Neidio i'r prif gynnwy

Y nod dros Gymru gydnerth

Awdur: Luned Jones

Cymru gydnerth: Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae llawer o’r dangosyddion cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at y nod hwn yn ddangosyddion hirdymor sy’n mesur newid graddol. Felly, caiff y dangosyddion hyn eu diweddaru o bryd i’w gilydd yn hytrach nag unwaith y flwyddyn. O’r dangosyddion cenedlaethol a ddiweddarwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

  • mae amcangyfrifon a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn awgrymu bod ôl troed byd-eang Cymru wedi parhau i leihau, sy’n golygu bod Cymru’n lleihau’n raddol arwynebedd y tir sydd ei angen i gynnal ei defnydd o adnoddau byd-eang
  • arhosodd crynodiadau cyfartalog o nitrogen deuocsid y mae pobl yn agored iddynt yn weddol sefydlog rhwng 2020 a 2021, a chynyddodd crynodiadau cyfartalog o ddeunydd gronynnol ychydig rhwng 2020 a 2021, ond gan aros yn is na chyn y pandemig COVID-19. Gall amrywiadau blynyddol fod oherwydd sawl ffactor gan gynnwys y tywydd
  • roedd faint o wastraff cartref a gynhyrchwyd, ond na chafodd ei ailgylchu fesul unigolyn, wedi gostwng ychydig, er ei fod yn dal yn debyg i’r gyfradd cyn y pandemig
  • roedd cyfanswm capasiti’r prosiectau ynni adnewyddadwy a osodwyd yn 2021 yn fwy na dwbl yr hyn a osodwyd yn 2020. Fodd bynnag, mae cyfradd osod 2021 yn dal yr ail isaf yn ystod y degawd diwethaf

Beth yw’r cynnydd hirdymor tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at nod Cymru gydnerth, ond mae rhywfaint o’r cynnydd hwn wedi arafu’n ddiweddar, ac mae angen rhagor o welliannau er mwyn cyrraedd y nod a’r cerrig milltir cenedlaethol. 

Fodd bynnag, mae dangosyddion eraill yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o rywogaethau a chynefinoedd sydd mewn perygl, sy’n agored i niwed, sy’n brin a/neu’n endemig mewn cyflwr da iawn, sy’n adlewyrchu’r darlun byd-eang o’r dirywiad mewn amrywiaeth fiolegol.

Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd ôl troed byd-eang yw y bydd Cymru ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd erbyn 2050. Mae amcangyfrifon diweddar a gynhyrchwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) a’r Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang (GFN) yn awgrymu bod yr ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean rhwng 2004 a 2018. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith yr amcangyfrif o’r biogapasiti yng Nghymru. Pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth. Mae dadansoddiad pellach o’r ôl troed byd-eang wedi’i gynnwys yn y bennod Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang.

Mae’r asesiad cynhwysfawr diweddaraf o adnoddau naturiol Cymru (SoNaRR 2020) yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan. Y garreg filltir genedlaethol ar fioamrywiaeth yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050. Roedd dangosydd arbrofol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros yr hirdymor ond ei fod yn sefydlog yn fwy diweddar.

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol. Ond, er bod cynnydd da wedi’i wneud o ran diogelu a gwella ein dyfroedd dros y degawdau diwethaf, mae llawer i’w wneud eto.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar bridd yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein pridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir cynefin lle gwelwyd colli carbon yn ddiweddar.

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl a byd natur.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o ran cynhyrchu gwastraff a gwelliannau sylweddol yng nghyfraddau ailgylchu gwastraff, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Mae capasiti trydan wedi ei osod o ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu ond ar gyfradd arafach na’r blynyddoedd diwethaf.

Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn darparu asesiad cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Bioamrywiaeth a chynefinoedd

Y garreg filltir genedlaethol ar fioamrywiaeth yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050.

Roedd dangosydd arbrofol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros y tymor hir ond ei fod yn sefydlog yn fwy diweddar. Er bod gwelliant wedi bod yn statws poblogaethau rhai rhywogaethau yng Nghymru, mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn dangos bod bioamrywiaeth yn dirywio ar y cyfan. Mae dadansoddiad pellach o’r pwnc hwn ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru 2021.

Yn ogystal â’r dangosydd cenedlaethol ar fioamrywiaeth, mae cynlluniau ar waith sy’n monitro rhywogaethau penodol. Mae Cynllun Monitro Glöynnod Byw y Deyrnas Unedig yn gynllun monitro hirdymor. Mae data ar gyfer 2022 yn dangos bod tueddiadau ar gyfer rhywogaethau glöynnod byw y Deyrnas Unedig yn amrywio, gyda thua traean o’r rhywogaethau a aseswyd yn y Deyrnas Unedig yn dangos gostyngiad hirdymor sylweddol mewn niferoedd (33%), o’i gymharu â 29% yn dangos cynnydd hirdymor sylweddol. Fodd bynnag, dros y degawd diwethaf mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau’n sefydlog, gyda 4 rhywogaeth (7%) yn dangos cynnydd sy'n arwyddocaol yn ystadegol a dim un rhywogaeth yn dangos dirywiad sylweddol. Yng Nghymru, o’r rhywogaethau sydd â digon o ddata i’w asesu, mae dirywiad hirdymor a byrdymor mewn sawl rhywogaeth. Mae wyth rhywogaeth yn dangos cynnydd hirdymor yng Nghymru.

Mae’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am ddirywiad hirdymor mewn niferoedd yn cynnwys newidiadau o ran graddfa, cyflwr a darnio cynefinoedd a ddaw yn sgil dwysau ffermio, newidiadau mewn arferion coedwigaeth, datblygiadau trefol, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Mae rhai gyrwyr, fel newid yn yr hinsawdd, yn debygol o gael effeithiau cymysg yn dibynnu ar y rhywogaethau.

Mae’r Arolwg Adar Bridio (BBS) yn bartneriaeth sy’n cael ei chyllido ar y cyd gan y BTO, yr RSPB a’r JNCC, a lansiwyd yn 1994, ac mae’n gynllun monitro gwyddoniaeth dinasyddion. Yn 2022, cofnodwyd cyfanswm o 231 o rywogaethau adar mewn 3,919 o sgwariau BBS a chyflwynwyd data ar dueddiadau hirdymor y Deyrnas Unedig (1995-2021) ar gyfer 117 o rywogaethau. Roedd 37 o rywogaethau wedi dangos cynnydd ystadegol arwyddocaol ac roedd 41 o rywogaethau wedi dirywio’n sylweddol. Mae cynnydd mewn poblogaethau yn cynnwys ymlediad cytrefwyr diweddar (gan gynnwys Gwyddau’r Aifft) a rhywogaethau anfrodorol. Adroddir ar dueddiadau BBS ar gyfer 60 o rywogaethau yng Nghymru, ac mae gan 19 o’r rhain gynnydd ystadegol arwyddocaol yn yr hirdymor (1995-2021) ac mae gan 18 o rywogaethau ddirywiad sylweddol yn yr hirdymor. Y prif bryder oedd y dirywiad hidymor o 61% ar gyfer yr ydfran rhwng 1995-2021 a gostyngiad o 50% yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen. Yn adroddiad Llesiant Cymru 2019, fe wnaethom adrodd bod 31% o’n tir yn cael ei ystyried yn lled-naturiol. Defnyddir y dangosydd cenedlaethol hwn i asesu cyfran ein tir sydd â chynefinoedd lled-naturiol, wedi eu haddasu llai gan mai’r rhain sydd fwyaf tebygol o ffurfio ecosystemau iach a chryf. Bydd dangosydd wedi ei ddiweddaru ar gael yn 2024.

Cafodd gwybodaeth ychwanegol o asesiadau cyflwr Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru ac asesiad sylfaenol y safleoedd gwarchodedig Daearol a Dŵr Croyw eu cynnwys yn adroddiad Llesiant Cymru 2022.

Bydd pridd sy’n cael ei reoli’n dda yn diogelu’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, yn cynnal cynefinoedd, yn helpu i reoli’r perygl o lifogydd ac yn lleihau costau trin dŵr. Mae’r dangosydd cenedlaethol ar bridd ar gyfer 2013-16 yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein pridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir cynefin lle gwelwyd colli carbon yn ddiweddar.

Dŵr a pherygl llifogydd

Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol.

Mae dŵr yn un o adnoddau naturiol Cymru rydym yn dibynnu arno’n gyson, gan gynnwys ar gyfer dŵr yfed, yr economi, diwydiant, trin carthffosiaeth ac amaethyddiaeth. Yn 2021-22 roedd Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi darparu tua 900 megalitr y dydd (Ml/d) o ddŵr yfed i ateb y galw, gyda mwy o alw yn ystod y cyfnodau prysuraf fel yn ystod tywydd sych a phoeth neu fannau poblogaidd ymysg twristiaid. Amcangyfrifir bod cyfanswm y dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat (heb fod ar y prif gyflenwad) yn 13.8 Ml/d.

Mae’r data diweddaraf ar statws dŵr wyneb a dŵr daear yn dangos bod 40% o 933 o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear mewn cyflwr da neu well yn 2021. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 3 pwynt canran o’r hyn a adroddwyd yn 2015 a gwelliant o 8 pwynt canran ers 2009. Disgwylir diweddariad pellach yn ystod hydref 2024.

Mae dyfroedd ymdrochi o ansawdd da yn bwysig iawn i gymunedau'r arfordir, ymwelwyr a’r economi yng Nghymru. Roedd ansawdd dŵr ymdrochi yn cael ei fonitro mewn 106 o safleoedd dynodedig ar hyd arfordir Cymru yn 2022. Roedd 105 o ddyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safonau a bennwyd gan y Rheoliadau Dŵr Ymdrochi. Dyfarnwyd bod 85 yn rhagorol, 16 wedi cyflawni sgôr dda a 4 wedi cyrraedd y safon sylfaenol, ddigonol. Methodd 1 dŵr ymdrochi â chyrraedd y safon, ac aseswyd ei fod o safon wael.

Ffigur 2.1: Ansawdd dŵr ymdrochi, canran y safleoedd dynodedig, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2.1: Siart cylch yn dangos ansawdd dŵr ymdrochi ar gyfer safleoedd dynodedig yng Nghymru yn 2022. Roedd 80% yn cael eu hystyried yn rhagorol, 15% yn dda, 4% yn ddigonol ac 1% yn wael.

Ffynhonnell: Adroddiad Ansawdd Dŵr Ymdrochi Cyfoeth Naturiol Cymru 2022

Mae’r asesiad risg llifogydd diweddaraf yn dangos bod rhai cartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd oherwydd moroedd, afonydd a dŵr wyneb, gyda rhai mewn perygl o lifogydd oherwydd mwy nag un math o lifogydd.

Yn 2019, roedd bron i 42,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd o afonydd a mwy na 60,000 o eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd llanw. Mae hyn yn cynnwys eiddo preswyl ac amhreswyl. O’r rhain, mae dros 20,000 yn elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd afonydd a thros 50,000 ar amddiffynfeydd rhag llifogydd llanw. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl ystyried tueddiadau dros amser oherwydd newidiadau yn y fethodoleg.

Ansawdd aer

Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar allyriadau nitrogen deuocsid (NO2) yn dangos bod y lefelau crynodiad cyfartalog y mae pobl yn agored iddynt wedi bod yn gostwng ar y cyfan dros y degawd diwethaf. Ar ôl cyfnod o sefydlogrwydd cymharol rhwng 2017 a 2019 (tua 9 µg/m3), gostyngodd y crynodiad cyfartalog i 7 µg/m3 yn 2020 a pharhau ar 7 µg/m3 yn 2021. Cynyddodd y crynodiadau cyfartalog o ddeunydd gronynnol (PM10 a PM2.5) y mae pobl yn agored iddynt ychydig rhwng 2020 a 2021 ond gan aros islaw’r lefel cyn y pandemig.

Ceir y crynodiadau uchaf o allyriadau nitrogen deuocsid mewn ardaloedd trefol a ger ffyrdd prysur, sy’n adlewyrchu cyfraniad traffig a gweithgareddau trefol at ansawdd aer gwael.

Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae 44 o ardaloedd rheoli ansawdd aer yng Nghymru. Dynodwyd un ohonynt oherwydd y risg i lefelau deunydd gronynnol PM10 fynd yn uwch na’r amcan ansawdd aer cymedrig dyddiol 24 awr ar gyfer PM10, a dynodwyd y gweddill lle bo lefelau NO2 yn uwch, neu â’r posibilrwydd o fod yn uwch, na'r amcanion ansawdd aer ar gyfer NO2.

Y llynedd, gan ddefnyddio data 2019, nododd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod y baich marwolaeth a briodolir i lygredd aer awyr agored hirdymor yn y DU yn 'effaith sy'n cyfateb i' rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau bob blwyddyn. Roedd hyn ymhlith oedolion 30 oed a throsodd. Mae'r amcangyfrif ar gyfer Cymru yn 'effaith sy'n cyfateb i' 1,200 i 2,000 o farwolaethau ymhlith y rhai 30 oed a throsodd. Mae'n bwysig nodi nad yw'r rhain yn wir farwolaethau; mae'r amcangyfrif yn ymwneud â llygredd aer sy'n cael ei ystyried yn cyfrannu at farwolaethau yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n dangos bod llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes i bawb.

Ffigur 2.2: Dangosyddion ansawdd aer, 2007 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 2.2: Siart linell yn dangos gwelliant cyffredinol mewn dangosyddion ansawdd aer dros y cyfnod 2007 i 2021. 

Ffynhonnell: Dangosyddion Allyriadau Ansawdd Aer 

Gwastraff ac Ailgylchu

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli gwastraff dros y degawd diwethaf drwy gynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, a lleihau faint sy’n cael ei waredu. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.

Roedd gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen, rhwng 2012 a 2019 (o 794kg i 523kg).  Mae swm y gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu wedi gostwng ar gyfer pob un o’r tair elfen yn y dangosydd cenedlaethol hwn:

  • Gwastraff cartrefi
  • Gwastraff diwydiannol a masnachol
  • Gwastraff adeiladu a dymchwel

Er bod y cydrannau diwydiannol a masnachol, a gwastraff adeiladu a dymchwel yn cael eu mesur o bryd i’w gilydd drwy arolygon, mae data mwy rheolaidd a chyfredol ar gael ar wastraff cartrefi.

Mae faint o wastraff cartref sy’n cael ei gynhyrchu, ond nad yw’n cael ei ailgylchu fesul unigolyn, wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, gyda rhywfaint o amrywiadau yn 2019-20 a 2020-21 – sy’n debygol o fod oherwydd COVID-19. Yn 2021-22, ar gyfartaledd ni chafodd 178kg o wastraff a gynhyrchwyd ei ailgylchu fesul unigolyn. 

Mae’r gyfradd ailgylchu (h.y. canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio) wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf – o tua 5% ar ddiwedd y 1990au i bron i ddwy ran o dair (65.2%) yn 2021-22.  Er bod y gyfradd ailgylchu wedi gostwng ychydig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd ychydig yn uwch na chyn pandemig COVID-19.

Ffigur 2.3: Canran gwastraff trefol awdurdodau lleol sy’n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, 2012-13 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 2.3: Siart llinell yn dangos bod canran y gwastraff trefol a gafodd ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio yng Nghymru wedi cynyddu’n gyffredinol o 52.3% yn 2012-13 i 65.2% yn 2021-22.

Ffynhonnell: Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol

Fel rhan o Arolwg Cenedlaethol 2022-23, gofynnwyd i bobl am ymddygiad amgylcheddol fel rhan o fywyd bob dydd. Roedd dros hanner (53%) o bobl yn prynu llai o eitemau newydd sbon, cynnydd o’r flwyddyn flaenorol (46%). Dywedodd 43% o bobl mai cost oedd y prif reswm pam eu bod wedi prynu llai o bethau newydd sbon o’i gymharu â 30% yn y flwyddyn flaenorol.

Mae’r mwyafrif helaeth o bobl (90%) naill ai wedi gwerthu neu roi eitemau i ffwrdd yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda menywod yn fwy tebygol o wneud hynny na dynion.  Mae 70% o bobl naill ai wedi derbyn neu brynu eitemau ail-law yn ystod y 12 mis diwethaf, cynnydd o 57% yn 2018-19. 

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Amcangyfrifir bod y defnydd o drydan yng Nghymru wedi cynyddu’n gyflymach na chynhyrchu trydan adnewyddadwy yng Nghymru yn 2021.  O ganlyniad, bu mymryn o ostyngiad yng nghanran gyfatebol y trydan a ddefnyddir yng Nghymru drwy gynhyrchu trydan adnewyddadwy o 56% yn 2020 i 55% yn 2021.

Roedd tua 28% o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy yn 2021, cyfran is nag yn 2020, ond ychydig yn uwch nag yn 2019. Mae’r gostyngiad blynyddol diweddar yn deillio o gynnydd yng nghyfanswm y trydan sy’n cael ei gynhyrchu o ganlyniad i orsafoedd pŵer nwy yng Nghymru yn cynyddu eu hallbwn yn ôl i lefelau cynhyrchu cyn COVID-19.

Mae’r rhan fwyaf (dros dri chwarter) o gapasiti ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cynhyrchu trydan adnewyddadwy, ac mae’r chwarter arall yn cynhyrchu gwres adnewyddadwy.

Mae capasiti prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru (trydan a gwres) wedi cynyddu’n sylweddol dros ynni adnewyddadwy degawd diwethaf, er bod y cynnydd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ddiwedd 2021, roedd y capasiti trydanol a osodwyd ar gyfer ynni adnewyddadwy yn 3,508 megawat (MW), ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a mwy na dwywaith y capasiti yn 2012. Ddiwedd 2021, cyfanswm capasiti gwres adnewyddadwy yng Nghymru oedd 742 MW, ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a bron i dair gwaith ar ddeg yn fwy na’r capasiti gwres yn 2012. Fodd bynnag, mae’r gyfradd osod yn 2021 yn parhau i fod yr ail isaf yn ystod y degawd diwethaf ac mae bron i 90% yn is nag uchafbwynt 2015, pan gafodd mwy nag 1 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy ei osod.

Mae Cymru’n parhau i fod yn allforiwr net o drydan, gan gynhyrchu bron i ddwywaith cymaint o drydan ag y mae’n ei ddefnyddio bob blwyddyn.

Ffigur 2.4: Y gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, 2012 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 2.4: Siart llinell yn dangos cynnydd sylweddol cyffredinol yn y capasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru rhwng 2012 a 2021.

Ffynhonnell: Adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru

Y garreg filltir genedlaethol ar berfformiad ynni anheddau yw y bydd pob cartref yng Nghymru yn cael perfformiad ynni digonol a chost-effeithiol erbyn 2050.  Yn ôl Arolwg Cyflwr Tai Cymru, 2017-18, ystyriwyd bod gan 47% o anheddau preswyl berfformiad ynni digonol (sgôr SAP o 65 neu uwch).

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd tri chwarter y bobl yn defnyddio llai o ynni yn eu cartrefi, cynnydd o 62% y flwyddyn flaenorol. O’r rhain, cost oedd y rheswm a roddwyd gan y rhan fwyaf o bobl (84%). 

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o:

  • llifogydd
  • cynefinoedd lled-naturiol
  • bioamrywiaeth
  • mannau gwyrdd
  • ansawdd pridd
  • effeithlonrwydd ynni cartrefi

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn darparu asesiad cynhwysfawr o’r graddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data ar safbwyntiau pobl ar faterion amgylcheddol.

Adroddiad ar dystiolaeth Natur Bositif 2030 - a gynhyrchwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot a’r Northern Ireland Environment Agency.

Cyfoeth Naturiol Cymru – Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru

Ffynonellau data