Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010

Sut y bydd y cynnig yn hyrwyddo cydraddoldeb?  

Diben 

Mae map llwybrau BSL yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu newid cadarnhaol ac adeiladu cymdeithas sy'n fwy cynhwysol a chyfartal lle caiff BSL ei chydnabod, ei dathlu a'i hymwreiddio ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus.

Mae map llwybrau BSL yn nodi'r camau gweithredu byrdymor cychwynnol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a gaiff eu cwblhau o fewn 18 mis. Y camau gweithredu hyn yw'r camau cyntaf tuag at gyflawni ein huchelgais i greu Cymru sy'n parchu, yn hyrwyddo ac yn hwyluso BSL; gan osod y sylfeini ar gyfer polisïau, strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ac, yn y pen draw, greu newid parhaol a mwy o gynhwysiant i arwyddwyr BSL byddar.

Mae'r camau gweithredu yn y map llwybrau BSL wedi cael eu llywio gan yr argymhellion byrdymor a luniwyd gan y Grŵp Rhanddeiliaid BSL. Mae Grŵp Rhanddeiliaid BSL wedi rhoi cyngor ar y meysydd â blaenoriaeth sydd eu hangen i hyrwyddo BSL, herio rhwystrau a sicrhau bod yr iaith yn cael ei pharchu fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru. 

Canlyniad ac effaith

Mae map llwybrau BSL yn amlinellu camau cynnar tuag at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru: adeiladu cymdeithas sy'n grymuso'r gymuned arwyddo BSL fyddar, a chreu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.

Bwriedir i'r camau gweithredu byrdymor yn y map llwybrau gael eu defnyddio fel man cychwyn, i ategu'r llwybr ar gyfer datblygu polisïau yn y dyfodol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a dechrau'r daith tuag at gyflawni ein gweledigaeth gyffredinol.

Drwy ganolbwyntio'n gyntaf ar gyflawni blaenoriaethau byrdymor, sy'n rhoi pwyslais ar godi ymwybyddiaeth, mapio a chwmpasu, a chasglu data, gallwn adeiladu'r sylfaen ar gyfer cynnydd yn y dyfodol. Bydd y camau gweithredu hyn yn cefnogi gwaith polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Ein nod yw hyrwyddo BSL a chodi ymwybyddiaeth ohoni, ac annog mwy o ddealltwriaeth, gwelededd, a chynhwysiant ym mhob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru. Drwy feithrin diwylliant o barch a chydnabyddiaeth, rydym yn ceisio sicrhau bod BSL yn cael ei derbyn fel rhan annatod o dirwedd ieithyddol a diwylliannol Cymru. 

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae hyrwyddo a hwyluso BSL yn cyfrannu at yr ymrwymiad a nodir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ‘Ddathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math’.

Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi'u hymwreiddio yn yr holl gamau gweithredu a amlinellir yn y map llwybrau BSL. Mae hawl gan bob unigolyn i gael ei drin yn deg. Mae hyn yn adlewyrchu ein nod ehangach o genedl sy'n seiliedig ar urddas, tegwch a chynhwysiant.

Mae'r map llwybrau yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu cymdeithas decach, drwy roi sylw dyladwy i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da.

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ystyried sut mae eu polisïau yn effeithio ar y rhai sydd â nodwedd warchodedig berthnasol. Bydd gwaith parhaus Grŵp Rhanddeiliaid BSL a chamau llwyddiannus i roi'r map llwybrau ar waith yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni dyletswyddau a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb ac yng Nghynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025 i 2029 sy'n cynnwys yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol.

Fel rhan o'n dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025 i 2029 wedi nodi saith Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol.

Bydd map llwybrau BSL yn helpu i gyflawni Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ogystal â'n huchelgais gyffredinol i greu Cymru gyfartal gan roi cynhwysiant wrth wraidd polisïau Llywodraeth Cymru.

Mae sicrhau bod gan arwyddwyr BSL byddar fynediad cyfartal at wybodaeth a gwasanaethau yn hollbwysig er mwyn creu Cymru sy'n decach ac yn fwy cyfartal. Drwy ddymchwel rhwystrau iaith a hyrwyddo cynhwysiant, gall arwyddwyr BSL byddar gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar gymdeithas, gan feithrin cymunedau lle mae pawb yn cael y cyfle i ffynnu.

Bydd y map llwybrau yn cyfrannu at ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol drwy gyflawni'r camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn y pedair thema a amlinellir yn y map llwybrau:

  1. Casglu data a thystiolaeth o ran BSL
  2. Hyrwyddo BSL fel iaith
  3. Darpariaeth BSL Llywodraeth Cymru 
  4. Llwybrau o fewn gwasanaethau cyhoeddus

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Mae map llwybrau BSL wedi cael ei lywio gan brofiadau bywyd aelodau o'r gymuned arwyddo BSL fyddar yng Nghymru, drwy gyngor gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL. Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL ei sefydlu ym mis Ionawr 2025, yn dilyn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip.

Roedd y grŵp yn gyfrifol am ddatblygu cyfres o argymhellion allweddol er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i lunio ‘map llwybrau’ ar gyfer polisi BSL. Roedd y grŵp wedi cyfarfod bob mis rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2025 i edrych ar rwystrau iaith a'r camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau mynediad teg at wybodaeth a gwasanaethau i arwyddwyr BSL byddar mewn ystod eang o feysydd polisi.

Lluniodd y grŵp argymhellion a oedd yn adlewyrchu profiadau bywyd ac arbenigedd ei aelodau. Mae gwaith y grŵp i lunio cyfres o argymhellion bellach wedi'i gwblhau ac mae'r argymhellion hyn wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r argymhellion a luniwyd gan y grŵp wedi cael eu trefnu yn argymhellion byrdymor a hirdymor. Yn ogystal, lluniodd y grŵp argymhellion sy'n ymwneud â Bil BSL (Cymru) Aelod Preifat a gaiff eu hamlinellu yn y ddogfen.

Mae'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL yn ymateb yn uniongyrchol i argymhellion byrdymor Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL. Caiff camau gweithredu mewn ymateb i'r argymhellion hirdymor a luniwyd gan y grŵp eu pennu a'u cymryd gan lywodraethau yn y dyfodol, gan sicrhau parhad a chynnydd parhaus y tu hwnt i'r cam cychwynnol.

Roedd y grŵp yn cynnwys cymysgedd cynrychioliadol ac amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys mudiadau ac elusennau i bobl fyddar, a chyfrannodd pob un ohonynt arbenigedd gwerthfawr a phrofiadau bywyd. Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi galluogi model o arweinyddiaeth fyddar, lle mai BSL oedd prif iaith y grŵp. Roedd y grŵp yn cael ei gyd-gadeirio gan ddau arwyddwr BSL byddar. Roedd y strwythur hwn wedi gosod cynsail ar gyfer cydweithio cynhwysol sy'n canolbwyntio ar iaith. 

Beth yw'r effeithiau negyddol posibl ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig a'r rhai sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel a sut y byddwch yn lliniaru'r rhain?

Mae map llwybrau BSL yn amlinellu'r camau cychwynnol i hyrwyddo a hwyluso BSL, herio rhwystrau iaith presennol a gwella canlyniadau i gymuned arwyddo BSL fyddar Cymru. Mae'r camau gweithredu hyn yn drawslywodraethol ac yn ymwneud â BSL yn nifer o feysydd polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys addysg ac iechyd. 

Bydd map llwybrau BSL yn cael effaith gadarnhaol ar bob arwyddwr BSL byddar yng Nghymru. Wrth ddatblygu map llwybrau BSL, mae natur groestoriadol y gymuned arwyddo BSL fyddar wedi cael ei hystyried ac mae wedi helpu i lywio'r map llwybrau.

Nid ydym yn rhagweld unrhyw effeithiau negyddol penodol ar bobl â nodweddion gwarchodedig o ganlyniad i'r camau gweithredu byrdymor a nodir yn y map llwybrau, ond byddwn  yn parhau i ystyried effeithiau wrth roi pob cam ar waith. Camau cychwynnol yw'r camau gweithredu byrdymor sy'n ymwneud yn bennaf â chasglu data a thystiolaeth gychwynnol, ac ymarferion mapio a chwmpasu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid BSL newydd i oruchwylio'r ffordd y caiff y map llwybrau ei roi ar waith. Pan fydd y grŵp yn cyfarfod yn y dyfodol, bydd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn adolygu'r cynnydd a wneir i roi'r camau gweithredu ar waith, gan ofyn am farn a chyngor rhanddeiliaid. Os bydd y grŵp yn nodi y gallai camau i weithredu'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau gweithredu i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodwyd, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Er mwyn lliniaru risgiau ymhellach, rydym hefyd wedi defnyddio asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a ddatblygwyd gan feysydd polisi eraill, fel y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Pa rwystrau, os o gwbl, sy'n wynebu pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig? A all y rhwystrau hyn gael eu lleihau, eu dileu neu eu lliniaru?

Mae map llwybrau BSL yn gam cynnar tuag at gyflawni ein nod o fynd i'r afael â'r rhwystrau iaith presennol a'u herio er mwyn sicrhau tegwch i arwyddwyr BSL byddar. Rydym yn ceisio ysgogi newid cadarnhaol hirdymor i arwyddwyr BSL byddar drwy sicrhau bod BSL yn cael ei chydnabod a'i darparu'n well ledled Cymru.

Wrth ddatblygu'r asesiadau effaith ar gyfer map llwybrau BSL, rydym wedi cynnal adolygiad tystiolaeth cyflym o ymchwil sy'n bodoli eisoes ar anghydraddoldebau a rhwystrau iaith sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar. Mae rhwystrau i bobl â nodweddion gwarchodedig wedi cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad cyflym hwn.

Mae ymchwil sy'n bodoli eisoes ledled y DU yn amlygu'r heriau sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar mewn llawer o wasanaethau cyhoeddus a'r angen i'w goresgyn er mwyn atal rhagfarn ac eithrio. Ceir crynodeb o'r ymchwil allweddol yn yr asesiad effaith hwn.

Mae ymgysylltu â Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi bod yn hollbwysig i feithrin dealltwriaeth gyfoethog o'r rhwystrau iaith sy'n wynebu pob arwyddwr BSL byddar, gan gynnwys pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Mae trafodaethau'r grŵp wedi ystyried croestoriadedd arwyddwyr BSL byddar ledled Cymru.

Mae'r grŵp wedi darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn perthynas â'r camau gweithredu cychwynnol y mae angen eu cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL, dileu rhwystrau iaith sy'n bodoli eisoes ac, yn y pen draw, wella canlyniadau i'r gymuned BSL fyddar yng Nghymru. Defnyddiwyd profiadau bywyd arwyddwyr BSL byddar i lywio map llwybrau BSL gan helpu i ddatblygu camau gweithredu ystyrlon a chymesur.

Crynodeb o'r dystiolaeth a nodwyd mewn perthynas â phobl â nodweddion gwarchodedig drwy adolygiad tystiolaeth cyflym

Bylchau yn y data sydd ar gael

Ni chaiff gwybodaeth am arwyddwyr BSL byddar a BSL ei chofnodi'n aml. Mae hyn yn golygu nad oes consensws ynghylch cyfanswm yr arwyddwyr BSL byddar yn y DU ac mae hyn wedi arwain at amrywiadau mawr yn yr amcangyfrifon sydd ar gael. 

Ar hyn o bryd, ni cheir ffigur pendant ar gyfer poblogaeth BSL yng Nghymru gan nad yw'r data o wahanol ffynonellau yn gyson. Er enghraifft:

  1. Yn ôl Data Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr, BSL oedd prif iaith 900 (0.03 y cant) o breswylwyr arferol tair oed a throsodd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd bach o 800 yn 2011.
  2. Yn ôl Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, BSL yw dewis iaith dros 87,000 o bobl fyddar yn y DU. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn amcangyfrif bod 7,200 o unigolion yng Nghymru sy'n defnyddio BSL (nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys defnyddwyr, dehonglwyr a chyfieithwyr BSL proffesiynol oni bai eu bod hefyd yn defnyddio BSL gartref). O'r rhain, amcangyfrifir bod 4,000 yn fyddar. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y ganran o ‘Arwyddwyr BSL yn y cartref’ o Gyfrifiad yr Alban yn 2011. Yn hytrach na gofyn am y brif iaith a oedd yn cael ei siarad yn y cartref, gofynnodd Cyfrifiad yr Alban yn 2011 pa ieithoedd ar wahân i Saesneg oedd yn cael eu siarad yn y cartref, a nodwyd cyfran sylweddol uwch o arwyddwyr BSL (tua 0.23 y cant o'r boblogaeth o gymharu â 0.03 y cant yng Nghyfrifiad Cymru a Lloegr yn 2021).
  3. Mae'r ‘Adolygiad Annibynnol o ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i Oedolion yng Nghymru’, a gyhoeddwyd yn 2020, yn amcangyfrif bod rhwng 5,600 a 7,300 o arwyddwyr BSL yng Nghymru, gan dybio bod 0.18 y cant i 0.23 y cant o boblogaeth Cymru yn arwyddwyr BSL. Mae amcangyfrifon adroddiad Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar Gyfrifiad yr Alban yn 2011 fel yr amlinellir uchod, a data o Arolwg o Gleifion Meddygon Teulu Lloegr yn 2016.

Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at anghysondeb o ran y data a'r amcangyfrifon.

Mae trafodaethau a gafwyd fel rhan o gyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi dangos ymhellach nad oes digon o ddata BSL cyfoethog a chynrychioliadol ar gael. Cytunodd y grŵp nad oes categori diffiniedig ar gyfer cofnodi data ar BSL mewn casgliadau data yn aml. Mewn ymateb uniongyrchol i hyn, mae un o'r argymhellion byrdymor a luniwyd gan y grŵp (argymhelliad 1) yn ymwneud â'r angen i Lywodraeth Cymru ystyried y rhwystrau sy'n bodoli wrth geisio casglu a choladu data BSL, er mwyn llywio unrhyw gamau i gasglu data ystadegol yn y dyfodol.Caiff yr argymhelliad hwn ei gynnwys fel cam gweithredu ym map llwybrau BSL.

Yn ogystal, nid oes fawr ddim gwaith ymchwil sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phobl â nodweddion gwarchodedig a BSL. Darperir crynodeb o'n hadolygiad tystiolaeth cyflym isod. Mae'r crynodeb yn nodi rhai o'r prif anghydraddoldebau a rhwystrau iaith sy'n wynebu'r gymuned fyddar, ac ystyrir y rhyngweithio rhwng rhwystrau iaith a nodweddion gwarchodedig.

Addysg

Mae gwaith ymchwil yn dangos heriau sylweddol ym maes addysg i blant a phobl ifanc fyddar (Wilks ac O’Neill, 2022).

Mae adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at fylchau mewn cyrhaeddiad i blant a phobl ifanc fyddar, yn deillio o rwystrau iaith. Mae plant byddar yn aml yn gadael addysg orfodol â lefel ddarllen sy'n cyfateb i blentyn 8 oed (Rowley, 2023) ac maent yn llai tebygol o ennill cymwysterau TGAU o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol (Wilks ac O’Neill, 2022).

Mae cyrhaeddiad addysgol myfyrwyr byddar yn is ar y cyfan o gymharu â phlant sy'n clywed. Yn 2019, roedd myfyrwyr byddar 10.7% yn llai tebygol o ennill graddau A* i C ym mhynciau craidd Cymraeg/Saesneg iaith a Mathemateg, o gymharu â'u cyfoedion sy'n clywed. Mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant byddar a'u cyfoedion sy'n clywed yng Nghyfnod Allweddol 2 yn cyfateb i oddeutu 7%. (Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar).

O ran y gweithlu addysg, mae gwaith ymchwil wedi dangos bod prinder gweithwyr proffesiynol yn gweithio ym maes addysg i blant byddar, gan ddatgelu nad oes gan 16% ohonynt gymwysterau BSL ffurfiol a dim ond 1% ohonynt sydd wedi cyrraedd y lefel uchaf o ruglder. (Adroddiad 2023 i Gymru gan y Consortiwm Ymchwil i Addysg Fyddar).

Canfu adolygiad gan Lywodraeth Cymru o addysg BSL i oedolion yn 2020 fod y ddarpariaeth yn anghyson yng Nghymru ac y caiff ei sbarduno gan faint o arian a thiwtoriaid â chymwysterau priodol sydd ar gael, yn hytrach na galw

Addysg ac oedran

Mae gwaith ymchwil presennol sy'n defnyddio lens croestoriadol yn dangos sut mae nodweddion gwarchodedig yn rhyngweithio i lywio darpariaeth BSL a chynhwysiant cymdeithasol (Emery ac Iyer, 2022).

Mae cryn dipyn o waith ymchwil yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd caffael iaith yn gynnar a darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod diffyg darpariaeth BSL gynnar mewn ysgolion yn cyfrannu at fylchau cyrhaeddiad mawr (Wilks ac O’Neill, 2022). Drwy gaffael iaith arwyddion yn gynnar, gellir atal amddifadedd iaith a hyrwyddo datblygiad gwybyddol, ieithyddol a chymdeithasol (Wilks ac O’Neill 2025).

Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud bod oedi cyn cyflwyno plant i BSL yn aml yn arwain at amddifadedd iaith, gan effeithio ar ddatblygiad gwybyddol ac emosiynol. 

Camau gweithredu: Map llwybrau BSL

Mae trafodaethau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi adeiladu ar themâu sydd i'w gweld mewn gwaith ymchwil presennol, gan ystyried natur groestoriadol y gymuned arwyddo BSL fyddar. Mae'r grŵp wedi llunio nifer o argymhellion sy'n ymwneud ag addysg y blynyddoedd cynnar, caffael iaith a darpariaeth BSL ym maes addysg.

Nod map llwybrau BSL yw sicrhau bod BSL yn cael ei hyrwyddo, ei hwyluso a'i chydnabod yn well a dileu rhwystrau iaith.

Mae'r map llwybrau yn cynnwys y camau gweithredu canlynol mewn perthynas ag addysg. Mae'r camau gweithredu hyn yn ymateb yn uniongyrchol i'r argymhellion byrdymor a luniwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL:

  • Sgiliau BSL yn y gweithlu addysg: fel rhan o'r gwaith o weithredu'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysgu, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall faint o ymarferwyr ysgol ac athrawon ymgynghorol awdurdodau lleol sy'n gallu arwyddo BSL ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol i ddatblygu sgiliau BSL ymarferwyr ar gyfer y dyfodol.
  • Hyrwyddo rôl BSL yn y sector addysg: bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo BSL fel iaith mewn lleoliadau addysgol ac yn codi mwy o ymwybyddiaeth o hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol BSL. Dylai BSL gael ei hyrwyddo a'i chydnabod mewn lleoliadau addysgol fel iaith sydd ar wahân i adnoddau cyfathrebu a systemau arwyddion. 
  • Mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar: Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i fapio ac adolygu sut y caiff plant byddar eu nodi drwy brofion sgrinio gofal iechyd yn y blynyddoedd cynnar, a deall y llwybr cymorth a ddarperir. Bydd y gwaith hwn yn asesu'r ddarpariaeth BSL bresennol sydd ar gael, o adeg diagnosis, i alluogi plant byddar a'u teuluoedd i gaffael iaith yn gynnar, gan nodi unrhyw fylchau a rhwystrau sy'n bodoli ar hyn o bryd. 

Wrth gyflawni'r camau gweithredu hyn caiff ystyriaeth ei rhoi i natur groestoriadol arwyddwyr BSL byddar fel y nodir mewn gwaith ymchwil presennol.

Iechyd 

Mae llawer o waith ymchwil wedi canfod bod pobl fyddar yn profi canlyniadau iechyd gwaeth yn gyffredinol o ganlyniad i rwystrau iaith a mynediad cyfyngedig at ofal iechyd (Emond et al., 2015). Mae diffyg darpariaeth BSL ym maes gofal iechyd cyhoeddus yn aml yn ei gwneud yn anodd i aelodau o'r gymuned fyddar gael cymorth meddygol. Mae rhwystrau iaith presennol yn aml yn arwain at brofiadau gwael o ran diagnosis a thriniaeth i'r gymuned fyddar (Sign Health, 2014).

Yn 2019 comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru waith ymchwil i edrych ar ymddygiadau iechyd pobl fyddar yng Nghymru a'r rhwystrau sy'n eu hwynebu. Nodwyd bod mynediad at wasanaethau iechyd yn broblem fawr a bod pobl fyddar yn aml yn osgoi cysylltu â gwasanaethau iechyd am eu bod wedi cael profiadau gwael yn y gorffennol.

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod llawer o bobl fyddar yng Nghymru yn profi canlyniadau iechyd corfforol ac iechyd meddwl negyddol (Foltz a Shank, 2020Terry et al., 2021) sy'n cael eu dwysáu gan y ffaith nad oes digon o ddehonglwyr ar gael yng Nghymru.

Mae adroddiad yn 2021 gan Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Pobl Fyddar Cymru Gyfan yn tynnu sylw at y gwahaniaethau o ran iechyd meddwl sy'n effeithio ar y gymuned fyddar yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn ôl y gwaith ymchwil, mae pobl fyddar yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl o gymharu â phobl sy'n clywed (Fellinger et al., 2012).

Mae astudiaethau wedi canfod cysylltiadau rhwng BSL a llawer o nodweddion gwarchodedig. Er enghraifft, mae gwaith ymchwil wedi dangos bod menywod beichiog byddar, yn aml yn wynebu rhwystrau iaith sylweddol yn ystod gofal beichiogrwydd, genedigaeth ac ôl-enedigol. Mae canfyddiadau wedi dangos y caiff rhwystrau eu creu yn aml gan ddiffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o BSL a diwylliant byddar ymhlith gwasanaethau gofal iechyd ac ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (Luton et al 2021).

Mae gwaith ymchwil sy'n canolbwyntio ar bobl hŷn yn y gymuned fyddar wedi dangos bod diffyg darpariaeth BSL mewn cartrefi gofal a gwasanaethau iechyd yn aml yn golygu bod pobl hŷn yn y gymuned fyddar yn profi ynysu cymdeithasol, y nodwyd ei fod yn ffactor risg sylweddol ar gyfer dirywiad gwybyddol a dementia (Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain 2022).

Camau gweithredu: Map llwybrau BSL

Mae map llwybrau BSL yn cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â hyrwyddo BSL fel iaith ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau gofal iechyd. Nod y map llwybrau yw hyrwyddo BSL, codi ymwybyddiaeth ohoni, a sicrhau ei bod yn fwy gweladwy ledled Cymru, gan wella dealltwriaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru bod BSL yn iaith gyflawn a chyfoethog sy'n rhan o dreftadaeth ddiwylliannol unigryw.

Mae'r map llwybrau yn cynnwys y camau gweithredu canlynol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r camau gweithredu hyn yn ymateb yn uniongyrchol i'r argymhellion byrdymor a luniwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL:

  • Gwasanaethau iechyd meddwl pob oed: bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r llwybr a'r broses bresennol ar gyfer cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl BSL. Bydd y gwaith hwn yn edrych ar argaeledd cymorth a gofal iechyd meddwl a mesurau ataliol sy'n briodol o safbwynt ieithyddol a diwylliannol, gan ystyried sut y gall arwyddwyr BSL byddar gael gafael ar y ddarpariaeth hon. 
  • Mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar: bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i fapio ac adolygu sut y caiff plant byddar eu nodi drwy brofion sgrinio gofal iechyd yn y blynyddoedd cynnar, a deall y llwybr cymorth a ddarperir. Bydd y gwaith hwn yn asesu'r ddarpariaeth BSL bresennol sydd ar gael, o adeg diagnosis, i alluogi plant byddar a'u teuluoedd i gaffael iaith yn gynnar, gan nodi unrhyw fylchau a rhwystrau sy'n bodoli ar hyn o bryd. 
  • Asesiadau o anghenion y boblogaeth: bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall ystyriaethau BSL gael eu hymgorffori mewn asesiadau o anghenion drwy ganllawiau, a fydd yn cyfeirio'n benodol at anghenion iechyd a gofal arwyddwyr BSL.
  • Cynllun i nodi a all unigolyn arwyddo BSL: bydd Llywodraeth Cymru yn asesu a ellir datblygu cynllun, fel bathodyn, fel bod arwyddwyr BSL, a phobl sy'n dysgu BSL, yn hawdd eu hadnabod. Gall y bathodyn hwn gael ei wisgo gan weithwyr proffesiynol a phobl sy'n darparu gwasanaethau, yn yr un modd â'r cynllun Iaith Gwaith, sy'n cael ei ddefnyddio i ddangos bod unigolyn yn siarad Cymraeg neu'n dysgu Cymraeg. Gallai'r cynllun gael ei ddefnyddio hefyd i ddangos lleoliadau cyhoeddus sy'n croesawu BSL a staff sy'n arwyddo. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried symbolau hanesyddol a phresennol sy'n ymwneud â defnyddio, gweld a chydnabod BSL ac yn adeiladu arnynt
  • Rhannu enghreifftiau o arfer da: beth yw arfer da: bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio tystiolaeth i nodi a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da mewn lleoliadau gwasanaethau cyhoeddus.
Cyfieithwyr a dehonglwyr BSL: Map llwybrau BSL

Mae tystiolaeth ar lefel y DU yn dangos nad oes digon o weithwyr BSL proffesiynol, gan gynnwys cyfieithwyr a dehonglwyr BSL. Canfu gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023  yn canolbwyntio ar integreiddio mudwyr fod y galw am ddehonglwyr BSL yn aml yn uwch na'r hyn sydd ar gael, sy'n aml yn arwain at amseroedd aros hir. Nododd yr adroddiad hefyd fod diffyg dealltwriaeth ymhlith gwasanaethau cyhoeddus am ddarpariaeth BSL a diwylliant byddar. 

Canfu cyfrifiad y DU o ddehonglwyr iaith arwyddion anghydbwysedd o ran rhywedd a bylchau croestoriadol mewn cynrychioliad yn y proffesiwn. Dangosodd y canfyddiadau mai menywod oedd y mwyafrif o ddehonglwyr a bod amrywiaeth hiliol yn isel o hyd. Mae'r adroddiad yn nodi sut mae rhywedd yn croestorri ag oedran a hil i ddylanwadu ar fynediad at wasanaethau (Napier et al 2022). 

Canfu cyfrifiad y DU o gyfieithwyr a dehonglwyr iaith arwyddion fod amrywiaeth hiliol yn gyfyngedig iawn yn y proffesiwn a bod angen mwy o amrywiaeth ym maes cyfieithu a dehongli iaith arwyddion. Mae'r diffyg cynrychioliad hwn yn cynyddu'r risg y bydd pobl ethnig leiafrifol fyddar yng Nghymru yn profi rhwystrau diwylliannol ochr yn ochr â rhwystrau iaith.

Argymhelliad hirdymor

Mae trafodaethau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi adeiladu ar y themâu sydd i'w gweld mewn gwaith ymchwil presennol a lluniwyd argymhelliad hirdymor mewn perthynas â'r gweithlu cyfieithu a dehongli BSL. 

Mae dwy agwedd ar yr argymhelliad hwn:

  • Mapio ac ymchwilio i rwystrau presennol i ddod yn ddehonglydd neu'n gyfieithydd BSL a datblygu gyrfa yn y maes. 
  • Gweithio gyda Gyrfa Cymru a grwpiau priodol eraill i ystyried ffyrdd o hyrwyddo gyrfa ym maes dehongli neu gyfieithu. 

Caiff camau gweithredu mewn ymateb i'r argymhellion hirdymor a luniwyd gan y grŵp eu pennu a'u cymryd gan lywodraethau yn y dyfodol.

Sut ydych chi/byddwch chi'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi ei chael o waith ymchwil i nodi effeithiau?

Mae'r dadansoddiad cyflym o waith ymchwil wedi helpu i roi cyd-destun a dealltwriaeth bellach o rai o'r prif rwystrau iaith y mae arwyddwyr BSL byddar yn eu hwynebu, gan ystyried sut y mae'r rhain yn cysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig. 

Lluniodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL gyfres o argymhellion â blaenoriaeth i lywio'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL. Mae cyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi ystyried gwaith ymchwil presennol, ac mae trafodaethau wedi adeiladu ar themâu allweddol a nodwyd yn y gwaith ymchwil fel yr amlinellir uchod. Cyfrannwyd profiadau bywyd ac arbenigedd fel rhan o'r trafodaethau hyn. Mae'n hanfodol bod polisi Llywodraeth Cymru yn cael ei lywio gan brofiadau bywyd. Mae'r grŵp wedi trafod a oes angen gwneud mwy o waith ymchwil, mapio a chasglu data; mae'r argymhellion a luniwyd gan y grŵp yn adlewyrchu'r trafodaethau hyn. 

Sut y byddwch chi'n gwybod a yw eich darn o waith yn llwyddiant? 

Mae map llwybrau BSL yn nodi'r camau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn y tymor byr. Bydd y gwaith ar y camau hyn yn dechrau pan gaiff y map llwybrau ei gyhoeddi a'r targed ar gyfer eu cwblhau yw o fewn 18 mis i'r man cychwyn. Drwy ddechrau'r gweithgareddau cychwynnol hyn yn gynnar, rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn paratoi ar gyfer nodau hirdymor.

Mae rhoi cyfnod o 18 mis i gwblhau'r camau gweithredu byrdymor yn ein galluogi i bennu camau gweithredu mesuradwy seiliedig ar amser i sicrhau newid ystyrlon i arwyddwyr BSL byddar. 

Byddwn yn ceisio cryfhau ein cydberthnasau drwy weithio ac ymgysylltu'n barhaus, gan sicrhau bod arweinyddiaeth fyddar a phrofiadau bywyd y gymuned yn parhau i lywio ein gwaith a pholisïau trawslywodraethol a ddatblygir a dylanwadu arnynt. 

Er mwyn cynnal momentwm a sicrhau atebolrwydd, cynhelir cyfarfodydd interim â rhanddeiliaid BSL drwy gydol y cyfnod cyflawni. Ar ôl i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL gwblhau ei waith, mae wedi ailgynnull o dan Gylch Gorchwyl newydd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfleoedd i adolygu cynnydd, rhannu'r newyddion diweddaraf, a pharhau i ymgysylltu'n gadarn â rhanddeiliaid.

Bydd y map llwybrau yn ddogfen fyw, er mwyn sicrhau y gellir addasu camau gweithredu fel eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ymatebol i newid.

Cofnod o Effeithiau yn ôl nodweddion gwarchodedig

  • Nodwedd neu grŵp gwarchodedig
  • Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
  • Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
  • Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau?

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: oedran

Meddyliwch am wahanol grwpiau oedran.

Effeithiau'r cynnig

Mae hwn yn fap llwybrau BSL pob oedran sy'n cydnabod anghenion pob grŵp oedran. 

Nod y camau gweithredu arfaethedig yw cael effaith gadarnhaol ar arwyddwyr BSL byddar o bob oed, gan sicrhau bod gwahanol feysydd o gymdeithas yn gynhwysol i bob ystod oedran.

Rhesymau

Mae gwaith ymchwil presennol a thrafodaethau a gafwyd fel rhan o gyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi amlygu pwysigrwydd gweithio mewn ffordd sy'n cwmpasu pobl o bob oed. 

Mae cyfarfodydd y grŵp wedi ystyried grwpiau oedran a allai wynebu rhwystrau iaith ychwanegol, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr argymhellion a luniwyd gan y grŵp.

Gweler y crynodeb o dystiolaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Mesurau lliniaru

Mae map llwybrau BSL yn gweithio mewn ffordd sy'n cwmpasu pobl o bob oed. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y camau gweithredu. 

Mae rhai o'r camau gweithredu yn y map llwybrau yn ystyried grwpiau oedran penodol, er enghraifft, mae'r map llwybrau yn cynnwys cam gweithredu mewn perthynas â mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar. 

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: anabledd

Effeithiau'r cynnig

Caiff BSL ei chydnabod drwy gydol y map llwybrau fel iaith yn ei rhinwedd ei hun, sydd â'i hunaniaeth ieithyddol a'i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ei hun. Bydd map llwybrau BSL yn ategu ac yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, gan gydnabod bod gan BSL ei hunaniaeth ieithyddol, hanesyddol a diwylliannol unigryw ei hun.

Rhesymau

Mae map llwybrau BSL yn cydnabod nad yw llawer o arwyddwyr BSL byddar bob amser yn ystyried eu bod yn anabl a'u bod yn hytrach, yn ystyried eu bod yn perthyn i leiafrif ieithyddol.

Mae anabledd wedi cael ei ystyried fel rhan o gyfarfodydd Grŵp Rhanddeiliaid BSL ac ym map llwybrau BSL. Mae diwylliant byddar a hunaniaeth fyddar wedi bod yn elfen bwysig o'r trafodaethau.

Mesurau lliniaru

Mae un o'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL (adolygu a chryfhau canllawiau diogelu ar gyfer y gymuned arwyddo BSL fyddar) yn ystyried yr arwyddwyr BSL byddar sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl anabl a phobl ag anghenion gwybyddol neu anghenion iaith ychwanegol.

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: ailbennu rhywedd

Effeithiau'r cynnig

Gallai'r camau gweithredu sy'n ymwneud â gofal iechyd gael effaith gadarnhaol ar arwyddwyr BSL byddar traws.

Rhesymau

Drwy gynyddu ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a darpariaeth ym maes BSL, efallai y gellir dileu rhai o'r rhwystrau sy'n atal arwyddwyr BSL byddar traws rhag cael gwybodaeth a gwasanaethau mewn perthynas â hunaniaeth o ran rhywedd.

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: beichiogrwydd a mamolaeth

Effeithiau'r cynnig

Gallai'r cynigion sy'n ymwneud â gofal iechyd gael effaith gadarnhaol ar fenywod beichiog.

Rhesymau

Drwy gynyddu ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a darpariaeth ym maes BSL, efallai y gellir dileu rhai o'r rhwystrau sy'n atal arwyddwyr BSL byddar traws rhag cael gwybodaeth a gwasanaethau mewn perthynas â beichiogrwydd.

Mae gwaith ymchwil wedi amlygu'r cysylltiadau rhwng BSL a beichiogrwydd a mamolaeth. Gweler y crynodeb o dystiolaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gwaith ymchwil presennol a thrafodaethau a gafwyd fel rhan o gyfarfodydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi ystyried rhwystrau iaith a bylchau yn y ddarpariaeth BSL fel rhan o'r broses sgrinio clyw babanod.

Mesurau lliniaru

Mae un o'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL yn ymwneud yn benodol â darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar, ac fel rhan o'r broses sgrinio babanod.

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: hil

Effeithiau'r cynnig

Mae map llwybrau BSL yn ymwneud â phob arwyddwr BSL byddar yng Nghymru, ni waeth beth fo'i hil neu statws mudo.

Nod y map llwybrau yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso'r gymuned arwyddo BSL fyddar, a chreu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.

Rhesymau

Mae'r cysylltiadau rhwng y ddarpariaeth BSL a'r gydnabyddiaeth ohoni, a hil a diwylliant wedi cael eu trafod yn aml fel rhan o gyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL.

Mae gwaith ymchwil presennol, er ei fod yn gyfyngedig, wedi dangos cysylltiadau hefyd. Mae gwaith ymchwil yn nodi'r risgiau sy'n codi os na cheir digon o amrywiaeth hiliol ymhlith dehonglwyd a chyfieithwyr BSL.

Gweler y crynodeb o dystiolaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: crefydd, cred a diffyg cred

Effeithiau'r cynnig

Nod y map llwybrau yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso pob arwyddwr BSL byddar, o bob crefydd a chred, a chreu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.

Rhesymau

Mae'r cysylltiadau rhwng darpariaeth BSL a'r gydnabyddiaeth ohoni, a chrefydd a diwylliant wedi cael eu hystyried fel rhan o gyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL.

Er nad yw'r camau gweithredu yn y map llwybrau yn mynd i'r afael â chrefydd yn benodol, drwy gynyddu ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a darpariaeth ym maes BSL, efallai y gellir dileu rhai o'r rhwystrau sy'n atal arwyddwyr BSL byddar rhag cael gwybodaeth a gwasanaethau mewn perthynas â chrefydd.

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: rhyw / rhywedd

Effeithiau'r cynnig

Nod y map llwybrau yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso pob arwyddwr BSL byddar i greu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.

Rhesymau

Bwriedir i'r camau gweithredu gael effaith gadarnhaol ar bob rhyw/rhywedd.

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: cyfeiriadedd rhywiol

Effeithiau'r cynnig

Nod y map llwybrau yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso pob arwyddwr BSL byddar i greu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru. 

Rhesymau

Nid yw'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL yn mynd i'r afael â chyfeiriadedd rhywiol yn benodol.

Fodd bynnag, drwy gynyddu ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a darpariaeth ym maes BSL, efallai y gellir dileu rhai o'r rhwystrau sy'n atal arwyddwyr BSL byddar rhag cael gwybodaeth a gwasanaethau mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol.

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: priodas a phartneriaeth sifil

Effeithiau'r cynnig

Nod y map llwybrau yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso pob arwyddwr BSL byddar i greu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru. 

Rhesymau

Nid yw'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL yn mynd i'r afael â statws partneriaeth a phriodas yn benodol.

Fodd bynnag, drwy gynyddu ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a darpariaeth ym maes BSL, efallai y gellir dileu rhai o'r rhwystrau sy'n atal arwyddwyr BSL byddar rhag cael gwybodaeth a gwasanaethau mewn perthynas â phriodas a phartneriaeth sifil.

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Protected characteristic/group: children and young people up to the age of 18

Effeithiau'r cynnig

Nod y map llwybrau yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso pob arwyddwr BSL byddar i greu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.

Rhesymau

Mae asesiad ar wahân o'r effaith ar hawliau plant wedi cael ei gwblhau. 

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Nodwedd/grŵp gwarchodedig: aelwydydd incwm isel

Effeithiau'r cynnig

Nod y map llwybrau yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso pob arwyddwr BSL byddar i greu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru. 

Rhesymau

Mae'r holl gamau gweithredu yn y cynllun yn ceisio mynd i'r afael â thlodi a gwella canlyniadau i bobl sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel.

Mae gwaith ymchwil presennol hefyd wedi dangos cysylltiadau rhwng darpariaeth BSL, gan gynnwys mewn perthynas â chyrhaeddiad addysgol, a byw mewn aelwyd incwm isel. 

Gweler y crynodeb o dystiolaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig

A fydd y polisi hwn yn cael effaith ar hawliau dynol pobl yn eich barn chi?

Effeithiau'r cynnig

Mae cydraddoldeb a hawliau dynol wedi'u hymwreiddio yn y camau gweithredu a amlinellir ym map llwybrau BSL.

Bydd Grŵp Rhanddeiliaid BSL a map llwybrau BSL yn helpu i gyflawni ein huchelgais gyffredinol i greu Cymru gyfartal gan roi cynhwysiant wrth wraidd polisïau Llywodraeth Cymru.

Rhesymau

Mae parch at hawliau dynol sylfaenol yn ogystal â chydraddoldeb wedi'i ymwreiddio yn holl waith Llywodraeth Cymru a map llwybrau BSL.

Gweler rhagor o fanylion yng nghwestiwn un.

Mesurau lliniaru

Lle nodir y gallai'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodir, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.

Hawliau Dinasyddion yr UE/AEE a'r Swistir

Mae Rhan 2 o Gytundeb Ymadael y DU â’r UE, ynghyd â'r Cytundeb Gwahanu â Gwladwriaethau’r AEE-EFTA a Chytundeb Hawliau Dinasyddion y Swistir (“Cytundebau Hawliau Dinasyddion”) yn rhoi sicrwydd i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir a oedd yn preswylio'n gyfreithlon yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 y caiff eu hawliau fel dinasyddion eu gwarchod. 

Mae'r Cytundebau Hawliau Dinasyddion yn cael eu gweithredu mewn cyfraith ddomestig drwy Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020).

Bydd gan unigolion cymwys sy'n dod o fewn cwmpas y Cytundebau Hawliau Dinasyddion yr un hawliau o hyd i weithio, astudio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus a hawlio budd-daliadau yn fras, i'r graddau y mae'r hawliau hyn yn deillio o aelodaeth y DU o'r UE, yn ogystal â'i chyfranogiad yn y Cytundeb â'r AEE a Chytundeb Rhyddid Pobl i Symud yr UE/y Swistir. 

Yn amodol ar rai eithriadau cyfyngedig (fel lle bo gan unigolyn ddinasyddiaeth Wyddelig (gan gynnwys dinasyddiaeth Brydeinig a Gwyddelig ddeuol) neu  ganiatâd amhenodol i ddod i'r DU neu aros yn y DU), bydd angen i unigolion fod wedi gwneud cais am statws preswyl newydd (naill ai statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog) drwy'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Daeth y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais o'r fath i ben ar 30 Mehefin 2021.

 Mae ystyriaethau polisi wedi ystyried y canlynol:

Preswyliaeth

Yr hawl i breswylio a hawliau eraill sy'n ymwneud â phreswyliaeth: hawliau gadael a dod i mewn, ceisiadau am breswyliaeth, cyfyngiadau ar hawliau i ddod i mewn a phreswyliaeth.

Cydnabyddiaeth gilyddol cymwysterau proffesiynol

Parhad cydnabyddiaeth cymwysterau proffesiynol a enillwyd gan ddinasyddion yr UE/AEE/Swistir yn eu gwledydd (ac sydd eisoes yn cael eu cydnabod yn y DU).

Mynediad at systemau nawdd cymdeithasol

Mae'r rhain yn cynnwys budd-daliadau, mynediad at addysg, tai a mynediad at ofal iechyd.

Triniaeth gyfartal

Mae hyn yn cynnwys dim gwahaniaethu, triniaeth gyfartal a hawliau gweithwyr.

Hawliau gweithwyr

Gwarentir y bydd gan weithwyr ac unigolion hunangyflogedig a gwmpesir gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion yr un hawliau yn fras ag yr oeddent yn eu mwynhau pan oedd y DU yn Aelod-wladwriaeth. Mae ganddynt yr hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn o ganlyniad i'w cenedligrwydd, a'r hawl i driniaeth gyfartal â gwladolion y DU.

(Gall gweithwyr trawsffiniol (y dinasyddion hynny sy'n preswylio mewn un wladwriaeth ac yn gweithio'n rheolaidd mewn un arall) barhau i weithio yn y DU os oeddent yn gwneud hynny erbyn 31 Rhagfyr 2020).