Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr unedau tai a oedd yn wag, y nifer a rentwyd i denantiaid a tenantiaid a oedd ar ei hôl hi gyda'u rhent ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Roedd y cyfnod dan sylw yn y datganiad hwn (mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021) yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19). Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyflwynwyd mesurau iechyd y cyhoedd, gan gynnwys rhai cyfnodau o gyfyngiadau symud. Gallai nifer o amgylchiadau fod wedi effeithio ar y ffigurau ar gyfer eiddo gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion rhent ar gyfer 2020-21. Er enghraifft, tarfu ar wasanaethau awdurdodau lleol, tarfu ar gyfleoedd cyflogaeth i denantiaid a newidiadau yn y dull o ailgartrefu pobl ddigartref yn sydyn. Dylid cadw hyn mewn cof, yn enwedig wrth gymharu â data blynyddoedd blaenorol.

Tai gwag

  • Roedd y 5,246 o unedau tai cymdeithasol yn wag ar 31 Mawrth 2021, cynnydd o 21% ar 2018-19. 
  • Roedd 2.2% y cant o’r stoc tai cymdeithasol yn wag. 
  • Mae 33% o’r stoc tai cymdeithasol gwag (1,769 uned) wedi bod yn wag am fwy na 6 mis ar y 31 Mawrth 2021.

Gosodiadau

  • Cafwyd 17,852 o osodiadau newydd o stoc tai cymdeithasol yn ystod 2020-21, gostyngiad o 16% ar 2018-19. Roedd 55% o'r rhain trwy restrau aros am dai, 21% drwy drosglwyddiadau a chyfnewidiadau a 24% drwy osodiadau blaenoriaeth i deuluoedd digartref.

Ôl-ddyled rhent

  • At 31 Mawrth 2021, roedd 90,450 o denantiaethau (39%) mewn ôl-ddyled, cynnydd o 17% ar 2018-19.
  • 3% o’r tenantiaethau wedi bod mewn ôl-ddyled ers 13 wythnos neu ragor.

Adroddiadau

Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.