Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Hydref 2022 i Medi 2023.

Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Hydref 2022 i Medi 2023 a chânt eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr.

Mae'r data yn cwmpasu gwerthoeddd (prisiau cyfredol) o allforion a mewnforion nwyddau.  

Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.

Y flwyddyn yn gorffen Medi 2023 (dros dro)

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £19.9 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2023, i fyny £0.4 biliwn (2.0%) o gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2022.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2023, cynyddodd gwerth allforion ar draws holl wledydd y DU, ac eithrio'r Alban ble gostyngodd gwerthoedd.
  • Gwerth allforion nwyddau ag eithrio 'Olew' (SITC 33) i Gymru oedd £16.2 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben Medi 2023, cynnydd o £0.9 biliwn (5.7%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.
  • Gwerth allforion nwyddau ag eithrio 'Olew' (SITC 33) i Gymru oedd £16.2 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben Medi 2023, cynnydd o £0.9 biliwn (5.7%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.
  • Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, bu cynnydd o £0.4 biliwn (3.4%) mewn gwerthoedd allforion i wledydd yr UE hyd at £11.6 biliwn ac arhosodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE yn weddol debyg ar £ 8.3 biliwn, o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 58.3% o allforion Cymreig o’i gymharu â 51.0% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd gwerthoedd allforion o Gymru i gael eu dominyddu gan 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth'1 gwerth £8.2 biliwn (41.1%), cynydd o £1.1 biliwn (15.1%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022. Mae 'Mineral Fuels' yn parhau i fod yr ail gategori mwyaf, gyda £3.8 biliwn yn cael ei allforio yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, sef 19.2% o holl allforion o Gymru. 
  •  
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ oedd y cynnyrch gwerth mwyaf yn y categori ‘Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £3.2 biliwn (16.3%) o allforion Cymreig. Mae hyn yn gynnydd o £0.5 biliwn (18.5%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.
  •  
    • Yn y categori Tanwyddau Mwynau, gwerth 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) oedd yr uchaf - £3.7 biliwn (18.5%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd gwerth £0.5 biliwn (11.9%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.

Troednodiadau

[1] Mae hyn yn cynnwys Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer, Peiriannau Arbenigol ar gyfer Diwydiannau Penodol, Peiriannau Gwaith Metel, Peiriannau Diwydiannol Cyffredinol ac Offer a Rhannau Peiriant nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Peiriannau Swyddfa a pheiriannau ADP, Telathrebu a Recordio Sain ac Offer a Chyfarpar Atgynhyrchu, Peiriannau Trydan, Cyfarpar ac Offer a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Cerbydau Ffordd (gan gynnwys Cerbydau Clustogau Aer), Offer trafnidiaeth eraill.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £22.0 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, gostyngiad o £0.2 biliwn (1.4%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen mis Medi 2022.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2023, fe welodd Cymru a'r Alban ostyngiadau yng ngwerthoedd mewnforion tra welodd Lloegr a Gogledd Iwerddon cynnydd.
  • Gwerth mewnforion nwyddau ag eithrio ‘Olew' (SITC 33) ar gyfer Cymru oedd £15.7 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben Medi 2023, gostyngiad o £0.2 biliwn (1.4%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen mis Medi 2022.
  • Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, bu cynnydd o £0.1 biliwn (1.2%) gwerthoedd mewnforion nwyddau o’r UE hyd at £7.7 biliwn. Am wledydd y tu allan i'r UE, roedd gostyngiad o £0.9 biliwn (5.7%) hyd at £14.3 biliwn, o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.  
  • Cyfrifodd gwerthoedd mewnforion o'r UE 35.1% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion Cymru, o'i gymharu â 52.1% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth' fel y categori mewnforio gwerth mwyaf £7.7 biliwn - sy'n cyfrif am 35.1% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion - cynnydd o £0.8 biliwn (11.4%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022. Yr ail gategori mwyaf oedd 'Tanwyddau mwynol' gyda £7.1 biliwn (32.2%) o gyfanswm mewnforion.
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer ‘oedd y cynnyrch gwerth mwyaf o fewn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth’ - gwerth £3.3 biliwn (14.8%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd o £0.4 biliwn (13.2%) o'i gymharu â'r â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.
    • Yn y categori 'Tanwydd Mwynol', 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' oedd y cynnyrch gwerth uchaf gyda £6.4 biliwn (28.9%) o fewnforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd gwerth £0.5 biliwn (7.9%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

nwyddau rhyngwladol. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf (2021) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm allforion yng Nghymru, a 20% o gyfanswm fewnforion.

Cyhoeddir canlyniadau allweddol bob chwarter, ac maent ar gael ar dudalennau CThEF ‘UK Trade Info’, ein dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain yn ogystal â StatsCymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cerys Ponting

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.