Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Daw'r adroddiad hwn, pedwerydd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru, ar adeg na allai llawer ohonom fod wedi'i rhag-weld y llynedd. Drwy gydol 2020, mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cyffwrdd â phob elfen o fywyd yng Nghymru. Mae ein hystadegwyr yn Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan sylweddol wrth ymateb i'r gofynion dadansoddi y mae'r pandemig wedi'u creu, gan roi cipolwg ar weithgarwch y GIG, marwolaethau, anghydraddoldeb, yr economi a chymdeithas.

Er mwyn ateb y galw hwn, bu'n rhaid i ni newid ein dull arferol o ymdrin ag adroddiad Llesiant Cymru. Mae dwy ran i'r adroddiad eleni: diweddariadau i'r dangosyddion cenedlaethol a’r adroddiad cryno byr hwn sy'n edrych ar y tueddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae llawer o'n dangosyddion cenedlaethol yn seiliedig ar setiau data swyddogol nad ydynt eto'n cwmpasu cyfnod y pandemig, neu maent yn dod o arolygon neu gasgliadau a gafodd eu rhewi yn ystod y cyfnod hwn. Felly, mae'r adroddiad hwn yn dadansoddi'n bennaf y cynnydd tuag at ein nodau llesiant yn ystod y flwyddyn ariannol 2019-20, hyd at ddechrau'r pandemig. Mewn mannau, rydym wedi darparu data ychwanegol sy'n rhoi darlun amserol neu rydym wedi edrych ymlaen at sut y gallem ddisgwyl i dueddiadau fod wedi newid yn ystod y pandemig pe bai gwybodaeth newydd ar gael. Y flwyddyn nesaf, bydd gennym ddata ar gael i adrodd stori fwy cyflawn am lesiant y genedl yn adroddiad llesiant 2020-21.

Er bod yr adroddiad hwn wedi'i drefnu yn ôl y 7 nod llesiant, mae nifer o'r dangosyddion yn adlewyrchu cynnydd ar draws mwy nag un nod llesiant. Gallwch weld sut mae'r nodau'n gysylltiedig yn yr adroddiad dangosyddion rhyngweithiol.

Yn 2019, ochr yn ochr â gwaith i ddatblygu'r cerrig milltir cenedlaethol, fe wnaethom fanteisio ar y cyfle i geisio barn ar unrhyw newidiadau i'r set o ddangosyddion cenedlaethol. Ymrwymwyd i nifer bach o newidiadau, gan gynnwys

  • diwygio'r dangosyddion cenedlaethol ynghylch ansawdd y gwaith, gan ystyried argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg
  • ymchwilio i gwestiwn newydd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar "ddinasyddion byd-eang gweithgar" i ddisodli'r dangosydd ar bartneriaethau’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
  • ymestyn y dangosydd gwahaniaeth cyflog i grwpiau poblogaeth eraill (e.e. yn ôl ethnigrwydd ac ar gyfer gweithwyr rhan-amser)
  • bwrw ymlaen â gwaith pellach ar ddangosyddion eraill ochr yn ochr â'r gwaith parhaus ar y cerrig milltir cenedlaethol, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol.

Mae effaith y pandemig wedi golygu ein bod wedi gorfod rhoi’r gorau i beth o’r gwaith hwn am y tro, ond rydym yn dal wedi ymrwymo i wneud y newidiadau pwysig hyn. Mae nawr hefyd yn amser da i ystyried a yw profiad y pandemig wedi amlygu unrhyw fylchau eraill yn y ffordd yr ydym yn mesur cynnydd tuag at lesiant. Byddwn yn gwneud gwaith dros y misoedd nesaf i geisio barn ar hyn.

Stephanie Howarth, Prif Ystadegydd Interim

Cymru lewyrchus

Parhaodd marchnad lafur Cymru i berfformio'n gryf yn 2019, ac roedd y bwlch rhwng Cymru a'r DU yn gul mewn termau hanesyddol.

Cynyddodd cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur ar ôl dirwasgiad 2008 ond mae wedi aros yn weddol sefydlog rhwng 2017 a 2019. Cafwyd rhai gostyngiadau bach yng nghyfranogiad pobl ifanc 16 i 18 oed.

Yn fwy diweddar, mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y farchnad lafur. Mae amcangyfrifon a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn awgrymu bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi gostwng 2.5% ym mis Gorffennaf o gymharu â mis Chwefror 2020. Bu ychydig o adferiad ers hynny, er bod nifer y gweithwyr cyflogedig yn parhau'n llawer is na'r hyn ydoedd cyn y pandemig.

Bu cynnydd mawr hefyd yng nghyfran y gweithlu yng Nghymru sy'n hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â diweithdra ers dechrau'r pandemig. Mae hyn bellach tua 7.5%. Y tro diwethaf i'r gyfran fod mor uchel â hynny oedd ym 1996.

Cyn y pandemig, parhaodd economi ehangach y DU i dyfu'n araf o'i chymharu â'r duedd a welwyd cyn dirwasgiad 2008. Mae hyn wedi adlewyrchu twf cynhyrchiant sy'n wan yn hanesyddol ac wedi arwain at dwf araf iawn mewn cyflogau gwirioneddol ac mewn safonau byw. Bydd Cymru wedi cael ei heffeithio yn yr un modd.

Achosodd y pandemig gwymp digynsail mewn gweithgarwch economaidd yn ail chwarter 2020, a thros y flwyddyn gyfan bydd yr economi wedi dioddef crebachu difrifol.  Bydd safonau byw hefyd yn debygol o ostwng.   

Bydd niwed economaidd tymor byr penodol ar ffurf incwm is a mwy o ddiweithdra. Yn eu tro, bydd yr effeithiau hyn yn debygol o gael effaith andwyol ar iechyd a llesiant.

Mae natur cyflogaeth yn y sectorau yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig yn golygu y bydd effeithiau'n tueddu i wneud anghydraddoldebau yn waeth. Mae'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf yn tueddu i fod ar gyflog isel, mewn cyflogaeth ansicr, ac yn bobl ifanc.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod ychydig o dan chwarter holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu eu costau tai (23%).

Ffynonellau data ychwanegol

Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig

Enillion a chyflogaeth o Wybodaeth Amser Real Talu Wrth Ennill (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Arolwg Cenedlaethol Cymru: arolwg misol 2020

Tlodi Incwm Cymharol

Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ebrill i Fehefin 2020

Nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau Credyd Cynhwysol a Lwfans Ceisio Gwaith yn ôl rhyw ac oedran (Ystadegau Swyddogol y Farchnad Lafur Nomis)

Cymru gydnerth

Mae llygredd aer yn parhau i fod yn broblem iechyd sylweddol, gyda chynnydd yn lefelau dau o'r prif lygryddion aer rhwng 2017 a 2018.

Rydym wedi gweld gwelliannau parhaus mewn allyriadau carbon a chapasiti ynni adnewyddadwy. Yn 2018, gostyngodd allyriadau carbon 31% o gymharu â blwyddyn sylfaen 1990. Mae hyn yn welliant sylweddol ers 2017, wedi'i ysgogi'n bennaf gan ostyngiad mewn cynhyrchu pŵer gan ddefnyddio glo.

Roedd yr amcangyfrif o'r capasiti a oedd wedi’i osod ar gyfer ynni adnewyddadwy ar ddiwedd mis Rhagfyr 2018 (3,864 MW) bron 5% yn fwy na'r capasiti a amcangyfrifwyd yn 2017, a bron 40% yn fwy na'r capasiti amcangyfrifedig yn 2014.

Bydd yn cymryd peth amser i ddeall effeithiau llawn y camau sy'n gysylltiedig â'r pandemig ar newid yn yr hinsawdd, allyriadau nwyon tŷ gwydr ac ansawdd aer.

Er bod data'n dangos bod gweithgarwch cerbydau ffordd wedi gostwng yn sylweddol ers cyfyngiadau symud y DU ar 23 Mawrth 2020, mae'n llai clir sut yr effeithiwyd ar sectorau eraill a beth fu'r newidiadau yn y crynodiadau o lygryddion aer.

Mae data o allbynnau misol Arolwg Cenedlaethol Cymru sy'n ymwneud â mis Mai i fis Medi 2020 yn awgrymu bod 40% i weithwyr yn gallu gwneud y rhan fwyaf neu'r cyfan o'u gwaith o gartref. Mae'r gyfran hon yn amrywio'n sylweddol yn ôl gweithgarwch busnes. Nid oedd 55% o weithwyr y sector preifat yn gallu gwneud unrhyw waith gartref, o gymharu â 34% o weithwyr y sector cyhoeddus.

Ffynonellau data ychwanegol

Dadansoddiad Dros Dro o Ddata Monitro Ansawdd Aer Cymru – Effeithiau COVID-19

Cymru iachach

Bu cynnydd bach yng nghyfran y babanod a anwyd â phwysau geni isel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda 2019 yr uchaf erioed. Mae hyn yn dilyn y ffigurau isaf a gofnodwyd yn 2014 a 2015.

Cysylltir pwysau geni isel ag oedran y fam. Roedd cyfran y mamau 40 oed a hŷn ar ei huchaf erioed yn 2019.

Mae disgwyliad oes iach yn is i'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac nid oes unrhyw arwyddion clir bod y bwlch yn lleihau.

Ceir tystiolaeth o gyfraddau marwolaeth uwch sy'n cynnwys COVID-19 mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond mae'n rhy fuan i ddweud a fydd y pandemig yn cael effaith hirdymor ar anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach.

Prin fu'r newid mewn ymddygiadau ffordd iach o fyw ymhlith oedolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn gyffredinol, mae ymddygiadau nad ydynt yn iach yn llai cyffredin ymhlith pobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Prin fu'r newid diweddar hefyd mewn ymddygiadau ffordd iach o fyw ymhlith plant, er y bu gostyngiadau mewn ysmygu ac yfed yn y tymor hwy. Mae ffyrdd o fyw nad ydynt yn iach yn fwy cyffredin ymhlith plant hŷn.

Mae llesiant meddyliol yn waeth ymhlith oedolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Mae data misol diweddar Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos nad yw mesurau llesiant unigol fel teimlo'n hapus neu'n bryderus wedi newid fawr ddim yn ystod y cyfnod o fis Mai i fis Medi 2020, er nad yw’r data ar gael eto ar gyfer cyfnodau’r hydref a’r gaeaf.

Nododd arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai dim ond 50% o bobl a nododd fod eu lefel hapusrwydd bresennol yn uchel (graddau o 7 i 10 ar raddfa o 0 i 10) ddechrau mis Tachwedd 2020, i lawr o 67% ddechrau mis Mai 2020.

Ffynonellau data ychwanegol

Marwolaethau sy'n ymwneud â COVID-19 yn ôl ardal leol ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Arolwg Cenedlaethol Cymru: arolwg misol 2020

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd am Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Gwyliadwriaeth Cyflym COVID-19 (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Cymru sy’n fwy cyfartal

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn wedi lleihau yn 2020 i 4.3%, y gwerth isaf erioed. Mae'n parhau'n llai na'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer y DU.

Mae cyfraddau cyflogaeth yn parhau'n is i fenywod nag i ddynion. Fodd bynnag, yn 2018-19 roedd mwy na hanner yr holl benodiadau cyhoeddus newydd yng Nghymru yn fenywod.

Yn yr ysgol mae merched yn parhau i gyflawni deilliannau gwell na bechgyn, ac mae merched yn fwy tebygol o aros ymlaen mewn addysg y tu hwnt i 16 oed.

Mae plant o rai grwpiau ethnig yn tueddu i gyflawni'n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o gymharu ag eraill. Yn gyffredinol, mae grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig bellach yn cael eu cynrychioli'n well mewn addysg uwch ac mewn penodiadau cyhoeddus newydd.

Mae cyfraddau cyflogaeth a chyflog cyfartalog yn parhau i fod yn is ar gyfer grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac mae pobl yn y grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol.

Mae cyfraddau cyflogaeth yn wahanol i ddynion a menywod ar draws pob grŵp ethnig

Mae'r bwlch cyflog rhwng gweithwyr Gwyn a gweithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi lleihau i'w lefel leiaf ers 2012 yng Nghymru a Lloegr. Mae'r bwlch cyflog ethnigrwydd yn wahanol ar draws rhanbarthau ac mae ar ei fwyaf yn Llundain (23.8%) ac ar ei leiaf yng Nghymru (1.4%).

Yn gyffredinol, mae canlyniadau addysgol i blant ag anghenion addysgol arbennig yn gwella.

Mae’r cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn cynyddu ond mae bwlch cyflog anabledd o hyd ac mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael anawsterau ariannol.

Plant yw'r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol o hyd ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad bach mewn tlodi plant, tra bod canran y pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn codi dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae nifer y bobl sy'n uniaethu'n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu nad ydynt yn nodi eu bod heterorywiol yn codi, ac mae priodasau o'r un rhyw bellach yn fwy cyffredin na phartneriaethau sifil.

Cynyddodd y troseddau casineb a gofnodwyd 2% yn 2019-20, gyda gostyngiad bach mewn troseddau casineb hiliol a throseddau'n gysylltiedig â chrefydd. Cynyddodd y troseddau casineb yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol, statws trawsryweddol neu anabledd.

Cafwyd adroddiadau bod COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o wahanol grwpiau poblogaeth, gyda phobl hŷn, dynion a phobl mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael gyda'r clefyd. Mae hefyd wedi amlygu amrywiaeth o anghydraddoldebau strwythurol a fodolai cyn y pandemig.

Mae effeithiau mwy anuniongyrchol niwed economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o gael eu teimlo gan bobl ifanc, menywod, pobl anabl a grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Disgwyliwn i hyn gael effaith ar lawer o'r dangosyddion cenedlaethol yn ystod 2020-21.

Ffynonellau data ychwanegol

Arolwg blynyddol o oriau ac enillion: 2020

Adroddiadau blynyddol y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (Y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus)

Coronafeirws (COVID-19) a’r boblogaeth pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yng Nghymru

Bylchau cyflog anabledd yn y DU: 2018 (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Ystadegau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Bylchau cyflog ethnigrwydd: 2019 (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Canlyniadau arholiadau: Medi 2019 i Awst 2020 (dros dro)

Trosedd gasineb, Cymru a Lloegr, 2019 i 2020 (Llywodraeth y DU)

Ystadegau economaidd allweddol

Priodasau yng Nghymru a Lloegr: 2017 (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Arolwg Cenedlaethol Cymru: Ebrill 2019 i Mawrth 2020

Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2018 i Fawrth 2019

Crynodeb o weithgarwch economaidd yng Nghymru yn ôl blwyddyn a statws anabl, o Ebrill 2013 (Gwefan StatsCymru)

Crynodeb o weithgarwch economaidd yng Nghymru yn ôl blwyddyn ac ethnigrwydd (Gwefan StatsCymru)

Cymru o gymunedau cydlynus

Er i'r rhan fwyaf o ddangosyddion cenedlaethol ar gydlyniant cymunedol gael eu diweddaru ddiwethaf ar gyfer 2018-19, mae’r dangosyddion wedi bod yn sefydlog i raddau helaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Gostyngodd canran y bobl sy'n teimlo'n unig yn 2019-20 (15%) o gymharu â 2016-17 (17%).

Mae data mwy diweddar o’r Arolwg Cenedlaethol Cymru misol o fis Mai i fis Medi 2020 yn dangos hyd yma bod unigrwydd wedi gostwng ymhellach (i 11%) er nad yw'r data ar gael eto ar gyfer cyfnodau'r hydref a'r gaeaf. 

Mae data’r Arolwg Cenedlaethol Cymru misol hefyd yn dangos bod pobl sy'n teimlo ymdeimlad o gymuned wedi cynyddu'n sylweddol, o 52% yn 2018-19 i 75% ym mis Medi 2020.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu

Mae'r dangosyddion cenedlaethol ar y Gymraeg yn weddol gyson â blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, bu gostyngiad bychan yng nghanran y bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig eiriau o'r Gymraeg.

Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 ostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynychu gweithgareddau celfyddydol, diwylliant neu dreftadaeth yn rheolaidd. Mynychodd 71% o bobl y digwyddiadau hyn deirgwaith y flwyddyn, o'i gymharu â 75% yn 2017-18.

Arhosodd cyfran y bobl sy'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau chwaraeon yn sefydlog yn 2019-20, ar 32%.

Roedd lleoliadau chwaraeon, celf a threftadaeth ar gau am gyfnod sylweddol yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi rhwystro pobl rhag cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn eleni.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae allyriadau carbon yn parhau i ostwng, gyda gostyngiad o 8% rhwng 2017 a 2018. Mae modelu cynnar yn awgrymu bod disgwyl i allyriadau byd-eang ostwng yn 2020.

Adroddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU (UKCCC) fod disgwyl i allyriadau CO2 ostwng 5-10% o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, gyda gostyngiad mwy i’r DU o bosibl.  

Ym mis Ebrill a mis Mai 2020 gwelwyd gostyngiadau sylweddol mewn rhai lefelau llygryddion (e.e. ocsidiau nitrogen), sy'n gyson â lefelau traffig is. Fodd bynnag, cynyddodd lefelau llygryddion eraill, megis deunydd gronynnol mân ac osôn.

Mae gwybodaeth gyd-destunol ehangach am Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru y flwyddyn flaenorol. Caiff hyn ei ddiweddaru fel rhan o adroddiad y flwyddyn nesaf.

Ffynonellau data ychwanegol

Dadansoddiad Dros Dro o Ddata Monitro Ansawdd Aer Cymru – Effeithiau COVID-19

Lleihau allyriadau'r DU: Adroddiad Cynnydd i'r Senedd 2020 (Pwyllgor Newid Hinsawdd)

Gwybodaeth gefndir

Beth yw'r adroddiad hwn?

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant. Mae'n adroddiad statudol sy'n ofynnol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n adroddiad sy'n edrych ar gynnydd Cymru gyfan fel gwlad. Nid yw'n adroddiad am berfformiad sefydliad unigol. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf ym mis Medi 2017.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Y bwriad yw gwneud i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy ynghylch y tymor hir, gan weithio'n well gyda phobl a chymunedau a chyda'i gilydd, mynd ati i atal problemau, a gweithredu mewn ffordd fwy cyson. Bwriad hyn yn ei dro yw gwneud Cymru yn wlad yr ydym i gyd yn awyddus i fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod 7 nod llesiant ar gyfer Cymru fwy llewyrchus, iach, cydnerth, cyfartal a chyfrifol ar lefel byd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Ceir rhagor o wybodaeth gefndirol am y Ddeddf yn yr Hanfodion.

Beth yw dangosyddion cenedlaethol Cymru?

Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod dangosyddion cenedlaethol i asesu'r cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Rhwng mis Medi 2015 a mis Ionawr 2016 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus eang i nodi pa gyfres fach o ddangosyddion y dylid eu datblygu i fesur cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Cyhoeddwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ym mis Mawrth 2016 ac fe'u gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Lluniwyd y dangosyddion cenedlaethol i gynrychioli'r canlyniadau i Gymru a'i phobl a fydd yn helpu i ddangos y cynnydd tuag at y 7 nod llesiant. Nid oes bwriad iddynt fod yn ddangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliad unigol.

Ceir disgrifiad llawn o'r dangosyddion cenedlaethol gan gynnwys diffiniad  technegol ohoynt a gwybodaeth am ffynonellau data ac amlder yn y dogfen dechnegol.

Beth yw'r berthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig?

Mae Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 yn gynllun gwaith trawsnewidiol sydd wedi'i seilio ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, i roi sylw i heriau brys byd-eang dros y 15 mlynedd nesaf. Mae nodau byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn golygu y bydd yn rhaid i bob gwlad ar y blaned weithredu i drechu tlodi, hyrwyddo llewyrch a llesiant i bawb, diogelu'r amgylchedd a rhoi sylw i'r newid yn yr hinsawdd. Bwriedir i'r nodau hyn fod yn rhai pellgyrhaeddol, sy'n canolbwyntio ar bobl, sy’n berthnasol i bawb ac yn drawsnewidiol. Mae aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig wedi ymrwymo i weithio'n ddiflino i'w rhoi ar waith erbyn 2030, ac fe fydd Cymru'n chwarae ei rhan.

Bydd nifer o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu i adrodd hanes cynnydd yng Nghymru yn erbyn un o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Rydym wedi mapio’r dangosyddion yn erbyn y nodau.

Cerrig milltir cenedlaethol

Yn ogystal â gosod dangosyddion cenedlaethol, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir cenedlaethol i helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud ar lefel genedlaethol tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Pwy gynhyrchodd yr adroddiad hwn?

Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru. Cafodd ei gynhyrchu yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, felly mae'n annibynnol ar unrhyw ddylanwad gwleidyddol.

Amseroldeb

Mae'r adroddiad, a fyddai fel arfer wedi'i gyhoeddi ym mis Medi, wedi'i gyhoeddi ar ffurf sylweddol fyrrach ym mis Rhagfyr oherwydd pwysau sy'n gysylltiedig â'r pandemig COVID-19 sy’n parhau.

Bydd data'r dangosyddion cenedlaethol yn cael eu cadw mor gyfredol â phosibl wrth i setiau data newydd gael eu cyhoeddi ar gyfer y dangosyddion hynny.

Cwmpas

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar Gymru. Ar gyfer rhai dangosyddion, cyfeirir at y sefyllfa o gymharu â'r DU. Mae'r naratif yn erbyn y nodau ac ar gyfer pob un o'r dangosyddion wedi'u seilio ar gynnydd cenedlaethol yn erbyn y nodau, ac nid yw'n ceisio darparu adroddiad ar gynnydd ar lefelau daearyddol gwahanol. Fodd bynnag, mae data sawl un o'r dangosyddion ar gael ar StatsCymru, neu ar gais, ar lefelau daearyddol manylach.

Hygyrchedd

Mae’r adroddiad hwn wedi’i lunio fel adroddiad ar lein i’w wneud yn fwy hygyrch ac ymatebol ac i wella profiad y defnyddiwr.

Mae'r rhan fwyaf o'r data sy'n sail i'r adroddiad, gan gynnwys dadansoddiadau llawer manylach, ar gael ar StatsCymru a thrwy wasanaethau data agored StatsCymru.

A yw'r holl ddata'n ystadegau swyddogol?

Mae mwyafrif y dangosyddion (32) wedi'u seilio ar ffynonellau a gyhoeddwyd fel ystadegau gwladol. Hynny yw, maent wedi'u cyhoeddi gan ystadegwyr y Llywodraeth, neu gyrff cyhoeddus eraill, o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.

Mae 24 o'r dangosyddion hyn wedi'u seilio ar ffynonellau a gyhoeddwyd fel Ystadegau Gwladol. Hynny yw mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi pennu'r ystadegau hyn yn ystadegau gwladol, gan ddangos cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Golyga hyn eu bod yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Mae'r 12 o ddangosyddion wedi'u seilio ar ffynonellau eraill, fel data gweinyddol a gedwir gan adrannau'r llywodraeth. Nid oes data ar gyfer 2 o’r dangosyddion.

Er nad yw'r holl ffynonellau data a ddefnyddir yn ystadegau swyddogol, mae'r adroddiad ei hun wedi'i ddatblygu a'i gyhoeddi yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Cyn cyhoeddi adroddiad eleni, roeddem wedi bwriadu ceisio cael dynodiad Ystadegau Gwladol drwy asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Yng ngoleuni'r pandemig, mae hyn wedi'i oedi ond rydym yn bwriadu mynd ar drywydd hyn eto yn y dyfodol.

Beth arall ddylwn i ei wybod am y data?

Mae'r adroddiad ansawdd a gyhoeddir law yn llaw â’r datganiad hwn yn darparu dolenni at wybodaeth am ansawdd bob un o'r ffynonellau data a ddefnyddir i fesur dangosyddion cenedlaethol, neu'n rhoi'r wybodaeth honno os nad yw ar gael rywle arall.

Er bod y rhan fwyaf o'r naratif yn adroddiad Llesiant Cymru yn dod o ddangosyddion cenedlaethol, daw rhywfaint o'r data cyd-destunol o ystadegau swyddogol eraill neu ystadegau a thystiolaeth arall os oeddem o’r farn bod hynny’n berthnasol i'r naratif cyffredinol. Caiff y data na chafodd eu casglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol eu defnyddio yn adroddiad Llesiant Cymru ar gyfer cyd-destun, ond ni allwn bob amser roi sicrwydd ynghylch ansawdd y data. Gan fod y data ar gyfer y dangosyddion wedi ei gasglu o amryw o wahanol setiau data, bydd lefel yr wybodaeth am ansawdd sydd ar gael yn amrywio o achos i achos. Rydym wedi darparu dolenni at y ffynonellau gwreiddiol a’r wybodaeth ansawdd yn eu cylch os ydynt yn bodoli.

Pwy yw defnyddwyr yr adroddiad hwn?

Rhagwelir y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru; y Senedd (gan gynnwys Aelodau'r Senedd a'i phwyllgorau); y cyfryngau; a'r cyhoedd i (i) helpu i ddeall Llesiant Cymru (ii) y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn y 7 nod llesiant a (iii) lle mae Cymru'n gwneud cynnydd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Pan fydd y dangosyddion cenedlaethol a'r cerrig milltir wedi'u cyhoeddi, gallant helpu cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i gyfraith cenedlaethau'r dyfodol i ddeall yn well natur y newid a ddisgwylir wrth gyflawni'r nodau llesiant. Dylid ystyried y dangosyddion cenedlaethol fel tystiolaeth ddefnyddiol i helpu cyrff cyhoeddus i ddeall ym mha brif feysydd y dylid gwneud cynnydd mewn perthynas â'r nodau llesiant.

Bydd swyddogaeth benodol gan y dangosyddion cenedlaethol hefyd gan y bydd yn rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus Cymru gyfeirio atynt wrth ddadansoddi cyflwr economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd. Dylai'r adroddiad hefyd gael ei ddefnyddio gan gyrff cyhoeddus i ddatblygu ac adolygu asesiadau llesiant ac i osod ac adolygu’r amcanion llesiant sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Rhaid i'r adroddaid Llesiant Cymru blynyddol hefyd gael ei ystyried gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wrth baratoi a chyhoeddi 'Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol'.

Cyd-destun y DU

Ar gyfer y DU yn gyfan, mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Raglen Lesiant Genedlaethol. Mae'r dangosfwrdd llesiant, sy'n cael ei ddiweddaru ddwywaith yn flwyddyn, yn rhoi trosolwg gweledol o'r 43 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol a gellid ei chwilo yn ôl y 10 maes bywyd (parthau) neu yn ôl cyfeiriad y newid.  

Yn yr Alban, mae Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol yn gosod gweledigaeth ar gyfer llesiant cenedlaethol ac yn mesur yr hyn a gyflawnwyd mewn perthynas â hyn. Lansiwyd y Fframwaith newydd ym mis Mehefin 2018 yn dilyn proses adolygu agored, ac mae ganddo sail statudol (Deddf Grymuso’r Gymuned (yr Alban) 2015).

Mae'r Fframwaith diwygiedig yn amlinellu ei 11 o Ganlyniadau Cenedlaethol yn ôl yr 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy ac mae'n rhan bwysig o waith yr Alban o sicrhau bod gan agenda'r Nodau Datblygu Cynaliadwy naws fwy lleol. Adroddir ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cyflawni'r weledigaeth yn y Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol mewn ffordd agored a thryloyw ar wefan y Fframwaith drwy 81 o ddangosyddion cenedlaethol sy’n cwmpasu ystod eang o fesurau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Yn ogystal â dangos y perfformiad ar lefel genedlaethol, mae'n bosibl chwilio’r data yn ôl is-grwpiau demograffig a daearyddol i weld a yw canlyniadau'n cael eu gwireddu mewn gwahanol rannau o gymdeithas yn yr Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, y brif system ar gyfer asesu llesiant cymdeithasol yw fframwaith llesiant o 12 canlyniad a ddatblygwyd gan y Weithrediaeth flaenorol, a fu'n destun ymgynghoriad ac a fireiniwyd yn ystod 2016-2017. Mae'r fframwaith hwn, sy'n cynnwys 49 o ddangosyddion poblogaeth ategol, yn cynnwys Cynllun Cyflawni Canlyniadau Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon ac adroddir ar y cynnydd o ran y canlyniadau a'r dangosyddion ar hyn o bryd drwy Ddangosydd Canlyniadau.

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan yn y rhaglen Mesur Llesiant Cenedlaethol dan arweiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac yn cyhoeddi dadansoddiad llesiant ar sail mesurau llesiant y  SYG pan fo data ar gael ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Dolenni perthnasol eraill

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Tueddiadau’r Dyfodol

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Adolygiad cenedlaethol gwirfoddol y DU

Adolygiad cenedlaethol gwirfoddol y DU: Adroddiad atodol Cymru 2019

Manylion cyswllt

Ystadegydd:  Stephanie Howarth
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Tel: 0300 025 5050
Email: desg.ystadegau@llyw.cymru  

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 219/2020