Lynne Neagle AS Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Cynnwys

Cyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Cynnwys
Bywgraffiad
Cafodd Lynne Neagle ei enni ym Merthyr Tudful ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a Phrifysgol Reading.
Cyn ei hethol i'r Senedd ym 1999, roedd gan Lynne nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan weithio i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a'r CAB. Roedd hi'n Swyddog Datblygu Gofalwyr gyda Gwirfoddol Gweithredu Caerdydd a bu hefyd yn gweithio fel ymchwilydd i ASE Glenys Kinnock.
Penodwyd Lynne yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles ar 13 Mai 2021.
Cyfrifoldebau
- Iechyd y Cyhoedd: Ymateb i COVID-19, sgrinio a brechu
- Darpariaeth a pherfformiad yn y GIG
- Gweithdrefnau uwchgyfeirio
- Derbyn ac ymateb i adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a'u llywio
- Goruchwylio perthynas Llywodraeth Cymru â Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â gweithgareddau'r GIG
- Hyfforddiant a datblygiad y gweithlu meddygol [ac eithrio blynyddoedd 1-5 Addysg Prifysgol Meddygon]
- Ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Arloesi iechyd a digidol
- Gwasanaethau iechyd meddwl
- Atal hunanladdiad
- Dementia
- Awtistiaeth
- Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
- Camddefnyddio sylweddau
- Iechyd y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
- Iechyd y Cyhoedd: Gwasanaethau gwella iechyd a llesiant
- Strategaeth gordewdra
- Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd
- Bwyd sydd wedi'i addasu'n enetig (ac eithrio tyfu cnydau sydd wedi'u haddasu'n enetig)
- Profiad cleifion, cyfranogiad a llais y dinesydd
- Diogelu
- Gwasanaethau mabwysiadu a gofal maeth
- Eiriolaeth i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cwynion, sylwadau ac eiriolaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Rhannu gwybodaeth o dan Ddeddf Plant 2004
- CAFCASS Cymru
- Polisi a goruchwylio holl weithgareddau’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru o ran gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau statudol
- Goruchwylio Gofal Cymdeithasol Cymru
- Rheoleiddio lleoliadau preswyl, gofal cartref, lleoliadau i oedolion, gofal maeth, darpariaeth gofal i blant dan 8 oed a gofal iechyd preifat
- Arolygu'r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a llunio adroddiadau am yr arolygon hynny (drwy Arolygiaeth Gofal Cymru), gan gynnwys adolygiadau ar y cyd o wasanaethau cymdeithasol ac ymateb i adroddiadau
- Hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
- Blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gan gynnwys y cynnig Gofal Plant a'r gweithlu
- Addysg a gofal plentyndod cynnar
- Dechrau'n Deg ar gyfer plant 0-3 oed
- Teuluoedd yn Gyntaf a pholisïau chwarae