Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Diben

Mae map llwybrau BSL yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu newid cadarnhaol ac adeiladu cymdeithas sy'n fwy cynhwysol a chyfartal lle caiff BSL ei chydnabod, ei dathlu a'i hymwreiddio ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus.

Bydd y map llwybrau yn cynrychioli'r camau cyntaf tuag at gyflawni ein huchelgais i greu Cymru sy'n parchu, yn hyrwyddo ac yn hwyluso BSL, drwy gamau gweithredu byrdymor a gaiff eu cwblhau o fewn 18 mis.  Bydd y camau gweithredu hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer polisïau a strategaethau, er mwyn creu newid parhaol a mwy o gynhwysiant i arwyddwyr BSL byddar.  

Mae'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL wedi cael eu llywio gan yr argymhellion byrdymor a luniwyd gan Grŵp Rhanddeiliaid BSL.

Uchelgais hirdymor

Mae map llwybrau BSL yn amlinellu ein huchelgais gyffredinol:

adeiladu cymdeithas sy'n grymuso'r gymuned arwyddo BSL fyddar, a chreu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.

Integreiddio

Mae camau gweithredu mewn perthynas â BSL yn drawslywodraethol yn ogystal â chroestoriadol. Mae pob maes polisi fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn dyrannu adnoddau i gyflawni amcanion y Llywodraeth. Mae'r adnoddau yn helpu i wella canlyniadau BSL fel rhan o fentrau polisi ehangach. 

Mae map llwybrau BSL yn amlinellu'r camau cychwynnol i hyrwyddo a hwyluso BSL, herio rhwystrau iaith presennol a gwella canlyniadau i gymuned arwyddo BSL fyddar Cymru. 

Mae map llwybrau BSL yn cynnwys pedair thema allweddol a 10 cam gweithredu, a lywiwyd gan argymhellion byrdymor Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL. Y pedair prif thema yw: 

  1. Casglu data a thystiolaeth o ran BSL.
  2. Hyrwyddo BSL fel iaith. 
  3. Darpariaeth BSL Llywodraeth Cymru.
  4. Llwybrau o fewn gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r themâu a'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL yn drawslywodraethol ac yn ymwneud â BSL yn llawer o feysydd polisi Llywodraeth Cymru. Caiff camau gweithredu trawslywodraethol sy'n ymwneud â meysydd polisi penodol, eu cyflawni fel rhan o amcanion polisi a strategaethau presennol.

Integreiddio: Cynllun Hawliau Pobl Anabl

Mae Cynllun Hawliau Pobl Anabl Cymru yn nodi ein huchelgais ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad cyfartal.Gwyddom nad yw llawer o arwyddwyr BSL byddar bob amser yn ystyried eu bod yn anabl a'u bod yn hytrach, yn perthyn i leiafrif ieithyddol. Bydd y map llwybrau BSL yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, gan gydnabod bod gan BSL ei hunaniaeth ieithyddol, hanesyddol a diwylliannol unigryw ei hun.

Bydd camau gweithredu ym map llwybrau BSL a'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn ategu ein nod o hyrwyddo a hwyluso BSL.

Adeiladu ar gynnydd

Rydym wedi dechrau gwneud cynnydd trawslywodraethol i sicrhau bod BSL yn cael ei chydnabod, ei hyrwyddo a'i hwyluso'n well ledled Cymru, a chyflawni ein gweledigaeth i greu cymdeithas sy'n grymuso'r gymuned arwyddo BSL fyddar. Bydd y camau gweithredu byrdymor a amlinellir yn y map llwybrau hwn yn cyd-fynd â strategaethau a gwaith trawslywodraethol sy'n mynd rhagddynt yn barod ac yn adeiladu arnynt. 

Ar 22 Medi 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd, ehangach o Safonau Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch Cymru Gyfan y GIG. I gyd-fynd â'r Safonau hyn, cyhoeddwyd y Weithdrefn Weithredu Safonol ar gyfer comisiynu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ym maes gofal iechyd sylfaenol ac argyfwng, a'r Safon Gwybodaeth Hygyrch ar gyfer practisau meddygon teulu. Mae'r Safonau newydd yn cynnwys cofnodi a chadw gwybodaeth gywir am gleifion, er mwyn galluogi darparwyr gwasanaeth i gyfathrebu â chleifion, gan gynnwys arwyddwyr BSL byddar, mewn ffordd glir ac effeithiol. Bydd y camau a gymerir i roi'r Safonau newydd ar waith yn ategu ac yn cefnogi gwaith y map llwybrau BSL.

Cydweithio a chynnwys

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddylunio a datblygu polisi a gaiff ei lywio gan brofiadau bywyd ac sy'n cael yr effaith gadarnhaol fwyaf posibl ar arwyddwyr BSL byddar.

Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL ei sefydlu ym mis Ionawr 2025, yn dilyn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024  gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip. Roedd y grŵp yn gyfrifol am ddatblygu cyfres o argymhellion allweddol er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i lunio map llwybrau ar gyfer polisi BSL.

Mae'r grŵp wedi cyfarfod bob mis rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2025 i edrych ar rwystrau iaith a'r camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau mynediad teg at wybodaeth a gwasanaethau i arwyddwyr BSL byddar mewn ystod eang o feysydd polisi. Ymhlith y pynciau a drafodwyd mae hawliau iaith, data ac ymchwil ym maes BSL, y ddarpariaeth BSL yn y sector addysg a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau dehongli a chyfieithu BSL.

Mae'r grŵp wedi gorffen llunio'r argymhellion erbyn hyn a chafodd argymhellion a chylch gorchwyl y grŵp eu cyhoeddi ar 30 Medi 2025.

Roedd y grŵp yn cynnwys cymysgedd cynrychioliadol ac amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys mudiadau ac elusennau i bobl fyddar, a chyfrannodd pob un ohonynt arbenigedd gwerthfawr a phrofiadau bywyd. Prif iaith trafodaethau'r grŵp oedd BSL. Roedd y grŵp yn cael ei gyd-gadeirio gan ddau arwyddwr BSL byddar.

Ar ôl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL gwblhau ei waith, mae'r grŵp wedi ailgynnull am gyfnod o 18 mis o dan Gylch Gorchwyl newydd, er mwyn helpu i gyflawni'r map llwybrau a rhoi'r camau gweithredu byrdymor ar waith.  Bydd yr amserlen hon o 18 mis yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn ystod cyfnod cyflawni llawn y camau gweithredu byrdymor a nodir ym map llwybrau BSL ac yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu ac ymgynghori â'r gymuned arwyddo BSL fyddar er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr heriau mwyaf sy'n wynebu'r gymuned arwyddo BSL fyddar yng Nghymru.

Canlyniad ac effaith

Bwriedir i'r camau gweithredu byrdymor yn y map llwybrau gael eu defnyddio fel man cychwyn, i ategu'r llwybr ar gyfer datblygu polisïau yn y dyfodol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a dechrau'r daith tuag at gyflawni ein gweledigaeth gyffredinol. 

Drwy ganolbwyntio'n gyntaf ar gyflawni blaenoriaethau byrdymor, sy'n rhoi pwyslais ar hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth, mapio a chwmpasu, a chasglu data, gallwn adeiladu'r sylfaen ar gyfer cynnydd yn y dyfodol. 

Mae'r map llwybrau yn nodi'r camau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn y tymor byr, i'w cwblhau o fewn 18 mis.  Bydd y gwaith i gyflawni'r camau gweithredu byrdymor yn dechrau pan gaiff y map llwybrau hwn ei gyhoeddi, gyda tharged i'w cwblhau o fewn 18 mis i'r man cychwyn. 

Drwy ddechrau'r gweithgareddau cychwynnol hyn yn gynnar, rydym yn ceisio cynnal momentwm a sicrhau ein bod yn paratoi ar gyfer nodau hirdymor.  Mae rhoi cyfnod o 18 mis i gwblhau'r camau gweithredu byrdymor yn ein galluogi i bennu camau gweithredu mesuradwy seiliedig ar amser i sicrhau newid ystyrlon i arwyddwyr BSL byddar.

Costau ac arbedion

Caiff y camau gweithredu byrdymor eu hariannu drwy gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru, gan sicrhau cysondeb â blaenoriaethau cyflawni polisi sy'n rhychwantu sawl adran. Bydd pob adran yn cael ei chyllideb ddynodedig ei hun i gyflawni ei blaenoriaethau penodol, ac mae trefniadau ar waith i sicrhau proses weithredu gydlynol ar draws meysydd sy'n croestorri. 

Adran 8: casgliad

Sut mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Mae map llwybrau BSL yn amlinellu'r camau cychwynnol sydd eu hangen i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL a gwella canlyniadau i gymuned arwyddo BSL fyddar Cymru. 

Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL ei sefydlu i lywio gwaith datblygu polisi Llywodraeth Cymru a chynghori ar faterion allweddol a materion sy'n codi sy'n effeithio ar fywydau arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru. 

Mae trafodaethau a chonsensws yng nghyfarfodydd y grŵp wedi atgyfnerthu pwysigrwydd hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL yng Nghymru, er mwyn helpu i fynd i'r afael â rhwystrau iaith, gan sicrhau mwy o degwch i arwyddwyr BSL byddar.

Mae map llwybrau BSL wedi cael ei lywio gan waith ac argymhellion y Grŵp Rhanddeiliaid BSL. Mae'r pedair thema a'r 10 cam gweithredu sydd ym map llwybrau BSL yn ymateb yn uniongyrchol i argymhellion byrdymor y grŵp, gan sicrhau bod profiadau bywyd yn ysgogi newid ystyrlon. 

Mae'r camau gweithredu yn y map llwybrau hwn wedi cael eu llywio gan brofiadau bywyd a gwydnwch aelodau'r grŵp. 

Mae gwaith y grŵp yn gam cadarnhaol ymlaen i gefnogi arweinyddiaeth fyddar a chryfhau ymgysylltiad ag aelodau o'r gymuned fyddar drwy waith partneriaeth ystyrlon. Mae defnyddio BSL fel prif iaith wedi ein galluogi i feithrin dealltwriaeth well o'r meysydd â blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a newid, a nodi'r heriau a'r rhwystrau iaith sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i greu cymdeithas gynhwysol lle gall pawb gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd. Rydym yn cydnabod y rhwystrau iaith sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru ar hyn o bryd ac rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â nhw. 

Mae'r map llwybrau hwn yn nodi'r camau gweithredu byrdymor cychwynnol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn y tymor byr, a gaiff eu cwblhau o fewn 18 mis. Mae'r camau gweithredu hyn yn cynrychioli'r camau cyntaf tuag at gyflawni ein huchelgais i greu Cymru sy'n parchu, yn hyrwyddo ac yn hwyluso BSL, gan osod y sylfeini ar gyfer polisïau, strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ac, yn y pen draw, greu newid parhaol a mwy o gynhwysiant i arwyddwyr BSL byddar. Bydd y camau gweithredu hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer polisïau a strategaethau yn y dyfodol.

Mae map llwybrau BSL yn cefnogi ein huchelgais gyffredinol i greu Cymru gyfartal gan roi cynhwysiant wrth wraidd polisïau Llywodraeth Cymru. Mae'r map llwybrau yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu cymdeithas decach, drwy roi sylw dyladwy i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da.

Nid ydym wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL. Mae'r camau gweithredu yn y map llwybrau yn canolbwyntio ar gasglu data, mapio a chwmpasu.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant
  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Bydd y cynigion a'r camau a gweithredu i hyrwyddo a hwyluso BSL a geir ym map llwybrau BSL yn helpu i gyflawni'r nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi fframwaith deddfwriaethol cenedlaethol i'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus gyfrannu cymaint â phosibl at waith i gyflawni'r nodau llesiant sy'n ceisio gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd Cymru. 

Nod map llwybrau BSL yw gwella bywydau arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru drwy hyrwyddo BSL a diwylliant byddar yng Nghymru, ac annog mwy o ddealltwriaeth, gwelededd, a chynhwysiant yn y gymdeithas. Mae'r map llwybrau yn cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â hyrwyddo a hwyluso BSL, a fydd yn cefnogi gofynion presennol i gyflawni ein hamcanion i wella llesiant.

Bydd y camau gweithredu a amlinellir ym map llwybrau BSL yn helpu Llywodraeth Cymru i gyfrannu cymaint â phosibl at y nodau llesiant, yn enwedig y nodau o greu ‘Cymru sy'n fwy cyfartal’ a ‘Chymru o gymunedau cydlynus’, ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu Cymru fwy cyfartal sy'n sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau ac yn cymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. 

Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn dilyn yr asesiad effaith hwn.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Rydym yn ymrwymedig i gryfhau ein gwaith ymgysylltu â'r gymuned BSL fyddar. Mae deall profiadau bywyd arwyddwyr BSL byddar yn hanfodol er mwyn llywio ein polisïau trawslywodraethol.

Ar ôl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL gwblhau'r gwaith, mae Grŵp Rhanddeiliaid wedi ailgynnull o dan Gylch Gorchwyl newydd. Mae'r Cylch Gorchwyl hwn yn nodi diben y grŵp ac yn cynnwys parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a oedd yn rhan o'r cam cychwynnol, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a wneir wrth roi'r argymhellion ar waith a datblygu map llwybrau BSL, rhoi gwybodaeth am themâu newydd a themâu sy'n dod i'r amlwg, a chryfhau cydberthnasau er mwyn sicrhau cydweithio a thryloywder parhaus.