Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng 2021.

Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2021 a chânt eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr.

Mae’r data'n ymdrin â chyfnod parhaus y pandemig coronafirws (COVID-19) yn ogystal â masnach am pedwar chwarter ers ymadael y Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'r data yn cwmpasu allforion a mewnforion.  

Ers 31 Rhagfyr 2020, mae'r ffordd y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn casglu data masnach nwyddau wedi’u newid. Golygir toriad yn y gyfres amser ar gyfer ystadegau masnach gyhoeddedig y DU i'r UE ers mis Ionawr 2021, felly dylid trin cymariaethau hanesyddol yn ofalus (gweler Nodiadau).

2021 (dros dro)

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £15.2 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2021, i fyny £1.7 (12.4%) o gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2020, ac i lawr £2.5 biliwn (14.3%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2019.
  • Gwelwyd cynnydd o £1.1 biliwn (14.1%) yn yr allforion i wledydd yr UE a chynnydd o £0.6 biliwn (10.0%) i wledydd y tu hwnt i’r UE, i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 59.8% o allforion Cymreig o’i gymharu â 49.2% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 41.8% o allforion.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £16.1 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2021, cynnydd o £1.9 biliwn (13.2%) i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2020, ac i lawr £2.1 biliwn (11.4%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen mis Rhagfyr 2019.
  • Gwerth mewnforion o wledydd yr UE oedd £5.9 biliwn, yn debyg i'r gwerth a welwyd y flwyddyn flaenorol. Bu cynnydd o £1.9 biliwn (22.6%), mewn mewnforion o wledydd y tu allan i'r UE (22.6%), o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Mewnforion o'r UE oedd 36.7% o holl fewnforion Cymru o'i gymharu â 47.1% ar gyfer y DU.
  • Mae mewnforion i Gymru yn cael eu dominyddu gan 'Offer Peiriannau a Thrafnidiaeth', sef 32.5% o fewnforion.

Hydref i Ragfyr 2021 (dros dro)

Gall newidiadau tymor byr fod yn gyfnewidiol, cyflwynir y data dros dro yma o ystyried y diddordeb yn effeithiau Ymadael yr UE ar fasnach ers mis Ionawr 2021. Bydd cyfyngiadau COVID-19 ynghyd â materion sy’n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi fyd-eang bydd wedi cael effaith sylweddol ar fasnach yn ystod y cyfnod hwn.

Allforion

  • Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021, amcangyfrifwyd gwerth allforion nwyddau o Gymru yn £4.4 biliwn.
  • Yng Nghymru, cynyddodd allforion i’r UE 13.0% a chynyddodd allforion i weddill y byd 3.7% o gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod ledled y DU, cynyddodd allforion i’r UE 13.8% a chynyddodd allforion gweddill y byd 12.9%.
  • Gwelodd pedair gwlad y DU gynnydd mewn Allforion o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Yr Alban welodd y cynnydd mwyaf o 19.3%, ac yna Lloegr 12.3%, Cymru 0.1% a Gogledd Iwerddon 6.5%.
  • Gwelodd Cymru gynnydd o 2.7% o gymharu â Hydref i Ragfyr 2019. Gwelodd y tair gwlad arall ostyngiad, Gogledd Iwerddon 7.7%, yr Alban 5.3% a Lloegr 1.1%

Mewnforion

  • Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021, amcangyfrifwyd gwerth mewnforion nwyddau i Gymru yn £4.7 biliwn.
  • Cynyddodd mewnforion o’r UE i Gymru 5.8% tra cynyddodd mewnforion o wweddill y byd 14.2% o gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod, y cynnydd ledled y DU mewn mewnforion o'r UE oedd 4.2% a chynyddodd mewnforion o weddill y byd 19.5%.
  • Gwelodd tair o wledydd y DU gynnydd mewn mewnforion o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Yr Alban welodd y cynnydd mwyaf o 44.5%, yna Lloegr 11.9% a Chymru 11.3%. Gwelodd Gogledd Iwerddon ostyngiad o 2.3%.
  • Mae mewnforion yn dangos dychweliad at lefelau cyn y pandemig (o gymharu â mis Hydref i fis Rhagfyr 2019), sydd wedi'i yrru gan fewnforion o'r tu allan i'r UE. Gwelodd tair gwlad ostyngiad mewn mewnforion o'r UE dros y cyfnod hwn. Gwelodd yr Alban ostyngiad o 17.0%, Lloegr 12.7% a Chymru 5.2%. Fodd bynnag, gwelodd Gogledd Iwerddon gynnydd o 11.8%.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEM (UK Trade Info) ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan wefan 'UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach rhyngwladol nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Mae canlyniadau allweddol yn cael eu cyhoeddi yn chwarterol.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn adolygu ei ddadansoddiad a'i gyhoeddiad o ddata masnach Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gan gynnwys cynnwys y bwletin masnach nwyddau blynyddol.  Os hoffech fod yn rhan o adolygiad, neu roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.