Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr tai sicrhau bod pob tŷ newydd sy’n cael ei adeiladu yn gallu derbyn cysylltiad band eang gigadid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cysylltedd digidol yn gynyddol bwysig i bobl ledled Cymru o ran cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, gweithio gartref neu gyrchu gwasanaethau cyhoeddus. Pan fo cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, rydyn ni eisiau sicrhau bod cysylltiadau’n gyson ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu drwy ei Rhaglen Lywodraethu a’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Bydd y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn yn diwygio rheoliadau adeiladu i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr sicrhau:

  • bod y seilwaith ffisegol a all ymdrin â chyflymder gigadid – sydd ei angen ar gyfer cysylltiadau a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid – yn cael ei osod ym mhob cartref newydd;
  • bod cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid yn cael ei osod mewn cartrefi newydd, hyd at uchafswm cost o £2,000 fesul annedd;
  • neu fod y cysylltiad band eang cyflymaf nesaf yn cael ei osod pan nad yw cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid yn cael ei osod, a hynny heb ragori ar yr uchafswm cost o £2,000.

Mae cysylltiadau digidol cyflym a dibynadwy yn bodloni llawer o’r nodau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae sicrhau cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy mewn cartrefi newydd yn helpu i gynnal cymunedau cydlynus yng Nghymru drwy gefnogi pobl i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd, gan leihau ynysigrwydd cymdeithasol a’i gwneud yn fwy hwylus cyrchu gwasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn bodloni gofynion creu Cymru decach drwy hwyluso mynediad i gyfleoedd addysgol a chyfranogi mewn gweithgareddau dinesig ar-lein.

Mae’r cynnig hwn hefyd yn cefnogi amcanion Cymru’r Dyfodol, sef fframwaith datblygu cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys yr amcan i gefnogi’r gwaith o ddarparu seilwaith a gwasanaethau cyfathrebu digidol ar draws y wlad.

Bydd y cynnig hwn i “gyflenwi cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid” yn ymwneud â ffeibr yn bennaf, a bydd yn ofynnol i ddatblygwyr osod pibelli tanddaearol i’w gwneud yn bosibl gwneud cysylltiadau ag adeiladau.

Bydd yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd heddiw yn cau ar 28 Ebrill 2023, a chaiff yr ymatebion eu cyhoeddi ar ôl hynny. Caiff y ddeddfwriaeth ei gosod gerbron y Senedd yn ddiweddarach.

Mae’r gofynion arfaethedig newydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r arferion datblygu tai presennol. Bydd hyn yn sicrhau bod pob datblygwr yn cymryd y camau angenrheidiol i osod seilwaith a all ymdrin â chyflymder gigadid, a chysylltiadau a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid mewn cartrefi newydd wrth leihau’r baich ar yr un pryd.

Bydd y rheoliadau newydd yn ei gwneud yn ofynnol gosod y seilwaith sydd ei angen i gynnal o leiaf un cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid ym mhob annedd (gan gynnwys ym mhob annedd unigol mewn aneddiadau amlfeddiannaeth). Mae hyn yn cynnwys seilwaith o fewn adeiladau, a’r tu allan iddynt, a leolir unrhyw le ar y safle megis yn y llwybr troed, y dreif neu’r ardal gyffredin sy’n arwain at yr adeilad.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

Mae cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy yn gyfleustod hanfodol. Mae’n hwyluso mynediad at gyfleoedd dysgu gydol oes a gwasanaethau cyhoeddus, yn mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol, yn galluogi pobl i weithio gartref ac yn dod â phobl ynghyd i fynd i’r afael â materion lleol a byd-eang. Yn ddiamau, yn sgil y pandemig, mae llawer mwy o sylw’n cael ei roi i’r galw am gysylltiadau da sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Bydd y cynigion rydyn ni’n ymgynghori arnyn nhw yn ein helpu i symud ymhellach ac yn gyflymach tuag at sicrhau bod ein cartrefi’n addas ar gyfer y dyfodol. Rwy’n annog unigolion, busnesau, elusennau a phawb arall i ymateb i’r ymgynghoriad ac i ddweud eich dweud!”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

Mae cysylltiadau band eang eisoes yn safonol mewn llawer o ddatblygiadau, ond maen nhw’n hanfodol gan fod cynifer o bobl yn gweithio gartref. Drwy ei gwneud yn ofynnol i bob datblygwr tai gynnwys cyfarpar a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid pan fyddan nhw’n adeiladu tai newydd, bydd y cynigion hyn yn helpu i sicrhau y gallwch gymryd yn ganiataol y byddwch chi’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd, dim ots ble rydych chi’n byw. Rwy’n annog pawb â buddiant yn y mater hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel y gallwn ni bwyso a mesur safbwyntiau’r cyhoedd ar y cynigion pwysig hyn.”