Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant, yn ogystal â sylwebaeth ar ble disgwylir gweld newidiadau ers dechrau’r pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae'r 7 nod llesiant yn:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Sefydlwyd y saith nod llesiant er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac maent wedi'u cynnwys yn y gyfraith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dangosyddion Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn asesu cynnydd yn erbyn y 46 dangosydd cenedlaethol, a osodwyd gan Weinidogion Cymru yn 2016, ynghyd ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae tudalennau’r dangosyddion cenedlaethol yn cynnwys data ar gyfer pob un o’r dangosyddion cenedlaethol, ynghyd â dolenni at y ffynonellau a, phan fo’r rhain ar gael, cyhoeddiadau ystadegol ymhle y dadansoddir y dangosyddion mewn mwy o fanylder.

StatsCymru

Mae’r rhan helaeth o’r data a ddefnyddiwyd i fesur y dangosyddion cenedlaethol ar gael ar StatsCymru. Cynnigir data fesul ardal ddaearyddol neu fesul grŵp poblogaeth lle fo hwn yn bosib.

Llesiant Cymru: sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r adroddiad, a gwneud yr wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi’n haws ei defnyddio ac yn addas i gynulleidfa eang. Mae deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio yn hanfodol er mwyn inni allu gwneud hynny.

Sut mae adroddiad Llesiant Cymru yn cael ei ddefnyddio?

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.