Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Caiff yr wybodaeth ei defnyddio i asesu i ba raddau y mae landlordiaid cymdeithasol yn rheoli eu stoc yn effeithiol, mesur cyfraddau trosiant ar gyfer tai cymdeithasol; a monitro nifer y tenantiaid tai cymdeithasol sydd mewn dyled ledled Cymru.

Mae'r term tai cymdeithasol yn cyfeirio at unedau tai (gan gynnwys fflatiau un ystafell a lleoedd i welyau) sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ac a gaiff eu gosod ar rent ganddynt. Cafodd y data a ddefnyddir yn y datganiad hwn eu darparu gan y landlordiaid cymdeithasol.

Prif bwyntiau

  • Ar 31 Mawrth 2022, roedd 4,846 o unedau tai cymdeithasol gwag (2% o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol). Roedd hyn 8% yn llai na 2020-21, ond dyma'r cyfanswm uchaf ond un ers 2008-09. 
  • Roedd 1,784 o unedau (37% o'r holl unedau gwag) wedi bod yn wag am fwy na chwe mis. Roedd 327 o'r unedau hyn ar gael i'w gosod.
  • Cafwyd 18,950 o osodiadau newydd yn ystod 2021-22. Mae hyn yn gynnydd o 7% o gymharu â 2020-21. O'r rhain, roedd 51% wedi bod ar restrau aros, cafodd 24% osodiad â blaenoriaeth i bobl ddigartref, a chafodd 25% le i fyw drwy drosglwyddiadau neu gyfnewidiadau.
  • Ar 31 Mawrth 2022, roedd 96,309 (41%) o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent. Roedd hyn yn gynnydd o 6% o gymharu â 2020-21. Roedd tua 3% o'r holl denantiaethau wedi bod mewn ôl-ddyledion rhent ers 13 wythnos neu fwy.

Unedau tai cymdeithasol yng Nghymru

Ar 31 Mawrth 2022, roedd cyfanswm o 237,395 o unedau tai cymdeithasol yng Nghymru. O'r rhain, roedd 95% (225,432) yn unedau angen cyffredinol hunangynhwysol neu'n unedau tai gwarchod a osodwyd gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar renti cymdeithasol (fel y'u rheoleiddir gan Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru). Roedd y 5% (11,963) sy'n weddill yn unedau tai cymdeithasol nas cwmpesir gan Bolisi Rhenti Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ond sy'n dal i gael eu hystyried yn dai cymdeithasol (e.e. unedau ‘gofal ychwanegol’ neu unedau tai â chymorth).

Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd yn berchen ar 63% (149,468 o unedau) o'r holl unedau tai cymdeithasol ar 31 Mawrth 2022 a'r 11 o awdurdodau a oedd yn cadw stoc a oedd yn berchen ar y 37% arall (87,927 o unedau).

Mae setiau data manwl ar gyfer stoc tai cymdeithasol ar gael ar StatsCymru.

Lleoedd gwag tai cymdeithasol ar 31 Mawrth 2022

Gall fod nifer o resymau pam mae'r unedau tai yn wag, a pham nad yw rhai o'r rhain ar gael i'w gosod, megis aros i gael eu gwerthu neu eu dymchwel, neu welliannau ac atgyweiriadau.

Roedd y 4,846 o unedau gwag ar 31 Mawrth 2022 8% yn llai nag ar 31 Mawrth 2021 ac yn cyfrif am 2% o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol (Tabl 1).

Tabl 1: Lleoedd gwag landlordiaid cymdeithasol yn ôl math o landlord cymdeithasol, ar 31 Mawrth [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]
Math o landlord cymdeithasol Cyfanswm y stoc tai cymdeithasol Cyfanswm 
y lleoedd gwag
Y ganran (%) o'r stoc sy'n wag [1]
Awdurdodau lleol  
2017-18 87,374 1,601 1.8
2018-19 87,404 1,876 2.1
2019-20 [3] 87,324 . .
2020-21 [4] 87,559 2,390 2.7
2021-22 87,927 2,183 2.5
Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig  
2017-18 142,643 2,568 1.8
2018-19 [2] 144,004 2,467 1.7
2019-20 [3] . . .
2020-21 [4] 147,840 2,856 1.9
2021-22 149,468 2,663 1.8
Pob landlord cymdeithasol  
2017-18 230,017 4,169 1.8
2018-19 [2] 231,408 4,343 1.9
2019-20 [3] . . .
2020-21 [4] 235,399 5,246 2.2
2021-22 237,395 4,846 2.0

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl sy'n dangos bod nifer lleoedd gwag landlordiaid cymdeithasol wedi cynyddu bob blwyddyn tan 2020-21, ond ei fod wedi lleihau yn 2021-22.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc a lleoedd gwag landlordiaid cymdeithasol, Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS)

[Nodyn 1] Fel canran o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol.

[Nodyn 2] Ar gyfer 2018-19, methodd un landlord cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithas Tai Baneswell) â chyflwyno data ar leoedd gwag. Felly, cafodd gwybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.

Nodyn 3] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig COVID-19.

[Nodyn 4] Ar gyfer 2020-21, methodd un awdurdod lleol (Sir y Fflint) â chyflwyno data ar leoedd gwag. Felly, mae gwybodaeth a gyflwynwyd gan Sir y Fflint ar gyfer 2018-19 wedi cael ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.

. Dim data

Rhwng 31 Mawrth 2021 a 31 Mawrth 2022, cynyddodd nifer yr unedau a oedd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis 1% i 1,784. Roedd yr unedau hyn yn cyfrif am 1% o'r holl stoc tai cymdeithasol ar 31 Mawrth 2022, sef yr un ganran â'r flwyddyn flaenorol (Ffigur 1).

Ar 31 Mawrth 2022, roedd cyfran yr unedau gwag yn uwch ar gyfer awdurdodau lleol (3%) na landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (2%). Roedd tua 1% o stoc awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ill dau yn wag am fwy na chwe mis.

Ffigur 1: Y ganran o'r stoc tai cymdeithasol a oedd yn wag yn ôl hyd y cyfnod yn wag ar 31 Mawrth 2021 a 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Graff bar pentwr yn dangos bod y ganran o stoc eiddo awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru a oedd yn wag wedi gostwng rhwng 2020-21 a 2021-22.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc a lleoedd gwag landlordiaid cymdeithasol, Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS)

[Nodyn 1] Fel canran o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol.                         

[Nodyn 2] Ar gyfer 2020-21, methodd un awdurdod lleol (Sir y Fflint) â chyflwyno data ar leoedd gwag. Felly, mae gwybodaeth a gyflwynwyd gan Sir y Fflint ar gyfer 2018-19 wedi cael ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.

Roedd y ganran o unedau tai cymdeithasol a oedd yn wag ar 31 Mawrth 2022 yn amrywio ledled Cymru, o 4% yn Wrecsam i 1% yn Ynys Môn. Fel y mae Ffigur 2 isod yn ei ddangos, nid oedd patrwm penodol yn gysylltiedig ag awdurdodau gwledig neu drefol.

O'r 11 o awdurdodau lleol a drosglwyddodd eu stoc i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, roedd gan bedwar awdurdod trosglwyddo lefelau lleoedd gwag uwch na chyfartaledd Cymru (Ffigur 2).

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys rhestr o drosglwyddiadau gwirfoddol stoc awdurdodau lleol ar raddfa fawr, a dyddiadau trosglwyddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'w gweld yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 2: Y ganran o'r stoc tai cymdeithasol a oedd yn wag ar 31 Mawrth 2022, fesul awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Graff bar yn dangos bod y ganran o'r stoc tai cymdeithasol a oedd yn wag fesul awdurdod lleol yn amrywio o 1% i 4% yng Nghymru.  

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag                                         

Tai cymdeithasol gwag sydd ar gael i'w gosod

Ni fydd yr holl stoc sy'n wag ar 31 Mawrth 2022 ar gael i'w gosod. Ymhlith y rhesymau posibl pam na fydd stoc tai cymdeithasol ar gael i'w gosod mae'r ffaith bod gwelliannau'n cael eu gwneud i'r unedau tai, neu eu bod yn aros am welliannau, neu eu bod yn aros i gael eu gwerthu neu eu dymchwel.

Mae'r ganran o'r stoc tai cymdeithasol sy'n wag ac sydd ar gael i'w gosod wedi bod yn gostwng yn flynyddol ers 2012-13 pan oedd yn cyfrif am 59%. Ar 31 Mawrth 2022, roedd 40% o'r holl dai cymdeithasol gwag ar gael i'w gosod ond, ledled Cymru, roedd y ganran hon yn amrywio o 92% yn Nhorfaen i 14% yn Wrecsam. Yn 2021-22 y gwelwyd y cynnydd cyntaf yn y ganran o'r stoc wag a oedd ar gael i'w gosod (o gymharu â 39% yn 2020-21) ers 2012-13.

Ffigur 3: Y ganran o'r stoc tai cymdeithasol a oedd ar gael i'w gosod ar 31 Mawrth 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Graff bar yn dangos bod mwy na hanner yr holl eiddo tai cymdeithasol a oedd yn wag am fwy na chwe mis yng Nghymru ar gael i'w gosod, ond mai ychydig yn llai nag un rhan o bump o'r eiddo a oedd yn wag am fwy na chwe mis sydd ar gael i'w gosod.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag

Ar 31 Mawrth 2022, roedd 53% o'r holl unedau tai cymdeithasol a oedd wedi bod yn wag am lai na chwe mis ar gael i'w gosod. Roedd 68% o unedau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd wedi bod yn wag am lai na chwe mis ar gael i'w gosod o gymharu â 35% o unedau awdurdodau lleol.

Ar 31 Mawrth 2022, roedd 18% o'r tai cymdeithasol a oedd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis ar gael i'w gosod (327 o unedau). Roedd y ganran o eiddo awdurdodau lleol a oedd ar gael i'w gosod, sef 21%, yn uwch na'r ganran o eiddo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd ar gael i'w gosod, sef 17%.

Ar lefel awdurdodau lleol, gall nifer yr unedau tai cymdeithasol a oedd yn wag am fwy na chwe mis fod yn gymharol fach felly gall y ganran a oedd ar gael i'w gosod amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar amgylchiadau lleol.

Mae set ddata fanwl ar gyfer tai cymdeithasol gwag a oedd ar gael i'w gosod fesul awdurdod lleol i'w gweld ar StatsCymru.

Stoc dai ar renti cymdeithasol: ar osod a gosodiadau

Stoc tai cymdeithasol ar osod

Roedd cyfanswm o 232,549 o unedau tai cymdeithasol ar osod ar 31 Mawrth 2022, sef 98% o'r holl stoc tai cymdeithasol. Roedd nifer yr unedau tai cymdeithasol a oedd ar osod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi cynyddu 1% ers 2020-21 i 146,805 o unedau, sef yr un ganran â gosodiadau awdurdodau lleol (85,744). Roedd y ganran o stoc a oedd ar osod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn llai nag 1 pwynt canrannol yn uwch o gymharu ag awdurdodau lleol.

Tabl 2: Stoc tai cymdeithasol ar osod, yn ôl math o landlord cymdeithasol, rhwng 31 Mawrth 2017 a 31 Mawrth 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Math o landlord cymdeithasol Cyfanswm nifer y stoc tai cymdeithasol  Cyfanswm nifer y stoc tai cymdeithasol ar osod Canran (%) o'r stoc 
tai cymdeithasol ar osod
Awdurdodau lleol
2017-18 87,374 85,773 98.2
2018-19 87,404 85,528 97.9
2019-20 [2] 87,324 . .
2020-21  87,559 85,169 97.3
2021-22 87,927 85,744 97.5
Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig  
2017-18 142,643 140,075 98.2
2018-19 [1] 144,004 141,537 98.3
2019-20 [2] . . .
2020-21 147,840 144,984 98.1
2021-22 149,468 146,805 98.2
Pob landlord cymdeithasol  
2017-18 230,017 225,848 98.2
2018-19 [1] 231,408 227,065 98.1
2019-20 [2] . . .
2020-21  235,399 230,153 97.8
2021-22 237,395 232,549 98.0

Disgrifiad o Dabl 2: Tabl yn dangos bod cyfanswm nifer y stoc tai cymdeithasol ar osod wedi cynyddu bob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf, ond mae'r ganran o'r stoc a oedd ar osod wedi aros ar tua 98%.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag

[Nodyn 1] Ar gyfer 2018-19, methodd un landlord cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithas Tai Baneswell) â chyflwyno data ar osodiadau. Felly, cafodd gwybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.

[Nodyn 2] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig COVID-19.

. Dim data

Gosodiadau tai cymdeithasol

Cynyddodd gosodiadau newydd [troednodyn 1] stoc tai cymdeithasol 7% yn ystod 2021-22, i 18,950 o osodiadau.  Fel mewn blynyddoedd blaenorol, roedd ychydig dros hanner y rhain drwy restrau aros am dai[troednodyn 2], ond roedd nifer y gosodiadau drwy'r rhestr aros am dai 1% yn llai nag yn 2020-21, sef 9,746 (Ffigur 4).

Yn 2021-22, bu 4,567 o osodiadau ar gyfer aelwydydd a gafodd eu hailgartrefu ar sail blaenoriaeth oherwydd digartrefedd (7% yn fwy nag yn 2020-21). (Ffigur 4).

Roedd cyfran y gosodiadau hyn yn debyg ar gyfer 2021-22 a 2020-21, sef ychydig yn llai na chwarter, ar ôl cynnydd blynyddol ers 2013-14 pan oedd y ganran ar ei hisaf, sef 13%, a naid sylweddol o 18% yn 2018-19.

Ar ddechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020, rhoddodd Llywodraeth Cymru ymateb brys i ddigartrefedd ar waith a oedd yn cynnwys cyllid ychwanegol, ynghyd â chanllawiau statudol ac anstatudol, i sicrhau nad oedd neb heb lety neu gymorth i gadw'n ddiogel yn ystod y pandemig. 

Yn ystod 2021-22, bu cyfanswm o 4,637 o drosglwyddiadau a chyfnewidiadau, sef lle y bydd tenantiaid cyfredol yn trosglwyddo o fewn stoc landlord cymdeithasol (trosglwyddo) neu'n symud o stoc landlord cymdeithasol arall (cyfnewid), sy'n cyfrif am chwarter yr holl osodiadau. Bu cynnydd o 9% yn nifer y trosglwyddiadau a chynnydd o 65% yn nifer y cyfnewidiadau, o gymharu â 2020-21.

Ffigur 4: Gosodiadau tai cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart cylch yn dangos bod y mwyafrif o'r gosodiadau tai cymdeithasol yn 2021-22 yn deillio o restrau aros.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc a gosodiadau landlordiaid cymdeithasol

[Nodyn 1] Mae'r gosodiadau sy'n deillio o'r rhestr aros yn cynnwys: Gosodiadau o restr aros landlord neu o restr aros arall; pobl ddigartref nad ydynt yn flaenoriaeth; gosodiadau o ganlyniad i enwebiad gan landlord arall; a gosodiadau sy'n deillio o strategaethau ailgartrefu/symud ymlaen neu gofrestri pobl anabl.

Ar gyfer 12 o'r 22 awdurdod lleol, cafodd y mwyafrif o'r gosodiadau yn ystod 2021-22 eu rhoi i bobl a oedd wedi bod ar restr aros, a'r gyfran uchaf oedd 72% ym Mlaenau Gwent. Y gyfran isaf o'r gosodiadau hyn oedd 20% ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn ystod 2021-22, y gyfran uchaf o osodiadau â blaenoriaeth oherwydd digartrefedd oedd 45% ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedyn 42% yng Nghonwy, 39% yn Abertawe a 34% yn Sir Benfro. Ym Mhen-y-bont a Chonwy, cofnodwyd cyfraddau uwch na chyfartaledd Cymru o ran aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref, sef 84.9 o achosion fesul 10,000 o aelwydydd yn ystod 2021-22. Fodd bynnag, mae'n bosibl na chaiff aelwydydd y derbynnir eu bod yn ddigartref, neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd, eu hailgartrefu ar sail blaenoriaeth yn yr un flwyddyn, oherwydd amseru'r prosesau neu oherwydd y caiff aelwydydd eu lleoli mewn llety dros dro i ddechrau. Yn Ynys Môn (8%) roedd y gyfran isaf o osodiadau â blaenoriaeth oherwydd digartrefedd.

Y gyfran uchaf o osodiadau drwy drosglwyddiadau a chyfnewidiadau oedd 37% yn Sir Benfro, wedyn 35% ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, ac wedyn 33% ym Merthyr Tudful a Chasnewydd, a'r gyfran isaf o osodiadau drwy drosglwyddiadau a chyfnewidiadau oedd 11% ym Mhowys, wedyn 12% ym Mlaenau Gwent.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, cofnodwyd cyfrannau uwch o osodiadau drwy gyfnewidiadau yn hytrach na throsglwyddiadau o gymharu â landlordiaid cymdeithasol eraill o fewn eu stoc eu hunain. Pen-y-bont ar Ogwr oedd â'r ganran uchaf o gyfnewidiadau o blith y 22 awdurdod lleol, sef 22% o'i holl osodiadau yn ystod y flwyddyn. Wrecsam oedd â'r ganran uchaf o drosglwyddiadau, sef 24% o'r holl osodiadau yn ystod y flwyddyn.

Mae edrych ar nifer y gosodiadau fesul 100 o unedau o stoc ar rent cymdeithasol yn rhoi syniad o'r gyfradd trosiant ar gyfer stoc tai rhent (unedau anghenion cyffredinol a thai gwarchod)[troednodyn 3]. Cyfradd gosodiadau Cymru oedd 8.4 fesul 100 o unedau o stoc ar renti cymdeithasol yn ystod 2021-22, sef cynnydd o gymharu â'r gyfradd o 7.9 yn 2020-21.

Ar lefel awdurdod lleol, Caerdydd oedd â'r nifer mwyaf o osodiadau (1,864) yn 2021-22, ond Wrecsam oedd â'r nifer mwyaf o osodiadau fesul 100 o unedau o stoc ar rent cymdeithasol, sef 11.4.

Ceredigion oedd â'r nifer lleiaf o osodiadau yn ystod 2021-22 (363), a Chonwy oedd â'r nifer lleiaf o osodiadau fesul 100 o unedau o'r holl stoc ar renti cymdeithasol, sef 6.5. Mewn 12 o'r 22 awdurdod lleol, roedd nifer y gosodiadau fesul 100 o unedau o stoc ar rent cymdeithasol (unedau anghenion cyffredinol a thai gwarchod) yn fwy na chyfartaledd Cymru ac nid oedd gwahaniaeth clir rhwng yr awdurdodau trefol a'r awdurdodau gwledig.

Mae set ddata lawn ar gyfer gosodiadau tai cymdeithasol fesul awdurdod lleol ar gael ar StatsCymru.

Ôl-ddyledion rhent tai cymdeithasol

Bydd tenantiaeth mewn ôl-ddyledion pan na fydd y rhent sy'n ddyledus wedi cael ei dalu ar yr adeg briodol. Gan fod hyn yn ymwneud â chytundeb tenantiaeth, nid yw'n ffordd o gyfrif tenantiaid tai cymdeithasol sy'n byw mewn tlodi. Ar ddiwedd mis Mawrth 2022, roedd 96,309 o denantiaethau mewn ôl-ddyledion, sy'n cyfrif am 41% o'r holl denantiaethau tai cymdeithasol. Roedd hyn yn gynnydd o 5,769 o denantiaethau (6%) o gymharu â 90,540 o denantiaethau mewn ôl-ddyledion ar ddiwedd mis Mawrth 2021. Dywedodd nifer o landlordiaid fod diwygiadau lles diweddar, a'r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn arbennig, wedi cael effaith ar lefel yr ôl-ddyledion rhent. Mae'n debygol bod pandemig y Coronafeirws (COVID-19), yn ogystal â'r argyfwng costau byw ledled y wlad, wedi cyfrannu hefyd.

Tabl 3: Nifer y tenantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth o 2018-19 tan 2021-22 [Nodyn 1]

Tenantiaethau 2018-19 [Note 2] 2019-20 [Note 3] 2020-21 (r) 2021-22
Awdurdod lleol  
Nifer y tenantiaethau 85,528 . 85,169 85,744
Tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent 29,620 . 31,301 33,526
Canran y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent 34.6 . 36.8 39.1
Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig  
Nifer y tenantiaethau 141,537  . 144,984 146,805
Tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent 47,712  . 59,239 62,783
Canran y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent 33.7 . 40.9 42.8
Yr holl dai cymdeithasol  
Nifer y tenantiaethau 227,065  . 230,153 232,549
Tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent 77,332  . 90,540 96,309
Canran y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent 34.1 . 39.3 41.4

Disgrifiad o Dabl 3: Tabl yn dangos nifer a chanran y tenantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent, yn ôl tenantiaethau awdurdodau lleol, tenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r holl dai cymdeithasol.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag

[Nodyn 1] Cyfrifir cyfanswm nifer y tenantiaethau drwy dynnu unedau gwag o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol ar 31 Mawrth.

[Nodyn 2] Ar gyfer 2018-19, methodd un landlord cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithas Tai Baneswell) â chyflwyno data ar osodiadau ac ôl-ddyledion. Felly, cafodd gwybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.

[Nodyn 3] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig COVID-19.

. Dim data

(r) Diwygiedig

Roedd y gyfran o denantiaethau mewn ôl-ddyledion yn uwch ar gyfer tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (43%) na thenantiaid awdurdodau lleol (39%).

Ar 31 Mawrth 2022, roedd nifer y tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn ôl-ddyledion rhent wedi cynyddu 6% o gymharu â 2020-21, i 62,783. Hefyd, roedd nifer y tenantiaid awdurdodau lleol mewn ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth 2022 wedi cynyddu 7% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, i 33,526 (Tabl 3).

Ledled Cymru, ym Merthyr Tudful y gwelwyd y ganran uchaf o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent (61%) ac yng Ngwynedd y gwelwyd yr isaf (27%). Roedd y ganran o denantiaethau mewn ôl-ddyledion yn amrywio'n sylweddol ymhlith yr awdurdodau gwledig a'r awdurdodau trefol, gyda naw awdurdod yn cofnodi ôl-ddyledion uwch na chyfartaledd Cymru, sef 41%.

Hyd yr ôl-ddyledion rhent

Ar 31 Mawrth 2022, roedd 38% o'r holl denantiaethau tai cymdeithasol wedi bod mewn ôl-ddyledion am lai na 13 wythnos ac roedd 3% wedi bod mewn ôl-ddyledion am 13 wythnos neu fwy.

Yn 2021-22, fel yn 2020-21, roedd canran uwch o denantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn ôl-ddyledion byrdymor (llai na 13 wythnos) na thenantiaethau awdurdodau lleol (35% o gymharu â 40%) (Ffigur 5a).  Yn 2021-22, nifer y tenantiaethau awdurdodau lleol mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos oedd 30,055 (7% yn uwch nag yn 2020-21) ac, ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y nifer oedd 58,558 (6% yn uwch nag yn 2020-21).

Ffigur 5a: Y ganran o'r holl denantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos ar 31 Mawrth o 2009-10 tan 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5a: Graff bar yn dangos bod nifer y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod 2020-21 a'i fod wedi cynyddu eto yn 2021-22 ar gyfer tenantiaethau awdurdodau lleol a thenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag

(r) Diwygiedig

Ers 2015-16, mae'r ganran o denantiaethau mewn ôl-ddyledion tymor hwy (13 wythnos neu fwy) wedi bod yn gyson is ar gyfer tenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig nag ar gyfer tenantiaethau awdurdodau lleol. Ar 31 Mawrth 2022, roedd 4% o denantiaethau awdurdodau lleol wedi bod mewn ôl-ddyledion rhent am 13 wythnos neu fwy o gymharu â 3% o denantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd bach ar gyfer tenantiaethau awdurdodau lleol, a'r un ganran â'r flwyddyn flaenorol ar gyfer tenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (Ffigur 5b).

Ffigur 5b: Y ganran o'r holl denantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent am 13 wythnos neu fwy ar 31 Mawrth o 2009-10 tan 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5b: Graff bar yn dangos bod nifer y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos wedi cynyddu'n raddol rhwng 2016-17 a 2021-22 gyfer tenantiaethau awdurdodau lleol a thenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag

[Nodyn 1] Ar 31 Mawrth bob blwyddyn.

[Nodyn 2] Dangosir ôl-ddyledion ar gyfer tenantiaethau mewn unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol yn unig. Ni chesglir data ar ôl-ddyledion ar gyfer deiliadaethau canolraddol a deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.

[Nodyn 3] Cyfrifir cyfanswm nifer y tenantiaethau drwy dynnu anheddau gwag o gyfanswm y stoc. Mae cyfanswm y stoc yn cynnwys yr holl unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol ond nid yw'n cynnwys deiliadaethau canolraddol na deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.

[Nodyn 4] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig COVID-19.

(r) Diwygiedig

Mae Tabl 4 isod yn dangos nifer y tenantiaethau tai cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) mewn ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth 2022 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.

O'r 96,309 o denantiaethau cymdeithasol yng Nghymru mewn ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth 2022, roedd y mwyafrif llethol (92%) wedi bod mewn ôl-ddyledion am lai na 13 wythnos, ac roedd 7,696 (8%) wedi bod mewn ôl-ddyledion am 13 wythnos neu fwy.

Fel yn 2020-21, yng Nghaerdydd y cofnodwyd y nifer mwyaf o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent, sef 12,087 o denantiaethau, ac wedyn Abertawe, sef 10,742 o denantiaethau. Yng Ngheredigion y cofnodwyd y nifer lleiaf o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent, sef 1,106 o denantiaethau. O'r rhain, roedd 5% (60 o denantiaethau) wedi bod mewn ôl-ddyledion am 13 wythnos neu fwy (Tabl 4).

Sir y Fflint oedd â'r gyfran uchaf o denantiaethau mewn ôl-ddyledion hirdymor (13 wythnos neu fwy), sef 18% (678 o denantiaethau), a Sir Fynwy oedd â'r gyfran isaf, sef 3% (85 o denantiaethau).

Tabl 4: Ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth 2022, yn ôl hyd ac awdurdod lleol [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Awdurdod lleol Cyfanswm nifer y tenantiaethau [Nodyn 3] Llai na 
13 wythnos
13 wythnos
 neu fwy
Cyfanswm
Ynys Môn 5,006 1,524 146 1,670
Gwynedd 9,053 2,226 173 2,399
Conwy 6,390 1,977 252 2,229
Sir Ddinbych 5,817 1,622 253 1,875
Sir y Fflint

10,216

3,122 678 3,800
Wrecsam 12,849 3,509 200 3,709
Powys 8,481 2,368 137 2,505
Ceredigion 3,531 1,046 60 1,106
Sir Benfro 8,499 3,482 485 3,967
Sir Gaerfyrddin 12,225 3,718 310 4,028
Abertawe 21,479 9,746 996 10,742
Castell-nedd Port Talbot 12,408 4,953 347 5,300
Pen-y-bont ar Ogwr 9,096 2,536 211 2,747
Bro Morgannwg 7,622 2,863 201 3,064
Caerdydd 26,573 10,985 1,102 12,087
Rhondda Cynon Taf 15,783 7,924 349 8,273
Merthyr Tudful 5,781 3,335 160 3,495
Caerffili  14,768 5,988 669 6,657
Blaenau Gwent 7,711 3,519 171 3,690
Torfaen 10,195 4,574 249 4,823
Sir Fynwy 5,650 2,520 85 2,605
Casnewydd 13,416 5,076 462 5,538
Cymru 232,549 88,613 7,696 96,309

Disgrifiad o Dabl 4: Tabl yn dangos cyfanswm nifer y tenantiaethau ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, yn ogystal â nifer y rhai mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos neu fwy na 13 wythnos. Mae'r tabl yn dangos mai Caerdydd sydd â'r nifer mwyaf o denantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag

[Nodyn 1] Dangosir ôl-ddyledion ar gyfer tenantiaethau mewn unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol yn unig. Ni chesglir data ar ôl-ddyledion ar gyfer deiliadaethau canolraddol a deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.

[Nodyn 2] Cyfrifir cyfanswm nifer y tenantiaethau drwy dynnu unedau gwag o gyfanswm y stoc ar 31 Mawrth 2022. Mae cyfanswm y stoc yn cynnwys yr holl unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol ond nid yw'n cynnwys deiliadaethau canolraddol na deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.

Rhestr termau

Ailosodiadau

Ystyr ailosodiad yw gosod annedd sydd eisoes yn cael ei reoli gan landlord cymdeithasol cofrestredig neu awdurdod lleol, heb gynnwys adnewyddu tenantiaeth.

Cyfnewidiadau

Mae gosodiadau drwy gyfnewidiadau yn golygu rhoi unedau ar osod i denantiaid landlordiaid cymdeithasol eraill drwy gyd-gyfnewidiadau yn ystod y flwyddyn ariannol; a galluogi tenantiaid presennol i symud o fewn stoc yr awdurdod lleol drwy gytundebau cyd-gyfnewid yn ystod y flwyddyn ariannol.

Gosodiadau newydd

Ystyr gosodiad newydd yw gosod annedd a gaiff ei reoli gan landlord cymdeithasol neu awdurdod lleol am y tro cyntaf, gan gynnwys anheddau newydd eu hadeiladu.

Gosodiadau sy'n deillio o'r rhestr aros

Mae hyn yn cynnwys gosodiadau o restrau aros, gosodiadau i bobl ddigartref nad ydynt yn flaenoriaeth, gosodiadau sy'n deillio o enwebiad gan landlord arall a gosodiadau sy'n deillio o strategaethau ailgartrefu/symud ymlaen neu gofrestri pobl anabl.

Tenantiaethau

Mae'r term tenantiaethau'n cyfeirio at gytundebau tenantiaeth rhwng unigolyn (neu unigolion yn achos cyd-denantiaethau) a'r landlord cymdeithasol. Dim ond y cytundeb tenantiaeth ar gyfer pob uned tai cymdeithasol unigol sydd wedi'i gynnwys yn nifer y tenantiaethau, ac nid yr holl denantiaid tai cymdeithasol sy'n byw yn yr eiddo hwnnw.

Cyfrifir cyfanswm nifer y tenantiaethau sydd i'w gweld yn y datganiad hwn drwy dynnu anheddau gwag o gyfanswm y stoc ar 31 Mawrth. Mae cyfanswm y stoc yn cynnwys yr holl unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol ond nid yw'n cynnwys deiliadaethau canolraddol na deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.

Trosglwyddo

Mae gosodiadau drwy drosglwyddiadau yn golygu trosglwyddo tenantiaid o fewn stoc y sefydliad, h.y. pan gaiff tenant presennol ei drosglwyddo i denantiaeth arall o dan bolisi'r sefydliad ar gyfer trosglwyddiadau.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ceir gwybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.

Troednodiadau

[1] Mae gosodiadau newydd yn cynnwys gosodiadau i denantiaid newydd, ailosodiadau, trosglwyddiadau a chyfnewidiadau.

[2] Yn cynnwys gosodiadau o restr aros landlord neu o restr aros arall; pobl ddigartref nad ydynt yn flaenoriaeth; gosodiadau o ganlyniad i enwebiad gan landlord arall; a gosodiadau sy'n deillio o strategaethau ailgartrefu/symud ymlaen neu gofrestri pobl anabl.

[3] Dim ond unedau anghenion cyffredinol a thai gwarchod a osodwyd gan landlordiaid cymdeithasol ar rent cymdeithasol yn unol â Fframwaith Polisi Rhenti Cymdeithasol Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth am osodiadau. Mae cyfradd y gosodiadau fesul 100 o unedau o stoc yn seiliedig ar stoc anghenion cyffredinol a thai gwarchod yn unig.

 

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Mcleod
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 48/2023

Image
Ystadegau Gwladol