Neidio i'r prif gynnwy

Y nod i Gymru lewyrchus

Awduron: Jonathan Price a Sue Leake

Cymru lewyrchus: Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, garbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae canlyniadau’r rhyfel yn Wcráin, sy’n gwaethygu’r heriau sy’n deillio o’r pandemig, wedi dominyddu ffactorau eraill sy’n effeithio ar ganlyniadau economaidd, gan gynnwys y trawsnewid i berthynas fasnachu newydd â’r Undeb Ewropeaidd. Yr argyfwng costau byw, a’i effaith andwyol ar safonau byw, wrth gwrs yw’r mwyaf amlwg o’r canlyniadau hynny.

Mae Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, wedi wynebu argyfwng costau byw: mae chwyddiant wedi codi’n sylweddol gan gyrraedd ei lefel uchaf sef 11.1% ym mis Hydref 2022, gan arwain at ostyngiadau yn incwm gwirioneddol pobl. Gan fod y cynnydd mewn prisiau wedi bod fwyaf amlwg ym mhrisiau ynni a bwyd, pobl ar incwm isel sydd wedi teimlo effaith hyn fwyaf gan eu bod yn gwario cyfran uwch o’u cyllideb ar y nwyddau hyn, er gwaethaf y mesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae ystadegau arbrofol y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos bod grwpiau incwm is wedi profi cyfraddau chwyddiant uwch na’r cyfartaledd yn ddiweddar.

Mae cynnydd mewn cyfraddau llog hefyd yn cael effaith andwyol ar fenthycwyr, ac yn enwedig y rhai sydd â morgais. Mae llawer o’r dangosyddion cenedlaethol sydd yn y bennod hon yn ymwneud â blynyddoedd cynharach ac nid ydynt eto’n adlewyrchu effeithiau mwy diweddar y ffactorau hyn.

Mae data diweddar ar gyfer Prydain Fawr wedi dangos bod cyflogau gwirioneddol wedi disgyn, er bod y gostyngiad wedi ei wrthdroi yn y data diweddaraf o wanwyn 2023.

Rhwng 2019-20 a 2021-22, roedd 21% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai).

Mae perfformiad economaidd sylfaenol Cymru yn parhau i fod yn wannach na’r Deyrnas Unedig drwyddi draw o ran cynnyrch economaidd (gwerth ychwanegol gros) ac incwm aelwydydd (incwm gwario gros aelwydydd ac incwm canolrifol aelwydydd), ond mae’n eithaf tebyg i rai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig sydd â nodweddion a phriodweddau tebyg.

Mae data’r farchnad lafur a geir o arolygon yn gallu bod yn anwadal dros y tymor byr ac mae’n bwysig peidio â gor-ddehongli’r newidiadau a adroddwyd yn ddiweddar. I gael darlun mwy cyflawn o ddata’r farchnad lafur dylid ystyried data o’r Arolwg o’r Llafurlu a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yng Nghymru ochr yn ochr â ffynonellau eraill, gan gynnwys data gweinyddol. Gyda’r rhybudd hwn, mae data’r farchnad lafur yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio ar berfformiad economaidd Cymru mewn ffordd sy’n debyg yn fras i’r Deyrnas Unedig (ac eithrio Llundain).

Roedd gostyngiad bach yn y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, ac roedd cyfradd y Deyrnas Unedig wedi codi rhywfaint. Roedd anweithgarwch economaidd wedi codi yn ystod 2022 a dechrau 2023 gydag anweithgarwch oherwydd salwch yn cyrraedd lefelau hanesyddol uchel.

Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021, yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur sy’n cael ei sbarduno gan gynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. Mae’n rhy gynnar i asesu effaith lawn y pandemig ar y duedd hon.

Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol newydd ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021. Roedd 52% o weithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2022, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae hyn ychydig yn llai na’r blynyddoedd diwethaf.

Ym mis Ebrill 2022, 6.1% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (llawn amser), gan gynyddu o 4.4% y flwyddyn flaenorol.  Roedd y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd yn 9.7%, sy’n golygu bod gweithwyr anabl yng Nghymru yn ennill £1.32 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn wedi lleihau £0.13 (1.7 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Yn 2022 roedd y gwahaniaeth ar sail ethnigrwydd yn £2.23 yr awr (neu 16.8%), sy’n golygu bod gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn ennill £2.23 yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn. Mae’r gwahaniaeth cyflog wedi ehangu £1.38 (9.9 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae data ar deithio a siwrneiau yn dangos bod lefel y traffig wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn pandemig COVID-19, er bod siwrneiau bws yn dal yn is o lawer nag yr oeddent. Mae’r mwyafrif helaeth (82%) o drigolion Cymru yn teithio i’r gwaith mewn car, tra bo’r rhan fwyaf o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed naill ai’n cerdded i’r ysgol neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (68%).

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser, hyd at 2021. Ni ellir cymharu’r amcangyfrifon ar gyfer 2022 â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau yn y data ffynhonnell.

Beth yw’r cynnydd tymor hirach at y nod?

Cymysg fu’r cynnydd at y nod, gyda gwelliannau ym mherfformiad cyffredinol y farchnad lafur o’i gymharu â’r cyfnod cyn datganoli ond llai o gynnydd wrth fynd i’r afael â thlodi, cynhyrchiant a chyflogau isel, a lefelau incwm isel. Mae cynnydd wedi ei wneud o ran datgarboneiddio, ond bydd angen newid yn gyflymach yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau.

Mae’r rhyfel yn Wcráin, yn dilyn y pandemig, a’r argyfwng costau byw cysylltiedig, wedi cael effaith amlwg ar y data diweddaraf, ac nid yw’r goblygiadau ar gyfer tueddiadau hirdymor yn glir. Am y rheswm hwn, mae llawer o’r casgliadau canlynol yn cael eu llunio ar sail tystiolaeth cyn y pandemig neu ddata diweddar nad yw’n gwbl gydnaws â data a gasglwyd cyn y pandemig.

Fel sy’n wir ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf cynhyrchiant gwan.  Er bod arafu twf cynhyrchiant wedi effeithio ar y rhan fwyaf o wledydd datblygedig dros y cyfnod hwn, mae’r Deyrnas Unedig ymhlith y rhai sydd wedi gweld yr effaith fwyaf.

Mae’r canlyniadau niweidiol hyn yn y blynyddoedd diweddaraf yn dilyn y cyfnod hir o fwy na phymtheg mlynedd – na welwyd ei debyg o’r blaen mewn hanes modern – o dwf araf iawn mewn cyflogau gwirioneddol ac incwm ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru.

Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae esblygiad yr argyfwng costau byw yn ansicr iawn, gan ddibynnu’n drwm ar y cyd-destun yn fyd-eang, yn cynnwys datblygiadau’r gwrthdaro yn Wcráin.  Ar ben hynny, gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi rhagor o fesurau ar waith sy’n lliniaru rhai o’r effeithiau.

Mae gwaith ymchwil a dadansoddi diweddar, gan gynnwys gan Fanc Lloegr, wedi dangos bod modd gweld effeithiau negyddol ar weithgarwch economaidd yn sgil y newid i gysylltiadau masnachu newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd yn barod, er mai dros amser y daw llawer o’r canlyniadau yn amlwg.   

Dros yr hirdymor, ers 1998, mae Cymru wedi cadw i fyny’n fras â’r Deyrnas Unedig drwyddi draw, ond mae ei pherfformiad economaidd yn dal yn wan o’i gymharu â pherfformiad llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. 

Er bod perfformiad Cymru o ran cyflogau a chynhyrchiant yn dal yn llai cadarnhaol na pherfformiad y farchnad lafur, mae data’n dangos gwelliannau cymedrol yng nghynhyrchiant cymharol Cymru dros y degawd diwethaf, gan wrthdroi’r dirywiad cyn dirwasgiad 2008.

Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 17 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol.

Mae’n rhy gynnar i asesu effeithiau’r pandemig ar bobl ifanc, er bod tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt. Ceir tystiolaeth yn benodol fod yr amhariad ar addysg wedi effeithio ar bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, a bod effeithiau parhaol ar bresenoldeb ysgol. Gan ddibynnu ar effeithiolrwydd y mesurau lliniaru sydd ar waith, gallai’r effeithiau niweidiol ddylanwadu ar y farchnad lafur dros y blynyddoedd neu hyd yn oed y degawdau nesaf. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na’r gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, gyda gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd a chyda’r bwlch lleiaf pan asesir ar gyfer y cartref canolrifol.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyflogaeth (sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Mae’r bylchau hanesyddol mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi lleihau ers y cyfnod datganoli, gyda Chymru’n perfformio’n well na rhai rhanbarthau yn Lloegr dros y tymor canolig. Mae hyn yn newid sylweddol o’r cyfnod cyn datganoli yn yr 1980au a’r 1990au.

Mae gan Gymru fwy o bobl mewn gwaith ar gyflogau isel na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.  Yn ogystal, mae’r dystiolaeth ar agweddau eraill ar ansawdd gwaith yn awgrymu darlun cymysg yng Nghymru.

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser, gyda data hyd at 2021 yn dangos gwelliant yng nghyfran y bobl sy’n gymwys ar lefelau uwch, ond roedd cynnydd hefyd yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau. Fodd bynnag, nid oes modd cymharu’r ystadegau ar gyfer 2022 â’r blynyddoedd blaenorol.

Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2022, roedd 66.8% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i drothwy lefel 3. Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2022, roedd gan dri o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau.

Cynyddodd cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd yn y blynyddoedd cyn y pandemig. Amharwyd ar arholiadau cyhoeddus yn 2020 a 2021 oherwydd pandemig COVID-19. Mae data ar gyfer blwyddyn ysgol 2021/22, a oedd yn flwyddyn bontio lle roedd disgyblion yn sefyll arholiadau ysgrifenedig gyda rhai addasiadau, yn dangos rhywfaint o welliant parhaus o’i gymharu â blynyddoedd cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae canlyniadau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal i fod yn waeth.

Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd a datblygu economi arloesol, garbon isel yn gymhleth ac yn arwain at heriau, ond mae arwyddion cadarnhaol mewn rhai sectorau.

Ers dirwasgiad 2008, mae buddsoddi yn arloesedd cwmnïau yng Nghymru wedi amrywio. Cofnodwyd bod pethau wedi gwella rhywfaint cyn y pandemig o ran bod busnesau’n arloesi.

Mae teithio’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon, ond nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio.

Mae’n ymddangos bod y pandemig wedi cyflymu’r duedd i ymgymryd â gweithgarwch economaidd o bell, gan gynnwys gweithio gartref. Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2022 roedd 25% o bobl gyflogedig yn gwneud rhan o’u gwaith, neu’r cyfan, gartref neu mewn lleoliad arall o bell.

Mae’n bosibl y bydd mwy o weithio gartref a manwerthu ar y rhyngrwyd yn cynyddu’r heriau sy’n wynebu rhai canolfannau trefol, ac efallai y bydd goblygiadau i’r farchnad dai. Mae tystiolaeth o’r Deyrnas Unedig gyfan yn dangos y gallai’r cyfleoedd ychwanegol i weithio gartref fod wedi annog mwy o fenywod i gymryd rhan yn y farchnad lafur.

Mae data Prydain Fawr yn dangos bod lefelau traffig a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi codi’n ôl ers y pandemig ond heb gyrraedd y lefelau cyn y pandemig eto, gydag effaith benodol ar ddefnyddio bysiau.

Perfformiad economaidd

Fel sy’n wir ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf gwael mewn cynhyrchiant.   Mae twf cynhyrchiant hefyd wedi bod yn wan dros y cyfnod hwn yn y rhan fwyaf o wledydd datblygedig eraill, ond mae’r Deyrnas Unedig wedi bod yn arbennig o wael. Mae’r cyfnod hir o dwf araf mewn cynhyrchiant ac incwm gwirioneddol yn ddigynsail yn y cyfnod modern.

Mae’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol agos hefyd yn ymddangos yn wael, gyda chwyddiant uchel yn lleihau incwm gwirioneddol a rhagolygon o arafu economaidd.

Dros yr hirdymor, ers 1998, a chymryd dangosyddion economaidd gyda’i gilydd mae Cymru wedi cadw’n weddol gyson â’r Deyrnas Unedig. Er bod y perfformiad economaidd yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae data cynhyrchiant dros y degawd diwethaf yn rhoi awgrym o obaith. Fodd bynnag, mae’r bwlch gyda’r Deyrnas Unedig gyfan yn dal yn fawr, ac nid yw’r Deyrnas Unedig ei hun yn perfformio’n gryf o’i chymharu â lefelau cynhyrchiant yn rhyngwladol.

Mae gwerth ychwanegol gros (GVA) yn cynrychioli gwerth yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal. Dyma ffynhonnell yr incwm gwirioneddol y mae pobl yn ei ennill a’r sylfaen y gellir codi trethi arni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Er bod gwerth ychwanegol gros y pen poblogaeth Cymru wedi tyfu’n weddol debyg i’r gyfradd ledled y Deyrnas Unedig ers 1998, mae’n dal yn is na bron pob un o wledydd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig.

Mae’r data diweddaraf (ar gyfer 2021) yn dangos mai gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru oedd 74.1% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig, yr ail isaf o blith 12 gwlad y Deyrnas Unedig a rhanbarthau Lloegr, o flaen Gogledd-ddwyrain Lloegr.

Ar hyn o bryd nid yw data economaidd yn caniatáu llunio asesiad diffiniol o berfformiad economaidd cymharol Cymru yn ystod y pandemig a’r argyfwng costau byw. Yn gyffredinol, mae graddfa gymharol effaith y ddau ddigwyddiad yn edrych yn debyg yng Nghymru i’r Deyrnas Unedig drwyddi draw.

Mae perfformiad Cymru o ran gwerth ychwanegol gros y pen yn bennaf yn adlewyrchu’r lefelau cynhyrchiant cymharol isel. Mae cynhyrchiant, wedi ei fesur fel gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir, yn parhau i fod yn is yng Nghymru nag ym mhob rhan arall bron o'r Deyrnas Unedig. Yn 2021, roedd yn 84.1% o ffigur y Deyrnas Unedig, sy’n gynnydd o 0.7 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae data dros y degawd diwethaf yn cadarnhau gwelliannau cymedrol mewn cynhyrchiant cymharol (gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir), gan efallai wrthdroi tuedd o ddirywiad cyn y dirwasgiad.

Ffigur 1.1: Gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir yng Nghymru, gan gymharu â’r Deyrnas Unedig,1998 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.1: Siart linell sy’n dangos bod gwerth ychwanegol gros (gwerth ychwanegol gros) yr awr a weithir yng Nghymru o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig (mynegai prisiau cyfredol y Deyrnas Unedig = 100) wedi bod yn sefydlog ers 1998, gyda chynhyrchiant Cymru yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o gynhyrchiant llafur Rhanbarthol, y Deyrnas Unedig, 1998 i 2021, y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

Arloesi mewn busnesau

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf o arolwg arloesi’r Deyrnas Unedig, am gyfnod cyn y pandemig (2018-2020), yn dangos bod 44% o fusnesau Cymru yn arloesi. Mae hyn yn golygu eu bod yn gwneud gweithgareddau fel cyflwyno cynnyrch, gwasanaethau, prosesau neu arferion neu strwythurau busnes newydd neu well; neu’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu neu hyfforddiant. 

Ers dirwasgiad 2008, mae buddsoddiad mewn arloesedd busnes wedi amrywio. Mae’r cyfnod diweddaraf (2018-2020) yn dangos bod pethau wedi gwella o 34% o fusnesau Cymru yn arloesi yn 2016-18; ac mae’n cynrychioli’r wythfed gyfran uchaf o gwmnïau arloesol yn 12 gwlad a rhanbarth y Deyrnas Unedig. Nid yw data o gyfnod y pandemig ar gael eto.

Mae’r gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn dal yn gymharol isel o’i gymharu â llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Incwm aelwydydd

Mae incwm aelwydydd yn ddangosydd gwell o ffyniant a llesiant materol pobl na gwerth ychwanegol gros. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na gwerth ychwanegol gros y pen, ond mae gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd, gyda’r bwlch lleiaf wrth ystyried yr incwm canolrifol. Dim ond hyd at 2021 y mae data ar gyfer incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) ar gael ar hyn o bryd, felly mae’r adran hon yn canolbwyntio ar dueddiadau hirdymor.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar incwm yn defnyddio mesur incwm gwario gros aelwydydd. O ran y mesur hwn, mae Cymru, yn ôl y data diweddaraf (2021), ar 83% o ffigur y Deyrnas Unedig, ar ôl gostwng o 88% pan oedd y ffigur uchaf yn 2003. Mae’r gostyngiad cymharol hwn wedi ei ysgogi’n rhannol gan gynnydd mawr yn incwm aelwydydd yn Llundain, sydd wedi helpu i godi cyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Er mai dim ond dau o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig sydd ag incwm gwario gros aelwydydd y pen is na Chymru, mae’n cymharu’n fras ag ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â nodweddion tebyg.

Ffigur 1.2: Incwm gwario gros aelwydydd y pen, Cymru a’r Deyrnas Unedig,1999 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.2: Siart linell yn dangos bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) y pen wedi cynyddu’n gyffredinol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ers 1999, gyda’r gwerth i Gymru yn parhau’n is na’r Deyrnas Unedig ar draws y cyfnod amser.

Ffynhonnell: Incwm Gwario Gros Aelwydydd Rhanbarthol, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Sylwch fod cymariaethau rhwng 2020 a 2021 ar gyfer amcangyfrifon GDHI y pen yn cael eu nodi fel rhai annibynadwy oherwydd diffyg parhad yn y data poblogaeth ar gyfer rhai ardaloedd, a achosir gan wahaniaethau yn amseriad diweddariadau’r cyfrifiadau. 

Y farchnad lafur

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae newidiadau yn y farchnad lafur yng Nghymru wedi adlewyrchu’r broses adfer sy’n digwydd yn dilyn effeithiau’r pandemig. Wrth edrych dros y tymor canolig, mae perfformiad y farchnad lafur yng Nghymru wedi gwella o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig (wrth edrych ar y sefyllfa cyn datganoli).

Er mai’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) yw’r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, mae data’r arolwg hwn wedi bod yn arbennig o gyfnewidiol, sy’n golygu ei bod yn anodd dod i gasgliadau am dueddiadau eang. Mae sampl mwy’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth, a dyma’r ffynhonnell ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol cysylltiedig. Gan fod y rhan fwyaf o ddata’r farchnad lafur yn seiliedig ar arolwg ac yn anwadal, ni ddylid gor-ddehongli newidiadau tymor byr. Y garreg filltir genedlaethol ar gyflogaeth (sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 73.0% yn y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023, tra bo cyfradd y Deyrnas Unedig yn 75.4%. Ers 2001, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu 5.9 pwynt canran yng Nghymru a 3.1 pwynt canran yn y Deyrnas Unedig.

Mae COVID-19 wedi cael effeithiau niweidiol ar y farchnad lafur, ac mae hynny wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau a oedd eisoes o dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys pobl mewn swyddi sy’n talu’n wael, mewn swyddi llai diogel, pobl ifanc, pobl sy’n cyrraedd diwedd eu bywyd gwaith, a phobl mewn grwpiau amrywiol a oedd eisoes yn profi anghydraddoldebau yn y farchnad lafur. Fodd bynnag, mae llawer o’r effeithiau niweidiol wedi cael eu lleihau neu eu gwrthdroi wedyn. Mae dadansoddiad pellach o’r effaith ar anghydraddoldebau ar gael yn y bennod Cymru sy'n Fwy Cyfartal.

Mae data o ffynonellau gweinyddol mwy amserol yn dangos bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn trywydd y Deyrnas Unedig yn gyffredinol (ac eithrio Llundain). Mae data o wybodaeth amser real y cynllun Talu Wrth Ennill yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu’n gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig ac yna wedi gwella. Mae’r data diweddaraf yn dangos, ers dechrau 2020 (cyn y pandemig), bod nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu mwy yng Nghymru nag yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw. Nid yw’r set ddata hon yn cynnwys y rhai sy’n hunangyflogedig, ond mae’n rhoi darlun sy’n cyferbynnu â’r un a gafodd ei greu gan ddata diweddaraf yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth a’r arolwg o’r llafurlu.

Ffigur 1.3: Cyfradd cyflogaeth pobl rhwng 16 a 64 oed, y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2005 i fis Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.3: Siart linell sy’n dangos bod y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed wedi cynyddu’n gyffredinol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2011 yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Dros y tair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig COVID-19), mae’r gyfradd wedi bod yn fwy anwadal yn y naill a’r llall. Mae cyfradd y Deyrnas Unedig wedi aros yn uwch na chyfradd Cymru ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005.

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ffigur 1.4: Cyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl 16 i 64 oed, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005 i fis Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.4: Siart linell sy’n dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) wedi gostwng yn raddol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005 yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, dros y tair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig COVID-19), mae’r gyfradd wedi cynyddu ar gyfer y ddwy ardal. Mae’r gyfradd yng Nghymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y Deyrnas Unedig, gyda maint y bwlch yn amrywio dros amser.

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur

Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Mae’r amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021 yn dangos bod 84.5% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, gan ddisgyn o 85.4% yn 2020. Roedd y gostyngiad yn bennaf oherwydd cynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. Bydd data ar gyfer blynyddoedd diweddarach, pan fyddant ar gael, yn rhoi syniad o effaith hirdymor y pandemig ar y duedd hon. 

Gan ddefnyddio’r prif fesur o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, bu gostyngiadau yn y grwpiau oedran 16 i 18 a 19 i 24 rhwng 2019 a 2021, gyda’r gostyngiad cyffredinol ar gyfer y rhai 16 i 18 (1.9 pwynt canran) yn fwy na’r gostyngiad cyffredinol ar gyfer y rhai 19 i 24 oed (0.2 pwynt canran). Ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, roedd hyn yn dilyn cyfnod lle’r oedd y gyfran wedi aros yn sefydlog ar oddeutu 89 i 90% rhwng 2012 a 2018.

Roedd y grŵp oedran 19 i 24 yn teimlo effaith dirwasgiad 2008 yn fwy amlwg. Fodd bynnag, rhwng 2012 a 2017, cynyddodd y gyfran mewn addysg neu’r farchnad lafur yn raddol ar gyfer y grŵp oedran hwn. Ar ddiwedd 2021, roedd y gyfradd yn 83.7%, bron i 7 pwynt canran yn uwch nag yn 2012.

Mae ffigurau mwy diweddar am bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gael o ffynhonnell eilaidd, llai cadarn. Mae’r rhain yn awgrymu cynnydd mewn cyfranogiad yn 2022, yn enwedig ar gyfer y grŵp oedran 16 i 18.

Ffigur 1.5: Canran y bobl ifanc yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, 2004 i 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.5: Siart linell sy’n dangos bod canran y bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi aros yn gymharol gyson ers 2004, tra bod canran y rhai rhwng 19 a 24 oed wedi disgyn yn is na 80% rhwng 2009 a 2014. Ers hynny mae wedi gwella i 84% yn 2021.

Ffynhonnell: Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

Gwaith Teg ac Enillion

Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021, ar sail data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE). Roedd tua 52% o swyddi gweithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2022, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae hyn yn is na blynyddoedd blaenorol, ond yn uwch o lawer nag ar gyfer y mwyafrif o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhanbarthau Lloegr, ac mae’n adlewyrchu’r gyfran gymharol uwch o weithwyr yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus ac ym maes gweithgynhyrchu.

Cafodd un o’r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer gwaith teg ac enillion ei ddiwygio ym mis Rhagfyr 2021 ac mae bellach yn ystyried canran y bobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol. Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo gan y Living Wage Foundation sy'n pennu’r fethodoleg. Ei nod yw adlewyrchu costau byw.

Yn 2022, roedd 68% o’r bobl hynny sy'n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, ychydig yn llai yn 2020 a 2021, ond yn uwch na rhwng 2015 a 2019. Mae hyn yn seiliedig ar y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer 2022-23 fel y’i cyhoeddwyd ym mis Medi 2022.

Ffigur 1.6: Canran y bobl sy’n cael eu cyflogi, ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, 2012 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.6: Siart far sy’n dangos bod nifer y bobl mewn cyflogaeth sy’n ennill y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru wedi amrywio rhwng 65% a 70% dros y deng mlynedd diwethaf, gyda 68% yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol yn 2022.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Mae data o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod canran y bobl sy’n fodlon ar eu swydd yr un fath fwy neu lai, sef 83% yn 2022-23. Mae bodlonrwydd mewn swydd yn tueddu i gynyddu gydag oedran.

Mae carreg filltir genedlaethol wedi cael ei gosod er mwyn dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Dros yr hirdymor, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (ar sail llawn amser canolrifol fesul awr ac eithrio goramser) wedi lleihau. Ym mis Ebrill 2022, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (llawn amser) 6.1%, i fyny o 4.4% yn y flwyddyn flaenorol. Ehangodd y bwlch yn y Deyrnas Unedig i 8.3%.

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer yr holl weithwyr yn parhau i fod yn llawer iawn uwch, sef 11.4%. Mae hyn oherwydd bod menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser sydd, o’u cymharu â swyddi llawn amser, â thâl canolrifol is yr awr.

Nid yw’r bylchau hyn yn ystyried gwahaniaethau mewn lefelau addysg a phrofiad, sy’n amrywio ar draws y rhywiau ac yn effeithio ar lefelau enillion.

Ffigur 1.7: Canran y gwahaniaeth rhwng enillion canolrifol llawn amser yr awr rhwng dynion a menywod, 1999 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.7: Siart linell yn dangos bod y gwahaniaeth mewn enillion canolrifol llawn amser yr awr rhwng dynion a menywod wedi gostwng dros yr 20 mlynedd diwethaf ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi bod yn llai na’r Deyrnas Unedig ers 2013.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

[Nodyn 1] Mae gwahaniaeth cyflog sy’n fwy na sero yn golygu bod enillion dynion yn uwch nag enillion menywod.

Yn 2022, y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd yng Nghymru oedd £1.32 yr awr (neu 9.7%). Mae hyn yn golygu bod gweithwyr anabl yng Nghymru yn ennill £1.32 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae’r gwahaniaeth cyflog wedi lleihau £0.13 (1.7 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2019, mae’r gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd wedi gweld gostyngiad cyffredinol o £0.44 (5.4 pwynt canran).

Yn 2022, y gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru oedd £2.23 yr awr (neu 16.8%). Mae hyn yn golygu bod gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn ennill £2.23 yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn. Mae’r gwahaniaeth cyflog wedi cynyddu £1.38 (9.9 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sydd wedi cael ei achosi gan ostyngiad o £0.44 yn yr enillion cyfartalog fesul awr ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ogystal â chynnydd o £0.94 mewn enillion cyfartalog fesul awr ar gyfer gweithwyr Gwyn.

Mae’n werth nodi, oherwydd bod y data ar gyfer y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru yn anwadal iawn, y dylid ystyried newidiadau tymor byr ochr yn ochr â thueddiadau hirdymor lle bo hynny’n bosibl. Ers 2019, mae’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd wedi gweld cynnydd cyffredinol lle mae enillion cyfartalog fesul awr gweithwyr Gwyn wedi cynyddu’n raddol ac mae’r enillion cyfartalog fesul awr ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi aros yn gymharol sefydlog.

Tlodi ac amddifadedd

Y llynedd, ni chyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau yr ystod arferol o ddata tlodi ac amddifadedd materol oherwydd problemau ansawdd data gyda data 2020-21, o ganlyniad i bandemig COVID-19. Ar gyfer data 2021-22, er bod rhywfaint o effaith o hyd ar ansawdd oherwydd y ddibyniaeth barhaus ar gyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na chyfweliadau wyneb yn wyneb, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi asesu bod ansawdd y data yn fwy cadarn.

Dosbarthiad incwm aelwydydd

Mae ffigurau blwyddyn ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yn dangos cynnydd mewn incwm canolrifol aelwydydd mewn termau real rhwng 2020-21 a 2021-22. Roedd y cynnydd yn 0.5% cyn costau tai (BHC) ac yn 1.6% ar ôl costau tai (AHC). Roedd y twf yn incwm aelwydydd y Deyrnas Unedig yn amrywio ar draws y dosbarthiad incwm:

  • roedd incwm aelwydydd unigolion yn chwarter isaf y dosbarthiad incwm yn dangos gostyngiadau mewn termau real
  • roedd y rhai rhwng y 25fed a’r 75fed canradd wedi cofnodi cynnydd mewn incwm gwirioneddol
  • roedd y darlun yn fwy cymysg ar gyfer y cwintel incwm uchaf

Tlodi incwm cymharol

Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rhai sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif).

Ar gyfer rhanbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig, mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd eleni ar gyfer y cyfnod rhwng 2019-20 a 2021-22. Nid yw’r amcangyfrifon yn cynnwys data arolwg 2020-21 yn y cyfrifiadau, gan y bernir bod y data ar gyfer y flwyddyn honno o ansawdd rhy isel, fel y nodwyd uchod.

Rhwng 2019-20 a 2021-22, roedd 21% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai).

Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 17 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol. Er bod cyfraddau’r bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru wedi gostwng yn y cyfnod diweddaraf ar draws y grwpiau oedran, nid oedd yr un o’r newidiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Ffigur 1.8: Canran o bob grŵp oedran yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair blynedd ariannol

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.8: Siart linell yn dangos pobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai) o 1998 ymlaen. Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 17 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn seiliedig ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu

[Nodyn 1] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020-21 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020-21 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y ddau gyfnod diweddaraf a ddangosir, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl tair blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl dwy flynedd sy’n hepgor data arolwg 2020-21. Mae amcangyfrifon 2020-21 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig COVID-19, pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.

Amddifadedd materol

Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw, a diffinnir bod rhywun yn byw mewn amddifadedd materol os nad yw’n gallu cael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Aelwydydd incwm isel yw’r rhai mae cyfanswm incwm yr aelwyd yn llai na 70% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig, cyn talu costau tai.

Roedd parhau â chyfyngiadau pandemig COVID-19 yn 2021-22 wedi effeithio ar fesur amddifadedd materol, fel y gwnaeth yn 2020-21. Roedd y cyfyngiadau a oedd ar waith yn effeithio ar fynediad pobl at rai cyfleoedd neu wasanaethau cymdeithasol, waeth beth fo’r amddifadedd neu’r cyfyngiadau ariannol. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu ystadegau ar gyfer y ddwy flynedd yn uniongyrchol â’r cyfnod cyn y pandemig.

Ffigur 1.9:  Canran y bobl mewn amddifadedd materol (ar gyfer pensiynwyr) ac incwm isel cymharol cyfun (ar gyfer plant ac oedolion o oedran gweithio) yng Nghymru, y blynyddoedd ariannol 2010-11 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.9: Graff llinell yn dangos bod cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwydydd incwm isel a oedd mewn amddifadedd materol a phensiynwyr a oedd mewn amddifadedd materol ill dau wedi gostwng cyn y pandemig. Mae’r duedd ar gyfer plant sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel a oedd mewn amddifadedd materol wedi amrywio llawer mwy.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn seiliedig ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu

[Nodyn 1] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020-21 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020-21 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y ddau bwynt data newydd, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl tair blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl dwy flynedd sy’n hepgor data arolwg 2020-21. Mae amcangyfrifon 2020-21 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig COVID-19, pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.

[Nodyn 2] Ar gyfer 2021-22, nid oes modd cymharu amcangyfrifon o amddifadedd materol yn gwbl deg â’r cyfnod cyn y pandemig. Effeithiwyd ar nifer o’r cwestiynau a ofynnwyd fel rhan o’r mesur amddifadedd materol gan gyfyngiadau cysylltiedig â’r pandemig ar fynediad at wasanaethau a chyfleoedd cymdeithasol.

Yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwydydd incwm isel a oedd mewn amddifadedd materol yn dilyn tuedd ar i lawr o 18% yn y cyfnod rhwng 2010-11 a 2012-13, i 13% yn 2017-18 i 2019-20. Roedd gostyngiad hefyd mewn amddifadedd materol ymysg pensiynwyr (ni ystyrir incwm ar gyfer y mesur hwn), er ei fod yn ostyngiad llai serth. Roedd gostyngiad yn rhan gynharach y cyfnod hwn ar gyfer plant, ond ar ôl cyfnod yn gorffen 2016-17, roedd cyfraddau incwm isel ac amddifadedd materol cyfun ar gyfer plant yn amrywio.

Fel yr eglurwyd uchod, mae’r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer y cyfnod rhwng 2019-20 a 2021-22 ac nid oes modd eu cymharu’n uniongyrchol â’r cyfnod cyn y pandemig. Ar gyfer y cyfnod hwn, roedd 13% o blant, ac 11% o oedolion o oedran gweithio sy’n byw yng Nghymru, yn byw mewn aelwydydd incwm isel a oedd yn wynebu amddifadedd materol. Roedd 7% o bensiynwyr sy’n byw yng Nghymru mewn amddifadedd materol (ni ystyrir incwm ar gyfer y mesur hwn).

Yn 2022-23, dywedodd 3% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd diffyg arian, gyda 3% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny.

Tlodi parhaus

Ystyrir bod rhywun mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Mae data o’r arolwg ‘Understanding Society’ yn dangos bod tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2017 a 2021 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 17%.

Incwm a wariwyd ar gostau tai

Ychwanegwyd dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai at y dangosydd cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021, yn seiliedig ar ddata o Arolwg Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd pandemig COVID-19 yn ystod 2020-21 wedi effeithio ar gasglu data ar gyfer yr Arolwg o Adnoddau Teulu felly nid yw data arolwg y flwyddyn honno wedi cael ei gynnwys yn y cyfrifiadau ar gyfer y cyfnod diweddaraf (2019-20 i 2021-22) oherwydd bernir ei fod o ansawdd isel.

Ar gyfer y cyfnod diweddaraf y mae digon o ddata ar gael ar ei gyfer (2019-20 i 2021-22), roedd 18% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai. Mae’r ganran hon wedi bod yn weddol gyson ar 19% ers y cyfnod 2011-12 i 2013-14, ond mae’n amrywio yn ôl deiliadaeth tai. Mae hi’n rhy gynnar i ddweud a yw’r newid a nodwyd yn y cyfnod diweddaraf yn ostyngiad gwirioneddol ynteu a yw oherwydd bod mwy o anwadalrwydd o ganlyniad i’r gostyngiad ym maint sampl yr arolwg.

Yn y cyfnod hyd at 2019-20 i 2021-22, dim ond 2% o aelwydydd sy’n berchen ar eu cartref eu hunain yn llwyr a 14% o’r rhai sy’n berchen ar gartref gyda morgais oedd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai. Mae’r canrannau’n uwch ar gyfer y ddwy ddeiliadaeth arall: 36% o’r rhai sy’n rhentu’n breifat, 43% o’r rhai mewn tai rhent cymdeithasol.

Mae cynnydd yng nghostau ynni aelwydydd wedi bod yn nodwedd amlwg o’r blynyddoedd diwethaf ac mae hyn wedi arwain at gynnydd yng nghanran yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd. Prif ffigur 2021 oedd bod tua 14% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ac amcangyfrifir bod hyn wedi codi i gymaint â 45% erbyn mis Ebrill 2022. Amcangyfrifir bod canran yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd difrifol wedi codi o 3% i 8% dros yr un cyfnod.

Mae’r cynnydd sylweddol mewn prisiau tanwydd yn ffactor pwysig o ran cynyddu costau i aelwydydd ac i fusnesau, gyda phob math o danwydd yn cyrraedd y prisiau uchaf yn 2022. Wrth gymharu â 2010, roedd costau yn 2022 95% yn uwch am drydan, 67% yn uwch am nwy, 24% yn uwch am danwydd solet, a 46% yn uwch am danwydd hylif. Cyflwynwyd nifer o gynlluniau cymorth, fel y Warant Pris Ynni a’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yng Nghymru, i leihau effaith y cynnydd hwn ar aelwydydd a busnesau.

Mae tlodi tanwydd yn effeithio’n anghymesur ar aelwydydd gwahanol, gyda’r rhai sy’n byw yn yr anheddau hynaf (cyn 1919) yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd (22% o aelwydydd o’r fath yn 2021), ac roedd bron i dri chwarter (74%) o’r holl aelwydydd sydd â’r 10% isaf o incwm yng Nghymru yn debygol o fod mewn tlodi tanwydd yn 2021.

Cymwysterau

Mae proffil cymwysterau poblogaeth Cymru wedi bod yn gwella dros amser, hyd at 2021. Nid oes modd cymharu data ar gyfer 2022 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sydd nawr yn adlewyrchu’r fframwaith cymwysterau presennol.

Sgiliau a chymwysterau yw'r un dylanwad mwyaf ar incwm pobl ac ar eu siawns o fod mewn gwaith.

Yn 2022, roedd 43.3% o oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed) yn gymwys i lefel addysg uwch o leiaf (lefel 4). Roedd y gyfran hon bron i 14 pwynt canran yn uwch yn 2021 na phan gynhyrchwyd ystadegau cymaradwy am y tro cyntaf ar y diffiniad o oedolion o oedran gweithio rhwng 18 a 64 oed yn 2008.

Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2022, roedd 66.8% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i drothwy lefel 3.

Rhwng 2008 a 2021, roedd gostyngiadau mawr yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau. 8.3% oedd y gyfran hon yn 2022. Roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf (sy’n cyfateb i 5+ TGAU gradd A* i C) yn 86.6% yn 2022.

Mae oedolion hŷn yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau nag oedolion iau.

Mae cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymwysterau mewn grwpiau oedran hyd at ac yn cynnwys pobl rhwng 35 a 49 oed. Mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch.

Ffigur 1.10: Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio, 2008 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.10: Mae lefelau cymwysterau yng Nghymru wedi cynyddu’n raddol ers 2008, er bod toriad yn y gyfres rhwng 2021 a 2022 oherwydd materion yn ymwneud â chymharu.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

[Nodyn 1] Mae amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2020 a 2021 wedi cael eu diwygio ar ôl i’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gael ei ail-bwysoli.

[Nodyn 2] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2022, roedd gan dri o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau – Powys (3.3%), Bro Morgannwg (3.8%) a Sir Fynwy (4.0%).  Roedd y gyfran uchaf o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym Mlaenau Gwent (15.5%) a Merthyr Tudful (14.9%).

Ffigur 1.11: Cyfran y boblogaeth oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn ôl awdurdod lleol, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.11: Siart far yn dangos cyfran y boblogaeth oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym mhob awdurdod lleol yn 2022. Mae’r gyfran yn llai na 5% ym Mhowys, Bro Morgannwg a Sir Fynwy, ond mae dros 15% ym Mlaenau Gwent.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

Cyrhaeddiad mewn ysgolion

Roedd cyrhaeddiad mewn ysgolion wedi cynyddu yn y blynyddoedd cyn y pandemig, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.

Ym mlwyddyn academaidd 2021/22, roedd tua 54% o ddisgyblion 4 oed wedi cyrraedd cyfnod datblygu mewn mathemateg a fyddai’n gyson â’u hoedran, neu’n well na hynny, yn ôl fframwaith y cyfnod sylfaen, gydag 87% o ddisgyblion o fewn un cyfnod datblygu yn gyson â’u hoedran. Mewn iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Saesneg roedd 53% o ddisgyblion ar gyfnod datblygu a fyddai’n gyson â’u hoedran, neu’n well na hynny, gydag 85% o ddisgyblion o fewn un cam o’r datblygiad yn gyson â’u hoedran. Mae’r ffigurau hyn yn is nag yn 2019. Mae’r darlun yn wahanol ar gyfer iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Gymraeg, lle’r oedd 27% o blant ar gam a oedd yn gyson â’u datblygiad. Mae hyn oherwydd bod plant o deuluoedd di-Gymraeg wedi cofrestru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ar ôl canslo arholiadau cyhoeddus yn yr haf 2020 a 2021, cafodd yr holl raddau a fyddai wedi cael eu dyfarnu ar ôl arholiad eu disodli gan radd a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan. Roedd cyfnod arholiadau 2022 yn flwyddyn bontio lle’r oedd disgyblion o Gymru yn dychwelyd i sefyll arholiadau ysgrifenedig. Ni ddychwelwyd yn llwyr i'r system arholiadau cyn y pandemig. Er mwyn gwneud iawn am unrhyw darfu ar amserlen yr ysgol, cafodd disgyblion a safodd arholiadau yn 2022 ddewis ehangach o gwestiynau o’r maes llafur, gyda Cymwysterau Cymru yn gosod canlyniadau hanner ffordd (yn fras) rhwng 2019 (y tro diwethaf i arholiadau gael eu sefyll) a chanlyniadau 2021.

O 2018/19, pan gafodd arholiadau ysgrifenedig eu sefyll diwethaf, hyd at 2021/22 mae canran yr ymgeiswyr a gafodd A* i A ac A* a C ar lefel TGAU wedi cynyddu. Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd canran y graddau A* i A o 19.5% i 25.9%. Fodd bynnag, mae hyn yn ostyngiad o 3.6 pwynt canran o’i gymharu â’r canlyniadau a gafwyd yn 2020/21, lle dyfarnwyd cymwysterau ar sail graddau a bennwyd gan ganolfannau. Gwelwyd patrwm tebyg yn yr ystod graddau A* i C.

Mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys. Mae’r bwlch yn y niferoedd sy’n cael graddau A* i A ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ac mae’r bwlch yn niferoedd yr ymgeiswyr sy'n cael graddau A* i C yn weddol sefydlog. Mae data hyd at 2019 yn dangos bod y bwlch mewn canlyniadau addysgol yn tyfu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.

Yn 20221/22, mae’r bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sydd wedi cael graddau TGAU A* i A wedi lleihau i 19.2 pwynt canran, o 21.3 pwynt canran yn 2020/21. Roedd y bwlch wedi bod yn gymharol sefydlog o’r blaen, sef tua 14.7 pwynt canran rhwng 2015/16 a 2018/19 cyn ehangu yn y 3 flynedd ddiwethaf.

Yn 2021/22 roedd y bwlch rhwng disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac a oedd wedi cael graddau A* i C wedi ehangu i 27.8 pwynt canran, gan ddychwelyd at fwlch tua’r un maint ag yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, yn dilyn gostyngiad i 27.3 pwynt canran yn 2020/21.

Ffigur 1.12: Bwlch rhwng canrannau’r disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim sy’n cael graddau A*-A, A*-C ac A*-G mewn TGAU, 2015/16 i 2021/22 [Nodyn 1]

 

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.12: Siart linell sy’n dangos y bwlch rhwng canrannau’r myfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r myfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy’n cyflawni A*-A, A*-C, ac A*-G mewn TGAU o 2015/16 i 2020/21. Rhwng 2020/21 a 2021/22, cynyddodd y bwlch ar gyfer yr ystodau graddau A*-C ac A*-G ond gostyngodd ar gyfer A*-A.

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Rhwng y llinellau toredig sy’n dangos pryd y dyfarnwyd cymwysterau drwy ddefnyddio graddau a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr o fusnesau

Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd ac economi arloesol a charbon isel yn gymhleth ac yn creu heriau, ond mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sector busnes yn dal yn llawer is nag yn y 1990au.

At ei gilydd, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng 35% ers y flwyddyn sylfaen (1990). Roedd allyriadau o’r sector busnes yn cyfrif am ychydig o dan chwarter allyriadau tiriogaethol Cymru (24%) yn 2021; yr ail ffynhonnell fwyaf o allyriadau yng Nghymru ar ôl y sector cyflenwi ynni. Mae allyriadau o’r sector busnes wedi disgyn 29% ers 1990, yn bennaf oherwydd gostyngiad mewn allyriadau o’r diwydiant haearn a dur. Daw’r rhan fwyaf o allyriadau busnes o’r diwydiant haearn a dur, tua 60% yn 2021.

Ffigur 1.13: Allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sector busnes, 1990 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.13: Siart linell yn dangos lefel yr allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol (megatunnell) o fusnesau rhwng 1990 a 2021. Mae allyriadau o fusnesau Cymru wedi disgyn 29% ers y flwyddyn sylfaen (1990).

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol, Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol

[Nodyn 1] Amcangyfrifwyd gwerthoedd ar gyfer 1991, 1992, 1993, 1994, 1996 a 1997.

[Nodyn 2] Mae diffiniad y sector o’r rhestr nwyon tŷ gwydr yn amrywio o’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel (Cyfnod Cyllideb Garbon 1, 2016 i 2020) a Chynllun Sero Net Cymru (Cyfnod Cyllideb Garbon 2, 2021 i 2025).

Dull teithio

Mae rhai mathau o deithio, gan gynnwys traffig ffyrdd, yn cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon. Nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio yng Nghymru.

Yn dilyn gostyngiad sydyn mewn teithio yn 2020 o ganlyniad i bandemig COVID-19, roedd lefel y traffig ar y ffyrdd yn 2022 yng Nghymru bron â dychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Cynyddodd lefel y traffig ar y ffyrdd yn 2022 10% o’i chymharu â 2021, a 24% o’i chymharu â 2020.

O’i gymharu â 2020-21, roedd teithiau bws lleol wedi mwy na dyblu yn 2021-22, y cynnydd mwyaf ers dechrau’r cofnodion. Fodd bynnag, mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 42.5% yn nifer y siwrneiau i deithwyr o’i gymharu â 2019-20 (lefelau cyn y pandemig). Bu cynnydd o 27.9% yng nghyfanswm y pellter a deithiwyd gan fysiau lleol yn 2021-22, o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Mae data mwy amserol am Brydain Fawr yn dangos bod lefelau traffig a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi codi’n ôl ers y pandemig ond heb gyrraedd y lefelau cyn y pandemig eto, gydag effaith benodol ar ddefnyddio bysiau.

Cafodd dangosydd cenedlaethol ar ganran y siwrneiau sy'n cael eu gwneud ar droed, ar gefn beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ei ychwanegu at y set o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021. Daw’r data hwn o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Yn y tymor byr, mae modd ystyried data o'r Arolwg o'r Llafurlu ar y dull arferol o deithio i'r gwaith a data o'r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ar y dull o deithio i'r ysgol.

Fel yn y rhan fwyaf o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, trafnidiaeth ffyrdd breifat yw’r brif ffordd o deithio o hyd, ac mae’n cyfrif am y mwyafrif llethol o deithiau cymudo yng Nghymru. Yn 2021, defnyddiodd 82% o gymudwyr yng Nghymru gar fel eu dull arferol o deithio i’r gwaith, ychydig yn uwch na chyn y pandemig.

Ffigur 1.14: Dull arferol trigolion Cymru o deithio i’r gwaith, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1.14: Siart gylch yn dangos bod y rhan fwyaf (82%) o drigolion Cymru wedi teithio i’r gwaith mewn car yn 2021. Roedd 9% o’r trigolion yn cerdded, gyda 4% yn defnyddio bws neu goets, a 2% yn defnyddio gwasanaethau trên.

Ffynhonnell: Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr: Dull arferol o deithio i'r gwaith yn ôl rhanbarth preswylio

[Nodyn 1] Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth oedd eu dull teithio arferol, gan dybio nad oedd cyfyngiadau’r coronafeirws ar waith.

[Nodyn 2] Mae’r categorïau sydd wedi cael eu hatal oherwydd ansawdd isel wedi cael eu cynnwys yn y categori “Arall”.

Y ddau ddull teithio mwyaf cyffredin i’r ysgol a gofnodwyd gan bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yn 2021/22 oedd trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded (34% o fyfyrwyr ill dau), wedi eu dilyn yn agos gan drafnidiaeth breifat (30%). Dywedodd 35% o’r bobl ifanc eu bod yn defnyddio dull teithio llesol i’r ysgol (ee teithio i’r ysgol drwy gerdded neu feicio).

Yn Arolwg Cenedlaethol 2022-23, gofynnwyd i bobl am ymddygiadau amgylcheddol fel rhan o fywyd bob dydd. Roedd 28% o bobl yn osgoi teithio mewn awyren neu'n teithio mewn awyren yn llai aml; ac roedd 40% yn osgoi teithio mewn car neu’n teithio mewn car yn llai aml. O’r rhai a oedd yn teithio mewn car yn llai aml, dywedodd 18% ohonynt mai pryderon am lygredd neu geisio cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd oedd y prif reswm am hynny; a dywedodd 12% ohonynt mai cadw’n heini oedd y prif reswm. Y gost oedd y prif reswm i 43% o bobl. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth hyd yma o ymddygiad o’r fath sy’n arwain at newid amlwg yn y patrymau teithio cyffredinol.

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y cerbydau allyriadau isel iawn sydd wedi eu cofrestru o’r newydd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2022, roedd dros 8,000 o gerbydau allyriadau isel iawn wedi eu cofrestru o’r newydd, cynnydd o 34% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Ar ddiwedd 2022, roedd dros 22,700 o gerbydau allyriadau isel iawn wedi eu trwyddedu yng Nghymru. Dros amser, gallai dibynnu llai ar gerbydau petrol a disel a defnyddio mwy o gerbydau allyriadau isel iawn gyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau. 

Darllen pellach

Mae Inflation and cost of living for household groups, UK (SYG) yn cynnwys gwybodaeth am effaith chwyddiant ar wahanol fathau o aelwydydd.

Mae Trosolwg o’r farchnad lafur yn rhoi diweddariad ar y farchnad lafur yng Nghymru bob mis.

Mae dangosfwrdd economi Cymru mewn rhifau yn dangos tueddiadau yn y canlyniadau economaidd allweddol i Gymru, o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig.

Mae Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr (Yr Adran Drafnidiaeth) yn gasgliad blynyddol o ystadegau trafnidiaeth, gan gynnwys data ar gyfer Cymru ar nifer o bynciau.

Mae data ar y lefelau cymhwyster uchaf hefyd ar gael o’r Cyfrifiad Poblogaeth. Mae Cyfrifiad Addysg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021) yn darparu crynodeb o ddata Cymru. Nid oes modd cymharu’r ystadegau sydd ar gael o’r Cyfrifiad yn uniongyrchol â’r rhai a gyflwynir yn yr adroddiad Llesiant Cymru hwn. Yn ogystal â’r gwahanol ddulliau casglu data, mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed), ac mae’r rhai o’r Cyfrifiad yn seiliedig ar yr holl breswylwyr arferol 16 oed a hŷn.

Mae gwybodaeth am ddyfarnu graddau ar gyfer cymwysterau ysgol a choleg (TGAU, Safon Uwch, AS, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru) yn y blynyddoedd y mae COVID-19 yn effeithio arnynt ar gael yn y datganiadau isod:

Ffynonellau data

Perfformiad economaidd

Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi ei gydbwyso) y pen a chydrannau incwm (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y Deyrnas Unedig: Gorffennaf 2022 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Incwm aelwydydd

Incwm gwario gros aelwydydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Incwm gwario gros aelwydydd rhanbarthol, bwletinau ystadegol y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Y farchnad lafur

Ystadegau’r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)

Trosolwg o’r Farchnad Lafur, Cymru

Ystadegau’r farchnad lafur ranbarthol yn y Deyrnas Unedig, bwletinau ystadegol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Enillion a chyflogaeth o Wybodaeth Amser Real y Cynllun Talu Wrth Ennill, wedi ei addasu’n dymhorol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur

Amcangyfrif o unigolion 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl gweithgarwch economaidd a grwpiau oedran (StatsCymru)

Gwaith teg ac enillion

Cyfrifo’r Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)

Canran y bobl sy’n weddol fodlon neu’n fodlon iawn ar eu swyddi yn ôl oedran (StatsCymru)

Cyfran y cyflogeion y mae eu cyflog yn cael ei osod drwy gydfargeinio (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) (StatsCymru)

Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol, 2012 i 2021 (StatsCymru)

Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr amser llawn, heb gynnwys goramser) (StatsCymru)

Arolwg blynyddol o oriau ac enillion: 2022

Tlodi

Tlodi incwm cymharol

Amddifadedd materol

Tlodi parhaus

Amcangyfrifon tlodi tanwydd

Cymwysterau

Lefelau’r cymhwyster uchaf gan oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster

Addysg

Cyrhaeddiad academaidd disgyblion yn asesiad sylfaenol y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 3, 2022

Canlyniadau arholiadau: Medi 2021 i Awst 2022

Busnesau

Allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Teithio

Ystadegau Trafnidiaeth: Prydain Fawr 2021 (Yr Adran Drafnidiaeth)

Traffig Ffyrdd 2020

Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr 2021/22, Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Cerbydau Gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis): Ebrill 2020 i Fawrth 2021

Ystadegau cerbydau allyriadau isel iawn (Yr Adran Drafnidiaeth)