Manylion cynnydd mathemateg a rhifedd
Rydym yn gofyn am farn ar ganllawiau arfaethedig ar gynnydd mathemateg a rhifedd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae’r canllawiau’n rhan o’r gwaith sy’n deillio o’r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a gyhoeddwyd ar 15 Medi, ac fe’i datblygwyd i roi mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei ddysgu a phryd. Y bwriad yw ategu’r canllawiau presennol ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd o fewn y Cwricwlwm i Gymru.
Rydym am glywed eich barn ar y canlynol:
- strwythur a chynnwys y canllawiau arfaethedig
- eglurder a chydlyniaeth cynnydd mathemateg a rhifedd
- a yw lefel y manylder a ddarperir yn briodol
- sut gall y canllawiau gefnogi’r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm, cynllunio cynnydd, dysgu ac addysgu
- ystyriaethau gweithredu, gan gynnwys dysgu proffesiynol, adnoddau a gofynion cymorth
- effeithiau posibl y cynigion
- unrhyw fater arall sy’n berthnasol i gynnwys y canllawiau yn eich barn chi.
Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio’r canllawiau terfynol a’r trefniadau gweithredu ategol.
Cynhaliwyd amrywiaeth o asesiadau effaith i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r canllawiau, gan gynnwys Asesiad o’r Effaith ar Lwyth Gwaith. Mae’r asesiad hwn wedi nodi bod disgwyl i’r canllawiau greu cynnydd cyfyngedig tymor byr yn y llwyth gwaith sy’n gysylltiedig ag ymgyfarwyddo a gweithredu, a fydd yn cael ei liniaru drwy ddysgu proffesiynol a chymorth gweithredu.
Dros amser, disgwylir i’r canllawiau leihau’r llwyth gwaith drwy ddarparu mwy o eglurder a chysondeb o ran addysgu a dysgu llythrennedd, a dealltwriaeth o gynnydd. Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i gasglu rhagor o dystiolaeth am heriau ymarferol, ystyriaethau gweithredu a goblygiadau posibl o ran llwyth gwaith cyn i’r canllawiau gael eu cwblhau.
Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau arfaethedig ar gynnydd mathemateg a rhifedd i gefnogi dysgu ac addysgu mathemateg a rhifedd yng Nghymru. Mae’r canllawiau’n rhoi manylion ychwanegol o flwyddyn i flwyddyn am yr hyn y dylai dysgwyr ei ddysgu a phryd wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau mathemateg a rhifedd. Y bwriad yw cryfhau dealltwriaeth o gynnydd, cefnogi dysgu ac addysgu, a helpu ymarferwyr i nodi a chynllunio’r camau nesaf ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys y dysgwyr mwyaf galluog.
Cyhoeddir y canllawiau hyn i gefnogi’r gwaith o ddylunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwla o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae’n ganllaw statudol i’r holl bobl a’r cyrff a nodir isod. Rhaid i’r bobl hynny roi sylw i’r canllawiau hyn wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r bobl a’r cyrff hynny ystyried y canllawiau wrth wneud penderfyniadau am gynllunio a gweithredu’r cwricwlwm a bod yn rhaid iddynt gael rhesymau da os ydynt yn dymuno gwyro oddi wrthynt.
Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu at y canlynol:
- cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir
- penaethiaid ysgolion a gynhelir
- awdurdodau lleol mewn perthynas ag unedau cyfeirio disgyblion
- athrawon sy’n gyfrifol am unedau cyfeirio disgyblion
- darparwyr addysg feithrin a ariennir ond nas cynhelir (h.y. meithrinfeydd preifat a ariennir gan yr awdurdod lleol o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i ddarparu addysg feithrin i blant o dan oedran ysgol gorfodol)
Mae’r canllawiau arfaethedig yn rhan o’r gwaith sy’n deillio o’r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a gyhoeddwyd ar 15 Medi i godi safonau ledled Cymru. Fe’i cynlluniwyd i ategu Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd presennol o fewn y Cwricwlwm i Gymru.
Pam y mae'r canllaw wedi cael ei ddatblygu
Mae’r canllawiau’n rhan o’r gwaith ehangach i godi safonau mewn mathemateg a rhifedd yng Nghymru. Fe’u datblygwyd i roi mwy o eglurder a manylion ychwanegol am gynnydd mathemateg a rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru, gan helpu ysgolion ac ymarferwyr i ddeall sut mae dysgu’n datblygu ar draws y continwwm 3 i 16. Y bwriad yw ategu canllawiau presennol y cwricwlwm i gefnogi’r gwaith o gynllunio, dysgu ac addysgu’r cwricwlwm.
Helpwch ni i lunio’r canllawiau
Mae ymgynghori yn gam allweddol yn natblygiad y canllawiau, ac rydym am glywed yn uniongyrchol gan ymarferwyr, ysgolion ac eraill sydd â buddiant mewn addysg llythrennedd. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall a yw’r canllawiau’n glir, yn ymarferol ac yn gymesur, a nodi lle gellir eu cryfhau i sicrhau eu bod yn darparu cymorth ystyrlon i ysgolion, lleoliadau ac ymarferwyr.
Sut i ymateb
Dylid e-bostio neu postio ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i’r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn 22 Chwefror 2027 fan bellaf.
Gallwch ymateb drwy un o’r ffyrdd canlynol:
- llenwi’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad a’i hanfon drwy e-bost: cwricwlwmigymru@llyw.cymru
- llenwi’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad a’i phostio i:
Mathemateg a Rhifedd
Yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cwestiynau'r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
I ba raddau mae’r canllawiau cynnydd arfaethedig yn gwella eich dealltwriaeth o sut i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn mathemateg a rhifedd, gan gynnwys cefnogi datblygiad tuag at gam cynnydd 1?
Cwestiwn 2
I ba raddau ydych chi’n meddwl bod y canllawiau cynnydd arfaethedig yn berthnasol ac yn briodol ar gyfer deall cynnydd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol?
Cwestiwn 3
Pa mor ddefnyddiol yw’r canllawiau cynnydd arfaethedig o ran cefnogi’r gwaith o gynllunio, addysgu a dysgu’r cwricwlwm?
Cwestiwn 4
Wrth daro cydbwysedd rhwng eglurder, ymreolaeth broffesiynol a llwyth gwaith, sut byddech chi’n disgrifio lefel y manylder a ddarperir yn y tablau camau cynnydd?
Cwestiwn 5
Ydych chi’n cytuno â’n dull o drefnu’r wybodaeth yn ôl camau cynnydd gyda grwpiau blwyddyn dangosol nodweddiadol?
Cwestiwn 6
A yw’r manylion ychwanegol yn addas i gefnogi ymarferwyr sy’n addysgu pynciau eraill i ddeall beth sydd angen i blant ei ddysgu o ran rhifedd a phryd i wreiddio hyn ar draws y cwricwlwm?
Cwestiwn 7
Pa mor glir a defnyddiol yw cyflwyniad y canllawiau?
Cwestiwn 8
Pa mor glir a defnyddiol yw’r cyflwyniad i bob cam cynnydd?
Cwestiwn 9
Pa mor glir a defnyddiol yw cynnwys y tablau cynnydd o dan y pennawd: ‘Dylai profiadau dysgu gynnwys’?
Cwestiwn 10
Pa mor glir a defnyddiol yw cynnwys y tablau cynnydd o dan y pennawd: ‘Mae’r dysgwyr yn hyderus ac yn ddibynadwy o ran...’?
Cwestiwn 11
Pa ddysgu proffesiynol, enghreifftiau, adnoddau, cymorth asesu neu ganllawiau a fyddai’n helpu i weithredu’n effeithiol y canllawiau manwl arfaethedig ar gynnydd mathemateg a rhifedd?
Cwestiwn 12
Yn eich barn chi, pa effaith fyddai’r newidiadau arfaethedig yn ei chael ar eich llwyth gwaith, yn ystod y cyfnod gweithredu ac yn barhaus? Esboniwch unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ac unrhyw gamau a allai helpu i osgoi neu leihau llwyth gwaith ychwanegol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y canlynol:
- yr effaith arnoch chi nawr a thros y 12 mis nesaf
- yr effaith debygol ar ôl 12 mis
- beth y gellid ei wneud i liniaru’r effaith
Cwestiwn 13
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau cynnydd arfaethedig ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 14
Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r canllawiau cynnydd er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ateb y cwestiynau uchod.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol rydych chi’n eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn. Bydd hyn yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu wrth gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Mewn ymgynghoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw na’ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i’ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i’r canlynol:
- cael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
- mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
- gwrthwynebu neu atal prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
- ‘dileu’ eich data (mewn amgylchiadau penodol)
- cludo data (mewn amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan reoliad GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico wefan
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn ddiogel a dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen arnom.
Os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch sut rydym yn defnyddio eich data personol, byddem yn eich annog i'w codi gyda'r tîm perthnasol yn y lle cyntaf.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:
Ffurflen ar-lein: Cwblhau ein ffurflen gwyno ar-lein
Ffôn: 03000 251378
e-bost: Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon dros e-bost i cwynion@llyw.cymru
Drwy'r post i:
Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
