Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi heddiw grantiau trafnidiaeth gwerth dros £16 miliwn. Bydd dros £5 miliwn yn cael ei wario ar atgyweirio ffyrdd yn sgil y difrod a achoswyd gan y stormydd ar ddechrau’r flwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwahoddwyd holl awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno cais am gyllid a derbyniwyd 21 o geisiadau oddi wrth 13 o awdurdodau lleol.

Bydd y Gronfa Ffyrdd Cydnerth, sydd werth £16.9 miliwn, yn cyllido 18 o gynlluniau ar draws 13 o awdurdodau lleol. Caiff yr arian ei wario ar gynlluniau a fydd yn lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac yn addasu  iddynt, gan fynd i’r afael ag effaith y tywydd garw ar y rhwydwaith priffyrdd.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates:

“Bydd y gronfa hon yn helpu awdurdodau lleol i dalu am waith y mae gwir angen ei wneud. Mae hyn yn cynnwys dros £6 miliwn ar gyfer adeiladu rhan arall o gynllun amddiffyn yr arfordir Hen Golwyn a fydd yn amddiffyn y briffordd a’r llwybr teithio llesol rhag tywydd garw.”

“Rydym yn buddsoddi £2.5 miliwn yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru, gan gynnwys £400,000 ar gyfer datblygu ateb cynaliadwy a hirdymor i’r A487 yn Niwgwl, Sir Benfro. Caiff dros £4.9 miliwn ei wario ar waith i atgyweirio a diogelu at y dyfodol lwybrau trafnidiaeth allweddol ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf gan fod y stormydd yn gynharach eleni wedi effeithio ar gynifer o’r cymunedau lleol.”

“Mae’r grantiau hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol er mwyn cefnogi twf economaidd cynaliadwy a hirdymor ac adfer ar ôl y stormydd, gwella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a hefyd wella llwybrau a fydd yn annog mwy o bobl yng Nghymru i gerdded a beicio.”