Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o ymchwil ansoddol gydag uwch arweinwyr ac ymarferwyr sy'n archwilio maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn y Cwricwlwm i Gymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru
Mae'r gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru yn mabwysiadu dulliau cymysg gan gynnwys arolygon o uwch arweinwyr ac ymarferwyr, arolygon o rieni/gofalwyr a dysgwyr, astudiaethau achos hydredol i ddeall teithiau gwireddu cwricwlwm ysgolion, a sawl astudiaeth ansoddol seiliedig ar bynciau sy'n archwilio elfennau penodol o Gwricwlwm i Gymru. Ei nod yw darparu darlun ansoddol a meintiol eang o sut mae'r diwygiadau'n gweithio, sut mae arfer yn newid a sut mae ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd yn profi'r newidiadau hyn.
Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau un o’r astudiaethau ansoddol seiliedig ar bwnc y gwerthusiad. Roedd yr ymchwil yn cynnwys gwaith maes gydag 8 ysgol (4 ysgol gynradd a 4 ysgol uwchradd), a gynhaliwyd rhwng mis Mehefin a mis Hydref 2024. Fe'i harweiniwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a'i gefnogi gan Ymchwil Arad.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar:
- cyfleoedd a gynigir gan y Maes Iechyd a Lles
- cynllunio a strwythur y Maes Iechyd a Lles
- addysgeg a ddefnyddir i gefnogi addysgu a chynnydd yn y Maes Iechyd a Lles
- heriau a wynebir yn y Maes Iechyd a Lles
- sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cefnogi i weithredu'r Maes Iechyd a Lles fel rhan o Gwricwlwm Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac wedi cyhoeddi ymateb.
