Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r data dros dro yn y bwletin hwn yn crynhoi amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF o lifau masnach nwyddau a allforiwyd ac a fewnforiwyd rhwng Cymru a gwledydd partner yn 2022. Mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu effaith dod allan o bandemig COVID-19, diwedd cyfnod pontio'r UE ar fasnach, a’r gwrthdaro yn Wcráin sydd i gyd wedi arwain at anwadalwch parhaus mewn masnach fyd-eang. Oherwydd effaith cyfyngiadau pandemig COVID-19 ar fasnach ryngwladol yn 2020, ac i raddau llai yn 2021, mae llawer o ffigurau yn y bwletin hwn wedi’u cymharu â 2019 (y flwyddyn galendr lawn ddiwethaf cyn y pandemig). Anogir defnyddwyr i fod yn ofalus wrth gymharu masnach dros amser. Mae dadansoddiad manylach ar gael drwy ein hadnodd rhyngweithiol ar gyfer delweddu data masnach nwyddau rhyngwladol a thablau StatsCymru ar allforion ac hefyd gwefan ‘UK Trade Info’.

Mae’r bwletin hwn yn edrych ar ddata’r fasnach mewn nwyddau. Cyhoeddir y fasnach mewn gwasanaethau ar wahân. Masnach ryngwladol yng ngwledydd, rhanbarthau a dinasoedd y DU: 2020 (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Prif ganfyddiadau

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau o Gymru oedd £20.5 biliwn yn 2022, cynnydd o £5.3 biliwn (34.9%) o'i gymharu â 2021 a chynnydd o £2.8 biliwn (15.5%) o'i gymharu â 2019.
  • Ar draws y DU gyfan, gwelwyd cynnydd o 19.2% yng ngwerth allforion o'i gymharu â 2021 a chynnydd o 9.2% o'i gymharu â 2019.
  • Gwerth yr allforion nwyddau o Cymru heb gynnwys ‘Olew’[troednodyn 1] (SITC 33) oedd £15.9 biliwn yn 2022, cynnydd o £2.7 biliwn (20.7%) o’i gymharu â 2021, a chynnydd o £0.5 biliwn (3.5%) o’i gymharu â 2019. (Ffigwr 1)
  • O'i gymharu â 2021, gwelwyd cynnydd o £2.5 biliwn (27.5%) yng ngwerth yr allforion i wledydd yr UE ac o £2.8 biliwn (45.8%) yn eu gwerth i wledydd y tu allan i'r UE.  O'i gymharu â 2019, gwelwyd cynnydd o 0.8 biliwn (7.7%) yng ngwerth allforion i wledydd yr UE ac o £1.9 biliwn (27.5%) i wledydd y tu allan i'r UE.
  • Roedd gwerth yr allforion i'r UE yn cyfrif am 56.5% o allforion Cymru, o'i gymharu â 52.1% o allforion y DU.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £24.1 biliwn yn 2022, cynnydd o £8.0 biliwn (49.3%) o'i gymharu â 2021 a chynnydd o £5.9 biliwn (32.3%) o'i gymharu â 2019.
  • Ar draws y DU gyfan, gwelwyd cynnydd o 37.1% yng ngwerth mewnforion nwyddau o'i gymharu â 2021 a chynnydd o 29.6% o'i gymharu â 2019.
  • Gwerth y mewnforion nwyddau heb gynnwys ‘Olew’ (SITC 33) oedd £16.6 biliwn yn 2022, cynnydd o £4.0 biliwn (31.1%) o’i gymharu â 2021, a chynnydd o £2.3 biliwn (15.7%) o’i gymharu â 2019.
  •  O'i gymharu â 2021, gwelwyd cynnydd o £2.1 biliwn (36.0%) i fyny i £8.1 biliwn yng ngwerth y mewnforion o wledydd yr UE a gwelwyd cynnydd o £5.8 biliwn (57.0%) i fyny i £16.0 biliwn yng ngwerth y mewnforion o wledydd y tu allan i'r UE. O'i gymharu â 2019, gwelwyd cynnydd o £1.2 biliwn (16.8%) yng ngwerth mewnforion o wledydd yr UE a chynnydd o 4.7 biliwn (41.7%) yng ngwerth y mewnforion o wledydd y tu allan i'r UE.
  • Roedd gwerth mewnforion o'r UE yn cyfrif am 33.5% o’r mewnforion i Gymru, o'i gymharu â 48.9% o werth y mewnforion i’r DU.

Ffigwr 1: Cyfanswm masnach nwyddau Cymru, ac heb gynnwys ‘olew’ (SITC33), 2019 Ch1 hyd 2022 Ch4 (£ biliynau) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad Ffigwr 1: Siart llinell sy'n dangos y disgynnodd masnach yn sydyn ar ddechrau 2020 oherwydd y pandemig. Mae cynnydd yn y Chwarteri diweddar wedi gweld allforion a mewnforion yn fwy na'u lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

Ystyriaethau o ran data

Mae’n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang, megis y rhyfel yn Wcráin, ar werthoedd masnach, ynghyd â phwysau chwyddiant yn gwthio prisiau cynnyrch i fyny. Teimlir bod yr effaith wedi bod yn arbennig o drwm ar y sector petroliwm.

Gan fod natur y data sydd ar gael am fasnach ar lefel Cymru gyfan mor agregedig, mae’n anodd dadelfennu’r berthynas rhwng cyfaint y nwyddau a’u gwerth dros amser, dengys y bwletin hwn enghreifftiau sy’n cynnwys ac yn hepgor gwerth y fasnach ‘Olew’, gan gyfeirio'n achlysurol at y gyfaint y fasnach, er mwyn dangos y rôl arwyddocaol y gall y nwydd hwn ei chwarae ym mherfformiad masnach Cymru. Defnyddir ‘olew’ i gyfleu ‘Petroliwm, Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig’ (SITC 33).

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y caiff y data ei gasglu, gellir adrodd yn awr ar fasnach gwerth isel ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau o dan y categori 'Heb ei neilltuo-anhysbys'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn sylwadau llawn HMRC (Gwybodaeth am Fasnach y DU) ar yr ystadegau hyn. Efallai y bydd rhywfaint o'r data ar allforion a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn cael ei ddiwygio gan Gyllid a Thollau EI Fawrhydi fel rhan o'u diwygiadau rheolaidd i'r set ddata. Bydd y data diweddaraf ar gael ar wefan Gwybodaeth Masnach y DU.

Allforion

Gwerth allforion nwyddau o Gymru oedd £20.5 biliwn yn 2022, cynnydd o £5.3 biliwn (34.9%) o'i gymharu â 2021 a chynnydd o £2.8 biliwn (15.5%) o'i gymharu â 2019. Ar draws y DU gyfan, gwelwyd cynnydd o 19.2% yng ngwerth allforion nwyddau, a chynnydd o 9.2% o'i gymharu â 2019. 

Gwerth allforion nwyddau heb gynnwys ‘Olew’ (SITC 33) oedd £15.9 biliwn yn 2022, cynnydd o £2.7 biliwn (20.7%) o’i gymharu â 2021, a chynnydd o £0.5 biliwn (3.5%) o’i gymharu â 2019.

Tabl 1: Gwerth allforion nwyddau o Gymru a’r DU yn ôl cyrchfan (£biliynau) [Nodyn 1]
  Symiau  (£ biliynau)
CymruCyrchfan2019202020212022
UE10.88.09.111.6 
Nid UE7.05.66.18.9 
Cyfanswm17.813.515.220.5 
DUUE168.5142.6154.3193.7
Nid UE171.8148.0157.4177.8
Cyfanswm340.2290.6311.7371.5

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1] Data dros dro yw data 2022

Tabl 2: Newid canrannol allforion nwyddau Cymru a'r DU yn ôl cyrchfan o'i gymharu â 2019 i 2021 (£ biliynau) [Nodyn 1]
  Newid canrannol
CymruCyrchfanoddi 2019oddi 2020oddi 2021
UE7.6%45.4%27.5% 
Nid UE27.5%60.4%45.8% 
Cyfanswm15.5%51.5%34.9% 
DUUE15%35.8%25.6%
Nid UE3.5%20.1%12.9%
Cyfanswm9.2%27.8%19.2%

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1] Data dros dro yw data 2022.

Gwerth allforion yn ôl cyrchfan (i’r UE ac i’r tu allan i’r UE)

Gwerth allforion nwyddau o Gymru i wledydd yr UE oedd £11.6 biliwn, cynnydd o £2.5 biliwn (27.5%) o'i gymharu â 2021 a chynnydd o £0.8 biliwn (7.7%) o'i gymharu â 2019. 

Mae allforion i Iwerddon sydd werth £3.0 biliwn yn 2022 wedi ysgogi'r cynnydd yng ngwerthoedd allforion i’r UE, gyda £2.0 biliwn o'r rhain yn 'Olew' (SITC 33). Cynyddodd allforion i Iwerddon £1.2 biliwn (70.8%) o'i gymharu â 2021, gydag allforion 'Olew' (SITC 33) i Iwerddon gwerth £0.8 biliwn.

Gwerth allforion nwyddau o Gymru i wledydd y tu allan i'r UE oedd £8.9 biliwn, cynnydd o £2.8 biliwn (45.8%) o'i gymharu â 2021 a chynnydd o £1.9 biliwn (27.5%) o'i gymharu â 2019 (Ffigwr 2). Roedd allforion i'r Unol Daleithiau gwerth £3.4 biliwn yn 2022 wedi ysgogi'r cynnydd mewn gwerthoedd allforio i wledydd tu fas i’r UE, gyda £1.3 biliwn o'r rhain yn 'Olew' (SITC 33). Cynyddodd gwerth allforion i'r Unol Daleithiau £1.2 biliwn (54.7%) o'i gymharu â 2021 gydag allforion 'Olew' (SITC 33) i’r UDA gwerth £0.8 biliwn.

Ffigwr 2: Allforion nwyddau yn ôl blwyddyn a chyrchfan bras, Cymru, 2013 hyd 2022 (£ biliynau) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad Ffigwr 2: Siart llinell sy'n dangos fod Cymru yn tueddu allforio'n gyson fwy o werth nwyddau i wledydd UE na thu hwnt I'r UE.

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

Roedd cyfran y gwerthoedd allforion Cymru i'r UE yn cyfrif am 56.5% yn 2022, gostyngiad o'r 59.7% a’u welwyd yn 2021 a 60.6% yn 2019. Er i werthoedd allforion gynyddu i gyrchfannau'r UE ac i wledydd y tu hwnt i’r UE yn 2022,  cynnydd allforion i wledydd tu hwnt i’r UE yn gyrru'r newid hwn. O'i gymharu â'r DU, roedd yr UE yn cyfrif am 52.1% o werthoedd allforion y DU, cynnydd o 2.7% o'i gymharu â 2021 a chynnydd o 2.6% o'i gymharu â 2019. (Ffigwr 3)

Ffigwr 3: Allforion nwyddau fesul cyfran i'r UE oddi Cymru a'r DU (£ biliynau) [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigwr 3: O 2013 ymlaen, mae cyfran gwerth y nwyddau a allforiodd i'r UE wedi bod yn gyson ar gyfer DU a Chymru, er buodd y cyfran yn gostwng ym 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

[Nodyn 2]: Nad yw’r echelyn-y yn dechrau ar 0.

Gwerth allforion yn ôl cyrchfan (gwlad)

Yn 2022, daeth yr Unol Daleithiau i fod y farchnad allforio fwyaf yn ôl gwerth ar gyfer cynnyrch o Gymru, gan gyfrif am £3.4 biliwn (16.5%) o allforion (Ffigwr 4). Roedd y gyfran hon i fyny o 14.4% yn 2021 ac i fyny o 15.4% yn 2019. Daeth Iwerddon i fod y farchnad allforio ail fwyaf yn ôl gwerth, gan gyfrif am £3.0 biliwn (14.4%), gyda’r Almaen yn dilyn, yn cyfrif am £2.4 biliwn (11.8%).

Ac eithrio 'Olew' (SITC 33), yr Almaen yw’r farchnad fwyaf yn ôl gwerth ar gyfer cynnyrch a’u hallforiwyd o Gymru, gan gyfrif am £2.4 biliwn (15.2%) o allforion, ffigur sy’n debyg yn fras i 2021, ond i lawr £0.5 biliwn (15.7%) ers 2019.

Cymharu â 2021

O’i gymharu â 2021, allforion nwyddau i Iwerddon welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth, gyda chynnydd o £1.2 biliwn (70.8%). Cafodd ei yrru gan gynnydd o £1.2 biliwn (156%) mewn ‘Olew’ (SITC 33). Heb gynnwys ‘Olew’ (SITC 33), allforion nwyddau i’r Unol Daleithiau welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth, gyda chynnydd o £0,6 biliwn (45.1%). Cafodd ei yrru gan gynnydd o £0.2 biliwn (87.2%) mewn “Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ (SITC 71).

O’i gymharu â 2021, Rwsia welodd y gostyngiad mwyaf yng ngwerth allforion nwyddau, gyda gostyngiad o £77.0 miliwn (70.5%). Cafodd y gostyngiad yn ngwerth allforion i Rwsia ei yrru gan allforion ‘Cynnyrch Meddyginiaethol a Fferyllol) (SITC 54), gyda gostyngiad o £18.9 miliwn (81.9%).

Cymharu â 2019

O’i gymharu â 2019 cyn y pandemig, allforion nwyddau i Iwerddon welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth, gyda chynnydd o £1.3 biliwn (74.1%). Cafodd ei yrru gan gynnydd o £0.9 biliwn (92.3%) mewn ‘Olew’. Heb gynnwys ‘Olew’ (SITC 33), allforion nwyddau i Wlad Belg welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth, gyda chynnydd o £0,6 biliwn (109.9%). Cafodd ei yrru gan gynnydd o £0.2 biliwn (228.4%) mewn “Plastigau yn eu Ffurfiau Cynradd’ (SITC 57).

O’i gymharu â 2019 cyn y pandemig, gostyngodd gwerth allforion nwyddau i Ffrainc mwyaf, gyda gostyngiad o £1.3 biliwn (44.8%). Cafodd ei yrru gan ostyngiad o £1.4 biliwn (72.6%) mewn ‘Offer Trafnidiaeth Arall’ (SITC 79).

Fe welwch ddadansoddiad manylach yn ein hadnodd rhyngweithiol ar gyfer delweddu data masnach.

Ffigwr 4: Y 5 prif gyrchfan allforion nwyddau Cymru 2019 - 2021 (£ biliynau) [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad Ffigwr 4: Siart bar clystyrol sy'n dangos mai’r Unol Daleithiau yw'r gyrchfan allforio uchaf ar gyfer Cymru, gydag allforion yn cynyddu'n uchel o 2021 ac yn fwy na'r gwerth yn 2019.

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

Gwerth allforion y prif gynhyrchion

Yn 2022, y categori cynnyrch a allforiwyd fwyaf o Gymru yn ôl gwerth oedd ‘Petroliwm, Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig’ (SITC 33), oedd yn werth £4.6 biliwn (22.4%) o gyfanswm yr allforion nwyddau (Ffigwr 5). Mae’r gyfran hon i fyny o 13.3% yn 2021, ac i fyny o 13.4% yn 2019.

Cymerodd le 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' (SITC 71), sydd nawr yn ail, oedd yn werth £3.0 biliwn (14.5%) o gyfanswm yr allforion nwyddau yn 2022, gydag ‘Offer Trafnidiaeth Arall’ (SITC 79) yn dilyn, oedd yn werth £1.8 biliwn (8.9%).

O’i gymharu â 2021, cynyddodd ‘Petroliwm, Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig’ (SITC 33) £2.6 biliwn (27.3%), y cynnydd mwyaf yn 2022. Cafodd hyn ei yrru gan gynnydd o £1.2 biliwn (156.0%) yng ngwerth allforion ‘Petroliwm, Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig’ (SITC 33) i Iwerddon.

O’i gymharu â lefelau yn 2019 cyn y pandemig, ‘Offer Trafnidiaeth Arall’ (SITC 79) oedd y prif gategori cynnyrch a allforiwyd yn ôl gwerth, yn werth £4.2 biliwn (23.7%) o gyfanswm yr allforion nwyddau. Y categori hwn welodd y gostyngiad mwyaf yng ngwerth ei allforion o’i gymharu â 2019, gyda gostyngiad o £2.4 biliwn (56.4%).

Fe welwch ddadansoddiad manylach yn ein hadnodd rhyngweithiol ar gyfer delweddu data masnach.

Ffigwr 5: Y 5 prif gynnyrch allforion nwyddau Cymru, 2019 - 2021 (£ biliynau)

Image

Disgrifiad Ffigwr 5: Siart bar clwstwr sy'n dangos mai Petroliwm, Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig yw'r prif categori allforio ym 2022, mae'r gwerthoedd wedi dangos cynydd mawr ers 2021. Yn 2021 y prif categori oedd Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer.

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022. 

Mewnforion

Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £24.1 biliwn yn 2022, cynnydd o £8.0 biliwn (49.3%) o'i gymharu â 2021 a chynnydd o £5.9 biliwn (32.3%) o'i gymharu â 2019. Ar draws y DU gyfan, gwelwyd cynnydd o 37.1% yng ngwerth mewnforion nwyddau o'i gymharu â 2021 a chynnydd o 29.6% o'i gymharu â 2019.

Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru heb gynnwys ‘Olew’ (SITC 33) oedd £16.6 biliwn yn 2022, cynnydd o £4.0 biliwn (31.1%) o’i gymharu â 2021 a chynnydd o £2.3 biliwn (15.7%) o’i gymharu â 2019.

Tabl 3: Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru a’r DU yn ôl tarddiad, 2019 i 2021 (£ biliynau) [Nodyn 1]
  Symiau  (£ biliynau)
CymruGwreiddyn2019202020212022
UE6.95.95.98.1 
Nid UE11.38.310.216.0 
Cyfanswm18.214.316.124.1 
DUUE267.0226.3216.3309.1
Nid UE220.9196.7244.9323.2
Cyfanswm487.8423.1461.2632.3

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

Tabl 4: Newid canran y mewnforion nwyddau yn y DU yn ôl cyrchfan o'i gymharu â 2019 i 2021 (£ biliynau) [Nodyn 1]
  Newid canrannol
CymruGwreiddynoddi 2019oddi 2020oddi 2021
UE16.8%36.1%36.0% 
Nid UE41.7%92.4%57.0% 
Cyfanswm32.3%69%49.3% 
DUUE15.8%36.6%42.9%
Nid UE46.3%64.3%32.0%
Cyfanswm29.6%49.5%37.1%

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

Gwerth mewnforion yn ôl tarddiad (yr UE a gwledydd y tu allan i’r UE)

Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru o wledydd yr UE oedd £8.1 biliwn, cynnydd o £2.1 biliwn (36.0%) o’i gymharu â 2021 a chynnydd o £1.2 biliwn (16.8%) o’i gymharu â 2019 (Ffigwr 6).

Cafodd y cynnydd yng ngwerth mewnforion o’r UE yn 2022 o’i gymharu â 2021 ei yrru gan gynnydd o £0.4 biliwn (64.4%) o Ffrainc. O’i gymharu â 2019, cafodd y cynnydd yng ngwerth mewnforion o’r UE ei yrru gan gynnydd o £0.4 biliwn (129.4%) o Iwerddon.

Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru o wledydd y tu allan i'r UE oedd £16.0 biliwn, cynnydd o £5.8 biliwn (57.0%) o'i gymharu â 2021 a chynnydd o £4.7 biliwn (41.7%) o'i gymharu â 2019 (Ffigwr 6).

Cafodd y cynnydd yng ngwerth mewnforion o wledydd y tu allan i’r UE yn 2022 o’i gymharu â 2021 ei yrru gan gynnydd o £1.6 biliwn (74.1%) o’r Unol Daleithiau. O’i gymharu â 2019, cafodd y cynnydd yn ngwerth mewnforion o wledydd y tu allan i’r UE ei yrru gan gynnydd o £0.7 biliwn (58.6%) o Tsieina.

Ffigwr 6: Mewnforion nwyddau yn ôl blwyddyn a tharddiad, Cymru, 2013 hyd 2022 (£ biliynau) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad Ffigwr 6: siart llinell sy'n dangos bod cynnydd yng ngwerth y nwyddau sydd wedi mewnforio o wledydd y tu hwnt I'r UE ers 2013.

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

Gwerth mewnforion yn ôl tarddiad (gwlad)

Yn 2022, yr Unol Daleithiau oedd y farchnad fewnforio fwyaf yn ôl gwerth i Gymru o hyd, gan gyfrif am £3.7 biliwn (15.5%) o fewnforion. Roedd y gyfran hon i fyny o 13.3% yn 2021, ac i lawr o 17.5% yn 2019. Tsieina oedd yr ail farchnad fewnforio fwyaf yn ôl gwerth, gan gyfrif am £1.8 biliwn (7.6%), yna'r Iseldiroedd gyda £1.4 biliwn (5.7%).

Yn 2022, yr Unol Daleithiau oedd y farchnad fewnforio fwyaf yn ôl gwerth i Gymru, heb gynnwys ‘olew’ (SITC 33) o hyd, gan gyfrif am £1.9 biliwn (11.6%) o fewnforion, i fyny o £1.4 biliwn (11.2%) yn 2021 ac i lawr ychydig o’i gymharu â 2019.

Cymharu â 2021

O’i gymharu â 2021, mewnforion nwyddau o’r Unol Daleithiau welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth, gyda chynnydd o £1.6 biliwn (74.1%). Cafodd ei yrru gan gynnydd o £1.1 biliwn (149.4%) mewn ‘Petroliwm, Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig’ (SITC 33). Heb gynnwys ‘Olew’ (SITC 33),  mewnforion nwyddau o’r Unol Daleithiau eto welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth, gyda chynnydd o £0.5 biliwn (35.9%). Cafodd ei yrru gan gynnydd o £0.2 biliwn (40.0%) mewn “Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ (SITC 71).

O’i gymharu â 2021, mewnforion nwyddau o Rwsia welodd y gostyngiad mwyaf, gyda gostyngiad o £0.2 biliwn (55%). Cafodd ei yrru gan ostyngiad o £0.1 biliwn (61.4%) mewn ‘Petroliwm, Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig’ (SITC 33).

Cymharu â 2019

O'i gymharu â lefelau cyn y pandemig yn 2019, mewnforion nwyddau o Tsieina welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth, gyda chynnydd o £0.7 biliwn (58.6%). Cafodd ei yrru gan gynnydd o £0.1 biliwn (74045.5%) mewn ‘Petroliwm, Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig’ (SITC 33).  Heb gynnwys ‘Olew’ (SITC 33),  mewnforion nwyddau o Tsieina eto welodd y cynnydd mwyaf yn eu gwerth, gyda chynnydd o £0.6 biliwn (49.8%). Cafodd ei yrru gan gynnydd o £81.8 miliwn (56.8%) mewn ‘Peiriannau, Cyfarpar ac Offer Trydan a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau erail’ (SITC 77).

O’i gymharu â lefelau 2019 cyn y pandemig, mewnforion nwyddau o’r Almaen welodd y gostyngiad mwyaf, gan ostwng £0.5 biliwn (29.0%). Cafodd ei yrru gan ostyngiad o £0.3 biliwn (65.4%) mewn ‘Cerbydau Ffordd (Gan gynnwys Cerbydau Hofran’ (SITC 78).

Fe welwch ddadansoddiad manylach yn ein hadnodd rhyngweithiol ar gyfer delweddu data masnach.

Ffigwr 7: Y 5 prif darddiad mewnforion nwyddau Cymru, 2019 hyd 2022 (£ biliynau) [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad Ffigwr 7: Siart bar clystyredig sy'n dangos bod yr UDA yn 2022 yn barhau i fod y farchnad gyda gwerth uchaf fewnforion i Gymru, cynnydd hyd yn oed ers 2019.

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

Gwerth mewnforion o’r prif gynhyrchion

Yn 2022, y cynnyrch SITC a fewnforiwyd fwyaf i Gymru oedd ‘Olew’ (SITC 33), yn werth £7.5 biliwn (30.9%) o gyfanswm y mewnforion nwyddau (Ffigwr 8). Mae’r gyfran hon i fyny o 21.4% yn 2021, ac i fyny o 21.1% yn 2019. Yn ei ddilyn yr oedd ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ (SITC 71) a ‘Peiriannau, Cyfarpar ac Offer Trydan a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill’, yn werth £3.2bn (13.3%) a £1.1bn (4.6%) o gyfanswm y mewnforion nwyddau, yn y drefn honno.

Yn 2022, y nwydd a fewnforiwyd i Gymru a gynyddodd fwyaf yn ei werth o’i gymharu â 2021 oedd 'Petrolewm, Cynnyrch Petrolewm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) gan gynyddu £4.0 biliwn (116.0%) gyda ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ (SITC 71) yn ei ddilyn, gyda chynnydd o £1.5 biliwn (87.7%). Cafodd hyn ei yrru gan y cynnydd yn y mewnforion o’r Unol Daleithiau, gyda chynnydd o £0.2 biliwn (40.0%).

O’i gymharu â lefelau 2019 cyn y pandemig, y nwydd a fewnforiwyd i Gymru a gynyddodd fwyaf yn ei werth oedd 'Petrolewm, Cynnyrch Petrolewm a Deunydd Cysylltiedig' (SITC 33) gan gynyddu £3.6 biliwn (94.0%), gyda ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ (SITC 71) yn ei ddilyn, gyda chynnydd o £1.1 biliwn (51.0%). Cafodd hyn ei yrru gan y cynnydd yn y mewnforion o Ffrainc, Saudi Arabia a’r Almaen, gyda chynnydd o £131.7 miliwn (267.7%), £127.2 miliwn (462.6%) a £126.3 miliwn (186.8%) yn y drefn honno.

Fe welwch ddadansoddiad manylach yn ein hadnodd rhyngweithiol ar gyfer delweddu data masnach.

Ffigwr 8: Y 5 prif gynnyrch a'u mewnforiwyd i Gymru, 2019 hyd 2022 (£ biliynau) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad Ffigwr 8: Siart bar clwstwr sy'n dangos bod Petrolewm, Cynnyrch Petrolewm a Deunydd Cysylltiedig sy'n parhau i fod y categori mewnforio uchaf yn 2022, gan ildio gwerth 2019.

Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

[Nodyn 1]: Data dros dro yw data 2022.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Rydym am gael eich adborth

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu eu dadansoddiad a'u cyhoeddiad o ddata masnach Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) gan gynnwys a fydd yn effeithio ar gynnwys y bwletin masnach rhyngwladol blynyddol hwn.

Mae Dadansoddwyr Masnach Llywodraeth Cymru'n ystyried rhoi'r gorau i ddiweddaru tablau allforio StatsCymru wrth gwblhau set ddata 2022. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddiweddaru'r fasnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol. Os bydd hyn yn broblem, neu os hoffech roi adborth i ni, cysylltwch â ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Wrth adolygu'r ystadegau a gyhoeddir gennym, ein nod yw symleiddio'r data masnach sydd ar gael a byddwn yn ymgysylltu â defnyddwyr i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion. Os hoffech fod yn rhan o adolygiad, neu roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Perthnasedd

Mae'r data dros dro yn y bwletin hwn yn crynhoi Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau (RTS) HMRC o fasnach nwyddau i Gymru yn 2022, gan ddarparu cymariaethau â'r DU.

Mae'r bwletin hwn yn cynnwys data dadansoddi ar gyfer 2022, 2021 a 2019. Defnyddir yr ystadegau hyn gan Lywodraeth Cymru i fonitro perfformiad mewn masnach nwyddau i Gymru, yn ogystal â darparu cymariaethau â'r DU a rhanbarthau eraill. Defnyddir y bwletin hwn hefyd gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat.

Cywirdeb

Y data yn y bwletin hwn yw'r Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau (RTS) a gyhoeddwyd gan HMRC. Mae'r ystadegau hyn yn cyfeirio at nwyddau sydd wedi croesi ffin y DU. Mae hyn yn golygu nad yw allforion o Gymru i rannau eraill o'r DU wedi'u cynnwys ac nid oes unrhyw elfen wedi'i chynnwys ar gyfer cydrannau a gynhyrchir yng Nghymru pan fydd y cynnyrch terfynol yn cael ei gwblhau ac yna'n cael ei allforio o ran arall o'r DU. Nid yw HMRC yn derbyn gwybodaeth mewn perthynas â nwyddau sy'n symud yn gyfan gwbl o fewn y DU. At hynny, nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am fasnach gwasanaethau fel bancio neu dwristiaeth.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddir Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau bob chwarter gan HMRC ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Cyhoeddir y prif ystadegau masnach ryngwladol gan Lywodraeth Cymru ar yr un pryd.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae'r Prif Ystadegau, y Bwletin Ystadegol a'r adnodd rhyngweithiol delweddu data masnach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae datganiad chwarterol diweddaraf HRCM ar Fasnach Ranbarthol mewn Ystadegau Nwyddau (RTS) ar gael ar wefan HRCM. Cyhoeddir data allforion ar StatsCymru.

Cymaroldeb a chydlyniad

Mae ystadegau arbrofol ar fasnach ryngwladol mewn nwyddau a gwasanaethau gan fusnesau yng Nghymru hefyd ar gael ar ein Harolwg Masnach i Gymru. Arolwg gwirfoddol ar-lein yw Arolwg Masnach Cymru, sy'n casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan fusnesau sydd â gweithrediadau yng Nghymru i fesur llifau masnach (o ran gwerthu a phrynu nwyddau a gwasanaethau) i Gymru ac oddi yno.

Cyhoeddir mesurau tebyg ar gyfer gwledydd eraill y DU ar StatsCymru.

Mae'r data a ddangosir ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn seiliedig ar y 28 aelod-wladwriaeth a oedd yn cynnwys yr UE (hynny yw, y 28 o wladwriaethau heb y DU am y blynyddoedd roedd y DU yn aelod o'r UE, gan mai dim ond allforion i gyrchfannau y tu allan i'r DU sy'n cael eu cynnwys yn y cyhoeddiad hwn).

Nid yw cyfansymiau chwarterol y gwerth am RTS yn cyfateb i'r cyfansymiau a gyhoeddwyd eisoes fel Ystadegau Masnach Dramor mewn Nwyddau ledled y DU. Nid yw rhai nwyddau, megis olew crai Môr y Gogledd, llongau a storfeydd awyrennau, a'r rhai nad ydynt yn cael eu dosbarthu'n rhad ac am ddim, sy'n cael eu cludo i wledydd yr UE gan ddefnyddio datganiadau Tollau traddodiadol, yn cael eu dyrannu i ranbarth yn y DU. Mae allforion sy'n ymwneud â chwmnïau tramor, sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW yn y DU, ond heb unrhyw le busnes yn y DU, wedi'u heithrio. Mae ynysoedd y sianel a masnach Ynys Manaw hefyd wedi'u heithrio. Yn ogystal, ni ellir dyrannu rhai allforion i wledydd y tu allan i'r UE i ranbarth gan nad yw'r rhifau cofrestru TAW wedi'u datgan yn briodol. Mae'r gwaharddiadau hyn yn golygu nad yw'n bosibl cysoni cyfanswm y ffigurau ar gyfer masnach ranbarthol yn erbyn ffigurau masnach y DU.

Caiff data eu coladu gan ddefnyddio'r system Dosbarthiad Masnach Ryngwladol Safonol (SITC).

Methodoleg

Mae HRCM wedi diwygio'r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo Ystadegau Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau. Mae masnach busnes bellach yn cael ei dyrannu i ranbarth sy'n seiliedig ar gyfran y cyflogeion yn y rhanbarth hwnnw yn hytrach na lle mae lleoliad Prif Swyddfa'r busnes. Mae data ar gael o dan y fethodoleg newydd o 2013 C1. Mae'n amhriodol cymharu data cyfredol â data cyn 2013 ac mae wedi'i eithrio o'r bwletin hwn. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd, diwygiadau a methodoleg y data ar gael ar wefan HRCM.

Diwygiadau

Mae data ar gyfer chwarteri blaenorol wedi'u diwygio yn unol â pholisi adolygu Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi lle gellir dilysu a diwygio data ar allforion ar gyfer y flwyddyn galendr gyfredol ar unrhyw adeg, tra gellir dilysu a diwygio data ar allforion ar gyfer y calendr blaenorol tan ychydig ar ôl i ffigurau'r ail chwarter ar gyfer y flwyddyn galendr gyfredol gael eu cyhoeddi.  Mae data wedi’i ddiweddaru yn unol â’r cywiriadau i’r Ystadegau Masnachu Nwyddau Rhanbarthol (UK Trade Info).

Data dros dro yw data 2022. Mae diwygiadau i'r data yn codi o ganlyniad i gynnwys diwygiadau masnach a chyflwyniadau hwyr a dderbyniwyd gan Gyllid a Thollau EM. Mae'r ffigurau'n rhai dros dro am hyd at 18 mis.

Ar gyfer data o'n hallbynnau ein hunain, rydym yn dilyn polisi diwygio Llywodraeth Cymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac yn dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai pob ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'u hadfer pan gaiff safonau eu hadfer.

Cadarnhawyd y dynodiad parhaus o'r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2013 yn dilyn gwiriad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau Cafodd yr ystadegau hyn asesiad llawn ddiwethaf yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

Tynnu tablau mawr o ddata o'r datganiad a sicrhau bod y data ar gael mewn tablau rhyngweithiol ar-lein.

Gwell delweddau drwy ein hadnodd delweddu data masnach rhyngweithiol a sylwebaeth i'w gwneud yn haws i'r darllenwyr dynnu negeseuon allweddol allan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, os bydd Gweinidogion Cymru’n diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y medrant (a) gyhoeddi’r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron Senedd Cymru. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron Senedd Cymru yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn cymryd lle’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ond nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cenedlaethol.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Defnyddir ‘Olew’ i gyfleu ‘Petroliwm,. Cynnyrch Petroliwm a Deunydd Cysylltiedig’ (SITC 33).

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jonathan Burton
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 13/2023

Image
Ystadegau Gwladol