Maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn y Cwricwlwm i Gymru: astudiaeth ansoddol (crynodeb)
Ymchwil ansoddol gydag uwch arweinwyr ac ymarferwyr yn archwilio’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm i Gymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ansoddol a oedd yn canolbwyntio ar Faes Dysgu a Phrofiad (Maes) Iechyd a Lles, o dan arweiniad Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Nod yr ymchwil oedd cynnig atebion i 2 brif gwestiwn ymchwil:
- sut mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas â Maes Iechyd a Lles yn cael eu gweithredu yn ymarferol?
- sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cynorthwyo i weithredu Maes Iechyd a Lles fel rhan o Gwricwlwm i Gymru?
Methodoleg
Roedd y fethodoleg yn cynnwys:
- recriwtio 8 ysgol (4 ysgol gynradd a 4 ysgol uwchradd)
- datblygu cwestiynau ymchwil a chanllawiau trafod a ddatblygwyd ar sail gweithdy a gynhaliwyd gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ac adolygiad pen desg o’r lenyddiaeth
- 14 trafodaeth lled-strwythuredig gydag uwch arweinwyr, arweinwyr Maes Iechyd a Lles, ymarferwyr a staff cynorthwyol; cynhaliwyd y trafodaethau hyn ar-lein dros Microsoft Teams, ac roeddent wedi para 60 i 90 munud ar gyfartaledd
- dadansoddiad thematig o drawsgrifiadau trafodaethau
Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth ansoddol hon, yn benodol:
- natur fach a hunanddewisol y sampl, sy’n golygu nad oes modd cyffredinoli ar sail y canfyddiadau
- y ffaith bod y canfyddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd ar un adeg yn unig, gan gyfyngu ar y cyfleoedd i archwilio cynnydd ysgolion gydag amser
- amser cyfyngedig ar gael yn ystod trafodaethau er mwyn gallu archwilio pob agwedd ar waith cynllunio a gweithredu ysgolion
- nid oedd yr ymchwil yn cynnwys lleisiau plant a phobl ifanc, felly nid oedd yn archwilio profiad dysgwyr o’r Maes hwn o’r cwricwlwm
Canfyddiadau
Cwestiwn ymchwil 1: sut mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas â Maes Iechyd a Lles yn cael eu gweithredu yn ymarferol?
Cyfleoedd
Roedd pob ysgol a fu’n rhan o’r astudiaeth hon yn croesawu’r cyfleoedd a gynigir trwy gyfrwng Fframwaith Cwricwlwm i Gymru i ddatblygu cwricwlwm Iechyd a Lles sy’n ymateb i’w cyd-destun ac i anghenion eu dysgwyr yn benodol. Nododd pob ysgol bod iechyd a lles yn flaenoriaeth yng nghynllun datblygu eu hysgol, a’i fod yn ganolog i’w gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm.
Roedd cyflwyno’r Maes hwn wedi galluogi nifer o ysgolion i ddatblygu gwaith blaenorol a wnaethpwyd ganddynt i gynorthwyo iechyd a lles dysgwyr, gan drefnu’r ddarpariaeth o gwmpas y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.
Roedd y trafodaethau wedi datgelu bod pob ysgol yn datblygu dull holistaidd o gynorthwyo iechyd a lles, gan gynnwys iechyd a datblygiad corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol a chymdeithasol. Ym mhob ysgol gynradd, cafodd Iechyd a Lles ei integreiddio yn y cwricwlwm ehangach fel arfer a’i ymwreiddio fel rhan o bynciau a thestunau, yn hytrach na chael ei addysgu fel Maes ar wahân. Cyfeiriodd uwch arweinwyr ac ymarferwyr o bob ysgol uwchradd at gynllunio cwricwlwm Iechyd a Lles integredig, gan hyrwyddo’r rhyng-gysylltiadau rhwng gwahanol agweddau o’r Maes.
Adroddodd ysgolion bod datblygu eu cwricwlwm Iechyd a Lles wedi dechrau cael effaith ar addysgu a dysgu ac ar yr amgylchedd ehangach yn yr ysgol. Roedd wedi codi statws y Maes hwn, ac mewn rhai achosion, roedd wedi arwain at fwy o amser yn cael ei neilltuo i iechyd a lles. Adroddodd ysgolion y bu mwy o ddulliau yn seiliedig ar dystiolaeth wrth gyflwyno darpariaeth iechyd a lles: adroddodd hanner yr ysgolion yn y sampl eu bod wedi defnyddio eu data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) i gyfrannu at weithgarwch cynllunio y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu hadlewyrchu yn yr addysgu a’r dysgu.
Roedd uwch arweinwyr wedi mynegi barn yn gyson bod cyflwyno’r Maes hwn yn cael effaith gadarnhaol ar ddealltwriaeth dysgwyr o’u hiechyd a lles eu hunain, ar allu dysgwyr i fynegi problemau pan fyddent yn codi, a gwybodaeth dysgwyr am sut a ble i fanteisio ar gymorth.
Roedd cyflwyno’r Maes hwn o’r cwricwlwm wedi cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol ychwanegol i ymarferwyr ac arweinwyr mewn rhai ysgolion, gan gynnwys cyfleoedd i fynychu cyrsiau a rhwydweithiau, ac i ymgymryd â rolau arwain ychwanegol mewn perthynas ag iechyd a lles.
Nododd rhai ysgolion cynradd ac uwchradd bod eu gwaith i gynllunio’r Maes Iechyd a Lles wedi cyd-fynd â’u hymdrechion i ddatblygu cysylltiadau a chydberthnasoedd fel rhan o waith yn ymwneud â menter Ysgolion Bro.
Cynllun a strwythur
Adroddodd pob ysgol yn y sampl bod y broses o gynllunio’r Maes Iechyd a Lles wedi cynnwys adolygu ac archwilio’r ddarpariaeth flaenorol. Defnyddiwyd y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn helaeth gan ysgolion i gefnogi’r broses o gynllunio’r cwricwlwm, er bod rhai ysgolion wedi adrodd y byddent wedi elwa o gael mwy o ganllawiau cychwynnol ar ddulliau o gynllunio’r Maes hwn.
Nododd uwch arweinwyr yn gyson eu bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod Maes Iechyd a Lles yn cael ei gynllunio i ddiwallu anghenion pob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a dysgwyr y mae gofyn iddynt gael cymorth gwahaniaethol. Roedd ysgolion yn croesawu’r hyblygrwydd a gynigiwyd gan Gwricwlwm i Gymru er mwyn eu galluogi i fabwysiadu dulliau wedi’u teilwra i ymateb i anghenion a chyd-destun eu dysgwyr. Roedd y ffactorau cyffredin y cyfeiriwyd atynt gan uwch arweinwyr ac ymarferwyr a oedd yn teimlo bod eu hysgol yn gwneud cynnydd wrth ymateb i anghenion dysgwyr drwy ddyluniad y Maes Iechyd a Lles fel a ganlyn:
- cynnig cymysgedd o brofiadau dysgu mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol, gan gynnwys y defnydd o ardaloedd allanol
- yr angen am athrawon a staff cymorth sy’n meddu ar y sgiliau a’r profiad i fedru cynllunio a gweithredu cwricwlwm wedi’i deilwra sy’n cefnogi lles dysgwyr
- pwysigrwydd sefydlu prosesau adolygu a gwerthuso yn yr ysgol er mwyn cefnogi gwelliannau parhaus i gynllun a gweithrediad y cwricwlwm
Adroddodd pob ysgol eu bod wedi manteisio ar safbwyntiau dysgwyr wrth gynllunio’r Maes hwn o’r cwricwlwm; adroddodd ysgolion bod hyn wedi helpu i sicrhau bod addysgu a dysgu yn y Maes hwn yn berthnasol a’i fod yn cefnogi gweithgarwch sy’n ennyn diddordeb dysgwyr.
Daeth darlun anghyson i’r amlwg o’r trafodaethau gydag ysgolion ynghylch gwaith clwstwr. Adroddodd rhan fwyaf yr ysgolion cynradd yn y sampl, lle’r oedd cydweithio wedi digwydd, bod hyn yn digwydd rhwng gwahanol ysgolion cynradd ac nad oedd fel arfer yn cynnwys ysgolion uwchradd. I’r gwrthwyneb, nododd pob ysgol uwchradd bod rhywfaint o drafodaeth a gwaith clwstwr wedi digwydd gydag ysgolion cynradd yn eu clwstwr. Nododd rhai ysgolion mai’r prif rwystrau a oedd yn atal gwaith clwstwr yn y Maes hwn oedd y ffaith nad oedd amserlenni a phrosesau ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm yn cyd-fynd yn llawn; cyfeiriodd rhai ysgolion uwchradd hefyd at yr heriau sy’n gysylltiedig â chydlynu cydweithio ar draws niferoedd mawr o ysgolion cynradd sy’n eu bwydo.
Roedd arweinyddiaeth y Maes cwricwlwm Iechyd a Lles yn unigryw i bob ysgol. Er gwaethaf gwahaniaethau rhwng strwythurau arwain, roedd cydnabyddiaeth eang ar draws y sampl o’r angen am ddull cyffredin er mwyn cefnogi’r Maes hwn o fewn y cwricwlwm, ac anogwyd arweinyddiaeth wasgaredig.
Ym mhob ysgol, dywedodd uwch arweinwyr eu bod wedi ceisio cynllunio’r Maes Iechyd a Lles i gyd-fynd â’u Dull Ysgol Gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Roedd nifer o’r arferion a ddisgrifiwyd gan uwch arweinwyr ac ymarferwyr trwy gydol yr ymchwil yn amlygu aliniad rhwng gwaith cynllunio, addysgu a dysgu ym Maes Iechyd a Lles a darparu eu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Adroddodd ysgolion bod aelod o’r uwch dîm arwain (UDA) wedi arwain y dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol ac mai hwn oedd yr unigolyn oedd â throsolwg fel arfer o’r Maes Iechyd a Lles.
Addysgeg er mwyn cefnogi addysgu a chynnydd
Nododd yr holl uwch arweinwyr bod datblygu dysgu ac addysgu o ansawdd uchel ym Maes Iechyd a Lles yn flaenoriaeth. Roedd ysgolion wedi mabwysiadu amrediad o ddulliau addysgegol, gyda rhai yn adrodd bod y 12 egwyddor addysgegol yn nodwedd gadarn o’r dulliau hyn.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn ceisio integreiddio’r gwahanol ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer y Maes hwn, gan adlewyrchu’r dull holistaidd o gefnogi Iechyd a Lles a gynigir yn y canllawiau, a chwblhau gwaith cynllunio i ddangos y cysylltiadau rhwng y gwahanol agweddau o Faes Iechyd a Lles.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio addysgeg berthynol, er enghraifft, arfer adferol, fel un ffordd o roi sylw i’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig ‘cydberthnasoedd iach’. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion cynradd hefyd yn defnyddio dulliau ymarfer yn seiliedig ar drawma, gan adlewyrchu’r aliniad rhwng Maes Iechyd a Lles a’r Dull Ysgol Gyfan, sy’n hyrwyddo dysgwyr yn cael eu haddysgu gan ymarferwyr hyfforddedig mewn arferion sy’n seiliedig ar drawma.
Nododd y rhan fwyaf o ysgolion nad oeddent wedi manteisio ar ddysgu proffesiynol allanol sy’n gysylltiedig ag addysgeg ar gyfer Iechyd a Lles, a’u bod yn hytrach wedi dibynnu ar gymorth yn yr ysgol. Cyfeiriwyd at y costau a’r tarfu tybiedig ar ddysgwyr fel rhai o’r rhesymau dros hyn.
Adroddodd pob ysgol eu bod yn defnyddio camau cynnydd er mwyn cyfrannu at asesu cynnydd dysgwyr yn y Maes. Roedd rhai yn mapio cynnydd rhwng ysgolion cynradd a’r uwchradd ar draws eu clwstwr, er yr adroddwyd ei bod yn ddyddiau cynnar o ran y gweithgarwch hwn, ac amlygodd nifer o gyfranogwyr nad oedd unrhyw ddealltwriaeth genedlaethol gyffredin o asesu cynnydd dysgwyr yn y Maes hwn.
Roedd pob ysgol yn defnyddio dulliau yn canolbwyntio ar y dysgwr er mwyn asesu cynnydd ym Maes Iechyd a Lles. Anogwyd dysgwyr i gymryd rôl weithredol wrth asesu eu cynnydd eu hunain ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd. Roedd ysgolion cynradd yn cynnwys eu dysgwyr mewn adolygiadau cynnydd, wrth i ddysgwyr gofnodi a rhannu eu cynnydd gyda rhieni neu gofalwyr a gyda’i gilydd, ac roedd ysgolion uwchradd yn cynnwys amser gyda thiwtoriaid, ymarferwyr a chymheiriaid er mwyn i ddysgwyr fyfyrio ar eu cynnydd a chysylltu hyn gyda’u llesiant.
Roedd rhai ysgolion wedi defnyddio dulliau yn seiliedig ar dystiolaeth wrth ystyried cynnydd. Yn benodol, adroddodd ysgolion cynradd yn aml eu bod yn defnyddio ymyrraeth y Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) er mwyn deall a chefnogi anghenion a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr.
Adroddodd bron i bob ysgol uwchradd a chynradd natur gymhleth y meysydd lles meddyliol, emosiynol a chymdeithasol a’r anawsterau y maent yn eu hwynebu wrth ‘fesur’ y rhain mewn ystyr traddodiadol.
Nododd rhai ysgolion uwchradd eu bod yn wynebu heriau ychwanegol o ganlyniad i’r ffaith nad oedd y manylebau TGAU wedi cael eu cyhoeddi cyn iddynt gynllunio’r cwricwlwm ar gyfer Blwyddyn 7 i 9, ac o ganlyniad, bu’n rhaid iddynt ailystyried dulliau addysgu a dysgu yn nes ymlaen.
Heriau a wynebwyd ym Maes Iechyd a Lles
Soniodd uwch arweinwyr ac ymarferwyr ym mhob ysgol am yr her o ddod o hyd i amser i gynllunio ar gyfer y Maes ac i gymryd rhan a darparu gweithgareddau iechyd a lles, cynnig gweithgareddau er mwyn gweithredu’r Maes yn llwyddiannus, gan nodi pwysigrwydd amser neilltuedig yn ystod amserlen yr ysgol er mwyn cyflawni hyn.
Cyfeiriodd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr at heriau mewn perthynas ag effaith tlodi ac effaith barhaus pandemig COVID-19 ar iechyd a lles dysgwyr, a sut y mae angen meithrin dysgwyr mewn sawl achos cyn y byddant yn barod i ddysgu.
Cyfeiriodd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr at lefelau hyder isel ymhlith rhai staff addysgu am eu rôl wrth gynllunio a darparu ar gyfer cynnwys Maes Iechyd a Lles, yn enwedig yng nghyd-destun llwyth gwaith beichus ymarferwyr.
Cyfeiriodd uwch arweinwyr yn y rhan fwyaf o ysgolion at yr heriau sy’n gysylltiedig â chyfyngiadau cyllidebol a’r cynnydd yng nghostau gweithgareddau, er enghraifft teithio oddi ar y safle i fynychu chwaraeon, llogi lleoliadau, prynu adnoddau o ansawdd uchel a gwahodd asiantaethau allanol i’r ysgol.
Cwestiwn ymchwil 2: sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cynorthwyo i weithredu Maes Iechyd a Lles fel rhan o Gwricwlwm i Gymru?
Adroddodd pob ysgol gynradd ac uwchradd eu bod yn ddibynnol ar brofiad a gwybodaeth broffesiynol eu staff wrth gynllunio a gweithredu’r cwricwlwm Iechyd a Lles.
Fodd bynnag, roedd pob ysgol hefyd wedi manteisio ar ystod eang o ffynonellau er mwyn cefnogi gweithredu’r Maes hwn o’r cwricwlwm. Roedd hyn yn cynnwys canllawiau Cwricwlwm i Gymru, ymgysylltu â chymunedau ymarfer, gweithio mewn clystyrau a gwaith arall ar y cyd, megis gweithgorau o dan arweiniad awdurdodau lleol. Cyfeiriodd ysgolion at gymorth arall, gan gynnwys rhaglenni masnachol, cyrff cyhoeddus, rhwydweithiau a ffynonellau data prifysgolion a phartneriaid teuluol a chymunedol.
Byddai rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr yn croesawu cyfleoedd dysgu proffesiynol ychwanegol ynghylch asesu a chynnydd, gan gynnwys dulliau ar gyfer deall a monitro datblygiad dysgwyr mewn perthynas â’u lles emosiynol. Adroddont hefyd y byddent yn gwerthfawrogi cyfleoedd i rannu a dysgu gan arfer effeithiol neu arloesol mewn ysgolion eraill wrth ddatblygu’r Maes hwn.
Byddai’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn croesawu dysgu proffesiynol ynghylch yr agwedd gorfforol ar Faes Iechyd a Lles a byddai 2 ysgol yn croesawu cyngor ynghylch sut i integreiddio’r Maes cwricwlwm hwn gydag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh).
Nododd uwch arweinwyr ac ymarferwyr ble y byddent yn croesawu dysgu proffesiynol ychwanegol er mwyn rhoi sylw i’r bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau, yn arbennig gydag asesu a chynnydd; cyfleoedd i ddysgu gan arfer da; a chyfleoedd a chanllawiau er mwyn cefnogi gwaith cynllunio ar draws clystyrau.
Dim ond 2 ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg oedd yn y sampl, ond nododd y ddwy ysgol bod diffyg adnoddau addysgu yn Gymraeg, ac adroddont bod hyn wedi cael effaith negyddol ar yr amser oedd ar gael i staff ac ar ansawdd yr adnoddau y gallent eu cynnig i ddysgwyr.
Argymhellion a meysydd i’w hystyried
Nododd yr ymchwil angen clir yn y Maes hwn i ysgolion gael cymorth wrth ddatblygu arfer hyderus er mwyn mesur cynnydd dysgwyr. Gan fod sawl ysgol wedi adrodd ei bod hi’n ddyddiau cynnar o ran gweithgarwch cynllunio ar gyfer cynnydd ac asesu, dylid ystyried cynnig cymorth ychwanegol i ysgolion i ddatblygu arferion asesu effeithiol ym Maes Iechyd a Lles.
Dylid ystyried sut y gellid hwyluso cynllunio a chydlynu mwy effeithiol ym Maes Iechyd a Lles rhwng ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo. Dylid rhoi ystyriaeth bellach i’r ffordd o wella cydweithio o fewn clystyrau hefyd, er mwyn sicrhau cynnydd a phontio effeithiol ar gyfer dysgwyr o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, gyda ffocws ar gefnogi parhad mewn perthynas ag iechyd a lles.
Clywodd yr astudiaeth am enghreifftiau o uwch arweinwyr ac ymarferwyr a oedd wedi cael budd o’u cyswllt gyda chymunedau ymarfer a gweithgarwch arall ar y cyd a oedd wedi arwain at rannu arbenigedd ac arfer effeithiol, a mwy o hyder ymhlith ymarferwyr. Gallai Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws y system ehangach archwilio ffyrdd o hwyluso cyfleoedd pellach i ysgolion gymryd rhan mewn gwaith ar y cyd er mwyn cefnogi cynllunio a gweithredu Maes Iechyd a Lles.
Dylid ystyried darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ychwanegol sy’n benodol i Faes Iechyd a Lles. Nododd yr ymchwil y byddai o fudd pe bai’r cyfleoedd hyn yn cynnwys y meysydd canlynol: asesu a chynnydd; maes corfforol iechyd a lles (yn enwedig ar gyfer ysgolion cynradd); manteisio ar arfer effeithiol ac arloesol a ddatblygwyd gan ysgolion eraill; cynllunio a chydweithio o fewn clystyrau; ac aliniad rhwng iechyd a lles ac ACRh.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Dr Anna Bryant, Yr Athro David Egan, Dr Mirain Rhys ac Alexis Bennett (Prifysgol Metropolitan Caerdydd); Brett Duggan a Dr Felicity Morris (Arad)
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Cangen Ymchwil Cwricwlwm
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwil.cwricwlwm@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 71/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-108-6

