Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Prif Ystadegydd

Mae eleni'n garreg filltir bwysig, wrth i ni gyrraedd degfed pen-blwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Y Ddeddf yw sylfaen yr adroddiad hwn o hyd ac mae'n darparu'r fframwaith ar gyfer asesu cynnydd cenedlaethol tuag at y saith nod llesiant. Fel bob amser, nod yr adroddiad hwn yw dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf ar draws llesiant yng Nghymru, i'n helpu i ddeall lle rydym wedi gwneud cynnydd a lle mae angen ymdrechion pellach.

Daw llawer o'r dangosyddion a gyflwynir yn yr adroddiad hwn o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Eleni, mae problemau gwaith maes wedi arwain at feintiau sampl llai a rhai gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y sampl. Mae gan hyn oblygiadau o ran dehongli tueddiadau, yn enwedig ar gyfer grwpiau bach, ac mae'n golygu y gallai’r asesiadau o newid dros amser fod yn llai cadarn nag mewn blynyddoedd blaenorol. Rydym wedi tynnu sylw at yr achosion hyn drwy gydol yr adroddiad, ac rwy'n annog darllenwyr i gadw hyn mewn cof wrth ddod i gasgliadau o ganfyddiadau eleni.

Canfyddiadau o’r flwyddyn ddiwethaf

Mae cyflymder y newid yn ein dangosyddion cenedlaethol yn parhau i fod yn raddol, gyda symudiadau cyfyngedig o flwyddyn i flwyddyn. Yn gyson ag adroddiadau blaenorol, ychydig iawn o newid a fu yn yr asesiad o gynnydd ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol.

Ar nodyn cadarnhaol, mae nifer o ddangosyddion amgylcheddol a dangosyddion sy'n seiliedig ar leoedd, fel ansawdd aer, carbon pridd, allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac ansawdd dŵr hirdymor naill ai'n sefydlog neu'n dangos gwelliannau. Fodd bynnag, mae ein canfyddiad cyfunol o le a chymuned wedi gwaethygu. Ar ôl codi dros dro yn ystod y pandemig, mae’r dangosyddion sy'n ymwneud â chydlyniant cymunedol wedi dychwelyd i raddau helaeth i’r lefelau cyn y pandemig. Mae'r patrwm hwn hefyd yn amlwg mewn meysydd eraill, fel cyfranogiad chwaraeon oedolion, lle mae'r gwelliannau a welwyd yn ystod y pandemig wedi lleihau ac erbyn hyn maent yn cyd-fynd yn well â'r tueddiadau a welwyd cyn 2020.

Mae heriau economaidd yn parhau i effeithio ar y grwpiau mwyaf difreintiedig. Mae’r cynnydd mawr mewn tlodi tanwydd, yn ogystal â cholli swyddi sy'n talu'n wael, yn amlwg. Mae'r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi ehangu, ac mae’r disgwyliad oes iach cyffredinol yng Nghymru bellach ar ei lefel isaf a gofnodwyd.

Serch hynny, mae meysydd lle gwelwyd cynnydd cadarnhaol. Er bod anghydraddoldebau'n parhau, mae rhai bylchau'n lleihau. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi parhau i ostwng, yn unol â'r duedd hirdymor. Mae’r bylchau ym mherfformiad yn yr ysgol rhwng rhai grwpiau wedi lleihau, ac mae'r bwlch yn y gyfradd gyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl sydd ddim yn anabl yn parhau i gau. Mae ymddygiadau iach yn dod yn fwy cyffredin, gyda chynnydd yn nifer yr oedolion a'r plant sy'n cymryd rhan mewn ffyrdd iach o fyw.

Newidiadau i adroddiad eleni

Rydym wedi cymryd camau eleni i wneud adroddiad Llesiant Cymru yn fwy cryno, gan adlewyrchu adborth gan ddarllenwyr a data dadansoddeg ar sut mae'r adroddiad yn cael ei ddefnyddio. Ochr yn ochr â hyn, mae meysydd lle rydym wedi gwneud ychwanegiadau a gwelliannau, fel adrodd ar ddangosydd cenedlaethol cyfiawnder am y tro cyntaf. Ychwanegwyd y dangosydd hwn, ar hyder yn y system gyfiawnder, at y set o ddangosyddion yn 2021.

Wrth edrych ymlaen, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno y dylid adolygu'r set o ddangosyddion llesiant cenedlaethol unwaith bob tymor y Senedd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol. O'r herwydd, rydym yn disgwyl dechrau’r adolygiad ar ôl etholiad nesaf y Senedd yn 2026. Gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i gyfrannu at yr adolygiad hwn gan ei bod yn hanfodol bod y dangosyddion yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl Cymru a'n llesiant cenedlaethol.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd