Llawlyfr y Cabinet - Rhagair
Canllaw sy'n rhoi cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gweinidogion newydd, eu swyddfeydd preifat ac eraill ar draws y llywodraeth yw llawlyfr y Cabinet.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae'r llywodraeth yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol (weithiau, gelwir Gweinidogion Cymru yn "Ysgrifenyddion y Cabinet" a Dirprwy Weinidogion yn "Weinidogion"). Rôl Senedd Cymru yw enwebu Prif Weinidog, fel arfer arweinydd y blaid wleidyddol fwyaf, i'w benodi gan y Brenin. Mae'r Prif Weinidog yn penodi Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion, gyda chytundeb y Brenin. Penodir y Cwnsler Cyffredinol gan y Brenin, ar argymhelliad y Prif Weinidog, ond rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r argymhelliad ar gyfer y penodiad.
Canllaw sy'n rhoi cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gweinidogion newydd, eu swyddfeydd preifat ac eraill ar draws y llywodraeth yw Llawlyfr y Cabinet. Mae'n rhoi trosolwg rhagarweiniol o'r elfennau allweddol o gymorth sydd ar gael i weinidogion, a'r mecanweithiau gwneud penderfyniadau sy'n weithredol yn y llywodraeth.
Mae'r Llawlyfr yn cyflwyno Cod y Gweinidogion, yr hyn y gall gweinidog ei ddisgwyl gan ei swyddfa breifat a'i adran bolisi. Mae hefyd yn disgrifio'r cyd-destun cyfansoddiadol y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ynddo, gan gynnwys ei pherthynas â'r ddeddfwrfa, yn ogystal â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill.
Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am y prif egwyddorion a gweithdrefnau ar gyfer gwneud penderfyniadau gan weinidogion, gan gynnwys rôl y Cabinet a'r broses gwneud penderfyniadau gan Weinidogion unigol. Mae'r Llawlyfr hwn yn cynnig cymorth i'r cof i Weinidogion, yn ogystal â'u cynghorwyr arbennig, eu swyddfeydd preifat, ac aelodau eraill o staff yn Llywodraeth Cymru. Mae diben y rhifyn cyhoeddedig cyntaf hwn o Lawlyfr y Cabinet yr un fath â'i ddiben gwreiddiol. Canllaw yw ef yn bennaf, a hynny i'r rhai sy'n gweithio yn y llywodraeth, gan gofnodi'r sefyllfa bresennol yn hytrach nag ysgogi newid. Ni fwriedir iddo fod yn gyfreithiol rwymol na phennu materion yn haearnaidd. Mae'r Llawlyfr yn cofnodi rheolau ac arferion ond ni fwriedir iddo fod yn ffynhonnell unrhyw reol.
Bydd y Llawlyfr yn esblygu dros amser wrth i'r llywodraeth addasu i heriau newydd ac wrth i ddeddfwriaeth newydd gael ei phasio. Er mwyn bod yn ganllaw defnyddiol ar weithrediadau a gweithdrefnau'r llywodraeth, bydd angen ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd yn sgil datblygiadau o'r fath.
