Rydym eisiau eich barn ar y canllawiau arfaethedig ar gynnydd mewn mathemateg a rhifedd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bwriad y canllawiau arfaethedig yw rhoi eglurder i ymarferwyr ar yr hyn y dylai dysgwyr ei ddysgu a phryd.
Rydym am glywed eich barn am y canlynol:
- strwythur a chynnwys y canllawiau arfaethedig
- eglurder a chydlyniant y cynnydd mewn mathemateg a rhifedd
- a yw'r manylder a ddarperir yn briodol
- sut y gallai'r canllawiau gefnogi cynllunio'r cwricwlwm, cynllunio cynnydd, dysgu ac addysgu, ac asesu, yn y ffordd orau
- ystyriaethau gweithredu, gan gynnwys dysgu proffesiynol, adnoddau a gofynion o ran cymorth
- effaith bosibl y cynigion
Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio'r canllawiau terfynol ac yn cefnogi'r trefniadau gweithredu.
Dogfennau ymgynghori
Manylion cynnydd mathemateg a rhifedd: canllawiau statudol (drafft) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 902 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Help a chymorth
I gael rhagor o wybodaeth:
Mathemateg a Rhifedd
Cwricwlwm ac Asesu
Dysgu, Cymunedau a Diwylliant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: cwricwlwmigymru@llyw.cymru
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 22 Chwefror 2027, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Mathemateg a Rhifedd
Cwricwlwm ac Asesu
Dysgu, Cymunedau a Diwylliant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
