Llwybr Coedwig Cymru: Nant y Moel i Bont Walby
Nant y Moel i Bont Walby
Mwynhewch olygfeydd panoramig eang cyn cychwyn i ardal fwyaf coediog y llwybr.
Hyd y llwybr
28.9 km
Safleoedd Coedwig Genedlaethol ar hyd y llwybr hwn
- Coedwig Ogwr (Nant y Moel)
- Ffin Parc Coedwig Afan (Blaengwynfi) ac yn gyfagos i floc Cwm Saerbren
- Glyncorrwg (Coedwig Cymer)
Llwybr
Mae’r adran hon yn cynnwys rhannau sy’n fwy heriol, oherwydd yr esgyniad, ond cewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd hyfryd o Goedwig Ogwr. Wrth adael Nant y Moel a mynd i gyfeiriad y coetir, mae angen dringo ychydig er mwyn cyrraedd llwyfandir Carn yr hyrddod/Tarren y Fforch. O'r pwynt hwn fe welwch olygfa eang o Dde Cymru a chyn belled â De Orllewin Lloegr.
Yna mae'r llwybr yn mynd tua’r gogledd gan ddilyn y rhwydwaith llwybrau troed heibio'r Ffermydd Gwynt i Barc Coedwig Afan.
Wrth groesi'r A4107 mae'r llwybr yn parhau oddi ar y ffordd gan ddilyn ffyrdd coedwig llydan am 18km. Mae'r llwybr yn teithio ochr yn ochr ag ardaloedd coedwig Cwm Saerbren a Pharc Coedwig Afan, yna i mewn i Floc Coedwig Glyncorrwg.
Gan barhau drwy Glyncorrwg (Coedwig Cymer) byddwch yn mynd heibio i Fferm Wynt Pen-y-cymoedd.
Yna mae'r llwybr yn ymuno â Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 47 am 3.5km. Mae'r llwybr yn gadael bloc coedwig enfawr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, i'r gogledd o Lyn Fawr. O Gwm Hwnt byddwch yn dilyn llwybrau troed ar hyd Cwm Gwrelych trwy goetiroedd llydanddail, ardal sydd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei nodweddion daearegol. Dysgwch fwy am hyn ar hyd y ffordd wrth i chi ddilyn rhan o Geo-lwybr Cwm Gwrelych.
Mae’r llwybr yn gorffen ger traphont Pont Walby ychydig i’r de o dref Glyn-nedd, lle gallwch gael mynediad at amwynderau lleol a maes parcio. Mae'r draphont yn rhestredig Gradd II. Cafodd ei dylunio gan Brunel a’i hadeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Map o’r llwybr
Efallai na fydd y map yn hygyrch i bob defnyddiwr. Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r map hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru.
Allwedd y map
Ni fydd eitemau sydd wedi'u marcio â seren* yn weladwy nes eu bod wedi'u chwyddo i mewn ar y map.
Llwybr Coedwig Cymru
Image
| Nant y Moel i Bont Walby | Image
| Coedwig Genedlaethol i Gymru |
Image
| Llwybr Coedwig Cymru: dechrau / diwedd adran |
Teithio
Image
| Maes parcio | Image
| Safle Bws / Coets |
Image
| Gorsaf Drenau | Image
| Terfynell Fferi |
Image
| Ardal Awyrennau |
Cyfleusterau
Image
| Toiled Cyhoeddus | Image
| Tafarn / Bwyty* |
Image
| Caffi* | Image
| Gwesty / Lletya / Tŷ Llety* |
Image
| Gwyliau / Safle Gwersylla* |
Ynglŷn â safleoedd y Goedwig Genedlaethol yn yr adran hon
Eisiau gwybod mwy?
Mae Llwybr Coedwig Cymru yn cynnwys 4 adran wahanol.
Mae pob un ohonynt yn llwybrau hardd trwy safleoedd y Goedwig Genedlaethol.
