Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

O fis Ionawr 2022, mae'r ffordd y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn casglu ystadegau masnach mewn nwyddau wedi newid sy'n effeithio ar ddata fewnforion o'r UE i Brydain Fawr.

Mae hyn yn arwain at doriad yn y gyfres amser, felly dylai defnyddwyr gymryd gofal wrth gymharu â chwarteri a blynyddoedd cyn 2022 (gweler Nodiadau). Ceir esboniad pellach o'r newidiadau ar wefan Cyllid a Thollau EM (UK Trade Info).

Mae'r data ar gyfer 2021 a 2022 yn amcangyfrifon dros dro a chânt eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni sydd wedi'u dychwelyd yn hwyr.

Y flwyddyn y gorffen Mawrth 2022

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £16.6 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, i fyny £4.1 biliwn (32.5%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.
  • Gwelwyd cynnydd o £2.4 biliwn (32.7%)  mewn allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a chynnydd o £1.7 biliwn (32.2%) mewn allforion i wledydd y tu allan i'r UE o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd allforion i'r UE yn cyfrif am 58.9% o allforion Cymru o'i gymharu â 50.5% ar gyfer y DU.
  • Mae allforion o Gymru yn parhau i gael eu dominyddu gan 'Beiriannau ac Offer Trafnidiaeth' a oedd yn cynnwys 39.5% o allforion.
  • O gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 (cyn y pandemig), mae allforion nwyddau i Gymru wedi gostwng £0.6 biliwn (3.4%).

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £18.4 biliwn, i fyny £4.9 biliwn (36.6%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.
  • Gwelwyd cynnydd o £0.7 biliwn (12.8%) mewn mewnforion o wledydd yr UE a chynnydd o £4.1 biliwn (54.6%) mewn mewnforion o wledydd y tu allan i'r UE o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd mewnforion o'r UE yn cyfrif am 35.6% o fewnforion o Gymru o'i gymharu â 47.2% ar gyfer y DU.
  • Ysgogwyd y cynnydd mewn mewnforion gan gynnydd yng ngwerth 'Petrolewm, Cynhyrchion Petrolewm a deunydd cysylltiedig', gan gynyddu £2.6 biliwn (128.1%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Cyfrifodd 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' am 30.9% o fewnforion a ‘Tanwyddau Mwynau' 29.1% o fewnforion.
  • O gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 (cyn y pandemig), mae mewnforion nwyddau i Gymru wedi cynyddu £0.6 biliwn (3.1%).

Ionawr i Mawrth 2022 (dros dro)

Gall newidiadau tymor byr, chwarterol fod yn gyfnewidiol, er eu bod yn cael eu cyflwyno yma o ystyried effeithiau Ymadael â'r UE a’r pandemig COVID-19 ar fasnach.

Allforion

  • Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth (Ch1) 2022, gwerth allforion nwyddau yng Nghymru oedd £4.5 biliwn. Mae hyn yn gynnydd o 45.6% o'i gymharu â Ch1 2021 a chynnydd o 10.7% o'i gymharu â Ch1 2020. Gwelodd y DU gynnydd o 16.3% o'i gymharu â Ch1 2021, a chynnydd o 5.6% o'i gymharu â Ch1 2020.
  • Gwerth allforion nwyddau i'r UE o Gymru yn Ch1 2022 oedd £2.6bn, cynnydd o 37.9% o'i gymharu â Ch1 2021, a chynnydd o 5.5% o'i gymharu â Ch1 2020.
  • Roedd allforion tu hwnt i'r UE o Gymru werth £1.9bn yn Ch1 2022, cynnydd o 57.5% o'i gymharu â Ch1 2021 a chynnydd o 18.5% o'i gymharu â Ch1 2020.

Mewnforion

  • Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022, gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £5.8 biliwn. Mae hyn yn gynnydd o 64.3% o'i gymharu â Ch1 2021, a chynnydd o 34.1% o'i gymharu â Ch1 2020. Gwelodd y DU gynnydd o 48.6% o'i gymharu â Ch1 2021, a chynnydd o 38.3% o'i gymharu â Ch1 2020.
  • Gwerth mewnforion nwyddau'r UE i Gymru yn Ch1 2022 oedd £2.0bn, cynnydd o 43.7% o'i gymharu â Ch1 2021 a chynnydd o 32.0% o'i gymharu â Ch1 2020.
  • Roedd mewnforion nwyddau o'r tu allan i'r UE i Gymru yn werth £3.7bn yn C1 2022, a chynnydd o 78.0% o'i gymharu â Ch1 2021 a chynnydd o 35.3% o'i gymharu â Ch1 2020.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEM (UK Trade Info) ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan wefan 'UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf (ar gyfer 2020) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu roedd allforion gwasanaethau Cymru yn cyfateb â 28% o gyfanswm holl allforion Cymru yn 2020, tra oedd mewnforion gwasanaethau yn cyfateb i ryw 19% o gyfanswm ein fewnforion.

Mae canlyniadau allweddol yn cael eu cyhoeddi yn chwarterol.

Os hoffech roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.