Bydd cymunedau arfordirol ledled Cymru yn derbyn cefnogaeth barhaus wrth i Lywodraeth Cymru ymestyn ei Chynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol am ddwy flynedd arall.

- estynnwyd y Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol am ddwy flynedd i gefnogi pysgodfeydd a chymunedau arfordirol gyda thwf cynaliadwy ac arallgyfeirio
- mae un ar ddeg o brosiectau llwyddiannus eisoes yn cryfhau cysylltiadau rhwng pobl a natur ledled Cymru
- bydd cyllid yn datblygu sgiliau a rhwydweithiau lleol ar gyfer adferiad natur mewn ardaloedd arfordirol
Bydd y cynllun, a ddarperir drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), yn darparu £260,000 y flwyddyn rhwng 2025/26 a 2026/27 i gefnogi mentrau amgylcheddol lleol.
Ers ei lansio ym mis Hydref 2023, mae'r cynllun wedi cefnogi un ar ddeg o brosiectau sy'n helpu pobl i gysylltu â'u hamgylchedd arfordirol a deall sut y gallant gael effaith gadarnhaol ar natur.
Mae prosiectau wedi canolbwyntio ar gryfhau partneriaethau rhwng cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i gyflawni gweithredu cynaliadwy mewn ardaloedd morol ac arfordirol.
Bydd y cyllid estynedig yn canolbwyntio ar bysgodfeydd ac yn sicrhau bod gan gymunedau y gallu, y sgiliau a'r dystiolaeth i gefnogi'r gwaith o gyflawni mentrau adfer natur a thwf cynaliadwy mewn ardaloedd arfordirol yn y dyfodol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r estyniad cyllid hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella gwydnwch yn ein cymunedau arfordirol.
"Mae'r prosiectau hyn a arweinir yn lleol yn union y math o ddull cydweithredol sydd ei angen arnom - dod â chymunedau, awdurdodau lleol a busnesau ynghyd i ddiogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr wrth greu cyfleoedd cynaliadwy.
"Mae'r cynllun yn cryfhau'r cysylltiad rhwng cymunedau arfordirol lleol a natur, gan helpu pobl i ddeall y camau y gallant eu cymryd i wneud gwahaniaeth."
Un o'r 11 prosiect sydd wedi derbyn cyllid yw Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot, cynhaliwyd cyfres o weithdai i gysylltu pobl â'r cynefinoedd a'r rhywogaethau a geir ar yr arfordir, ac i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y cynefinoedd hyn a'r hyn y gellir ei wneud i'w gwarchod.
Dywedodd Chloe Angelone, Cydlynydd Amgylchedd Arfordirol a Morol Castell-nedd Port Talbot:
"Nod y Prosiect Cysylltiadau Arfordirol oedd cael pobl i ymwneud â'r arfordir yng Nghastell-nedd Port Talbot a chodi ymwybyddiaeth o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau rhyfeddol sydd gennym ar hyd ein harfordir. Mae arfordir Castell-nedd Port Talbot yn gyffredinol yn gysylltiedig â'i dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yn hytrach na'i gynefinoedd a'i fannau gwyllt. Nod y prosiect felly oedd tynnu sylw at harddwch naturiol yr ardal ac annog gwerthfawrogiad ehangach o'i bwysigrwydd ecolegol.
“Mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau glanhau traethau a saffari glan y môr. Trefnwyd cwrs cymorth cyntaf mamaliaid morol hefyd gyda Sefydliad Achub Bywyd Morol Deifwyr Prydain fel rhan o'r prosiect, ac mae adborth o'r digwyddiadau wedi bod yn hynod gadarnhaol.”
Mae ceisiadau am gyllid yn parhau i fod ar agor i unrhyw bartneriaid newydd neu bresennol sydd â diddordeb mewn cefnogi cymunedau arfordirol. Dylai sefydliadau sydd â diddordeb gysylltu â'u Cydlynydd Partneriaeth Natur Lleol, a fydd yn gweithredu fel y prif ymgeisydd. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: lnpcymru@wcva.cymru.