Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

I gefnogi ein nod o greu Cymru Wrth-hiliol a’n camau gweithredu mewn perthynas â’r sector gofal plant a gwaith chwarae, mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru sydd â gwybodaeth a phrofiad o effaith hiliaeth mewn amgylcheddau gofal plant a chwarae.

Os ydych chi’n dod o gymuned Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a bod gennych brofiad o’r sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru, naill ai fel rhan o’r gweithlu presennol neu yn y gorffennol, neu fel rhiant/gofalwr plentyn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal plant neu chwarae, fe hoffem glywed gennych. Gall mentoriaid cymunedol hefyd fod yn academyddion, ymgynghorwyr, swyddogion â phrofiad polisi o lywodraeth leol neu’r sector gwirfoddol neu’r sector preifat, neu’n weithwyr cymunedol sydd â phrofiad mewn un o’r meysydd polisi.

Rydym yn edrych am 10 o unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i ddod yn fentoriaid cymunedol ar gyfer gwasanaeth ymgynghorol â thâl am gyfnod o 15 diwrnod gwaith (120 awr) hyd at fis Mawrth 2024, gyda’r opsiwn o estyn y penodiad am flwyddyn neu ddwy flynedd.

Cefndir

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022 yn nodi nifer o nodau a chamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sectorau gofal plant a gwaith chwarae.

Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo drwy grŵp llywodraethu a thri is-grŵp, sef:

  • Dysgu proffesiynol;
  • Ymchwil; a
  • Mentora cymunedol a chynghreirio

Mae’r fanyleb hon yn ymwneud â’r is-grŵp mentora cymunedol a chynghreirio, a’n bwriad yw sicrhau bod llais a phrofiad bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael ei glywed a’n bod yn gweithredu ar yr hyn yr ydym yn ei glywed.

Mentoriaid cymunedol

I gefnogi’r cyflwyno’r camau gweithredu sydd yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol mewn perthynas â’r sector gofal plant a gwaith chwarae, mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd â gwybodaeth a phrofiad o effaith hiliaeth o fewn y maes gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar i ddod yn fentoriaid cymunedol. Gallai mentoriaid cymunedol fod â phrofiad a/neu arbenigedd mewn nifer o’r meysydd polisi hyn, neu gallent arbenigo mewn un ohonynt.

Gallai mentoriaid cymunedol fod yn aelodau o’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae, rhywun sydd wedi gadael y gweithlu neu yn rhiant/gofalwr plentyn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal plant neu waith chwarae. Gallai mentoriaid cymunedol hefyd fod yn academyddion, ymgynghorwyr, swyddogion polisi profiadol o lywodraeth leol neu’r sector gwirfoddol neu’r sector preifat, neu’n weithwyr cymunedol sydd â phrofiad mewn un o’r meysydd polisi.

Bydd mentoriaid cymunedol yn ennill sgiliau arwain a datblygu gwerthfawr ac yn helpu Llywodraeth Cymru a phartneriaid i ddylanwadu ar newid cadarnhaol yn y sector gofal plant a gwaith chwarae. 

Yr hyn sy'n bwysig yw y gallant rannu eu profiad bywyd a darparu cyfraniad annibynnol, gan gynnig eu profiad bywyd, eu harbenigedd a'u cyngor i gefnogi Grŵp Llywodraethu Gofal Plant a Gwaith Chwarae Cymru Wrth-hiliol ’a'n helpu i fireinio a chyflwyno’r nodau a’r camau gweithredu sydd yn y Cynllun.

Byddai gofyn i fentoriaid cymunedol wneud y canlynol:

  • Dod â'u profiad bywyd o'r sector gofal plant a gwaith chwarae o safbwynt person Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol fel gweithiwr, cyn-weithiwr, rhiant neu arbenigwr yn y maes hwn.
  • Rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae hiliaeth yn effeithio ar wahanol feysydd o'r sector gofal plant a gwaith chwarae.
  • Gweithio'n adeiladol gydag eraill i lywio dealltwriaeth o ba newidiadau sydd eu hangen i gefnogi pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y sector drwy sgyrsiau heriol am hil.
  • Dod â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf i rannu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o sut mae hiliaeth sefydliadol a systemig yn effeithio ar fywydau gwahanol grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Meithrin perthynas ddibynadwy gyda phobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn caniatáu sgyrsiau heriol.
  • Helpu Lywodraeth Cymru i ddatblygu ymddygiadau a pholisi gwrth-hiliol yn y sector gofal plant a gwaith chwarae.

Tasgau ar gyfer y rôl

Rydym am benodi hyd at ddeg mentor cymunedol o ystod eang o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd ag ystod eang o brofiadau i gyfrannu at ein gwaith.

Rydym yn croesawu mentoriaid cymunedol sy'n gallu cynnig profiadau a gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ar bobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn perthynas â gofal plant a gwaith chwarae. Nid oes angen i’r mentoriaid cymunedol fod yn arbenigwyr ym maes gofal plant a gwaith chwarae neu ddatblygu polisi, ond rydym am iddynt geisio cael sgyrsiau chwilfrydig, onest a heriol am sut y gallwn helpu i wneud newid cadarnhaol.

Bydd mentoriaid cymunedol yn:

  • Cynghori, cefnogi, cyd-ddylunio, a herio Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach ar gyflawni'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'i weledigaeth a'i bwrpas ar gyfer Cymru wrth-hiliol.
  • Dod i gyfarfodydd Grŵp Llywodraethu Gofal Plant a Gwaith Chwarae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r grwpiau Gorchwyl a Gorffen i ddarparu lens gwrth-hiliol.
  • Cymhwyso'r lens wrth-hiliol honno drwy adolygu adnoddau dysgu a dogfennau eraill fel polisïau, gweithdrefnau, canllawiau a hyfforddiant.
  • Rhoi eu barn a/neu eu harbenigedd ar waith ymchwil arfaethedig y mae angen i Lywodraeth Cymru ymgymryd ag ef er mwyn deall rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau o fewn y sector.
  • Ein helpu i gyd-lunio arolwg o staff o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar eu profiadau o weithio yn y sector a'n helpu i lunio cynigion i wella eu profiadau.
  • Ein helpu i ystyried y ffordd orau o ymgysylltu â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i nodi sut y gellir canfod llais a phrofiadau bywyd pobl yn y cymunedau hyn yn well fel rhan o'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant y mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ei gynnal.
  • Ein helpu i sefydlu a deall sgyrsiau cymhleth, heriol ac anodd gyda phobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Ymrwymiad amser

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am hyd at ddeg unigolyn i fod yn fentoriaid cymunedol o amrywiaeth o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a grwpiau ffydd. Mae hon yn rôl ymgynghori gyflogedig am 15 diwrnod gwaith (120 awr) rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Mae'n bosibl y bydd opsiwn i ymestyn y penodiad ar ôl blwyddyn os bydd y mentoriaid cymunedol yn cytuno.

Nid oes rhaid i hyn fod yn 15 diwrnod cyfan; gallai fod yn flociau tair neu bedair awr sy'n gyfanswm o 120 awr o’r penodiad i fis Mawrth 2024.

Tâl

Bydd mentoriaid cymunedol yn derbyn swm o £300 y dydd, gydag uchafswm o £4,500 (15 diwrnod / 120 awr) ar gael i gyd am y gwaith hwn. Noder, bydd gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu cwblhau cyn penodi. Bydd hyn yn cynnwys,, ymysg pethau eraill, chwiliad ar y cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd. Os byddant yn llwyddiannus, gellir gofyn i fentoriaid cymunedol hefyd ddarparu dau ganolwr (cyflogwr a phersonol) y byddwn yn cysylltu â nhw, a byddwn yn gwneud y gwiriadau diwydrwydd dyladwy angenrheidiol cyn penodi. Gall Llywodraeth Cymru ofyn i fentoriaid cymunedol gwblhau gwiriadau'r heddlu y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) os oes angen. Nid ydym yn rhagweld y bydd mentoriaid cymunedol yn cael mynediad i liniaduron llywodraeth Cymru.

Ar ôl eu penodi, bydd angen i fentoriaid cymunedol roi cadarnhad o’r amser a weithiwyd. Dylid cyflwyno dadansoddiad o’r oriau a dyddiau a weithiwyd at dibenion archwilio. Dywed Llywodraeth Cymru fod y tâl dyddiol o £300 ar sail pro rata yn seiliedig ar 8 awr y dydd.

Bydd mentoriaid cymunedol yn llenwi holiadur Statws Cyflogaeth, gan roi manylion i'r Tîm TAW a Threth er mwyn penderfynu a fydd yr unigolyn yn hunangyflogedig neu'n derbyn ffi a bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu taliad yn unol â hynny. Os ydych eisoes yn gweithio yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, rydym yn rhagweld y byddwch yn cytuno â'ch cyflogwr fod hyn yn rhan o'ch contract cyfredol â hwy ac na fyddwch yn cael eich talu. Ond mae Llywodraeth Cymru'n hapus i drafod y trefniant hwn fel rhan o'r ddyletswydd gwasanaethu cyhoeddus gyda'ch cyflogwyr os ydym yn eu hariannu neu'n cydweithio â nhw.

Cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentoriaid cymunedol drwy:

  • Cefnogi ac ymgysylltu â mentoriaid cymunedol yn rheolaidd, gan sicrhau bod mentoriaid cymunedol yn gallu cael mynediad at swyddogion enwebedig yn Llywodraeth Cymru i godi unrhyw bryderon a threfniadau addas i gefnogi lles.
  • Sicrhau bod mentoriaid cymunedol yn cael disgwyliadau clir o'u rôl a'u cylch gwaith.
  • Sefydlu dulliau cyfathrebu agored a chadarnhad o sut y bydd amser mentoriaid cymunedol yn cael ei neilltuo a'r adnoddau i gefnogi hyn.
  • Cefnogi mentoriaid cymunedol i ddod at ei gilydd i ffurfio rhwydwaith o gefnogaeth.
  • Sicrhau bod mentoriaid cymunedol yn deall sut y byddant yn cael eu talu, a'u talu yn brydlon.

Y broses ymgeisio

Bydd mentoriaid cymunedol yn:

  • Darparu datganiad personol (dim mwy na 900 o eiriau) yn amlinellu sut y gallant gyfrannu yn y rôl hon, ynghyd â'u CV erbyn dydd Iau 6 Ebrill, a’u hanfon at TrafodGofalPlant@llyw.cymru
  • Peidio gorfod dod i gyfweliad, bydd panel yn ystyried ceisiadau ac yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus.
  • Cael clywed gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi manylion pellach i ymgeiswyr llwyddiannus, gan gynnwys eu statws fel person hunangyflogedig gan Lywodraeth Cymru.

Monitro

Gan y bydd mentoriaid cymunedol yn dod i gyfarfodydd Grŵp Llywodraethu Gofal Plant a Gwaith Chwarae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r grwpiau Gorchwyl a Gorffen, byddant yn atebol i’r grwpiau hyn am eu gweithgareddau a’u perfformiad.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r mentoriaid cymunedol yn uniongyrchol i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth addas ac yn gallu codi unrhyw broblemau yn ôl yr angen.

Dyma’r swyddogion yn Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am fentoriaid cymunedol:

Rebecca Johnson / Clare Severn

Pennaeth Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Sarah Melkevik

Uwch-reolwr Polisi Anghenion Gweithlu’r Dyfodol
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gwerthuso

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwerthuso llwyddiant mentoriaid cymunedol mewn perthynas â chyflwyno nodau a chamau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym maes gofal plant a gwaith chwarae o fis Mawrth 2024. Bydd gwaith gwerthuso yn cynnwys trafodaethau unigol â phob mentor cymunedol, trafodaethau ag aelodau o’r grŵp llywodraethu a’r is-grwpiau ac unrhyw bartïon eraill fel y gwelir yn briodol.