Canllawiau
Llawlyfr y Cabinet - Atodiad B
Canllaw sy'n rhoi cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gweinidogion newydd, eu swyddfeydd preifat ac eraill ar draws y llywodraeth yw llawlyfr y Cabinet.
Tudalen bresennol (10 o 10)
Lawrlwytho'r tudalennau hyn fel PDF , maint ffeil 278 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safonau a Chanllawiau ar gyfer rheoli a chyhoeddi Ystadegau Swyddogol ac Ymchwil Gymdeithasol
Prif bwyntiau
- Mae'r holl ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, neu ar ei rhan, yn dod o dan Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007. Cefnogir y Ddeddf gan God Ymarfer statudol ar gyfer Ystadegau, a oruchwylir gan reoleiddiwr annibynnol, ac a reolir gan y Prif Ystadegydd sydd â chyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ynghylch cynnwys, dulliau ac amseru datganiadau ystadegol.
- Mae'r Cod Ymarfer nid yn unig yn ymwneud â'r cynhyrchion ystadegol rheolaidd a gynhyrchir gan y Llywodraeth, ond hefyd y ffordd rydym yn defnyddio ystadegau mewn mannau eraill megis mewn areithiau a strategaethau, ac yng nghwestiynau'r Senedd.
- Mae ymchwil gymdeithasol ac economaidd y Llywodraeth yn dod o dan God Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth sy'n cynnwys Protocol Cyhoeddi ar gyfer ymchwil. Nid yw'r Cod hwn yn statudol ond mae wedi cael ei ddefnyddio'n flaenorol yn Llywodraeth Cymru fel rhan o bump o Egwyddorion lefel uchel ar gyfer Gwaith Ymchwil a Gwerthuso y cytunwyd arnynt gyda Gweinidogion a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Mae mynediad at ystadegau ac ymchwil cyn iddynt gael eu cyhoeddi wedi'i gyfyngu'n llwyr i nifer bach o swyddogion a Gweinidogion perthnasol ac ni ellir eu dyfynnu cyn eu cyhoeddi. Mae disgwyl i unrhyw ystadegau a ddyfynnir gan Weinidogion gael eu cyhoeddi'n dryloyw a bod ar gael i bawb yn gyfartal.
- Mae'r safonau ystadegau ac ymchwil sydd ar waith yn gyson â gwerthoedd craidd y Gwasanaeth Sifil, sef uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd.
- Mae'r Prif Ystadegydd, Stephanie Howarth, a'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol, Steven Marshall, ar gael i roi cyngor i unrhyw Weinidog ar faterion sy'n ymwneud ag ystadegau neu ymchwil.
Manylion
- Mae cadw at safonau a gweithdrefnau proffesiynol yn gyson yn hanfodol i feithrin a chynnal ymddiriedaeth yn y Llywodraeth. Mae'r rheolau ar gyfer ymdrin â thystiolaeth a dadansoddi yn gymwys i bob gwas sifil, ac nid dim ond i aelodau o'r proffesiynau dadansoddi.
- Mae cadw at y safonau hyn yn lleihau'r camddefnydd gwirioneddol o ystadegau ac ymchwil yn ogystal â'r canfyddiad o gamddefnydd. Mae hyn yn amddiffyn Gweinidogion rhag cael eu hamlygu os bydd data'n anghywir neu'n cael eu defnyddio'n anghywir ac yn amddiffyn Gweinidogion rhag cael eu cyhuddo o gamddefnyddio neu ymyrryd â'r gwaith o gynhyrchu ystadegau ac ymchwil.
- Mae gan ddadansoddwyr Llywodraeth Cymru ddwy rôl allweddol:
- Darparu cymorth i Weinidogion a swyddogion polisi yn ystod busnes arferol. Mae hyn yn cynnwys briffio, cyfrannu at y broses bolisi, monitro targedau a pherfformiad, a chynhyrchu dadansoddiadau ac ymatebion i gwestiynau'r Senedd.
- Cyhoeddi ystadegau ac ymchwil gymdeithasol sy'n ateb anghenion cymdeithas ac yn cefnogi tryloywder penderfyniadau Llywodraeth Cymru, mewn modd sy'n agored a dibynadwy. Defnyddir y data hyn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys ar gyfer cyflawni (er enghraifft, hunanwerthusiad ysgol); a dwyn perfformiad llywodraeth leol, y sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Ystadegau
- Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn God statudol sy'n gymwys i'r holl staff yn Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei asesu'n allanol gan reoleiddiwr annibynnol sy'n rhoi ei sylwadau arno.
- Yn unol â'r Cod, dylid rhoi gwybod ymlaen llaw am bob cyhoeddiad ystadegol swyddogol, gan nodi'n gyhoeddus pryd y bwriedir cyhoeddi allbwn ymhell cyn y dyddiad cyhoeddi hwn. Rhaid i'r Prif Ystadegydd gytuno ar unrhyw newidiadau i'r dyddiad cyhoeddi a dylent fod am resymau ystadegol yn unig.
- Daw allbynnau ystadegol hefyd o dan Orchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn nodi'r rheolau sy'n llywodraethu'r nifer cyfyngedig o unigolion y caniateir mynediad iddynt at ystadegau cyn eu cyhoeddi ac o dan ba amgylchiadau. Ar gyfer yr holl ystadegau nad ydynt yn sensitif i'r farchnad, yr uchafswm cyfnod a ganiateir yw pum diwrnod gwaith cyn cyhoeddi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd Gweinidogion yn cael eu briffio am gyhoeddiadau ystadegol bum diwrnod gwaith cyn eu cyhoeddi. Mae Cod y Gweinidogion yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion fod yn ymwybodol o'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a rhoi sylw dyladwy i'r gofynion o ran mynediad cyn rhyddhau.
- Gall y cyfnod cyn rhyddhau fod yn fyrrach na phum diwrnod. Bydd hyn yn cynnwys allbynnau gyda chyfnod cynhyrchu tynn, y rhai a gynhyrchir yn fisol er enghraifft ac eraill lle rydym yn dibynnu ar ystadegau a ddarperir gan adrannau eraill y llywodraeth i gynhyrchu ein dadansoddiad ein hunain. Mae gan ystadegau a gynhyrchir gan adrannau llywodraeth y DU gyfnod cyn rhyddhau o 24 awr, ac nid yw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ond yn gweithredu cyfnod cyn rhyddhau ar gyfer ei hystadegau o dan amgylchiadau eithriadol iawn.
- Rhaid i Weinidogion beidio â defnyddio, dyfynnu na rhannu ystadegau cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys gwneud unrhyw sylw i eraill ynghylch a yw'r ystadegau yn ffafriol ai peidio.
- Rhaid i unrhyw ystadegau a ddefnyddir gan Weinidogion, er enghraifft mewn areithiau neu ddadleuon Gweinidogol, fod ar gael i'r cyhoedd. Mae hyn yn unol â'r disgwyliadau o ran tryloywder a mynediad cyfartal at ystadegau. Gall y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ymyrryd lle mae'n teimlo nad yw'r egwyddor hon wedi'i bodloni, ac mae'n gwneud hynny.
- Gall Gweinidogion hefyd gael mynediad at ystod o wybodaeth reoli am eu cyfrifoldebau cyflawni, megis data perfformiad y GIG. Pan gyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol, ni ellir eu defnyddio'n gyhoeddus cyn iddynt gael eu rhyddhau. Hyd yn oed pan nad ydynt yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd fel ystadegau swyddogol, mae disgwyl i unrhyw un sy'n defnyddio'r data neu'r ystadegau yn gyhoeddus gynnwys cyfeiriad at y ffynhonnell gyhoeddedig sylfaenol.
- Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn goruchwylio cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau gan adrannau'r llywodraeth. Mae'n asesu cynhyrchwyr ystadegau swyddogol i sefydlu eu cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer. Gall hefyd ymyrryd yn rhagweithiol mewn achosion lle daw i wybod bod ystadegau swyddogol yn cael eu defnyddio'n amhriodol neu fod y Cod wedi'i dorri.
- Cyhoeddir ceisiadau ystadegol ad-hoc bob pythefnos. Mae'r rhain yn ymatebion a ddarperir i geisiadau allanol am ystadegau, lle nad yw'r manylion penodol ar gael drwy ffynonellau cyhoeddedig. Cyhoeddir yr ymatebion i fodloni disgwyliadau o ran rhyddhau ystadegau a data mewn modd tryloyw a hygyrch. Weithiau, defnyddir y broses ad-hoc hefyd i sicrhau bod ystadegau heb eu cyhoeddi ar gael i'r cyhoedd, a hynny er mwyn cefnogi defnydd swyddogion polisi a/neu Weinidogion ohonynt.
- Y Prif Ystadegydd yw Pennaeth Proffesiwn ystadegau Llywodraeth Cymru. Mae'r Cod Ymarfer yn datgan bod gan y Prif Ystadegydd y prif gyfrifoldeb dros benderfynu ar ddulliau ystadegol, safonau a gweithdrefnau, ac ar gynnwys, dulliau ac amseru datganiadau ystadegol.
- Cytunwyd hefyd yn flaenorol y dylid, o bosibl, briodoli sylwadau cyhoeddus ar faterion sy'n ymwneud ag ystadegau swyddogol i'r Prif Ystadegydd er mwyn atgyfnerthu annibyniaeth y rôl. Mae ystadegwyr hefyd wedi cynnal sawl sesiwn friffio i newyddiadurwyr, gyda chytundeb Gweinidogol, er mwyn helpu i ddehongli ystadegau. Mae'r gallu i ystadegwyr wneud sylwadau cyhoeddus ar ystadegau yn un o ofynion y Cod Ymarfer.
Ymchwil
- Mae'r term ymchwil y llywodraeth yn gymwys yn yr un modd i ymchwil economaidd ac ymchwil gymdeithasol.
- Mae Cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn gymwys ar draws pedair gweinyddiaeth y DU fel cod gwirfoddol ac mae'n cael ei fonitro gan yr uned ganolog yn Nhrysorlys EF sy'n ymdrin â'r proffesiwn Ymchwil Gymdeithasol a'r proffesiwn Economegydd. Rhan allweddol o'r Cod yw'r Protocol Cyhoeddi ac mae'r protocol hwn yn manylu ar yr hyn sydd o fewn cwmpas (yn bennaf bod cyngor mewnol y tu allan i'r cwmpas) a mecanwaith sylfaenol y broses gyhoeddi.
- Rhoddodd Gweinidogion mewn gweinyddiaeth flaenorol bump o Egwyddorion lefel uchel ar waith ar gyfer Gwaith Ymchwil a Gwerthuso. Mae'r rhain wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys ymrwymiad i'r Protocol Cyhoeddi Ymchwil:
- Rhoi ystyriaeth gynnar i waith gwerthuso – bydd polisïau a rhaglenni newydd yn ystyried anghenion gwaith gwerthuso o'r cychwyn cyntaf.
- Cynllunio gwaith ymchwil a gwerthuso yn effeithiol – bydd y broses fewnol o gynllunio am dystiolaeth yn canolbwyntio ar gynnig tystiolaeth i gefnogi blaenoriaethau strategol y Llywodraeth. Bydd Cynllun Tystiolaeth blynyddol yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn.
- Cyhoeddi ymchwil – byddwn yn cyhoeddi gwaith ymchwil yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
- Gweithredu ar ymchwil – byddwn yn paratoi ymatebion posibl i argymhellion pob gwerthusiad ar gyfer y Gweinidogion.
- Gwerth am arian – byddwn yn cynnwys dadansoddiad manwl o werth am arian yn y gwerthusiad pan fo hynny'n bosibl.
- Mae'r Protocol Cyhoeddi yn rhagdybio y bydd ymchwil gymdeithasol y llywodraeth yn cael ei chyhoeddi, gan ddilyn safonau penodol megis rhoi gwybod ymlaen llaw. Fodd bynnag, mater i'r gweinyddiaethau a'r adrannau unigol yw penderfynu ar y trefniadau ymarferol. Caiff rhagolwg o'r holl waith ymchwil sydd ar y gweill ei gynnal, sy'n nodi dyddiadau cyhoeddi disgwyliedig ac sy'n cael ei ddosbarthu i Swyddfeydd Gweinidogol a Thimau Cyfathrebu yn wythnosol. Mae'r rhagolwg hwn hefyd yn crynhoi manylion y trefniadau cyhoeddi a roddwyd ar waith yn Llywodraeth Cymru.
- Caiff Gweinidogion eu briffio ar ymchwil dair wythnos cyn y dyddiad cyhoeddi arfaethedig;
- Cyhoeddir y dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru bythefnos cyn y dyddiad cyhoeddi arfaethedig;
- Gall yr amseru newid gyda chytundeb blaenorol y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol.
- Rhaid i Weinidogion beidio â defnyddio na dyfynnu na rhannu canfyddiadau ymchwil cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys gwneud unrhyw sylw i eraill ynghylch a yw'r canfyddiadau'n ffafriol ai peidio neu wneud penderfyniadau cyhoeddus sy'n seiliedig ar ymchwil heb ei chyhoeddi.
- Rhaid i unrhyw ganfyddiadau ymchwil a ddefnyddir gan Weinidogion, er enghraifft mewn areithiau neu ddadleuon Gweinidogol, fod ar gael i'r cyhoedd. Mae hyn yn unol â'r disgwyliadau o ran tryloywder a mynediad cyfartal at ymchwil gymdeithasol ac economaidd.
- Mae ymchwilwyr wedi cynnal sawl sesiwn friffio i newyddiadurwyr, gyda chytundeb Gweinidogol, er mwyn helpu i ddehongli canfyddiadau ymchwil.
- Mae gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol a'r Prif Economegydd gyfrifoldeb cyffredinol am Ymchwil Gymdeithasol ac Ymchwil Economaidd yn y drefn honno.
