Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Crynodeb o'r prif bwyntiau o adroddiad Llesiant Cymru 2025.

Cymru lewyrchus

Mae perfformiad economaidd wedi bod yn gymysg dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r farchnad lafur wedi gwanhau gyda cholledion swyddi wedi'i ganoli mewn diwydiannau sector preifat sydd â chyflogau cymharol isel. 

Mae tueddiadau tymor hirach yn dangos bod Cymru'n parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â chyfartaledd y DU o ran allbwn economaidd ac incwm aelwydydd, er bod cymariaethau â rhanbarthau'r DU sydd â strwythur tebyg yn dangos mwy o gysondeb. Mae tlodi incwm cymharol yng Nghymru wedi gostwng dros y tymor hir, gyda 22% o bobl yn cael eu heffeithio yn 2022 i 2024 o'i gymharu â 25% ar ddiwedd y 1990au. Mae plant yn dal yn fwy tebygol o brofi tlodi, er bod eu cyfraddau wedi gostwng hefyd, gyda 31% wedi’u heffeithio yn y cyfnod diweddaraf. Mae incwm aelwydydd yng Nghymru yn nes at gyfartaledd y DU na mesurau allbwn economaidd, yn enwedig wrth ddefnyddio incwm canolrifol fel mesur.

Mae’r bylchau mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi lleihau ers troad y ganrif, gyda Chymru’n perfformio’n well na rhai rhanbarthau yn Lloegr dros y tymor canolig. Fodd bynnag, mae gan Gymru gyfran uwch o bobl sy'n ennill llai na'r cyflog byw gwirioneddol o hyd, ac mae'r dystiolaeth ar ansawdd swyddi a bylchau cyflog yn cyflwyno darlun cymysg. Cododd cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant i 86.4% yn 2023, i fyny o tua 80% yn 2010 i 2012. Mae hyn yn gynnydd calonogol tuag at y garreg filltir genedlaethol o 90% o leiaf erbyn 2050.

Mae lefelau cymwysterau yng Nghymru yn parhau i wella, gan symud yn nes at y garreg filltir genedlaethol o 75% o oedolion o oedran gweithio â chymhwyster lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2024, roedd 68.6% o oedolion o oedran gweithio â chymhwyster lefel 3 neu uwch, ac roedd gan chwe awdurdod lleol 5% neu lai o oedolion heb unrhyw gymwysterau. Mae'r ddau ffigur wedi gwella ers 2023. Fodd bynnag, mae cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd wedi gostwng ychydig ers y pandemig, gyda phlant o gefndiroedd difreintiedig yn parhau i gael canlyniadau gwaeth.

Mae arloesedd mewn busnesau yng Nghymru wedi amrywio ers dirwasgiad 2008, gyda rhai arwyddion o welliant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae rheoli’r cydbwysedd rhwng twf economaidd a datblygu economi garbon isel yn parhau’n gymhleth ond mae arwyddion cadarnhaol mewn rhai sectorau.

Cymru gydnerth

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at y nod Cymru gydnerth ar lefel fyd-eang, ond mae peth o’r cynnydd hwn wedi arafu’n ddiweddar. Mae bioamrywiaeth wedi dirywio dros y tymor hir ond wedi sefydlogi'n fwy diweddar. Mae lefelau carbon y pridd yn sefydlog ar y cyfan, er bod colledion wedi'u gweld mewn tir âr a choetir llydanddail. Mae ansawdd dŵr wedi gwella dros y degawdau diwethaf, ond mae heriau'n parhau. Mae ansawdd aer hefyd wedi gwella ers y 1970au, er ei fod yn parhau i beri risgiau i iechyd a byd natur.

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau gwastraff a chynyddu’r cyfraddau ailgylchu, ond mae'r defnydd o adnoddau yn parhau i fod yn anghynaladwy. Cynyddodd y capasiti ynni adnewyddadwy yn 2023, gyda'r gyfradd gosod uchaf mewn pum mlynedd, er ei bod yn dal yn is o lawer na'r uchafbwynt a welwyd yn 2015. 

Cymru iachach

Ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at Gymru iachach. Mae disgwyliad oes iach wedi gostwng i ddynion a menywod ers 2011 i 2013, gyda bylchau'n ehangu rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig. Mae cyfran y babanod sengl sy'n cael eu geni gyda phwysau geni isel wedi cynyddu i 6.3%, y gyfradd uchaf a gofnodwyd.

Fe wnaeth canran yr oedolion â dau ymddygiad iach neu fwy ostwng cyn y pandemig ond mae wedi gwella ychydig ers blwyddyn ariannol 2020 i 2021. Ymysg pobl ifanc, mae ymddygiad iach wedi gwella ers 2017. Mae sgoriau llesiant meddyliol oedolion wedi aros yn sefydlog, tra bod y sgoriau ymhlith pobl ifanc wedi gostwng, gyda bylchau cynyddol yn seiliedig ar gyfoeth teuluol. Mae amodau tai wedi gwella, gyda 82% o anheddau heb beryglon difrifol yn 2017 i 2018, i fyny o 71% yn 2008.

Cymru sy'n fwy cyfartal

Mae'r cynnydd tuag at Gymru fwy cyfartal yn dal yn gymysg. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau i 1.9% yn 2024, ond mae’r bylchau cyflog ar sail ethnigrwydd ac anabledd yn dal yn anwadal, gan ei gwneud yn anodd asesu tueddiadau hirdymor. Mae’r bylchau mewn cyfraddau cyflogaeth wedi lleihau dros y degawd diwethaf, gyda gwelliannau i bobl anabl a phobl o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Mae lefelau tlodi wedi aros yn sefydlog, gydag oddeutu un o bob pump o bobl yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae plant, pobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu heffeithio. Mae llesiant meddyliol y mae pobl yn ei gofnodi wedi gostwng ers blwyddyn ariannol 2016 i 2017, gyda phobl hŷn, pobl sydd ddim yn anabl, a phobl o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn nodi llesiant uwch yn gyffredinol. Mae'r teimladau o ddiogelwch wedi aros fwy neu lai’r un fath, gyda dynion yn adrodd lefelau uwch na menywod yn gyson.

Cymru o gymunedau cydlynus

Mae'r data diweddar yn dangos dychweliad i’r lefelau cyn y pandemig ar draws nifer o ddangosyddion cydlyniant cymunedol, gan gynnwys bodlonrwydd ag ardaloedd lleol a dylanwadu penderfyniadau lleol. 

Mae gwirfoddoli wedi cynyddu, gan ragori ar y garreg filltir genedlaethol, tra bod teimladau o ddiogelwch yn parhau'n sefydlog. 

Mae cyfraddau atal digartrefedd wedi gostwng ychydig, ac mae cysgu allan wedi cynyddu. Er bod cyfran yr oedolion sy'n ddioddefwyr troseddau wedi aros yn gymharol sefydlog, mae pryder y cyhoedd ynghylch cynnydd mewn troseddu wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig, ar ôl gostyngiad ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Mae'r cynnydd tuag at y nod hwn yn anghyson. Mae ymgysylltiad oedolion â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi aros yn sefydlog, gyda 72% o oedolion yn cymryd rhan o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Fodd bynnag, mae cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi gostwng ac mae bellach ar y lefelau a welwyd ddegawd yn ôl neu’n is na hynny.

Mae cyfranogiad oedolion mewn chwaraeon wedi cynyddu dros y tymor hir, er ei fod wedi gostwng ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025. Mae cyfranogiad mewn chwaraeon ysgol wedi dychwelyd i'r lefelau a welwyd yn 2013. 

Gostyngodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gyda defnydd dyddiol yn aros yn sefydlog ar 11%. 

Mae achredu amgueddfeydd ac archifau wedi gwella, yn enwedig ar gyfer archifau. Mae cyflwr adeiladau rhestredig wedi gwella ychydig, tra bo henebion cofrestredig wedi gwaethygu.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gostyngodd allyriadau nwyon tŷ gwydr 6% yn 2023 ac maent wedi gostwng 38% ers y flwyddyn sylfaen. Mae ôl troed byd-eang Cymru yn parhau i fod dros ddwywaith ei biogapasiti, er gwaethaf y gostyngiadau ers 2004. Mae cyfranogiad mewn addysg dinasyddiaeth fyd-eang yn parhau, gyda miloedd o ymgeisiadau ar draws y cyfnodau allweddol.