hefyd gynnig diwygiadau. Dylai unrhyw gyngor a roddir i'r Gweinidogion gynnwys gwybodaeth am gyfansoddiad ac amrywiaeth y bwrdd presennol. Dylai ceisiadau ar gyfer ailbenodiadau hefyd gynnwys yr wybodaeth hon a chael eu cyflwyno'n gynnar yn y prosesau cynllunio. Rhaid seilio ailbenodiadau ar deilyngdod.
- Dylai'r Gweinidogion gymeradwyo sut y bydd y swydd yn cael ei hysbysebu a'r broses ddethol sydd i'w defnyddio. Dylai gweithdrefnau asesu a dethol fod yn gymesur â'r penodiad dan sylw ac efallai y byddant yn amrywio yn dibynnu ar y rôl a'r corff.
- Rhaid i adrannau gael cymeradwyaeth Weinidogol cyn defnyddio ymgynghorwyr recriwtio. Dylai'r achos dros ddefnyddio ymgynghorwyr recriwtio amlinellu'r angen a'r gwerth am arian. Dylai eu defnyddio fod yn eithriad yn hytrach na'r rheol. Dylid ystyried dewisiadau eraill yn lle defnyddio ymgynghorwyr recriwtio wrth nodi a denu darpar ymgeiswyr. Os defnyddir ymgynghorwyr, dylid rhoi cyfle i'r Gweinidogion gwrdd â nhw, a rhaid i swyddogion sicrhau bod yr ymgynghorwyr yn gwbl ymwybodol o farn y Gweinidogion ym mhob cam.
- Rhaid i'r Gweinidogion gymeradwyo cyfansoddiad Paneli Asesu Cynghorol, sy'n gyfrifol am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Gweinidog am hynt y broses ym mhob cam o'r gystadleuaeth.
- Cyn i gystadleuaeth agor, dylid ymgynghori â'r Gweinidogion a rhanddeiliaid perthnasol eraill i roi cyfle iddynt argymell unigolion i gysylltu â nhw. Pan fydd y gystadleuaeth yn cau, dylid ymgynghori â'r Gweinidogion ynghylch ansawdd ac amrywiaeth ymgeiswyr ac a ddylid estyn cystadleuaeth. Dylai'r Gweinidogion hefyd gael y cyfle i roi mewnbwn i'r Panel Asesu Cynghorol ynghylch ymgeiswyr ym mhob cam.
- Dylai adrannau sicrhau bod y Gweinidogion yn cael cyfle digonol i ymwneud â Chadeirydd y bwrdd ar gyfer y rôl dan sylw yn y broses benodi. Mae Cadeiryddion mewn sefyllfa dda i gynghori ar y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i sicrhau bod y bwrdd yn gweithredu'n effeithiol.
- Ar ddiwedd y broses, dylid cyflwyno i'r Gweinidogion ddetholiad o ymgeiswyr sy'n addas i'w penodi. Ni ddylai paneli raddio ymgeiswyr oni bai bod y Gweinidog yn gofyn yn benodol am hynny. Caiff y Gweinidogion benderfynu peidio â phenodi'r un o'r ymgeiswyr ac ailgynnal y gystadleuaeth.
- Rhaid rhoi cyfle i'r Gweinidogion gwrdd ag ymgeiswyr cyn a/neu ar ôl cyfweliadau.
- Caiff y Gweinidogion, pan fo'n briodol, ddirprwyo cyfrifoldeb am benodiadau penodol i'r corff perthnasol i ofalu am y broses a gwneud apwyntiadau. Dylid cytuno ar hyn ar y cyd â'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, gan gynnwys unrhyw eithriadau angenrheidiol o'r Cod.
Diogelwch gwybodaeth
2.87 Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o rwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â'r ffordd y caiff gwybodaeth ei storio a'i rheoli; y Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus a GDPR y DU. Mae ein gwybodaeth yn werthfawr i eraill e.e. cenedl-wladwriaethau, hacwyr ymgyrchu a throseddu trefnedig. Fel y nodir yng Nghod y Gweinidogion, yn achos unrhyw gyfathrebu ynghylch busnes y Llywodraeth mae’r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol, ynghyd â’r rhwymedigaeth i sicrhau y cedwir cofnodion cyhoeddus cywir. Felly, rhaid i fusnes Llywodraeth Cymru gael ei gynnal ar ddyfeisiau sy'n cael eu rhoi ichi gan Lywodraeth Cymru, ac ar y dyfeisiau hynny yn unig. Ni ddylech ddefnyddio unrhyw sianeli answyddogol e.e. WhatsApp i gynnal busnes y Llywodraeth neu gyfathrebu â swyddogion.
2.88 Ceir rhagor o wybodaeth am y defnydd o ddyfeisiau'r Llywodraeth yn Atodiad A.
2.89 Ein sianeli cyfathrebu corfforaethol yw system e-bost Llywodraeth Cymru a Microsoft Teams ar gyfer galwadau fideo a negeseuon sgwrsio. Mae'r holl gopïau o wybodaeth sy'n ymwneud â busnes Llywodraeth Cymru yn rhan o gofnodion swyddogol ni waeth beth fo'u fformat e.e. mae hyn yn cynnwys sylwadau wedi'u nodi â llaw mewn llyfrau nodiadau ar bapur.
