Neidio i'r prif gynnwys

A. Y Cynnig

  1. Teitl y cynnig

Lluosyddion gwahaniaethol ardrethi annomestig

  1. Beth yw nod eich cynnig? 

Nod y cynnig yw ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig i gefnogi busnesau sy’n chwarae rhan bwysig yn economïau y stryd fawr a chanol trefi bywiog.

  1. Pryd dechreuodd y gwaith ar y cynnig?

Mai 2026

  1. Pa sefydliadau, grwpiau neu gymunedau sy’n debygol o gael eu heffeithio?

Busnesau a sefydliadau eraill yr effeithir arnynt sy’n meddiannu eiddo annomestig.

B. Effaith ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig ac ymgysylltu â nhw 

Oedran

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill, yn hytrach nag ar unigolion.

Mae’n bosibl hefyd y bydd effeithiau anuniongyrchol ar gyflogaeth yn y sectorau manwerthu, lletygarwch bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden, os bydd llai o gostau yn arwain at lefelau uwch o staffio. Darparodd Cyfrifiad 2021 ddata ar gyflogaeth yn ôl oedran a sector. Mae cyfran uwch o’r rhai mewn gwaith yn y sectorau hyn yn iau (16-24 oed), mwy na dwbl y cyfartaledd (26% o gymharu ag 11%), tra bod y gyflogaeth gymharol ar gyfer grwpiau oedran 35-44, 45-54, a 55-64 ychydig yn is.

Disgwylir hefyd i’r polisi ddarparu effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol ar gyfer rhai ardaloedd a phobl difreintiedig, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan allgáu digidol, sy’n arbennig o ddibynnol ar fynediad i fusnesau lleol. Er bod allgáu digidol wedi gwella (lleihau) yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda dim ond 4% o’r boblogaeth yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu hallgáu.

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr? 

Nid yw’n bosibl asesu effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol o ran ystyriaethau sy’n gysylltiedig ag oedran (h.y. mewn perthynas â chyflogaeth pobl iau neu allgáu digidol pobl hŷn), gan y bydd y rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd? 

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn ag oedran yn ystod y broses hon.

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig?

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud ag oedran. Ystyriwyd tystiolaeth yn ymwneud ag allgáu digidol pan gyflwynwyd y lluosydd is yn wreiddiol ar gyfer y sector manwerthu ac mae hyn yn parhau i fod yn berthnasol, yn arbennig mewn perthynas â’r sector hwnnw.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol disgwyliedig yn ymwneud ag oedran yn sgil y cynnig hwn. Mae’n bosibl y bydd effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol i bobl iau os bydd llai o gostau i dalwyr ardrethi yn hyrwyddo cyflogaeth, ond bydd effeithiau o’r fath yn ddibynnol iawn ar y cyd-destun ac nid yw’n bosibl eu hynysu oddi wrth ffactorau eraill. Disgwylir i gymorth sydd o fudd i fusnesau cymwys, yn arbennig siopau manwerthu ffisegol, helpu i gyfyngu ar effaith allgáu digidol ar bobl hŷn.

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol?

Nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol i wella effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol lluosydd is estynedig mewn perthynas ag oedran. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.

Anabledd

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill yn hytrach nag ar unigolion.

Er bod effeithiau anuniongyrchol ar gyflogaeth yn y sectorau manwerthu, lletygarwch bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden yn bosibl, hynny yw, os bydd llai o gostau yn arwain at lefelau uwch o staffio, mae Cyfrifiad 2021 yn dangos mai prin yw’r gwahaniaethau o ran cyflogaeth pobl anabl o fewn y sectorau hyn o gymharu â chyfartaledd yr economi gyfan.

Disgwylir hefyd i’r polisi ddarparu effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol ar gyfer rhai ardaloedd a phobl difreintiedig, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan allgáu digidol, sy’n arbennig o ddibynnol ar fynediad i fusnesau lleol. Er bod allgáu digidol wedi gwella (lleihau) yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda dim ond 4% o’r boblogaeth yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, mae pobl anabl yn fwy tebygol o gael eu hallgáu.

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr? 

Nid yw’n bosibl asesu effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol o ran ystyriaethau sy’n gysylltiedig ag anabledd, gan y bydd y rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd?

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn ag anabledd yn ystod y broses hon.

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig? 

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud ag anabledd. Ystyriwyd tystiolaeth yn ymwneud ag allgáu digidol pan gyflwynwyd y lluosydd is yn wreiddiol ar gyfer y sector manwerthu ac mae hyn yn parhau i fod yn berthnasol, yn arbennig mewn perthynas â’r sector hwnnw.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol disgwyliedig yn ymwneud ag anabledd yn sgil y cynnig hwn. Disgwylir i gymorth sydd o fudd i fusnesau cymwys, yn arbennig siopau manwerthu ffisegol, helpu i gyfyngu ar effaith allgáu digidol ar bobl anabl. 

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol?

Nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol i wella effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol lluosydd is estynedig mewn perthynas ag anabledd. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.

Hil

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill yn hytrach nag ar unigolion.

Er bod effeithiau anuniongyrchol ar gyflogaeth yn y sectorau manwerthu, lletygarwch bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden yn bosibl, hynny yw, os bydd llai o gostau yn arwain at lefelau uwch o staffio, mae Cyfrifiad 2021 yn dangos mai prin yw’r gwahaniaethau o ran cyflogaeth pobl o wahanol hil o fewn y sectorau hyn o gymharu â chyfartaledd yr economi gyfan.

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr? 

Nid yw’n bosibl asesu effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol o ran ystyriaethau sy’n gysylltiedig â hil, gan y bydd y rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd? 

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn â hil yn ystod y broses hon.

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig? 

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â hil.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau disgwyliedig yn ymwneud â hil yn sgil y cynnig hwn. 

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol? 

Nid oes unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol wedi’u nodi, ac nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol.

Crefydd, Cred neu Ddiffyg Cred

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill yn hytrach nag ar unigolion.

Er bod effeithiau anuniongyrchol ar gyflogaeth yn y sectorau manwerthu, lletygarwch bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden yn bosibl, hynny yw, os bydd llai o gostau yn arwain at lefelau uwch o staffio, mae Cyfrifiad 2021 yn dangos mai prin yw’r gwahaniaethau o ran cyflogaeth pobl sy’n arddel gwahanol grefyddau neu gredoau neu ddiffyg cred o fewn y sectorau hyn o gymharu â chyfartaledd yr economi gyfan.

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr? 

Nid yw’n bosibl asesu unrhyw effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol o ran ystyriaethau sy’n gysylltiedig â chrefydd, cred neu ddiffyg cred, gan y bydd y rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd? 

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn â chrefydd, cred neu ddiffyg cred yn ystod y broses hon. 

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig?

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â chrefydd, cred neu ddiffyg cred.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau disgwyliedig yn ymwneud â chrefydd, cred neu ddiffyg cred yn sgil y cynnig hwn.

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol? 

Nid oes unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol wedi’u nodi, ac nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol.

Rhyw

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill yn hytrach nag ar unigolion.

Mae’n bosibl y bydd effeithiau anuniongyrchol ar gyflogaeth yn y sectorau manwerthu, lletygarwch bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden, os bydd llai o gostau yn arwain at lefelau uwch o staffio. Darparodd Cyfrifiad 2021 ddata ar gyflogaeth yn ôl rhyw a sector. Mae cyfran uwch na’r cyfartaledd o’r rhai mewn gwaith yn y sectorau perthnasol yn fenywod (53% o gymharu â 48%), tra bod y gwrthwyneb yn wir am ddynion (47% o gymharu â 52%).

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr?

Nid yw’n bosibl asesu effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol ar ystyriaethau sy’n gysylltiedig â rhyw, gan y bydd y rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd? 

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn â rhyw yn ystod y broses hon.

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig? 

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â rhyw.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol disgwyliedig yn ymwneud â rhyw yn sgil y cynnig hwn. Mae’n bosibl y bydd effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol i fenywod os bydd llai o gostau i dalwyr ardrethi yn hyrwyddo cyflogaeth, ond bydd effeithiau o’r fath yn ddibynnol iawn ar y cyd-destun ac nid yw’n bosibl eu hynysu oddi wrth ffactorau eraill.

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol?

Nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol i wella effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol lluosydd is estynedig mewn perthynas â rhyw. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.

Ailbennu rhywedd

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill, yn hytrach nag ar unigolion. Ymddengys nad oes tystiolaeth berthnasol ar gael i asesu effeithiau newidiadau i luosyddion ardrethi annomestig ar unigolion yn seiliedig ar ailbennu rhywedd.

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr? 

Mae’n bosibl y bydd effeithiau anuniongyrchol yn ymwneud â chyflogaeth. Fodd bynnag, nid yw data Cyfrifiad 2021 ar gyflogaeth yn ôl sector a nodwedd warchodedig yn cynnwys gwybodaeth ynghylch ailbennu rhywedd.

Hyd yn oed pe bai data ar gael, ni fyddai’n bosibl asesu effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol o ran ystyriaethau sy’n gysylltiedig ag ailbennu rhywedd, gan y byddai’r rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd? 

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn ag ailbennu rhywedd yn ystod y broses hon.

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig? 

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud ag ailbennu rhywedd.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau disgwyliedig yn ymwneud ag ailbennu rhywedd yn sgil y cynnig hwn. 

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol? 

Nid oes unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol wedi’u nodi, ac nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol.

Cyfeiriadedd Rhywiol 

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill, yn hytrach nag ar unigolion. Ymddengys nad oes tystiolaeth berthnasol ar gael i asesu effeithiau newidiadau i luosyddion ardrethi annomestig ar unigolion yn seiliedig ar eu cyfeiriadedd rhywiol.

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr? 

Mae’n bosibl y bydd effeithiau anuniongyrchol yn ymwneud â chyflogaeth. Fodd bynnag, nid yw data Cyfrifiad 2021 ar gyflogaeth yn ôl sector a nodwedd warchodedig yn cynnwys gwybodaeth ynghylch cyfeiriadedd rhywiol.

Hyd yn oed pe bai data ar gael, ni fyddai’n bosibl asesu effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol o ran ystyriaethau sy’n gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol, gan y byddai’r rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd? 

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn â chyfeiriadedd rhywiol yn ystod y broses hon.

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig?

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau disgwyliedig yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol yn sgil y cynnig hwn.

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol? 

Nid oes unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol wedi’u nodi, ac nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol.

Beichiogrwydd a Mamolaeth 

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill, yn hytrach nag ar unigolion. Ymddengys nad oes tystiolaeth berthnasol ar gael i asesu effeithiau newidiadau i luosyddion ardrethi annomestig ar unigolion yn seiliedig ar feichiogrwydd a mamolaeth.

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr? 

Mae’n bosibl y bydd effeithiau anuniongyrchol yn ymwneud â chyflogaeth. Fodd bynnag, nid yw data Cyfrifiad 2021 ar gyflogaeth yn ôl sector a nodwedd warchodedig yn cynnwys gwybodaeth ynghylch beichiogrwydd a mamolaeth.

Hyd yn oed pe bai data ar gael, ni fyddai’n bosibl asesu effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol o ran ystyriaethau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd a mamolaeth, gan y byddai’r rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd? 

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn â beichiogrwydd a mamolaeth yn ystod y broses hon.

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig? 

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â beichiogrwydd a mamolaeth.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau disgwyliedig yn ymwneud â beichiogrwydd a mamolaeth yn sgil y cynnig hwn. 

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol?

Nid oes unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol wedi’u nodi, ac nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol.

Priodas a Phartneriaeth Sifil 

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael a beth yw ei ffynhonnell? Dylech gynnwys y canfyddiadau yn sgil unrhyw waith ymgysylltu. 

Gan fod lluosyddion ardrethi annomestig yn effeithio ar y costau sy’n wynebu perchnogion a meddianwyr eiddo annomestig, mae’r effeithiau, ar y cyfan, ar fusnesau a sefydliadau eraill, yn hytrach nag ar unigolion.

Mae’n bosibl y bydd effeithiau anuniongyrchol ar gyflogaeth yn y sectorau manwerthu, lletygarwch bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden, os bydd llai o gostau yn arwain at lefelau uwch o staffio. Darparodd Cyfrifiad 2021 ddata ar gyflogaeth yn seiliedig ar briodas a phartneriaeth sifil. Mae cyfran uwch na’r cyfartaledd o’r rhai mewn gwaith yn y sectorau perthnasol yn sengl neu heb briodi (56% o gymharu â 42%), tra bod y gwrthwyneb yn berthnasol i bobl sy’n briod ac yn byw gyda’u priod (34% o gymharu â 48%).

  1. A oes unrhyw dystiolaeth nad yw ar gael neu sy’n ansicr?

Nid yw’n bosibl asesu effeithiau anuniongyrchol llai o gostau i fusnesau perthnasol o ran ystyriaethau sy’n gysylltiedig â phriodas a phartneriaeth sifil, gan y bydd y rhain yn benodol iawn i gyd-destun ac effeithir arnynt hefyd gan nifer o ffactorau eraill.

  1. Â phwy rydych chi wedi ymgysylltu, a pham ac ym mha ffordd?

Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ynghylch lluosyddion gwahaniaethol yn rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, cyn eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2026-27. Gwnaeth hyn alluogi’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rhai sydd â safbwyntiau ar luosyddion gwahaniaethol a’u heffeithiau posibl i ymateb. Ni rannwyd unrhyw farn ynglŷn â phriodas a phartneriaeth sifil yn ystod y broses hon.

  1. Sut mae’r dystiolaeth wedi effeithio ar eich cynnig? 

Nid effeithiwyd ar y cynnig i ddiwygio’r lluosyddion gwahaniaethol gan unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â phriodas a phartneriaeth sifil.

  1. Beth yw effeithiau tebygol y cynnig? 

Nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol disgwyliedig yn ymwneud â phriodas a phartneriaeth sifil yn sgil y cynnig hwn. Mae’n bosibl y bydd effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol i bobl sengl neu bobl heb briodi os bydd llai o gostau i dalwyr ardrethi yn hyrwyddo cyflogaeth, ond bydd effeithiau o’r fath yn ddibynnol iawn ar y cyd-destun ac nid yw’n bosibl eu hynysu oddi wrth ffactorau eraill.

  1. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wella effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol? 

Nid ystyrir bod camau ychwanegol yn angenrheidiol i wella effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol lluosydd is estynedig mewn perthynas â phriodas a phartneriaeth sifil. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.

C. Monitro Cyhoeddiadau

  1. A yw’r Asesiad hwn o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ddiweddariad o fersiwn a gyhoeddwyd yn flaenorol? 

Nac ydy

  1. Sut byddwch chi’n monitro ac yn gwerthuso cynnydd o ran y materion cydraddoldeb a nodwyd yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb?

Nid oes unrhyw faterion penodol o ran cydraddoldeb wedi’u nodi, ar wahân i effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol posibl a fydd yn ddibynnol iawn ar gyd-destun ac ni ellir eu hynysu oddi wrth ffactorau eraill. Ystyrir felly nad oes angen cynlluniau monitro a gwerthuso penodol.