Map Llwybrau Iaith Arwyddion Prydain (BSL): asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Asesiad o effaith ein map llwybrau i sicrhau bod BSL yn cael ei chydnabod fel rhan bwysig o'r gymdeithas yng Nghymru ar y Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cymraeg 2050
Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i'r strategaeth newydd, gyda tharged o filiwn o siaradwyr wedi'i gynnwys yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae iaith Gymraeg ffyniannus hefyd yn cael ei chynnwys fel un o'r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae gennym hefyd rwymedigaeth statudol i ystyried effaith lawn ein gwaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru ystyried sut y mae ein polisïau yn effeithio ar yr iaith a'r rheini sy'n ei siarad.
Mae tair thema rhyng-gysylltiedig i strategaeth Cymraeg 2050.
Thema 1: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
- Trosglwyddo'r iaith o fewn y teulu.
- Y blynyddoedd cynnar.
- Addysg statudol.
- Addysg ôl-orfodol.
- Y gweithlu addysg, adnoddau a chymwysterau.
Thema 2: cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
- Y gweithle.
- Gwasanaethau.
- Defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg.
Thema 3: creu amodau ffafriol (seilwaith a chyd-destun)
- Cymuned a'r economi.
- Diwylliant a'r cyfryngau.
- Cymru a'r byd ehangach.
- Technoleg ddigidol.
- Seilwaith ieithyddol.
- Cynllunio ieithyddol.
- Gwerthuso ac ymchwil.
Diben map llwybrau BSL
Mae strategaeth y Gymraeg a map llwybrau BSL yn dangos ymrwymiad a rennir i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ieithyddol ledled Cymru.
Bydd y map llwybrau yn cynrychioli'r camau cyntaf tuag at gyflawni ein huchelgais i greu Cymru sy'n parchu, yn hyrwyddo ac yn hwyluso BSL, drwy gamau gweithredu byrdymor a gaiff eu cwblhau o fewn 18 mis. Bydd y camau gweithredu hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer polisïau a strategaethau, er mwyn creu newid parhaol a mwy o gynhwysiant i arwyddwyr BSL byddar.
Mae map llwybrau BSL wedi cael ei lywio gan yr argymhellion byrdymor a luniwyd gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL.
Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso'r gymuned arwyddo BSL fyddar, a chreu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.
Mae map llwybrau BSL yn cydnabod BSL fel iaith yn ei rhinwedd ei hun. Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw iaith gyntaf neu ddewis iaith y gymuned fyddar yng Nghymru, ac mae ganddi ei hunaniaeth ieithyddol a'i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ei hun. Mae BSL yn iaith sydd â'i gramadeg, ei chystrawen a'i geirfa unigryw ei hun.
Effeithiau ar y Gymraeg
Wrth ddatblygu argymhellion i helpu i lywio map llwybrau BSL, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi trafod y Gymraeg yn rheolaidd ochr yn ochr â BSL. Mae'r grŵp wedi ystyried yn rheolaidd sut y caiff y Gymraeg ei hyrwyddo a'i hwyluso ledled Cymru a ble y gellir dysgu gwersi yng nghyd-destun BSL
Mae map llwybrau BSL yn cydnabod BSL ochr yn ochr â Chymraeg a Saesneg. Drwy feithrin diwylliant o barch a chydnabyddiaeth, mae map llwybrau BSL yn ceisio sicrhau bod BSL yn cael ei derbyn fel rhan annatod o dirwedd ieithyddol a diwylliannol Cymru.
Mae grŵp BSL wedi tynnu sylw'n gyson at bwysigrwydd gwarchod amrywiadau rhanbarthol ar BSL, gan gynnwys tafodieithoedd Cymraeg. Mae'r egwyddor hon wedi'i hymwreiddio yn null gweithredu Llywodraeth Cymru o ran polisi a chaffael, gan sicrhau y caiff BSL ei thrin fel iaith fyw a gaiff ei llywio gan gymuned, hunaniaeth a hanes. Mae rhanddeiliaid wedi nodi hefyd ei bod yn bwysig gwarchod a dathlu hunaniaeth a diwylliant byddar yng Nghymru, yn ogystal â pharchu cyfoeth tafodieithol y Gymraeg.
Mae swyddogion polisi BSL Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â swyddogion polisi Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i drafod y cysylltiadau rhwng y gwaith i ddatblygu map llwybrau BSL a strategaethau'r Gymraeg. Mae cydweithwyr ym maes y Gymraeg wedi croesawu'r ffaith bod tafodieithoedd rhanbarthol Cymraeg BSL yn cael eu cydnabod yng Nghymru ac wedi cynnig rhagor o wybodaeth.
Mae map llwybrau BSL ar gyfer pob arwyddwr BSL byddar yng Nghymru. Er nad yw map llwybrau BSL a'i gamau gweithredu yn cysylltu'n uniongyrchol â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg (Cymraeg 2025), wrth ddatblygu a chyflawni map llwybrau BSL, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith ei chamau gweithredu ar y Gymraeg yn llawn. Mae'r holl ddeunyddiau a dogfennau wedi cael eu llunio yn unol â gofynion a dyletswyddau sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Ni nodwyd unrhyw wrthdaro neu effaith negyddol rhwng y cynnig a'r camau gweithredu ym map llwybrau BSL a pholisïau a strategaethau'r Gymraeg. Ni fydd y cynigion yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg, addysg cyfrwng Cymraeg na dysgwyr Cymraeg o unrhyw oedran. Ein nod yw bod y Gymraeg, BSL a'r Saesneg yn ffynnu ochr yn ochr â'i gilydd fel rhan o dirwedd ieithyddol amrywiol Cymru.
Efallai y bydd rhai effeithiau cadarnhaol ychwanegol yn deillio o rai o'r camau gweithredu yn y map llwybrau, ac o ganlyniad i gael sawl iaith gydnabyddedig yng Nghymru. Amlinellir hyn ymhellach isod.
Cysylltiadau pellach â'r Gymraeg
Dehonglwyr BSL
Trafododd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL y ffaith nad oes digon o ddehonglwyr a chyfieithwyr ar gael ledled Cymru. Caiff hyn ei ategu gan waith ymchwil a data presennol, fel y nodir yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb. Ystyriodd y grŵp ddehonglwyr a chyfieithwyr tairieithog (BSL/Cymraeg/Saesneg) o fewn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel gofal iechyd. Gwelwyd bod hyd yn oed llai o ddehonglwyr a chyfieithwyr BSL/Cymraeg ar gael, sy'n peri rhwystrau i arwyddwyr BSL byddar y mae angen iddynt ddefnyddio BSL a'r Gymraeg.
Ystyriodd y grŵp y ffaith na chaiff cyfieithwyr a dehonglwyr BSL/Cymraeg eu cofrestru yn erbyn safonau penodol ar hyn o bryd, fel y Cofrestrau Cenedlaethol o Weithwyr Cyfathrebu Proffesiynol sy'n Gweithio gyda Phobl Fyddar a Dall Fyddar (NRCPD), sef y rheoleiddiwr gwirfoddol arweiniol ar gyfer gweithwyr gwasanaethau iaith proffesiynol yn y DU.
Caiff y trafodaethau a'r themâu hyn eu hadlewyrchu yn yr argymhellion a luniwyd gan Grŵp Rhanddeiliaid BSL. Lluniodd y grŵp argymhelliad hirdymor mewn perthynas â safonau ar gyfer dehongli a chyfieithu BSL/Cymraeg, ac mewn perthynas â gweithlu dehongli a chyfieithu BSL.
Addysg
Lluniodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL argymhelliad byrdymor mewn perthynas â mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd darpariaeth BSL i blant a babanod byddar. Yn ei drafodaethau, ystyriodd y grŵp rhanddeiliaid y ffaith bod llawer o fabanod a phlant byddar yng Nghymru yn profi amddifadedd iaith yn gynnar mewn bywyd o ganlyniad i ddarpariaeth BSL anghyson a hwyr. Mae papur polisi academaidd ‘Adopting British Sign Language in deaf education: lessons from Welsh and Gaelic’ yn ystyried cysylltiadau â'r Gymraeg ac yn nodi bod caffael iaith yn gynnar yn hollbwysig o safbwynt datblygiad gwybyddol. Heb sgiliau iaith gyntaf cadarn fel BSL, gall dysgu ail iaith fel Cymraeg fod yn llawer anos.
Mae llawer o waith ymchwil ar gael mewn perthynas â'r rhwystrau iaith ym maes addysg ac ysgolion, a'r effeithiau ar arwyddwyr BSL byddar. Darperir crynodeb yn yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant a'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb. Gall diffyg darpariaeth BSL ym maes addysg gael effaith negyddol ar gyrhaeddiad addysgol plant.
O ran y gweithlu addysg, mae gwaith ymchwil wedi dangos bod prinder gweithwyr proffesiynol yn gweithio ym maes addysg i blant byddar, gan ddatgelu nad oes gan 16% ohonynt gymwysterau BSL ffurfiol a dim ond 1% ohonynt sydd wedi cyrraedd y lefel uchaf o ruglder. (Adroddiad 2023 i Gymru gan y Consortiwm Ymchwil i Addysg Fyddar). Mae hyn yn cyfyngu ar fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg i arwyddwyr BSL byddar ac yn golygu bod modelau addysgu BSL/Cymraeg dwyieithog yn anodd eu gweithredu yng Nghymru.
Yn yr un modd, gall prinder dehonglwyr olygu na all plant byddar a'u teuluoedd gael mynediad effeithiol at ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg yn aml, ac nid oes llawer o athrawon wedi cael eu hyfforddi i roi addysg cyfrwng Cymraeg i arwyddwyr BSL byddar.
Mae'r grŵp wedi llunio'r argymhelliad canlynol mewn perthynas â'r gweithlu addysg:
- Sgiliau BSL yn y gweithlu addysg: Fel rhan o'r gwaith o weithredu'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysgu, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall faint o ymarferwyr ysgol ac athrawon ymgynghorol awdurdodau lleol sy'n gallu arwyddo BSL ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol i ddatblygu sgiliau BSL ymarferwyr ar gyfer y dyfodol.
Data BSL
Ni chaiff gwybodaeth am arwyddwyr BSL byddar a BSL ei chofnodi'n aml. Mae hyn yn golygu nad oes consensws ynghylch cyfanswm yr arwyddwyr BSL byddar yn y DU ac mae hyn wedi arwain at amrywiadau mawr yn yr amcangyfrifon sydd ar gael. Mae hyn hefyd yn golygu nad oes digon o ddata ar gael mewn perthynas ag arwyddwyr BSL byddar a'r Gymraeg. Mae un o'r argymhellion a luniwyd gan y grŵp yn ymwneud â'r angen i Lywodraeth Cymru ystyried y rhwystrau sy'n bodoli wrth geisio casglu a choladu data BSL, er mwyn llywio unrhyw gamau i gasglu data ystadegol yn y dyfodol.
Effaith ac adolygu
Bwriedir i'r camau gweithredu byrdymor yn y map llwybrau gael eu defnyddio fel man cychwyn, i ategu'r llwybr ar gyfer datblygu polisïau yn y dyfodol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a dechrau'r daith tuag at gyflawni ein gweledigaeth gyffredinol. Ein nod yw hyrwyddo BSL a chodi ymwybyddiaeth ohoni, ac annog mwy o ddealltwriaeth, gwelededd, a chynhwysiant ym mhob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru ac o fewn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i'r cynigion a'r camau gweithredu a amlinellir ym map llwybrau BSL. Os bydd y grŵp yn nodi y gallai camau i weithredu'r map llwybrau gael effeithiau negyddol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn datblygu camau gweithredu i liniaru unrhyw effeithiau negyddol a nodwyd, lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur.
Ar ôl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL gwblhau ei waith, mae'r grŵp wedi ailgynnull o dan Gylch Gorchwyl newydd, er mwyn helpu i gyflawni'r map llwybrau a rhoi'r camau gweithredu byrdymor ar waith.
