Llwybr Coedwig Cymru: Parc Gwledig Porthceri i Goedwig Hensol
Parc Gwledig Porthceri i Goedwig Hensol.
Gan ddechrau ar hyd yr arfordir, ymgollwch yn y coetir a chrwydrwch drwy un o’r rhannau mwyaf amrywiol.
Hyd y llwybr
16.5km
Safleoedd Coedwig Genedlaethol ar hyd y llwybr hwn
- Porthceri
- Coed Whitton
- Coetiroedd Caerdydd a Bro Morgannwg (Coedwig Hensol)
Llwybr
Gan ddechrau ym Mharc Gwledig Porthceri, mae'r 2 km cyntaf o'r llwybr yn mynd â chi ochr yn ochr â choetiroedd o bwysigrwydd cenedlaethol ac i goetiroedd sy'n arddangos treftadaeth y diwydiant coedwigaeth o'r 19eg ganrif.
Wrth i chi adael y parc, mae'r llwybr yn parhau ar droedffordd i gerddwyr ochr yn ochr â ffin planhigfa Middleton, planhigfa lydanddail gymysg a Choedwig Middleton, rhan o SoDdGA Coedydd y Barri, safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a nodwyd am ei goetir llydanddail lled-naturiol. Yna, mae’r llwybr yn dilyn yr hen ffordd, sy’n adnabyddus yn lleol fel lôn bum milltir, sydd ar agor i gerddwyr a beicwyr. Yna mae'n parhau ar hyd y ffin i Goed Sutton.
Arhoswch ar y llwybr hwn am 3km a byddwch yn mynd heibio i fynedfa Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, cartref Coed Whitton ac un o safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru. Fe welwch y coetir i'r gorllewin o'r llwybr trwy'r gwrych.
Wrth i’r llwybr barhau tuag at Dresimwn, fe welwch goetiroedd llydanddail i’r dwyrain ac i’r gorllewin o’r llwybr. Wrth i chi fynd i mewn i'r pentref, gallwch gael mynediad i lawer o amwynderau yma, gan gynnwys tafarndai, caffis a siop y pentref. Wrth adael y pentref, mae’r llwybr yn mynd tua’r gogledd tuag at Goedwig Hensol a heibio Fferm Coed Nadolig Ty Cerrig. Wrth i chi fynd heibio Ty Cerrig byddwch yn mynd i mewn i Goedwig Hensol.
Mae’r llwybr yn parhau am 3km trwy goetiroedd Coedwig Genedlaethol Cymru, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Map o’r llwybr
Efallai na fydd y map yn hygyrch i bob defnyddiwr. Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r map hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru.
Allwedd y map
Ni fydd eitemau sydd wedi'u marcio â seren* yn weladwy nes eu bod wedi'u chwyddo i mewn ar y map.
Llwybr Coedwig Cymru Trail
Image
| Porthceri i Goedwig Hensol | Image
| Coedwig Genedlaethol i Gymru |
Image
| Llwybr Coedwig Cymru: dechrau / diwedd adran |
Teithio
Image
| Maes parcio | Image
| Safle Bws / Coets |
Image
| Gorsaf Drenau | Image
| Terfynell Fferi |
Image
| Ardal Awyrennau |
Cyfleusterau
Image
| Toiled Cyhoeddus | Image
| Tafarn / Bwyty* |
Image
| Caffi* | Image
| Gwesty / Lletya / Tŷ Llety* |
Image
| Gwyliau / Safle Gwersylla* |
Ynglŷn â safleoedd y Goedwig Genedlaethol yn yr adran hon
Eisiau gwybod mwy?
Mae Llwybr Coedwig Cymru yn cynnwys 4 adran wahanol.
Mae pob un ohonynt yn llwybrau hardd trwy safleoedd y Goedwig Genedlaethol.
