Lluosyddion gwahaniaethol ardrethi annomestig: asesiad effaith integredig 1 Ebrill 2027
Asesiad effaith integredig ar effaith y cynigion i estyn cwmpas lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig (ardrethi busnes).
Ar y dudalen hon
Crynodeb o’r cynnig
Mae’r cynnig yn diwygio cwmpas lluosyddion ardrethi annomestig. Mae ardrethi annomestig yn dreth eiddo leol a godir ar feddianwyr eiddo annomestig ac mae’n cyfrannu dros £1.1 biliwn bob blwyddyn tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan lywodraeth leol yng Nghymru. Caiff atebolrwydd, cyn i unrhyw ryddhad gael ei gymhwyso, ei gyfrifo drwy gymryd gwerth ardrethol yr eiddo, fel y’i pennir gan Swyddfa Brisio CThEF, sy’n annibynnol, a’i luosi â’r lluosydd, a bennir yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd lluosydd is estynedig yn darparu gostyngiad parhaol o 30% o ran atebolrwyddau busnesau lletygarwch a hamdden penodedig, yn yr un modd â siopau manwerthu bach a chanolig. Bydd y cymorth ychwanegol hwn yn cael ei ariannu gan gynnydd cymharol fach yn y lluosydd uwch sy’n gymwys i’r eiddo mwyaf (yn ôl gwerth) yn y sylfaen drethu.
Cwestiynau am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
1. Sut mae’r pum ffordd o weithio wedi llywio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r polisi hwn neu’r ddeddfwriaeth hon?
Mae’r cynnig yn ymateb i ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig, sy’n gysylltiedig ag uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r gwaith o adfywio canol trefi. Daw’r cynnig wedi i Lywodraeth flaenorol Cymru ymgynghori â thalwyr ardrethi a rhanddeiliaid eraill yn ogystal â gwaith ymgysylltu pellach â busnesau a’u cynrychiolwyr. Bwriad y dull polisi yw darparu sicrwydd hirdymor i fusnesau perthnasol, a hynny gan ddarparu cymorth parhaol drwy gyflawni newid strwythurol i’r system ardrethi annomestig. Bwriad ailgydbwyso’r system i gefnogi’n well y busnesau y mae canol trefi bywiog yn dibynnu arnynt yw helpu i atal parhad tueddiadau a allai fel arall danseilio eu cynaliadwyedd mewn rhai mannau. Cynhaliwyd y gwaith o ddatblygu’r dull polisi a’i weithredu mewn cydweithrediad â phartneriaid cyflawni sy’n gyfrifol am weinyddu’r system ardrethi annomestig, gan gynnwys Swyddfa Brisio CThEF ac awdurdodau lleol. Mae hyn yn adeiladu ar weithdrefnau sefydledig ac integredig ar gyfer gweinyddu lluosyddion gwahaniaethol.
2. Â phwy rydych chi wedi cydweithio a’u cynnwys wrth ddatblygu’r cynnig ac i ddeall ei effeithiau, gan gynnwys ar unigolion, aelwydydd, cyrff cyhoeddus, busnesau a’r trydydd sector (e.e. drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol neu drwy ymgynghori â’r cyhoedd)?
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored ar gynigion i gyflwyno’r lluosydd manwerthu a’r lluosydd uwch gan Lywodraeth flaenorol Cymru yn 2025. Daeth 172 o ymatebion i law gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr sectorau, cyrff proffesiynol, asiantiaid ardrethu ac academyddion. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr o blaid y cynigion, gyda lefel arbennig o uchel o gefnogaeth ar gyfer y lluosydd manwerthu. Prif farn ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi cynigion yr ymgynghoriad, yn ogystal â rhai a ddarparodd gefnogaeth amodol, oedd y dylid estyn y cwmpas y tu hwnt i’r sector manwerthu. Dadleuodd yr ymatebwyr o’r farn hon y dylai sectorau eraill hefyd, yn arbennig lletygarwch a hamdden, elwa ar luosydd is. Roedd rhai rhanddeiliaid yn bryderus am y broses gymhwyso a lefel y lluosydd uwch. Mae canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn, felly, yn berthnasol i ddatblygu’r newidiadau polisi hyn, eu rhoi ar waith ac asesu’r effeithiau.
3. Sut mae’r polisi yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy ac at ganlyniadau llesiant hirdymor?
Mae’r cynnig yn ymateb i ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig, sy’n gysylltiedig ag uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r gwaith o adfywio canol trefi. Bwriad y dull polisi yw darparu sicrwydd hirdymor i fusnesau perthnasol, a hynny gan ddarparu cymorth parhaol drwy newid strwythurol i’r system ardrethi annomestig. Bwriad ailgydbwyso’r system i gefnogi’n well y busnesau y mae canol trefi bywiog yn dibynnu arnynt yw helpu i atal parhad tueddiadau a allai fel arall danseilio eu cynaliadwyedd mewn rhai mannau. Caiff y dull polisi ei gyflawni mewn modd niwtral o ran refeniw, gan atal erydu ar y refeniw ardrethi annomestig er mwyn cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus lleol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol (pe bai’r newid yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, byddai hyn yn cynrychioli cost gylchol flynyddol).
4. Beth yw’r effeithiau allweddol (cadarnhaol, negyddol, a chyfleoedd) ar draws pob un o’r saith nod llesiant?
Prif effaith gadarnhaol y polisi fydd llai o atebolrwyddau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo manwerthu bach a chanolig, eiddo lletygarwch bwyd a diod, eiddo llety ymwelwyr ac eiddo hamdden penodedig, yn unol â’r bwriad i ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig. Mae hyn yn debygol o arwain at arbedion sylweddol i dalwyr ardrethi cymwys, a allai helpu i leihau pwysau yn sgil gorbenion ariannol, cwrdd â chostau eraill a galluogi iddynt fuddsoddi yn eu busnesau, gan gynnal hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y stryd fawr a chanol trefi.
Prif effaith negyddol y polisi fydd atebolrwyddau ardrethi annomestig sydd ychydig yn uwch nag y byddent fel arall ar gyfer eiddo sy’n ddarostyngedig i’r lluosydd uwch. Byddai atodiad ymylol ar y lluosydd uwch yn ddigonol i gynnal y lluosydd is. Mae dyluniad y lluosydd uwch wedi ystyried cyfansoddiad y rhan berthnasol o’r sylfaen drethu. Mae eithriadau rhag cymhwyso lluosydd uwch yn sicrhau, cyn belled â phosibl, nad yw’n gymwys i eiddo a feddiannir gan gyrff y sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill a gaiff eu cynnal i raddau helaeth gan fodelau cyllid cyhoeddus. Bwriad hyn yw lliniaru unrhyw effaith negyddol ar atebolrwyddau ardrethi annomestig i’r talwyr ardrethi hynny.
Bydd yr effeithiau hyn ar atebolrwyddau ardrethi annomestig yn gymesur â gwerthoedd ardrethol eiddo unigol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhaid taro cydbwysedd rhwng yr ystod o gymorth sy’n cael ei ddarparu drwy’r lluosydd is ac effaith hynny ar werth y lluosydd uwch.
Mae’n bosibl hefyd y bydd effeithiau anuniongyrchol ar gyflogaeth yn y sectorau manwerthu, lletygarwch bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden, os bydd llai o gostau yn arwain at lefelau uwch o staffio. Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol i bobl ifanc, menywod, a phobl sy’n sengl neu heb briodi, oherwydd sut y cânt eu cynrychioli o fewn y gweithlu.
Bydd y bwriad polisi a’r effeithiau a ragwelir yn hyrwyddo rhai o’r nodau llesiant i Gymru a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn benodol, bydd cynorthwyo busnesau a sefydliadau eraill, sy’n rhan annatod o stryd fawr a chanol trefi bywiog a chynaliadwy, yn cyfrannu tuag at y nod llesiant yn ymwneud â Chymru ffyniannus. Mae gan y gwaith o gynorthwyo rhai buddiolwyr yn y sector hamdden, megis amgueddfeydd, sinemâu a theatrau, y potensial o gyfrannu at y nod llesiant sef Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Disgwylir hefyd i’r polisi ddarparu effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol ar gyfer rhai ardaloedd a phobl difreintiedig, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan allgáu digidol, sy’n arbennig o ddibynnol ar fynediad i fusnesau lleol. Er bod allgáu digidol wedi gwella (lleihau) yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda dim ond 4% o’r boblogaeth yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, mae rhai grwpiau (pobl hŷn, pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl â chyrhaeddiad addysgol a mantais economaidd-gymdeithasol is, cymunedau gwledig a phobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf) yn fwy tebygol o gael eu hallgáu. Bydd y manteision anuniongyrchol posibl i ardaloedd a phobl difreintiedig, drwy sicrhau mynediad parhaus at fusnesau lleol, hefyd yn cyfrannu at y nodau llesiant yn ymwneud â Chymru fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus.
5. Pa dystiolaeth, gan gynnwys adroddiadau o dan y Ddeddf, sydd wedi llywio’r polisi, a sut bydd hyn yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol?
Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, y prif ffynonellau o dystiolaeth i lywio’r polisi a’r effeithiau uniongyrchol a ragwelir yw data bilio awdurdodau lleol a data eiddo Swyddfa Brisio CThEF. Mae tystiolaeth ynghylch effeithiau anuniongyrchol posibl y polisi yn cynnwys ystadegau ar gyflogaeth ac allgáu digidol.
Darparodd Cyfrifiad 2021 ddata ar gyflogaeth yn seiliedig ar nodweddion amrywiol ac yn ôl sector. Mae cyfran uwch o’r rhai mewn gwaith yn y sectorau perthnasol yn iau (16-24 oed), yn fenywod, yn sengl neu heb briodi.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ymdrin â defnydd o’r rhyngrwyd ac allgáu digidol. Mae hyn yn cadarnhau bod rhai grwpiau (pobl hŷn, pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl â chyrhaeddiad addysgol a mantais economaidd-gymdeithasol is, cymunedau gwledig a phobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf) yn fwy tebygol o beidio â chael mynediad i’r rhyngrwyd.
Mae gan effeithiau disgwyliedig y polisi y potensial o gyfrannu’n gadarnhaol at ystod o ddangosyddion llesiant cenedlaethol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chyflogaeth, lefelau boddhad ag ardaloedd lleol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth. Fodd bynnag, cydnabyddir bod ystod o ffactorau economaidd a chymdeithasol ehangach o lawer sy’n dylanwadu ar yr holl nodau a dangosyddion perthnasol, ac ni fydd modd ynysu’r effeithiau hynny oddi wrth y polisi hwn.
Bydd data ar ardrethi annomestig yn parhau i gael ei ddarparu bob blwyddyn gan awdurdodau lleol a Swyddfa Brisio CThEF. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro nifer yr eiddo sy’n ddarostyngedig i naill ai’r lluosydd manwerthu is neu’r lluosydd uwch, yn ogystal â’u cyfraniad at refeniw ardrethi annomestig cyffredinol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio’r gwaith o gynnal lluosyddion gwahaniaethol, a hynny yn rhan o osod yr holl luosyddion bob blwyddyn. Bydd effeithiau ehangach y polisi hwn yn ddibynnol iawn ar y cyd-destun ac ni fydd yn bosibl eu hynysu oddi wrth ffactorau economaidd eraill.
Crynodeb o’r Asesiadau Effaith ar gyfer y cynnig hwn
Cyhoeddi gorfodol
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Cwblhawyd: Do
Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant
Cwblhawyd: Dim ond gwaith sgrinio sy’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
Cwblhawyd: Do
Cyhoeddwyd: Nid yw’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiadau Effaith Eraill
Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg
Cwblhawyd: Do
Gwaith Sgrinio ar gyfer yr Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data
Cwblhawyd: Do
Asesiad o’r Effaith ar Fioamrywiaeth
Cwblhawyd: Nid yw’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad Effaith Prawfesur Gwledig
Cwblhawyd: Nid yw’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad Effaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy
Cwblhawyd: Nid yw’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad Effaith Carbon
Cwblhawyd: Nid yw’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad Effaith Dyletswydd Ansawdd (Iechyd)
Cwblhawyd: Nid yw’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol
Cwblhawyd: Do
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
Enw’r penderfyniad:
Lluosyddion gwahaniaethol ardrethi annomestig
Diben / nod y penderfyniad:
Nod y cynnig yw ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig i gefnogi busnesau sy’n chwarae rhan bwysig yn economïau y stryd fawr a chanol trefi bywiog.
Rhesymeg dros beidio â chynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd:
Mae’r cynnig yn ymwneud â thrin eiddo annomestig at ddibenion ardrethi annomestig. Mae’r effeithiau mewn perthynas â swm yr ardrethi annomestig y mae busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn atebol i’w talu ac maent o natur economaidd yn bennaf, ond nid ydynt yn effeithio ar y sector iechyd (e.e. ysbytai). Nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol mewn perthynas ag iechyd yn sgil y cynnig.
